Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
YR ETHOLFRAINT — ARDDANGOS-…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR ETHOLFRAINT — ARDDANGOS- I IAD MAWREDDOG—GORYMDAITH j ARUTHEOL YN LLITNDAIN. E MAE gwaith Ty yr Arglwyddi yn taflu allan y Mesur o Helaethiad y Bleidlais, wedi cynhyrfu yr holl wlad drwyddi. Cynaliwyd yn ystod yr wythnos ddiweddaf luaws o gyfarfodydd mewn gwahanol drefi, yn mlia rai y pasiwyd pender- fyniadau cryfion yn datgan anghymeradwyaeth. i waith yr Arglwyddi, a chafwyd yn Llundain dydd Llun diweddaf un o'r demonstrations mwyaf mawreddog a welwyd yno erioed. Yr oedd pawb a phob peth wedi eu llyncu i fyny gan yr orymdaith, a gallesid meddwl fod hoil. drigolion Lloegr wedi crynho,-i yn Llundain. dydd Llun, gan mor lluosog yr ymddangosent, a hyny o bwrpas i gadarnhaa breichiau y Lly w- odraeth, ac i anghymeradwyo gwaith Ty yr' Arglwyddi 301 taflu allan lesur Helaethiad yr' etholfraint. Yr oedd trefniadau yr orymdaith agos yn berffaith. Yr oeddid wedi trefnu i'r I gwahanol gymdeithasau i gyfarfod mewajrianau neillduol, ac mor gyifeus i'w gilydd fel y gallas- ent mewn eiliad gychwyn yn un orymdaith ddi- dor. Ar adeg benodol gollyngwydf allari rocket, a dyna oedd yr arwydd i gychwyn ami Hyde Park. Cychwynwyd yn un fyddin gref, gyda banerau amryiiw, a lluaws o seindyrf pres. Yr oedd masnach a thrafnidaeth o bob math wedi eu llwyr atal—yr omnibuses\a.'v cabs, a phob rhyw fath bethau yn gorfod troi o'r neilldu, a rhoddi v prif heolydd yn llwyr at wasanaeth meibion llafur. Brithid yr orym- daith gyda banerau, ac arnynt arwyddeiriau neillduol, pa rai oedd yn arddangosiad lied cglur o feddyliau y bobl a'u cariai, megys, Will the Lords defy the Labourers ?" We demand the vote-our right." We claim the Franchise for two million fellow coun- trymen." Peers your days are numbered." We march to victory," "We have petitioned, we now demand," In memory of the House of Lords," &c., &c. Cymerai yr orymdaith dair awr o amser i basio unrhyw fan. Bernir fod ynddi rhwng 70,000 a 100,000. Yr oedd holl fawrion y ddinas wedi dyfod allan i gael golwg ar yr arddangosiad, ac yn eu plith yr oedd Tywysog a Thywysoges Cymru, tair o'u merched, lluaws o arglwyddi ac aelodau Seneddol, &c. Gan fod yr orymdaith yn myned heibio y Senedd-dai, ac yn eymeryd tair awr i basio, yr oedd Mr Gladstone mewn tipyn o bcnbleth pa fodd y cyrhaeddai y Ty, gan nad gwiw meddwl am wasanaeth cerbyd, felly gwnaeth ei lwybr goreu gallai ar draed; ond ni bu yn hir yn gwneyd ei ffordd drwy y dorf cyn i rywun ei adnabod, a dyma hi yn "Hwre" fawr nes dadseinio yr oil gymydogaeth, a. chwifio hetiau a neisedu. Gwnaed llwybr rhydd iddo, a chydgerddai a'r dorf, gan wenu a bowio hyd nes iddo gyrhaedd St. Stephen. Aeth yr orymdaith rhag ei blaen nes cyrhaedd Hyde Park tua phump o'r gloch. Yno yr oedd saith o esgynloriau wedi eu codi tua 200 llathen rhwng y naill a'r Hall, felly yr oedd saith o foneddigion yn siarad ar yr un adeg, a'r Daill heb fod yn rhwystr i'r llall. Gwasanaethai y boneddigion canlynol fel cadeirwyr:—Mri J. Collings, A.S., W. S. Caine, A.S., H. Broad. hurst, A.S., T. C. Clarke, A.S., S. Storey, A.S., Syr Wilfrid Lawson, A.S., a Thorold Rogers, A.S. Yn mhlith y siaradwyr oeddynt Mri John Moble, Alfred Simmons, Joseph Arch, Syr John Bennett, George Howell, Carvell Williams, Henry Spicer, Benjamin Lucroft, Proffeswr Beesley, &c. &c. Yr oedd y prif atdyniad o gylch esgynlawr Syr Wilfrid; cadwai y dorf aruthrol yn ferw gan ei hyawdl- cdd. Dywedai fod Syr Stafford Northcote yn %-ofyn ychydig amser yn ol pa brawf oedd fod y flsabl yn ymofyn y bleidlais. Pe buasai Syr Stafford yn bresenol y diwrnod hwnw yn ystrydoedd Llundain neu y pare, eawsai atebiad 4ilgansyniad i'w ofyniad. Ar fcl rhyw awr o areithio, pasiwyd pender- fyniad ,yr un amser oddiar y saith esgynlawr, ya nghancl brwdfrydedd ac unoliaeth, mewn iaith gref ye datgan anghymeradwyaeth hollol i waith yr Arglwyddi yn taflu allan y mesur, ac yn cymeradwye gwaith Mr Gladstone yn anog Ei Mawrhydi i w^hodd y Senedd i gyfarfod yn yr llydref, a'i bep^srfyQiad i anfon y mesur i fyny eta i Dy yr Arglwyddi. Datganai hefyd farn lied groew ar y gwrthuni fod Ty yr Ar- glwyddi yn meddu hawl i atal a rhwystro mesurau butldiol a phwyeig, y rhai y mae cynrychiolwjr y bobl wedi cytuno firnynt. Mae y demonstration hwn yn LIundain, dydd Lluu diweddai, yn sicr o wneyd ei 61 er'daioqi, a chyn y daw yr Hydref, dysgwyliwn y bydd pob pentref a thref trwy ein gwlad wedi siarad allan yn ddigamtsyniol yn ysbryd y pender- fyniad uchod.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
= S Peth dis;on hawdd ydyw pigo tyllau yn ngwaith pobl erei'l, ond llawer mwy buddiol ydyw gwneyd gwaith 3 gwell eich hunain. i Bu agos i ddyn un tro a boddi wrtb ymdrochi, a -] gwnaeth lw na bvcldai iddo byth fyned i'r dwfr wedi 'j hyny hyd nes y dysg-ai nofio. Nis gall un (lyu fod yn wrol os ystyria mai poeu ydyw aflwydd mwyaf bywyd, nac yn gymedrol os ystyria mai pleser ydyw y daioni nchaf. ,j Dywcdir fod y Dyddiadurou yn rhoddi blwyddyu •I urddiad un gweiuidog dair blyuedd yn gynt nag y •| dylai fod, ao er fod sylw y golygwyr wedi ei alw at y puth, uid oes un uewidiad ynddo o hyd I
"Y GWYE 1EUAIN C."
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
bob dosbarth o gymdeitbas—yr ben a'r ieuainc, y gwyr a'r gwragedd, y l'hieni a'r plant, y meistr- iaid a'r gweinidogion. Nid yw crefydd Crist yn .datod pob rhwymau, ac yn symud ymaith bob ■cyfrifoldeb cymdeithasol, ond yn bytrach dysga 'bob un i gyflawni y dyledswyddau a bertbynant i'w sefyllfa mewn cymdeithas yn ofn yr Arglwydd. Yn hyn gwabaniaetha yn ddirfawr oddiwrth yr Gaol. gyfundrefnau crefyddol ereill a geir yn y byd. "N'id yn unig y mae wedi ei cbyfaddasu at ein angenion, ond befyd y mae wedi ei cbyfaddasu er hyrwyddo ein sancteiddhad. Pe bai dynion yn gwrando ar lais y grefydd hon, byddai ein gwlad wedi ei llanw a rbagorach penau teuluoedd, gwell plant, a gwell gweinidogion. Byddai pob dos- bartb yn gyfiawn ac yn onest, yn eirwir a di- dwyll, yn gynil a darbodus, yn ddiwyd a gweith- gar, yn ddirwgnacb a boddlon, yn wresog yn yr ysbryd yn gwasanaethu yr Arglwydd. Yn adnod ein testyn y mae Paul ya cymhell Titus i gy- nghori y gwyr ieuaine i fod yn sobr. Cawn sylwi ar ,dri o betbau y cynghoredig, y eynghor, ei iresymoldeb. J. Y CYNGHOREDIG. UT personau y cymbellir Titus i'w cyngbori ydynt y gwyr ieuainc. Er mai gwyr ieuaine a .enwiti:' yn fwyaf neillduol yn yr adnod hon, eto -defnyddir yr un gair gan Paul yn y bedwaredd adnod, pan y dywed wrth Titus am gynghori y igwragedd ieuainc i fod yn bwyllog. Yr un gair a ■ddefnyddir yn y gwreiddiol yn y ddau fan, felly igwehvn fod y ddyledswydd a gytnhellir yn y tes- tyn yr un mor briodol i fercbed icuaine ag ydyw i wyr ieuaine. Dyledswydd y naill a'r Hall ydyw bod yn sobr. A fuoch chwi crioed yn meddwl mor gyflym yr ydym yn ymlithro o'r naill gyfnod i'r Hall mewn bywyd. Cyffyrddir tanau tyneraf ein calonau, a llenwir ein mynwesau ag adgofion melus pan yr edrycha rbai obonom i'r gorphenol. Nid oes ond ychydig o flynyddoedd wedi myned beibio gyda rhai ohonom er pan y dringem fryniau oesol ein bro enedigol gyda tbraed ysgafn, gwynebau gwridgoch, meddyliau diwenwyn, a cbalonau llawn llawenydd. O y fatb ddyddiau dedwydd oedd y rbai byny. Ond erbyn hyn y maent wedi myned, ac ni ddychwelant mwyach. Y dosbarth y cyfeirir atynt yn y testyn ydyw y rhai hyny sydd yn decbreu bywyd drostynt eu hunain. Gwnawn ddau sylw mewn pertbynas iddynt. 1. Yn awr y maent yn ymgymeryd a hunan-lywod- raeth.—Ychydig amser yn ol yr oeddynt yn yrn- ddibynu ar ereill am gynaliaeth ac am gyfar- wyddiadau pa fodd i ymddwyn. Hyd yn byn, y mae llaw dyner mam wedi bod yn eu harwain heibio i'r lleoedd geirwon ar lwybr bywyd. Hyd yn hyn buont yn noddi rhag- saethau y gelyn dan aden gysgodol en rhieni. Ond yn awr eymerant yr awenau yn eu dwylaw eu hunain. 0 hyn allan hwy yn unig sydd yn gyfrifjol am eu hymddyg- iadau. Cofiwcb, bobl ieuainc, mai nid gorcbwyl hawdd ydyw hunan-lywodraeth. Gwaith an- hawdd ydyw llywodraethu dynion, ond gwaith auhawddach o lawer ydyw llywodraethu hunan. Gwaith anhawdd ydyw ymladd a gelynion oddi- allan, ond gwaith anhawddach ydyw ymladd & gelynion oddimewn. Caiff yr hwn a orcbfyga fyddin goron, ond coron lygredig fydd hi, eithr caiff yr hwn a orchfyga hunan goron anllygredig. A bwynthwy, yn wir fel y derbyniont goron Jygredig, eithr nyni un anllygredig." Rhaid i'r jhwn a ewyllysio lywodraethu gwlad gaelcynorth- ,wy gweinidogion a Seneddwyr, ond rhaid i'r hwn -a ewyllysio lywodraethu hunan gael cynorthwy yr anfeidrol Dduw. Na fyddweh mor ffol a cheisio ffrwyno eich tymherau, na llywodraethu eich tueddiadau, heb ddeisyf help yr Hwn sydd yn ddigon galluog a grasol i berffeithio ei nerth yn eich gwendid chwi. 2. Eu bod yn awr yn y cyfwng mwyaf pwysig yn eu hanes.- Y mae yna bwynt peryglus yn banes pob dyn a dynes. Fel y plygir y planhigyn, felly y bydd y pren. Fel rheol, y mae dynion yn colli eu cymeriadau cyn bod yn buinp-ar-hugain oed, os collant hwy o gwbl. Os byddwch yn alluog i wrthsefyll ymosodiadau y gelyn yn ystod y cyf- nod hwn, tebygol y sefwch yn ddigwymp byd yn nheyrnas nefoedd. Bydd yr arferion a ffurfiwch yn y eyfnod hwn, fel rheol, iyn glynu wrthych ar hyd eich bywydau, ac yn eich dilyn i dragywydd- oldeb. Dywed un awdwr, nad yw dyn ond bwn- del o arferion, ac y mae llawer o wirionedd yn y dywediad. Hawddach o lawer i'w ffurfio arferiwd, na chael gwared obono unwaith y bydd wedi ei ffurfio. Bydd i'r arferiad a ymddangoso yn beth bach a dibwys yn awr, eich dal a nerth anorcb. fygol yn y man. Yn awr yw yr amser i chwi ben- derfynu ar eich arferion. Bobl ieuaine, a gaf fi ofyn i chwi pa gyfeiriad yr ydych am gymeryd mewn bywyd ? I ba bwynt y mae boiv y llestr yn cyfeirio ? Pa un ai i wlad y gwynfyd, ai ynte i wlad y poen a'r gwae ? Pa un ai atyr Iesu gwiw, a'r saint perffeithiedig neu at y diafol a'r damnedigion Y Yn awr yw yr amser i chwi beu- derfynu. II. Y CYNGHOB, Cynghora i fod yn sobr." Y mae i'r gair sobr wahanol ystyron. Defnyddir ef weithiau i ddynodi difrifoldeb, a defnyddir ef ar adegau ereill i ddy- nodi rbyddid perffaith oddiwrth ddylanwad diod- ydd cryfion. Ond ystyr y gair yn y fan bon ydyw hunan-lywodraeth. Yr oedd y gwyr icuainc i lywodraethu eu hunain. 1. Llywodraethwch cich tymherau.—Sonir llawer am dymherau naturiol pobl ac os bydd gan TYW- un dymher annymunol, esgusodir ef yn. ami trwy ddyweyd ei fod felly yn naturiol. Teimlad ded- wydd ydyw rboddi cymaint o fai ag a ellir ar natur, ond ofnwyf nad yw natur yn foddlon ei gymeryd. Nid oes gan neb dymher naturitol mor dda, fel nad oes eisieu ei gwylio, ac nid oes gan neb dymher natnriol mor ddrwg, fel nad oes niodd ei gwella. Y mae modd dwyn y dymher fwyaf afrywiog o fewn terfynau priodol a threfnus. Gall y dyn U poethaf" yn yr boll fro fod yn dawel a phwyllog, ond gwylio arno ei bun. Cofier mai nid y dyn poethaf sydd yn meddu ar y inatur waethaf. Gall dyn feddu natur ddrwg heb fod yn boeth. Ceir llawer yn ddialgar a brwnt nad ydynt byth yn eyffroi. Y mogel web rhag y naill a'r llall. Peidiwch eyffroi yn ormodol, a }phe £ diwch byth a mynwesu teimladau drwg tuag at neb. 2. Llyivodraethvjch y tueddiadau lly-gredig i ba rai y mae ieuenctyd yn agored.—Ofnwyf mai ymollwng i ganlyn y pecbod hwn ydyw prif fai •ein cenedl. Pa faint o ieuenctyd ein gwla-3 sydd ya jmddy- rysu yn y rhwyd bon, ac yu disgyn i feddaHanam- serol a gwarthus. Fy nghydiieuenctyd attwyl, a gaf fi eich cymhell er mwyn Dnw, er mw;?n eicb eneidiau eich hunain, i ffoi rhag y chwaatau ieu- enctyd hyn, ac i ddilyn cjfia'wnder, ffydd. car fad, a thangnefedd. Y mae yn anmbosiblymwneyd a'r pechod hwn beb syrthio i wartb. Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, yu llyra fel cleddyf daufiniog. Ei tbraed bi a ddisgynant i angeu, a'i cherddediad a sang uffern." Gy faill, na ddos at ei thy hi, oblegid ffordd i uffern y dyw cadw dy ffordd yn mbell oddiwrthi hi, canys lrawer a gwympodd hi yn archolledig ie, gwyr grJ HUUS lawer a laddwyd ganddi. Cyflwynwn ein cyr ff yn ebyrth byw i'r Arglwydd. i' 3. Llywodraethivch eich uchelgais. — Y mae chu fath o uehelgais-ucbelgais isel, ac uchel; ;-ai& ucbel. Nid oes un niwed mewn ymgeisio am as- rhydedd gwirioneddol, a pherffeithiad ein uatiiVj |j ond y mae ymgeisio am deitlau daearol a lleoedd if uchel mewn cymdeithas yn isel a dirmygedig. Y mae cadeiriau uchel bob amser yn anesinwytb, a cbeir drain yn mhob coron. Gwyliwch rhug uchelgais isel, ond gwrteithiwch, uchelgais uch el. Ymgeisiwch yn egniol a dibaid at berffeithiad eich natur, ond bydded i chwi geisio pob peth arall yn gymedrol. Na ddringwcb yn rhy uchel rhag i chwi syrtbio, ac na orweddweh yn rhy isel rhag i ddynion eich mathru dan draed. (I'w barhau).