Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Pigion o Bapyrau Ameriea.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pigion o Bapyrau Ameriea. Yn ystod mis Mai anfonwyd 16,000 o dunelli o lo o Tacoma, W. T., y rhan fwyaf ohono i San Francisco. Am y deng mlynedd ar hugain diweddaf y mae Denmark wedi cynysgaeddu 1,500 o bobl ar gyfar- taledd blynyddol i'r Mormoniaid. Y mae California wedi codi mwy o wenith o 3,000,000 bwsiel nag unrhyw Dalaeth arall yn yr Undeb, ac yn ol y rhagolygon ceidw ar y blaen. Cyfrifir y bydd y cnwd peaches yn Delaware eleni yn cyrhaedd y swm arutbrol o ddeng miliwn o fasgedi. Bydd hyn yn llawer mwy na chnwd mawr 1875. Ar sail 3,000 o atebion i gylchlythyrau a dder- byniodd melinyddion oddiwrth brynwyr ac amaethwyr, dywed Ysgrifenydd Cymdeithas y Melinwyr, yr hon a gyfarfyddodd yn Milwaukie yn ddiweddar, y bydd y cnwd gwenith eleni yn hynod doreithiog, ac yn llawer mwy na chnwd 1882. Wrth gwrs, ni chymerir i ystyriaeth yn y cyfrifiad uchod yr anlIodion a ddichon etogymeryd He cyn y cynauaf. Teimlai llawer yn awr y dylai y Llywodr- aeth roddi maddeuant neu bardwn cyflawn i'r oil a gymerasant ran yn y Gwrthryfel Mawr, gan fod ugain mlynedd wedi myned heibio er ad- feriad heddwcb. Yn diweddar gofynwyd am bardwn i J. R. Waddy, William H. Parker, a Robert D. Thornburn, Virginia James D. John- son a Duncan L. Clinch o Georgia. Rhoddwyd caniatad i Mr. Garland weithio eu bachosion yn mlaeR yn ddioed. Dywedir mai yn Toronto, Canada, y perchir y Sabboth fwyaf o unrhyw ddinas yn y byd. Yr unig ystordai a agorir ydyw y rhai sydd yn gwerthu llaeth a. chyfferi, ac ni chaniateir iddynt hwy aros ya agored ond am awr neu ddwy yn y boreu a'r hwyr. Mae yn newydd da i'r Gwerinwyr, ac ynarwydd- ocaol o bethan da i ddyfod, pan y mae cynifer o newyddiaduron y De yn pleidio Blaine a Logad, yn enwedig yn Virginia. Yn y rhestr cawn yr hen newyddiadur enwog a gallog, y Richmond Whig. Y mae yn Utah yn bresenol 10,000 o dyddynod bychain, pob un ohonynt yn cynwys tua phum' erw ar hugain o dir. Nid oes ond un fferm fawr yn y diriogaeth, a pherchenogir hi gan gwmpeini. Dywed yr Henadur Cannon fod y Llyn HalQn Mawr yn cynwys digon o halen i ddiwallu America am ganrifoedd. Nid oes eisieu ond myned a throl at lan y llyn a gellir ei godi a rhaw. Y mae yn eithaf glan fel y mae, ac nid oes eisieu ond ei falu i'w wneyd yn barod i'w osod ar y bwrdd. Mae y New York Times, perchenog a golygydd yr hwn ydyw Sais o'r enw George Jones, yn gom- edd cefnogi Blaine. Y mae y Times wedi bod erioed, ac y mae yn awr, yn bleidiol i fasnach rydd, ac nid dyma y waith gyntaf iddo ddangos ei bengamrwydd. Mae Jones y fath bleidiwr gwresog i fasnach rydd fel y gwrthoda brynu peirianau argraffu Americanaidd, ac ni ddefnyddia ond rhai o wneuthuriad Seisonig yn ei swyddfa. Nid yw banlawr y Gwerinwyr yn foddhaol i Jones, gan hyny y mae yn nagu. Da iawn hyny. Nid oes rhan na chyfran i ryddfasnachwyr yn y rhengau Gwerinol. Y mae y, Parch. E. Herber Evans wedi derbyn llythyr oddiwrth Henry Ward Beecher. Ym- ddengys fod Mr. Evans wedi gwneuthur rbyw gymwynas iddo, a dyma fel y dywed :—" Every drop of Welsh blood in me thank you, for my great grandmother, Ann Roberts, was a Welsh women. Dygodd yr agerlong Arizona ar ei mordaith ddi- weddaf 506 o ddychweledigion Mormonaidd i'r wlad hon. Fel hyn y cedwir i fyny yr angenfil o amlwreiciaeth yn Nhiriogaeth Utah. Y mae y Senedd Werinol newydd basio mesur i geisio ei ddiwreiddio o'r tir, ond nid oes fawr gobaith y bydd i'r Ty Democrataidd gydsynio ynddo. Mae Dr. Evans (Trelech) yn bwriadu ym- sefydlu yn ein plith. Mae afiechyd ei briod yn gosod angenrhaid arno i symud o Plymouth, ac mae y Doctor o'r farn fod Providence yn lie hynod iachus. Gobeithio y bydd eu dyfodiad i'r lie yn fendith iddynt hwy fel teulu, ac yn fendith i ninau fel ardalwyr. Dywed awdurdodau cyfrifol y bydd i 200,000 o dda byw gael eu prynu yn Texas yn ystod y tym- hor a'u gyru i Colorado, heblaw 50,000 a sicrheir mewn Talaethan Gorllewinol ereill. Bydd iddynt 250,000 o loi, yr hyn a wna gyfanswm o 2,000,000 o wartheg yn Colorado. Cyfrifir y bydd i 750,000 o dda byw gael eu derbyn yn Wichita Falls, canol- fan y fasnach hono yn Ngogledd-ddwyrain Texas..

MR T. D. JONES, PONTYSTYLLOD.

HIR A THODDAID: ISLWYN.

PENILLIONj

AGERLONGAU CAERDYDD.

ACROSTIC \

MAESTEG.