Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

'TY YR ARGLWYDDI.

Y PARCH D. SAUNDERS, D.D.

PRIODI DYN E R MWY N EI DDIWYGIO

YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

pregethodd i 2,200,000, yn ol ei gyfrifiad ei hunan. Nid oes Deb all ddychymygu y da- ioni mae wedi wneyd. Costiodd ei genad- aeth yn y Brifddinas £16,000, ac yr oedd digon o arian wedi dyfod i law i gyfarfod yr holl dreuliau heb ofyn ceiniog gan neb. Mr Robert Paton, lleygwr Presbyteraidd, oedd cynllunydd yr oil, ac yn ol tystiolaeth Mr Moody, gweithiodd mor galed a chaethwas cadlong." Yr oedd tua chant o Gristionog- ion yn cymeryd llety yn agos i'r babell, er bod yn gyfleus i ymweled a'r ystrydoedd cylchynol, a chymhell y bob! i fyned i wrando yr Efengyl. Yr oedd pendefigesau yn myned i dai y tlodion i ofalu am y plant a magu y baban tra byddai y fam yn myned i'r oedfa. Yn mysg y rhai goreu o'i gyd- tn. weithwyr yr oedd amryw raddolwyr ieuainc o'r Prifysgolion, pa rai a argyhoeddwyd wrth ei wrando yn pregethu yno. Mae yr ymweliad hwn wedi gadael argraff ddofn ac annileadwy ar feddwl yr efengylydd ei bun, a barna mai Llundain yw y ddinas fwyaf crefyddol ar wyneb yr holl ddaear. Mae wedi ymadael am America, am y barna fod llawer mwy o angen ei lafur yno nag yma. Dywed mai un peth a'i synodd fwyaf oedd crefyddolder llawer o'n cyfoethogion wrtb eu cymharu ag anghrefyddolder cyfoethog- ion America, a chyfrifa am hyny trwy ddyweyd fod cyfoeth yn naturiol i'n pen- defigion ni-wedi eu magu i fyny yndeto -ond fod yr Americanwr wedi gwneyd ei gyfoeth, ac felly mewn perygl o fyned yn falch a rhyfygus. Dilyned bendith Duw ef hyd derfyn ei oes, a rhodded iddo yr an- rhydedd o wneyd daioni rnawr yn ei wlad ei hun.