Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Ylt YSGOL SABBOTHOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Ylt YSGOL SABBOTHOL. Y WERS KIJYNGWLADWRIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. GORPH. 27.—Ymlyniad Dafydd wrth hb Jonathan.— 2 Sam. ix. 1-13. TESTYN EURAIDD. Nac ymado a'th gydymaith dy hnn, a chydymaith dy d-ad.Diar. xxvii. 10. RHAGARWEINIOL. Bu farw meibion Saul gydag ef yn mynydd Gilboa, ac ychydig iawn o ddisjynyddion Saul oedd vn aros. Y Mae yn debygol na wyddai Dafydd am hir amser am fodolaeth Mepbiboseth. Nid oedd ond pump oed pan fu farw Saul, ei daid, ac yr oedd Dafydd wedi bod am chwe' mlynedd eyn hyny yn grwydryn, ar nis ffall- aaai fod yn gyfarwydd ag amgylchiadan teulu Saul. Yr opdd cloffni Mepbiboseth hefyd yn peri nas eallasai gymeryd rhan amlwg gyd^g nn'hvw symudiad cy- hoeddns, a diau y tybiai et a'i gyfeillion mai ei ddyogel- wch ydoedd aros yn guddiedig. Fel un o ddisgvnydd- ion Saul, ofnid rhag y buasai Dafydd yn cymeryd mesurau i'w symud o'r ffordd. U dan yr amHyicb- iadau byn nid yw yn rhyfeld nad oedd Dafydd yn gwybod dim am dano. Yn mhen amryw flynyddoedd, pan oedd Dafydd yn anterth ei Iwyddiant, rtygwyddodd iddo glywed fod mab i'w hen gyfaill ffyddlon yn fy. Daeth i'w eof y cyfamod a wnaeth a Jonathan, a gwnaeth ymho'iad a S ba, hen was i Saul, fel yr tin mwyaf tebygol i wybod. Cafoddwybod gan Siba am fodolaeth Mephiboseth, a phil. le yr oedd yn byw. Prysurodd y brenin i anfon am dano, a dangosodd iddo y caredigrwydd mw.vaf. Profodd Dafydd yn ei ym- ddygiad careditr at Mephiboseth nad oedd wedi anghofio ei lw i Jonathan, ac nad oedd ei Iwydd'ant a'i ddyrchafiad wedi newid dim arno. Yr oedd eto yn cofio hen gyfeillion boreu oes, ac yn teimlo yr un fath tuag atynt. Yr oedd Mephiboseth hefyd wedi etifeddu llawei o ragoriaethau ei dad, yr hyn yn ddiau a'i gwnaeth yn anwyl gan Dafydd. ESBONIADOL. 1.—"A Dafydd a ddywedodd, A oes un eto weli ei adael o dy Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan r" Yr oedd yn agos i ddeng mlyn- edd ar hugain wedi myned heibio er pan y gwnaeth Dafydd a Jonathan gyfamod a'u gilyrtd (I Sam. xx. 11-17), ac nid ydym i dybied fod Dafydd wedi ei angbofio hyd yn hyn. Y mae vn amlwg ei fod dan yr argraflf nad oedd neb o dealu Saul yn fyw, ond ei fod trwy ryw ddygwyJdiad wedi cael awgrymiad am fodol- aeth Mephiboseth. Y mae ffurf ei ofvn ;ad yn awgrymu byn. Gellir ei gyfieitbu, A ydyw felly, fod un wedi ei adael o dy Saul ? Y mae am gael sicrwydd, a dengvs bob parodrwydd i wneyd trngaredd ilg ef er mwyn Jonathan. 0 dy Saul-ni ddyled o d:t Jonathan. Y mae yn foddlawn er mwyn Jonathan i ddangos caredigrwydd i unrbyw un o .Iy Saul. Yr oe Id Jonathan wedi dangos car:ad rbyfedd at Dafydd, ac y mse Dafydd yn cofio hyny. Mor dyner y mae Dafydd yn llefaru am dano pan glywodd am ei farwol- aeth. "Gofi I sydd arnaf am danat ti, fy mrawd Jonathan en ia"n fuost genyf fi rhyfeddol oadd dy gar;ad tuag atif H, tuhwnt i gariad gwrage Id (2 Sam. j. 26). Yn mhen pvmtheg mlynedd ar 01 marwolaeth Jonathan, ca Dafydd gyfleusdra i ddangos caredig- rwydd i'w fab. Adnod 2.—" Ac yr oedd gwas o oy Saul a'i enw Siba. A hwy a'i galwasant ef at Dafydd. A'r brenin a ddy. wedodd wrtho ef, Ai tydi yw Sib3 P A dywedodd yr. tau. Dy "as yw efe." Gwas o dy Saul—yn fwy priodol, caethwas. Y moe yn debygol iddo gael ei ryddid yn amser dymchweliad ty Saul. Yr oedd erbyn hyn wedi cyrbaedd dy'anwad a cbyfoeth, ac yr oedd yn nituriol i'r rhai yr ymofynai Dafydd A, hwynt dybied y gallasai roddi gwybodaeth yn nghylch teulu Saul. Cawn hanes pellach am Siba yn pen. xvi. 1-4, a xix. 24-30, yr hyn a'i dengys yn ddyn cyfrwysddrwg a dicheilddrwg. Adnod 3.—" A dywedodd y brenin, A oes neb eto o dy Saul fel y gwnelwyf drugaredd Duw ag ef ? A dywedodd Siba wrthy brenin, Y mae eto fab i Jonathan yn gloff o'i draed." Trugaredd Duw-tru- garedd er mwyn Duw, neu trugaredd fel trugaredd Duw-neu, yr hvn svdd fwyaf tebygol, trugaredd af- benig. Yn gloff o'i draed. Wedi elywed am farwol- aeth Sanl a'i felbion, y mae mamaeth Mephiboseth, yr hwn oedd ar y pryd yn bump oed, yn penderfynu ffoi rhag y buasai yn cael ei ladd. Wrth frysio i ffoi syrthiodd, yr byn a fu yn achos i'w gloffi (gwêl pen iv. 4). Y mae yn ymddangos fod ei fa n wedi marw cyn hyn. Adnod 4 —" A dywedodd y brenin wrtbo, Pa le y mae efe ? A Siba a d lyweiodd wrth y brenin, Wele ef yn nby Machir, mab Amniel, yn Lo-debar." Machir —ycbydiu wyddis am Machir. Ni enwir ef ond dwy- waith—ytna ac yn pen. xyii. 27-29. Y mae ei ymddyg. iadyn y ddau dro a nodir yn profi ei fod yn ddyn eymwynasgar a ch*tedig iawn. Y mae yn sicr ei foft mewn amgylchiadan da. Y mae rhai wedi tybied el fod yn berthynas a mam Meph:bosetb. Lo-debar. Safai y lie hwn ar yr ochr ddwyreiniol i'r Ioi ddonen, heb fod yn mhell o Mahanaim. Sylwa M. Henry- Ymddengys fod y Machir hwn wedi bod yn ddyn haelionns, rhwyddgalon iawn, a'i fod wedi Iletya Mephiboseth, nid allan o un angharedigrwydd at Dafydd, nen ei lywodraetli, ond mewn tosturi at fab darostyngcdig- tYWYSOT, canys ar o! hyn yr ydym yn ei gael yn garediz at Dafydd ei hun pan yr oedd wedi ffoi rhag Absalom enwir ef yn mysg y rbai a ddiwallodd y brenin a'r hyn oedd yn angenrheidiol arno yn Mahanaim." Adnod 5.—" Yna y brenin Dafydd a anfonodd, ae a'i cvrcbodd ef 0 dy Machir, tmb Amniel, o Lo-debar" Yr oedd Mephiboseth weli bod am flynyddoedd mewn unigedd, ac wedi ei anghofio tfan v rhan fwyaf, ac y maeyn debygol ei fod yn hollol foddlawn i'w sefyllfa. Pan ddaeth gweision Dafydd i'w syrchu i Jerusalem, diau iddo frawychu a chyffroi. Nis gallasai yn iawn wybo 1 yr amcan oedd mewn golwg. Adnod 6.—" A phan ddaeth Mephiboseth mab Jonathan, mab Saul, at Dafydd, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymgrymodd. A Dafydd a ddywedodd, Mephiboseth. Dywedodd yntau, Wele dy was." Y mae Mepbiboseth yn dangos y parch a'r warogaeth fwyaf i'r brenin syrthiodd ar ei wyneb. Yr oedd hefyd yn ofni rhag fod y brenin wedi penderfynu ei roddi i farwolaeth fel yr unig un o ddisgynyddion Saul. Y mae y brenin yn canfod ei fod dan ddylanwad ofn, ac y mae yn ei sicrbau ar nnwaith nad oedd raid iddo ofni. Adnod 7.—" A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, NdC ofna canys gan wneuthur y gwoaf drngaredd a thi, er mwyn Jonathan dy dad, a mi a roddaf yn ei ol i ti holl dir Saul dy dad a thi a fwyt i fara ar fy mwrdd i yn wastadol." Sicrha Dafydd ei fod wedi anfon am dano nid oherwydd unrhyw ei(idigedd tuag ato, nac oherwydd un bwriad drwg, ond i ddangos trugaredd iddo er mwyn ei dad. A mi a roddaf yn ei ol i ti holl dir Saul, &c. Yroeddetifeddtaeth Saul wedi syrthio yn feddiant i Dafydd fel brenin trwy wrthryfel Isboseth, acyn awr y mae y brenin yn ei rhoddi yn ei hoi i Mephiboseth. Saul dy dad. Golygir ei bynafiaid. A thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol. Yr oedd hyn yn arwydd o anrhydedd neillduol. Gwêl 1 Bren. ii. 7 2 Bren. xxv. 29. Adnod 8.—" Ac efe a ymgrymodd, ac a ddywedodd; Beth ydyw dy was di, pan edrychit ar gi marw o'm bath i P" Derbynir yr anrhvdedd gydag hunan- ymostyngiad mawr ar ran Mephiboseth. Geilw ei hun yn gi marw, gan olygu nas ga lasai fod o norhyw was- anaeth oherwydd ei gloffni, ac nid oedd yn tybied fod ynddo unrhyw dedyngdod personol i haeddu y fath anrhydedd a chael eistedd wrth fwrdd y brenin. Adnod 9,Yna y brenin a alwodd ar Siba, pwas Saul, ac a ddywedodd wrtho, Yr byn oil oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl d$ef, a roddais i fab dy feistr di." Tybir gan rai fod Siba wedi ei wneyd yn gaethwas fel cynt pan oedd yn ngwasanaeth Saul, ond nid ydyw y geiriau o angenrheidrwydd yn awgrymu hyn. Cafodd ei wneyd yn fath o arolygydd ar yr etifddiaeth. Fel hen was Saul, gwyddai yn dda am yr etifeddiaeth, a pha fodd i wneyd y defnydd aoreu ohoni. Yr oedd ef i gael baner y cynyrch am ofalu a llafurio yr etifedd- iaeth, a'r haner arall i fyned i Mephiboseth (xix. 29). Adnod 10.—" A thi a erddi y tir iddo ef, ti, a'th feibion, a'th weision, ac a'n dygi i mewn, fel y byddo bara i fah dy feistr di, ac y bwytao efe a Mephiboseth, mab dy feistr di, a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion, ac ugain o weision." Y mae yn debygol fod Siba eisoes yn trin yr etifeddiaeth, fel mai yr unig wahaniaeth iddo ydoedd ei fod o hyny allan i dalu o ff'rwyth y cynyrch i Mephi- boseth, ac nid i Dafydd fel brenin. Fel y byddo bara i fab dy feistr di, &c.—hyny yw, fel y byddo helaeth- rwydd o arlwy i Mephiboseth, a'i deulu, a'i weision. Yn ol adnod 12, a 1 Chron. viii. 38, cawn fod ganddo blant. Nodir nifer meibion a gweision Siba er mwyn dangos ei fod yn wr o gyfoeth. Adnod 11 Yna y dywedodd Siba wrth y brenin, Yn ol yr hvn oil a orchymynodd fy arglwydd y brenin i'w was, felly y gwna dy was. Yna y dywedodd Dafydd, Mephiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel nn o feibion y brenin." Y m«e Siba yn dangos pob par- odrwydd i gydymfiurfio a. gorchymyn y brenin, ac addawa fod yn ffyddlawn i'w ymddiriedaetb. Profodd ei hun ar ol hyn yn anffyddlon i Mephiboseth (xvi. 3). Yna y dywedodd Dafydd. Nid oes angen am y ge r- iau y dywedodd Dafydd. Y mae yr adran yma, yn uahyda'r ddwy adnod ddilynol, yn adroddiad yr hanes- ydd. Gellir darllen y geiriau-" Felly Mephiboseth a fwytaodd wrth fwrdd Dafydd, fel un o feibion y brenin. Felly y cyfieithir y geiriau yn Nghyfieithiad y LXX. Adnod 12.—" Ac i Mephiboscth yr oedd mab bychan, a'i enw oedd Micha. A phawb a'r a oedd yn cyfan- eddu ip Siba oedd weision i Mephiboseth." Micha. Gelwir ef yn 1 Chron. viii. 35, Michah. Nis gellir pen- derfynu pi un ai cyn neu wedi ei ddyfodiad i aros yn Jerusalem y ganwyd M cha. Nodir y ffaith fod Siba a'r rhai oedd yn cyfanedrtn yn nhy Siba yn weision i Mephiboseth er mwyn dangos ei safle urddasol. Adnod 13.—" A Mephiboseth a drigodd yn Jeru- salem canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol: ac yr oedd efe yn gloff o'i ddeudroed." Trigodd yn Jerusalem, a derbyniodd garedigrwydd neillduol oddiwrth y brenin, a phrofodd yntau ei hun yn ffyddlon i'r brenin, er iddo gael ei gamgyhuddo a'i ddrwgliwio. Cyfeirir at ei gloffni eto, oblegid fod y tfaith hyny yn esbonio yr amgylchiadan a ddygwydd- asant iddo ar ol hyn—pen. xvi. 1-4 a xix. 2>30. GWE RSI. Amlygir caredigrwyJd Dafydd at Mephibosethyn y ffaith ei fod wedi chwilio am dano pan oedd mewn sef- yllfa ddarostyngedig fel un o deulu Saul. Heblaw byny, yr oedd yn gloff ac yn ddigymhorth. Yr oedd Dafydd yn anterth ei ogoniant, ac wedi darostwng ei boll elynion, a gallasai adael un o nodwedd Mephi- boseth yn hollol doisylw, ond gwnaeth ymholiad am1 dano er mwyn dangos iddo garedigrwydd. Rhydd dderbyniad croesawus iddo, a gesyd anrhyd- edd arno fel nn oedd i fwynhau ei gymdeithas a chyf- ranogi o ddanteithiori ei fwrdd. Rhydd yn ol iddo yr etifeddiaeth yr bon a fforfTet- iwyd trwy wrthryfel, a cha fyw yn nghanol Ilawnder. Nid rhyfedd fod y fath garedigrwydd a ddangosodd Dafydd wedi enill serch Mephiboseth, a'i ymlyniad wrtho. Am fod Dafydd yn gysgod o Grist, bydded i'w 'garedigrwydd i Mephiboseth wasaDaethu i amlygn cariad Duw ein Hiachawdwr tuag at ddyn syrthiedig, i'r hwn, er hyny, nid oedd dan rwymau, fel yr oedd Dafydd i Jonathan. Yr oedd dyn wedi ei brofi yn euog o wrthryfel yn erbyn Duw, ac megys ty Saul, dan ddedfryd o fwriad ymaith oddiwrtho. Yr oedd nid yn unig wedi ei ddwyn yn isel ac wedi ei dlodi, ond yn gloff a dirym. Y mae Mab Duw yn ymofyn ar ol yr hiliogaeth ddirywieditf hon ag nad oedd yn ymofvn ar ei ol ef; y mae *n dyfod i'w cheisio ac i'w chadw. I'r rhai hyny ag ydynt yn ymostwng ger ei fron, ac yn rhoddi eu hunain iddo, y mae yn adfern yr etifeddiaeth fforffededig, y mae yn rhoddi iddynt hawl i baradwys well na'r hon a gollodd Adda, ac y mae yn eu cymeryd i gymundeb ag ef ei hun yn en gcsod flyda'i blant wrth ei fwrdd, ac yn eu gwledda & danteithion y nef- oedd. Arglwydd, beth yw dyn pan fawrheit ef fel hyn I GoFYNIADAU AR T WERS. 1. Beth barodd i Dafydd wneydymofyniadanady Saul P 2. Pwy oedd Siba? Eglurwch y modd y mae yn ateb ymofyniad y brenin. 3. Beth oedd enw mab Jonathan ? Beth oedd yr achos o'i gloffni P 4. Pwy oedd Machir P yn mha le yr oedd yn byw P a pha fodd yr oedd mab Jonathan yn cael ei ddwyn i fyuy gydag ef ? 5 Paham yr oedd Dafydd yn amlyga caredigrwydd i Mephiboseth er mwyn Jonathan ? 6 Pa fodd y gwnaeth Dafydd dragaredda Mephi- boseth ? Esboniwch yr ymadrodd ttugaredd Dnw yn adnod 3 7. Pa drefniadan a wnaeth Dafydd gyda Siba yn nghylch yr etlfeldiaeth a roddodd i Mephiboseth P 8. Yn mha ystyr y gellir edrych ar garedigrwydd Dafydd i Mephiboseth yn gysgod o gariad Crist at ddyn ?

[No title]