Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

ALLTWEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ALLTWEN. Cyngerdd.—Nos Sadwrn, Gorphenaf 5ed, eynal- iwyd cyngerdd yn y lie hwn er cynorthwyo ychydig ar Mr D. Anthony, un o breswylwyr y lie; yr hwn, yn nghyda'i anwyl briod, sydd yn gystuddiol er's tro. Gwasanaethwyd gan Misses E. Davies, A. ac H. Price, R. Cousins, R. Jones, M. Humphreys, Mri T. Jones, J. D. Jones, T. Price, D. Bevan, T. Lewis, Llew Cynlais, Asaph Godre'r Graig, Alaw'r AMt, aTeIorfab. Chwareu- wyd y berdonesr gan Miss Smith, a llywyddwyd gan y Parch R. Rees. Cafwyd cyngerdd ragorol. Rhoddodd yr holl gantorion eu gwasanaeth yn rhad. Hjderwn fod y brawd a'r chwaer wedi cael help sylweddol, ac y gwel yr Arglwydd yn dda i'w llwyr adfer yn fuan i'w cynefinol iechyd. Dirwest.-Nos Fercher, Gorphenaf 9fed, bu y Parch D. 0. Brace yn traddodi araeth ddirwestol yn ysgoldy newydd Alltwen, yr hwn sydd ar Rhos Cilybebyll. Fel yr awgrymai y darlithydd, ychydig o'r brwdfrydedd geid er's rhyw flwyddyn a haner yn ol geir yn awr mewn Ilawer man gyda'r achos hwn, ond yn y cylch hwn y mae yn dal ac ynfcynyddu o hyd. Yr oedd yr ysgoldy yn llawn, a'r darlithydd yn dyweyd gyda nerth a dylanwad. Ar y diwedd, daeth amryw yn mlaen i wneuthur yr ardystiad ac i wisgo yr arwydd. Boed iddynt weddio am nerth i ddel, a nerth i weithio o blaid y mudiad. Yr Ysgol Sabbothol.-Y Sabboth cyn y diweddaf, cynaliodd yr Ysgol Sabbothol ei chyfarfodydd chwarterol yn y prydnawn a'r bwyr. Cymerodd lluaws ran ynddynt, a chafwyd cyfarfodydd a hir gofir. Yr oedd y canu, yr adrodd, a'r areithiau yn neillduol o dda. Teimlai pawb mai da oedd bod yn y lie. Hyderwn y gwelir ffrwyth yn eu canlyn eto. GOHEBYDD.

Advertising

[No title]