Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
* DYDD MAWKTH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYDD MAWKTH. Boreu dydd Mawrth. am 7 o'r gloch cynal- iwyd Cyfeillach Grefyddol yn Ebenezer. Yr oeddid wedi trefnu i'r Parch R. Thomas, Llan- ofer, i lywyddu, ond yn hcrwydd afiechyd, methodd a bod yn bresenol. Llywyddwyd gan y Parch T. Davies, Treforris. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parchn J. N. Richards, Penygroes. Ar ol anerchiad agoriadol gan y llywydd, galwodd ar y Parch J. Foulkes, Aberafon, i ddarllen Papyr ar "BROFIAD CREFYDDOL." Canlynwyd darlleniad y Papyr gwir ragorol hwn gydag anerchiadau gan y Parchn Morris, Aberteifi; Nicholson, Liverpool; a Davies, Bangor. Am haner awr wedi naw o'r gloch cyfarfydd- wyd yn Capel Als, ac yr oedd yn falch genym weled y capel eang a phrydferth hwn wedi ei orlenwi. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch D. "Williams, Blaenau. Wedi canu penill esgynodd y Parch W. Roberts, Liverpool, Cadeirydd yr Undeb am y flwyddyn i'r areithfa i draddodi ei Anerchiad Blynyddol. Y mae a ganlyn yn grynodeb o'i sylwadau. Testyn ei Anerchiad oedd "YSBRYD Y WEINIDOGAETH." Wedi cyfareh y frawdoliacth, gan erfyn cu hynawaedd, a ehyfeirio at farwolaeth Dr W. liees, Cadeirydd cyfarfod cyntaf yr Undeb, efe a ymafiodd yn y testyn, a dywodai Pan y galwai yr Arglwydd ddynion. at ryw waith neillduol yn yr oesoedd gynt, efe a roddai ysbryd y gwaith hwnw ynddynt, er eu cymhwyso i'w gyflawni; ac y mae Efe eto yn rhoddi ysbryd y weinidogaeth i bob un a elwir ganddo i'r swydd, ac nid oes neb yn gymhwys iddi oni bydd wedi ei Ienwia.'i hysbryd. Ofnai nas gallai roddi darlun- iad cywir o'r ysbryd hwn. Nid oedd Eliphas yn "adnabod agwedd" yr Ysbryd a welwyd ganddo, er ei fod wedi teimlo dylanwad ei bresenoldeb. Efe "a wnaeth i flew ei gnawd sefyll," ac a gyffrodd ei holl natur. Credai fod yno ganoedd o frodyr wedi teimlo dylanwad ysbryd y weinidog- aeth yn eyffroi eu heneidiau i'w dyfnderoedd, ac yn cymeryd meddiant llwyr o'u holl natur. Mae yr ysbryd hwn yn cael ei gynyrchu gan deimlad crefyddol o radd uchel, ac yn cael ei nodweddu gan gariad angerddol at Grist, a sel danllyd dros achub eneidiau. Nid ysbrydoliaeth o'r un natur ag oedd yn y proffwydi a'r apostolion ydyw, ond anian, neu awyddfryd i ymbyfrydu mewn gwir- ioneddau a gwaith ysbrydol. Nid yw yn gwahaniaethu yn ei natur, ond yn unig mewn graddau, oddiwrth yr hyn a brofir gan bob dyn ysbrydol. Y mae Ysbryd Duw yn preswylio yn nghalon pob dyn duwiol, ac y mae teimlad ysbrydol tanbaid yn troi yn ysbryd pregethu, ac y p mae yr ysbryd hwn yn' cymhell dynion i chwenych y gwaitb, ac i'w gyflawni yn effeitbiol beb gymhorth cymhellion allanol. Mae meddu yr ysbryd hwn yn gymhwysder hanfodol i'r wein- idogactb. Mac cymhwysderau naturiol yn angenrheidiol, ac i'r Deb y rhoddes yr Arglwydd y cymhwysderau naturiol y mae Efe yn rhoddi y cymhwysder ysbrydol hefyd; ac yn nghyfuniad y naturiol a'r ysbrydol y dyogelir y cymbwysder uchaf i'r weinidogaeth. Dywedir weithiau fod dynion mwy galluog yn yr eisteddleoedd nag sydd yn y pwlpud, a gall hyny fod yn wir, er mai yn y pwlpud y mae talentau dysgleiriaf y genedl Gymrtfig wedi bod yn llewyrcbu byd yn hyn eto gall fod ambell un yn mysg y gwrandawyr yn fwy galluog na'l' hwn a fydd yn pregethu; ond y cwestiwn yw, Pa ysbryd sydd yn y gwrandawr talentog ? Mae yn bur amlwg nad yw ysbryd y weinidogaeth ddim ynddo, ac onide buasai yr Ysbryd Glan wedi ei arwain ef i'r pwlpud ac yn mysS y gwrandawyr y bydd goreu iddo aros hyd oni bydd ei dalentau wedi eu bedyddio i Grist. Mae arnom eisieu talent, a dysg, a hyawdledd i'r weinidogaeth, ond y mae arnom angen am ei hysbryd uwchlaw pob dim. Mae dynion o alluoedd cyffredin wedi bod yn offerynol i wneyd gwaith mawr yn y weinidogaeth pan wedi eu donio a'i hysbryd, tra y mae rhai ereill gwir dalentog, o ddiffyg meddu ei hysbryd, wedi bod yn fethiant gwaradwyddus ynddi. Mae yr ysbryd hwn yn angenrheidiol yn- I.-ER DWYN DYN I YMSYNIAD YN BRIODOL AM URDDAS Y WEINIDOGAETH. Gall rhai amddifad o'i hysbryd ymwthio i'r weinidogaeth oddiar gau-ddybeoion, ond syniadau isel sydd gan y cyfryw rai am ei hurddas a'i chyfrifoldeb. "Bywioliaeth" y gelwir hi yn yr Eglwys Sefydledig, ac y mae yn bosibl fod rhai yn mysg yr Ymneillduwyr heb synied yn ddim uwch am dani; ond y mae yr ysbryd sydd yn briodol iddi yn dyrchafu syniadau dyn am dani, gan beri iddo "fawrhau ei swydd." Llefarai Paul am dani gyda mynwes yn ymchwyddo mewn mawrygiad sanctaidd ohoni, gan ddywedyd, Y weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd lesu Cyfrifai hi y swydd fwyaf pwysig ac urddasol a ymddiriedodd Duw erioed i ddyn, ac yr oedd ynddi fwy o swyn iddo ef na'r orsedd uchaf ac na'r goron ddysgleiriaf ar y ddaear. Y mae holl wir weinidogion Crist yn derbyn eu swydd ganddo, ac y mae yr ystyriaeth o hyny yn eu cymhell i ymddwyn yn deilwng ohoni. Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth eithr gan ddangos eu hunain yn mhob peth fel gweinidogion Duw." Gwedir awdurdod gweinidogion Ymneillduol i bregethu a gweinyddu yr ordinbadau, am nad ydynt yn olynwyr yr apostolion ond y mae y syniad o hawl Ddwyfol Esgobyddiaeth wedi ei daro yn farwol, megys ag ergyd yr haul, gan oleuni llachar beirniadaeth Feiblaidd rhai o wyr mwyaf urddasol a dysgedig ei chyfundeb ei hun. Ac os yw yr olyniaeth y dadleua rhai drosti yn hanfodol i'r weinidogaeth, yna y maent hwy eu hunain yn weinidogion diawrdurdod. Mynwn wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo" trwy lyncu yr olyniaeth, ond eu gallu." Mae honiadau uchel dynion diallu yn ddirmygus. Y mae hyd yn nod yr ysbryd drwg yn dirmygu ffug. ymhonwyr diallu, ac yn gofyn iddynt yn wawdlym, mcgys ag i feibion Scefa, Pwy ydych chwiH" A phe byddai iddo yr un rhyddid yn awr ag oedd iddo gynt, efe a rwygai eu gwisgoedd. rhodresgar yn gareiau, ac a'u gyrai hwythau i ffoi yn noethion ac yn archolledig." Gallu Dwyfol yw y weinidogaeth sydd yn gorchfygu y diafol, ac yn argyhoeddi dynion. Dywedai y diweddar Barch Ishmael Jones mai am ddynion yn medrn gwneyd gwaith y bydd amaethwyr Mon yn ymofyn wrth gyflogi gweithwyr i'r cynhauaf yn Ffair Llangefni. Ofer fyddai i ddyn ymffrostio yn I y ei achau a'i fedr mewn ieithoedd, oblegid rhoddai yr amaethwr daw buan arno gyda'r gofyniad syml, A fedri di ladd gwair ? Ac felly, tra y mae ambell un yn ymffrostio yn ei ddysg, a'i olyniaeth, a'i urddau esgobyddol, y mae llais y bobl yn ei gyfarch &'r gofyniad pwysig, A fedi-i di bregethu? A ydyw ysbryd yr apostolion ynot? A ydyw athrawiaeth yr apostolion genyt ? A wyt ti yn gwneyd gwaith apostol ? Trwy ei waith yr oedd Paul yn profi ei apostoliaeth—" Self y apostoliaeth i ydych chwi;" ac yr ydym yn foddlawn i gymeryd yr un rheol i brofi Dwyfol anfoniad gweinidogion Ymneillduol Cymru. Profer hwy wrth eu gwaith. Pwy a ddeffrodd y genedl o'i chysgadrwydd ? Pwy a roddodd y Beibl yn eu dwylaw, ac a ddysgodd ei phlant i'w ddarlten ? Gan bwy y llanwyd y wlad ag addoldai ac ag Efengyl Crist ? A chan bwy y dyrcbafwyd y bobl mewn gwybodaeth Ysgrythyrol, moesoldeb, a cbrefydd mor uchel, a dyweyd y lleiaf, a'r un genedl arall yo yr holl fyd? Onid trwy y gwein- idogion Ymneillduol o wahanol enwadau y gwnaed hyn, gyda chynorthwy pobl eu gofal ? Iii, yn ddiau; ac nis gallasent wneuthur y gwaith a wnaothant "oni bai fod Duw gyda hwynt." Mae gwrando ar ddynionach diddim yn gwadu Dwyfol awdurdod y fath rai yn ormod i gnawd ei ddyoddef. II.-ER DWYN DYN I YMHOFFI YN NHESTYN Y WEINIDOGAETH. Y testyn ydyw Efengyl gras Duw," a thestyn bendigedig ydyw hefyd. Mae ynddo olud anchwiliadwy, amrywiaeth diderfyn, a newydd- deb parhaus. Ar y testyn hwn y pregethai Paul yn mhob man-yn Athen ddysgedig, yn Rhufain foethus, yn Corinth lygredig, ac yn Mileta farbaraidd; ar hwn y pregethai i'r Iuddewon, ae i'r Groegiaid, ac i'r barbariaid, ac i'r doethion, ao i'r annoethion hefyd, a gwelai ei fod yn cyffwrdd
UNDEB YR ANNIBYNWYR CTMREIGr.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
goleuni y mae crefydd y Beibl wedi gallu anadlu yn fwyaf rhydd a byw yn fwyaf llwyddianus o'r dechreuad. "Goleuni yw Duw," ac y mae yn natur y goleuni egluro petbau ereill trwy ei egluro ei hun, Nis gall yr haul ddatguddio dim arall ond trwy ei ddatguddio ei hun. Pa. Ie bycag y mae Duw wedi bod yn gweithio felly, y mae rbyw belydrau o oleuni ei natur ef ei hun wedi dyfod i'r golwg yno i ddy- wedyd yr hanes. Canys ei anweledig bethau Ef a welir yn amlwg er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, sef ei dragy- wyddol allu ef a'i Dduwdod." Y mae cadernid llaw a doethineb rhyw Anfeidrol Fod yn ddarllen- adwy i ddeall dyn yn adeiladwaith y bydysawd yn mhob oes. Eithr dim ond rhanau o ffyrdd Duw a ganfyddir yn natur wedi y cwbl. Mae y gogon- iant mwy ofnadwy wedi dyfod i'r golwg mewn datguddiad goruwch-naturiol. Yn nghyflawnder yr amser fe ddaeth bywyd y Creawdwr i'r golwg yn null bywyd y creadur, ac fe ymffurfiodd medd- yliau tragywyddol ei galon ef yn hanes gweledig, ac yn lleferydd clywadwy yn iaith y ddaear hon. Canys y bywyd a eglurbawyd, ac ni a welsom 8C ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi y bywyd tragywyddol, yr hwn oedd gyda'r Tad, lie a eglurhawyd i ni." Nid mater o deimlad dall yw y ewestiwn rhwng dyn a'r Anfeidrol wedi bod mewn unrbyw oes; ond beth bynag all fod agweddiad y cwestiwn i feddwl y pagan tywyll sydd heb gael ei fendithio a datguddiad goruwch- naturiol yr Efengyl, mae yn bwnc o wybod raor sicr ac anffaeledig i bawb a gredant y Beibl ag y gall ffeithiau meddwl ac hanes mewn unrbyw gylch byth fod. Ond, wedi'r cwbl, nig. cwestiwn o wybodaeth i'r deall yn unig ydyw adnabod Duw. Rhaid ei gael Ef ei hun yn ffynonell dylanwad llywodr- aethol, ac yn wrthddrych cymundeb personol yn mhrofiad mewnol y galon. Golyga adnabod un- rhyw fod personol gydgyfranogiad ag ef yn rhai o elfenau nodweddiadol ei gymeriad. Cydymdeim- lad sydd yn gallu adnabod; ond y mae duw y byd hwn wedi dallu meddyliau y rbai digred. fel na thywynai iddynt lewyrch Efengyl gogoniant Crist." Ond "gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw." Mae yr egwyddor- ion ysbrydol sydd wedi eu deffroi i fywyd yn cneidiau y bobl hyn wedi eu dwyn i gydymdeim- lad A chymeriad Duw, ac oherwydd hyny y maent yn ei ganfodyn mhob peth—mewn naturae mewn datguddiad, mewn rhagluniaeth ac mewn gras, ynddynteu hunain ac yn y byd. "Efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir, ac yr ydym yn y Cywir hwnw, sef yn ei Fab Ef, Iesu Grist." Dyna yr adnabyddiaeth. Oud beth yw dylanwad yr adnabyddiaeth hon ar fywyd dyn ? Pwy bynag yw y bobl sydd wedi cysegru eu hunain i wasanaeth gwirionedd a daioni, gwaith mawr ac anbawdd iawn y maent wedi cysegru eu hunain iddo. Ond os ydynt wedi cymeryd Duw gyda hwynt i'r ymgyrch, mae yr olwg sydd ganddynt arno Ef yn gwneyd gwron- iaid a gorchfygwyr ohonynt hwy. 1. Trwy roddi awdurdod orncbel i'r ymchwiliad o ddyledswydd yn ei meddw]. Pertbyna y teim- lad o rwymedigaeth a dyledswydd i feddwl dyn, o angenrheidrwydd ei natur, ar wahan i unrbyw berthynas wirfoddol a ffurfir rhwng dyn a daioni yn ngoleuni datguddiad. Beth bynag ydyw an- wybodaeth dyn wedi bod mewn unrhyw oes, nid yw erioed wedi gallu sefyll wyneb yn wyneb a ffeithiau bodolaoth mewn bywyd heb gael ei orfodi i deimlo fed gwahaniaeth hanfodol rhwng cymeriad pethau a'u gilydd-y dylai gydffurfio ag un math o egwyddorion moesol, ac y dylai beidio cydymffurfio a. math aiall o egwyddorion moesol. Ond y cwestiwn pwysig i ufudd-dcd ei fywyd ef ydyw cael gwybodaeth gywir am y sefyllfa ar ba un mae y gwahaniaeth rhwng yr egwyddorion hyn yn gorphwys, ac yn mha enw mae y teimlad yna o ddyledswydd yn llefaru wrth y galon. Pan y mae brwydr galed yn cael ei hymladd yn y meddwl rhwng profedigaeth dan- llyd i gyflawni rhyw fradwriaeth sydd yn addaw hawddfyd a gogoniant daearol ar y naill law, a theyrngarweh i'r gwirionedd sydd heb allu addaw dim ond dinodedd a chydwybod dawel ar y llaw arall, a ydyw y gwahaniaeth rhyngddynt yn cael ei bregethu yn enw y dyn ei hun, neu yn enw rhywun sydd. yn dragywyddol uwch nag of ? Os mai Duw sydd yn llefaru yn y teimlad hwn, nis gall y bobl sydd yn sylweddoli ei leferydd Ef—na lefarant y pethau a welsant ac a glywsant. Pobl a Duw yn ffaith iddynt ydyw y bobl ag nas gall dim eu troi oddiwrth yr iawn. 2. Mae adnabod Duw yn rhoi eyfanrwydd a chwmpas i ymgysegriad y bywyd. Pertbynaa 4'r Anfeidrol yn unig sydd yn gallu dwyn holl alluoedd bywyd dan reolaeth eifeithiol uo awdur- dod, a phertbynas &'r Anfeidrol yn unig fedr agoryd out-look digon eang i yni a gweithl,larweh diorphwys yr enaid tua'r dyfodol. 3. Mae adnabod Duw yn rhoddi hyder a brwd- frydedd i obaith y galon. Pan y mae gwasan- aethu daioni wedi myned yn beth anhawdd, a phan y mae llwyddiant daioni bron yn ddiobaith, y mae cofio beth a wnaeth Duw mewn amgylch- iadau mwy tywyll o'r blaen wedi rhoddi calon newydd mewn dynion duwiol, ac wedi eu hanfon lawer tro i fuddugoliaeth. Nid oedd Capel Tabernacl yn allno»; i gynal y dorf anferth a ymgasglodd yn nghyd, felly cynaliwyd over- flow meeting yn Nghapel Moriab, pryd y pregethwyd gan y Parchn L. Williams, Boutnewydd, a R. Rowlands, Treflys.