Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

* DYDD MAWKTH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

& chalonau, ac yn cyfateb i angenion pechaduriaid o bob gradd a sefyllfa a hwn eto ydyw hoff destyn y rhai y mae ysbryd gweinidogaeth y cymod" ynddynt. ? mae parhad a chynydd ysbryd y weinidogaeth yn dibynu ar yr amaethiad a roddir iddo. Y mae yn gwanychu ac yn marw trwy ddifrawder a dirywiad mewn crefydd bersonol, ond y mae y duwiolfrydedd a'i ceuedlodd ar y dechreu yn ei feithrin ac yn ei gryfhau— calon rasol sydd yn cyfranu bywyd a nerth iddo. Yn ol y gradd\u o'r j^sbryd hwr^a fyddo ynddo y daw dyn i ddirnad ac i hoffi gwirioneddau yr Efengyl. "Dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw," ond yr hwn sydd ysbrydol sydd yn barnu pob peth." Mae y dyn ysbrydol yn amgyffred, yn teimlo, yn caru, ac yn gwerthfawrogi gwirioneddau yr Efengyl. Mae y profiad grasol o'u lieffeitliiau ar ei enaid yn ei ddwyn i ymhoffi ynddynt, ac yn ei ddirgymhell i'w pregethu i ereill; ac ni fyn efe bregetbu dim byd arall. Dywedfel Paul, Na ato Duw i ni ymffrpstio ond yn nghroes ein Harglwydd Iesu Grist." Cynyrchct ynddo orhoffder at bregethu. Dywedir fod Dr Payson mor hoff o bregethu, fel ag y buasai yn well ganddo i frawd fwyta ei giniaw yn ei le na phregethu yn ei Ie. Credaf y buasai yn well gan Paul fod heb ei giniaw unrbyw ddiwrnod na cholli cyfleusdra i bregethu Crist. Ceisiodd Jeremiah roddi i fyny bregethu, ond efe a flinodd yn ymatal, ac ni allai beidio, am fod Gair yr Arglwydd yn ei galon, yn llosgi fel tan, wedi ei gau o fewn ei esgyrn." Mae Gair Duw yn llosgi yn esgyrn pob gwir bregethwr, a rhaid iddo gael tori allan mewu pregethu yn fflamau angerddol o oleuni a gwres. Y mae yn llosgi ac yn goleuo" fel loan Fedyddiwr. Y mae y rhai sydd yn amddifad o'r ysbryd hwn yn colli eu ffydd yn yr Efengyl, ac nid ydynt yn rhoddi eu lie dyladwy i'w phrif wirioneddau yn eu gweinidogaeth. Maent yn ysgoi ei gwirion- eddau, neu ynte yn esbonio ymaith eu hystyr, ac yn dwyn materion ereill i'r pwlpud nad ydynt yn cyffwrdd yn uuiongyrchol a chyflwr ysbrydol pechadur. Ceisiant ddwyn crefydd yn mlaen trwy ddyfeisiau dynol. Mae arnynt gywilydd o Efengyl Crist." Ysbryd cydnaws a'r Efengyl sydd yn cadw dyn i ymhoffi ynddi. Nid yw yn ormod i mi ymhoni fod gwirionedd yr Efengyl wedi arcs gyda ni fel Enwad hyd yu hyn. Er nad oos genym gyffcs ii'ydd," s mae geuym ein golygiadau penodol ar athrawiaethau yr Efeugyl, ae y mae y rhai hyny o'r deehreuadJwodi bod yn uniungred ac efengylaidd ac yr ydym heddyw yn barod i fyncdi gyfamod a'n gilydd ac a Duw, megys Israel gynt yn Sichem, i lynu wrtbynt yn dragywydd. Yr ydym yn byw mewn amseroedd enbyd, pan y mae dwyrein-wynt gwenwynig amheuaeth o gyfeiriad Lloegr yn chwythu dros ein gwlad, gan beryglu iachusrwydd ein ffydd a'n bywyd ysbrydol. Heb son am y gwyddonwyr anffyddol, y mae rhai a broffesant fod yn weision i Grist yn dysgu "athrawiaethau amryw a dyeithr." Mae hoffder at newydd-deb, ac awydd am gael eu cyfrif yn feddylwyr gwreiddiol a dwfD. ac yn ddynion o flaen eu hoes, yn arwain rhai i gymeryd eu Ileylch-arwain a phob awel dysgeidiaetb." Defnyddiant hen eiriau duwin- yddiaeth uniongred, ond mewn ystyr hollol wahanol i'r ystyr a roddid iddynt yn yr Eglwys Gristionogol trwy yr boll oesau. Ffurfiant gyfundrefn dduwioyddol o'r ueilldu i'r Beibl, a galwant hi yn Dduwinyddiaath Newydd," yr hon ni cbynwysa nemawr o ddim ond hen gyfeiliornadau yr oesau gynt wedi eu manfriwio a'u blasuso at archwaeth y rhai nad ydynt yn "derbyn cariad y gwirionedd." Nid yw ond tusw o opiniynau dynol wedi eu gwisgo mown ffurf athronyddol, ac nid oes ynddi na goleuni na bywyd i bechadur. Nid oes ond dylanwad Ysbryd y gwirionedd" a'n ceidw ni i aros yn y gwirionedd—yn yr hen wirionedd oedd gyda ni o'r decbreuad. Yn hytrach na gwylio gwahanol agweddion y "modern thought" (y meddwl diweddar), dwg hwn ni i ymhyfrydu yn hen feddyliau graslawn y Duw tragywyddol. y 1:1 lII.-En GWISGO DYN A'R GWBOLDEB ANGENKHEID- IOL YN Y CYELAWNIAD O'K WEINIDOGAETH. Tyst dros Dduw at ddynion yw y pregethwr, a pberthyna iddo dystiolaethu yr Efengyl i fychain a mawr gyda phob hyfder, heb ofni gwg na cbeisio ffafr. neb. Hyn ddim yn beth hawdd. Rbai brodyr wrtb natur yn byfion a gwrol, ac ereill yn wylaidd ac ofnus. Mae ysbryd y wein- idogaeth yn gwneuthur y cryf yn gryfach, ac hefyd yn cyfranu gwroldeb i'r rhai gwanaf. Mae yn bwrw allan ofn dynion o'u calonau, ac yn eu dwyn i deimlo nad oes ganddynt neb ond Duw i'w ofni na'i foddhau. Dwg hwy i deimlo eu bod yn llefaru dros Dduw, ac yn ngwydd Duw y maent "yn credu, ac am byny yn llefaru." Ac y mae eu ffydd yn y gwirionedd yn eu dysgu i lefaru gyda'r fath oleuni ac awdurdod ag sydd yn dwyn ar- gyhoeddiad i'r rhai a'u gwrandawant eu bod yn credu yr hyn a leferir ganddynt. Mae ar y pregethwr eisieu mwy o wroldeb na'r milwr. Beth oedd gwroldeb milwrol Alexander Fawr o'i gymharu a gwroldeb moesol yr Apostol Paul! Ollid oes ambell bregethwr anenwog yn dangos mwy o wir wroldeb na'r cadfridog mwyaf clod- fawr? Rhai o'i wrandawyr mwyaf dylanwadol na oddefant athrawiaeth iachus," a rhaid iddo wrth wroldeb i fod yn ffyddlon i'r gwirionedd yn y fath amgylchiad; gwroldeb o'r un natur ag a ddangosai y proffwydi gynt wrth draddodi eeaadwri annerbynioI i dywysogion a breninoedd Israel. Mae y pregetbwyr yn sefyll mewn cyffelyb berthynas a'r bobl yn awr ag y safai y proffwydi a'r bobl gynt. Cyflawni de^odau gwasanaeth yr addoliad yr oedd yr offeiriaid, ond nid oeddynt yn pregetbu fel rheol. Gwyr tawel oedd yr offeiriaid. Y proffwydi oedd pregethwyr y genedl, a phregethwyr gwrol a gonest oeddynt. Dyrchafent eu lleisiau fel udgyrn, gan fynegi i'r bobl eu pechodau, ac oblegid byny yr oedd y bobl yn tramgwyddo ac "yn lladd y prolIwydi;" ond ni sonir byth am ladd yr offeiriaid. Peth peryglus yw dyweyd y gwir wrth ddynion am eu pechodau. Collodd loan Fedyddiwr ei ben oherwydd gwneuthur hyny. Mae y pregethwr goaest yn cael ei gasau a'i erlid. Blinir ef gan rai o hiliogaeth haerllug Diotrephes. Gwneir iddo ddrygau lawer gan rai o epil Alexander y gof, a dichon y bydd rhai o'i wrandawyr ef, fel gwrandawyr Jeremiah, yn gwneuthur gwynebau cas aruo. Pe y dygwyddai i bregethwr fod mor annoeth agwneyd cyfeiriadau personol o'r pwlpud, byddai pawb yn unllais yn ei feio; ond atolwg, onid yw y pregethwr yn cael ei flino weithiau gan gyfeiriadaa personol o'r eisteddleoedd? Onid yw yr ystumiau a wneir gan rai gwrandawyr yn cael eu bwriadu i ddi- galoni y pregethwr? Ond os bydd tan Duw yn ei galon, nis gall yr un ystryw o'r eiddynt beri iddo dewi, eithr yn angerdd ei ysbryd efe a lefara Air yr Arglwydd wrthynt, pa un bynag a wnelont ai peidio." IV.-ER DYSGU DYN I arfsk Y goddefgaewch gof- YNOL YN MHHOFEDMAETHAU Y WEINIDOGAETH. Mac ffyddlondeb i gael ei gyd-dymheru a goddefgarwch. "Ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson, ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddyoddefgar." Mae augen am i'r gweinidog ddysgu dyoddef. Nid yw i ddyoddef traha pob bedlemyn—rhai gwag-siaradwyr ag y dylid "cau eu safnau," pe byddai byny yn bosibl; mae ganddo lawer o betbau i'w dyoddef na buasai byth yn eu dyoddef, ond yn unig er mwyn Crist a'r Efengyl; yn haws ymryson na dyoddef, ond trwy ddyoddef y gwna fwyaf o ddaioni, ac y gorcbfyga-" A oddefo a orfudd." Mae yr an- nyoddefgar yn magu ymrysonau, ac yn creu ymraniadau. Arwydd o gryfder yw goddefgarwch. Cyferfydd a phethau a dueddant i'w gyffroi, ond galluoga ysbryd y weinidogaeth ef i reoli ei ysbryd ei hun." Un addfwyn oedd yr Iesu; dyoddefwr da oedd Paul. Llawer o gymeriadau yn yr eglwys mewn angen am gydymdeimlad ac ymgeledd ysbrydol, ac oni bydd y gwoinidog wedi ei feddiauu gan ysbryd ei waitb, efe a balla yn yr amynedd a'r tynerwch gofynol er cyd-ddwyn a hwy, a'u cynghori, a'u cysuro fol tad ei blant ei hun." V.-En cymhell DYN I ymgysegku YN DliWYADL I Waitii Y Weinidogaetii. Nid oes neb yn gymnwys i'r weinidogaeth oni bydd iddo lwyr ymroddi iddi. Ei gwaith yn gofyn eitbaf y galluoedd eryfaf; ei hystryd yn cadw dyn rhag ymollwng i segurdod, na throi ei sylw at orchwylion ereill i geisio nac elw, na chlod, na mwyniant, ond "parhau mewn gweddi a gweinidogaeth y Gair." Mae rhai am ddyrchafu urddas y weinidogaeth trwy gael dynion o sefyll- faoedd uehe] iddi, a thybiant yr ymostyngai rhai felly i ymgymeryd a'r swydd pe byddai y tal yn well. Ai tybed fod yr Arglwydd losn wedi cam- y 11 gymeryd trwy beidio a mabwysiadu y cynllun hwn ? 0 blith y werin y cymerodd efe ei apostolion, a danfonodd hwy allan i bregethu heb ddim i'r daitb." Trefniad gwael ar gyfer gwr boneddig ond aeth yr apostolion i'w taith yn ddirwgnach. Gwnaethant eu gwaith yn effeithiol, a dychwelasant yn llawen, er heb gymhellion eyflog na dylanwad mawredd bydol, a hyny am fod Ysbryd Crist ynddynt, Dynion llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glàn" Bydd eisieu i'r wein- idogaetb, ae nid yw o bwys o ba le y ceir hwynt. Coder y tal ar bob cyfrif, mae wedi bod yn dd'igon isel; ond y mae yn codi yn araf, er fod yr eglwysi yn gofalu yn garedig rhag i nemawr un ohonom fod dan orfod i dalu income tax. Coder y tâl! Ond tal neu beidio, y mae y dynion sydd yn cael eu cynhyrfu gan ei hysbryd yn sicr o wneyd ei gwaith, ac nid oes neb arall a'i gwna pe rhoddid eyflog Archesgob Caergaint iddo. Siaradai gweinidog cyfoethog unwaith mewn cynadledd, a dywedai yn ymffrostgar, Diolch i Dduw, mi &Ila* i fyw heb y weinidogaeth." A chyfododd Mr Pugh, o Fostyn, yn y fan, ac a ddywedodd, "Diolcb i Dduw, mi all y weinidogaeth fyw heb'och chwithau." Gall, hi a all fyw heb bob un a allo fyw bebddi hithau. Mae rhai nas gallant fyw hebddi, am fod eu hysbryd yn eu caethiwo iddi. Profant y mwynhad penaf ac uchaf yn ei gwaith. Yn gymysgedig a rhai dafnau chwerwon o'r ddaear y mae rbai o ddafnau melusaf y nefoedd yn disgyn i gwpan y gweinidog. Mae y mwynhad goruchel a brofa yn ei waith yn ei gymhell i lwyr ymroddi iddo. Nid yw yn gofalu am fyw oni cha bregethu. Yn Paul yn ddiau y ceir yr esiampl uchaf o ymroddiad i'r weinidogaeth. Nidoeddef "yn gwneuthur cyfrif o ddim," ond ei chyflawni, a gorphen ei yrfa trwy lawenydd." Yr hyn sydd yn cyfrif am ei ymroddiad ydyw, ei fod "yn rhwym yn yr ysbryd" i wasanaethu Crist. "Gorphen fy ngyrfa trwy lawenydd!" Mae gobaith am hyn yn cynhyrfu ysbrydoedd y ffyddloniaid. i ymegnio ar eu gyrfa. Mae cadw bywyd a nerth yn yr areithfa yn beth hanfodol i'w llwyddiant. Augen mawr yr oes hon, a phob oes, yn wir, ydyw pregethwyr cryfion, yn llawn o ysbryd e ) gwaith. Raid iddyntddim bod yn rhai mawr i gyd, er mai goreu pa fwyaf y byddont ond gellir bod yn bregethwyr effeithiol heb fod yn fawr. Mae rhai pobl yn siarad yn ddirmygus am bregethu-ac nid oes ball ar y feirniadaeth anffafriol a geir ar y pwlpud; ond pa beth bynag am ei allu, nid oes dim arall wedi ei ddarganfod a all wneyd ei waith. Yn yr Eglwys Safydledig cynygir gras sacramentaidd a mydum- iau chwareyddol defodaeth i'r bobl yn lie preg- ethu. Gwahoddir hwy i ddyfod i'r Eglwys yn hytrach nag at Grist, a pherswadir hwy i ymor- phwys ar rinwedd y "dcisen fendigaid," yn hytrach nag ar ffydd yn y Ceidwad. Rhaid i'r bregeth fod yn fer, yn ysgafn, ac yn esmwyth iawn. Dyrchefir y sacrameDt uwchlaw yr Efengyl. Nid yw yn rhyfedd fod yr Eglwys mor dlawd o bregetbwyr, gan ei bod yn eu dibrisio. Nid yw "y pregethwr" ond enw o wawd mewn cylch- oedd Eflwysig. Addefir fod gan yr Ymneilldu- wyr rai lefiathanod o bregethwyr." Oes y mae, a diolch i Dduw am danynt. Ac y mae yn ffaith gwerth ei chrybwyll, na nofiodd yr un "lefiathan 0 bregethwr" Ymneillduol erioed i mewn trwy borth yr Eglwys. Na, y mae y dyfroedd sanct- aidd sydd yn dyfod allan o dan riniog y ty yn rhy fas i'r un lefiathan nofio ynddo. Ond y mae am- bell i ysgadenyn o bregethwr wedi ei daflu gan orlanw Ymneillduaeth ar draeth croesawgar yr Eglwys, a mawr dda iddi arnynt. Ychydig o arnser yn ol, dywedodd un o feibion galluocaf yr Eglwys yn Ngbymru, Na chododd hi ddim cy- maint ag un pregetbwr o enwogrwydd am gant a haner o flynyddoedd"—o'r flwyddyn 1700 yn mlaen. Mae yn bur bawdd rhifo yr enwogion a godwyd ganddi ar ol hyny, a dywedir hefyd mai yn y cyfnod yna, o ddiffyg pregethu, y collodd yr Eglwys y bobl. Ac y mae ei "diffyg pregethu heb ei gyflawni eto, a'r bobl heb eu hadenill gan- ddi. Mae holl hanes yr Eglwys yn profi mai pregethiad effeithiol o'r Efengyl yw y moddion arbenig a ddefnyddiodd Duw yn mhob oes a gwlad i ddwyn crefydd yn mlaen yn y byd, ac y mae pob eyfnod o adfywiad grymus ar grefydd yn cael ei bynodi gan bregethu nerthol. Yr ydym yn awr yn sefyll ar drothwy y dyfodol, ac er na feddwn weledigaeth eglur am y pethau a fydd ar 01 hyn, eto y mae yn hawdd dyfalu ein bod yn gwynebu ar amgylchiadau newyddion a phwysig, y rhai a effeithiant gyfnewidiad yn sefyllfa a cbwaetb ein cenedl. Ond pa fodd bynag, yr ydym ni fel Enwad yn bwriadu byw. Mae yr Enwad wedi gweled llawer cyfnewidiad, ac wedi byw er gwaethaf pob ymgais a wnawd i'w ladd, a lleferydd ei brofiad heddyw ydyw, Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd." Derbyniwyd Ajierckiad y Cadeirydd gyda chymeradwyaeth ami y gynulleidfa luosog. Y lla gal wodd y Cadeirydd ar Proff T. Lewis, Bala, i ddarllen Papyr ar ARWEDDAU Pbesenol Dcwinyddiaeth. (Ceir y gweddill yn ein nesaf.)