Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Cynwysiad. I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Cynwysiad. I Athrofa Ffrwdyval—Cyfarfod Chwarterol Arfon 3 Undeb yr Annibynwyr Cymreig 4,5,6,7 At ein Gohebwyr-Yr Wythnos 8 Lloffion o Abertawy—Wyddgrug 9 Pethau nas gwyr Pawb—Y Gwir Ieuainc 10 Gohebiaethau-Cyfarfodydd-Gened igaethau, Priod- asan,&c.II Y Wers Rhyngwiadwriaetbol Galwadau Pont- lottyft 12 Aberdar—Ca.erna.rfon 13 Hysbyaiadau 14, 15, 16
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. William Thomas ac Amlwchian.—Yr oedd eiddo arall wedi ei gysodi cyn i ni dderbyn eich ysgrif chwi. CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. CCLASSES now reading for the UNIVERSITY Colleges, the J- TRAINING and DENOMINATIONAL Colleges, the MEDICAL, LEGAL, and PHARMACEUTICAL Examin- ations, and for the CIVIL SERVICE and COMMERCIAL PURSUITS. DUTIES resumed on MONDAY, JULY 28th, 1884. For terms, &c., apply to R. G. LEVI, IS, Pitzalan Place, Cardiff. JlS.T.r ILLUMINATED WORK, Testimonials, Presentation Addresses, <$fc., executed in the purest styles, in gold and colours. TYSTEBATT AC ANERCHIADAU ANRHEGOL TU Gymraeg nen Saesoneg (gwaith Jlaw), wedi en gwyclm yn v dull mwyaf dillyn a hardd, a llytliyrenau adduvnedig a lliwiedig, ac ag arwyddluniau cyfaddas, mewu ymylwaith amryliw. RHAI AIfERCHIADAU A WNAED:- Mr D. Simons, Manager, Moss Bay Steel Works, Cumberland, late Manager of the Bessemer Steel Works, Rhymney. Mr D. Phillips, New Tredegar, P.P.G.M., presented by the Oddfellows of the Rhymney District. Mr J. Price, Manager, Treharris, late Manager of the Clydacli Vale Colliery, Iihoudda. Rev D. Silyn Evans, Aberdare. Rev W. Edwards, Aberdare, Chairman of the V\ elsh Congre- gational Union. „ „ 7.6.w. S. D. ROBERTS, Trealaw, Pontypridd Y Parch R. Hughes, gynt o Blaenafon. GAN" nad yw enw Mr Hughes yn Nyddiadur nac Tear Book ein Henwad am y flwyddyn lion, a clian ein bod yn tybied fod llawer a garent wybod yn mlia le y mae a plia beth sydd yn dyfod ohono, yr ydym yn ysgrifenu i hysbysu y cyhoedd ei fod ef yn gyttawn a rheolaidd aelod o'r eglwys yn ngliapol I-ontre'vbel, sir T'ynwy, yr hwn sydd o fewn oddeutu milldir i bont enwog Crumlin, a'i fod hefyd yn hollol reolaidd yma fel prcgethwr a o-weinidog (heb ofal eglwys). Er pan y mae ete mewn eysylltiad a ni yma fel eglwys, y mae wedi pregethu ymaar amryw Sabbothau, a chymeryd ar ein cais ran yn y gwasanaeth gyda gweinidog y lie ar ein Suliau Cymundeb aramsergweinyddiadSwperyr Arglwydd. Pel v cvfrvw' gall pa eglwys bynag a ewyiiysio alw am ei wasanaeth. Ydym, dros yr eglwys, T. L. LEWIS, Gweinidog. T. Ar LEWIS, Pregcthwr. LL. J. LEWIS, Ysgrifcnydd. T. WILLIAMS, Trysorydd. W. WILLIAMS, Diacon. 4.7.r H. EDWARDS, Diacon.
YR WYTHNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR WYTHNOS. DAMWAIN OFIDus.-Sabboth wythnos i'r diweddaf aeth Mr a Mrs Lace o Abertawy mewn cerbyd am dro i'r Gower. Mae efe yn swyddog parchus yn ngwaith copr Port Tennant. Arferiad gyffredin gan lawer o bobl y trefydd yw llogi cerbyd a myned ar wibdaith i'r wlad ar y Sabboth, dan yr esgusawd nad oes ganddynt amser i fyned ar ddiwrnod arall. Os na fyddant wedi dysgu ofni yr Arglwydd, a myned i'w deml i roddi addoliad iddo, eymerant yn byf iawn ar y Sabboth i fyned i rodiana, ac i fwynbau eu hunain yn awyr bur y wlad. Cymerodd y personau a nodir uchod daith felly, a dygwyddodd yn ofidus iddynt. Pan yn dychwelyd trwy ardal brydferth Bishops- ton, ar oriwaered serth, gwylltiodd yr anifail, ac aeth yn hollol aflywodraethus. Taflwyd y ddau allan, a chawsant niweidiau mawr. Torodd Mrs Laco asgwrn ei choes, disgynodd yntau ar ei ben, a thorodd asgwrn pon-t yr ysgwydd. Cymerwyd y ddau i'r Hospital mewn cyflwr truenus. Nid oes perygl am fywyd yr un o'r ddau, ond maent wedi derbyn niweidiau trymion a lynant wrthynt am eu hoes. Mae i'r amgylchiad hwn, fel ereill, ei wersi, a hyderwn y gwna yr anystyriol a'r difraw eu gosod at eu calon. UNDODIAETH YN ABERTAWY. — Un o arweddion diweddaraf y byd crefyddol yn y dref hon yw y cyffroad mae Undodiaeth yu ei wneyd. Mae y Parch J. E. Manning, M.A., gweinidog Undodaidd y dref, ac un o arholwyr Coleg Caerfyrddin, yn ddyn beidd- gar ac anturus iawn pan yn ymdrin a phynciau duwinyddol. Mae wedi llwyddo i ddarbwyllo llawer i gredu ei fod yn ddyn galluog iawn, ac yn feistr hollol ddiguro mewn rhesymeg. Nid ydym ni yn mhlith y cyfryw, canys wedi ei wrando yn traddodi a darllen ei ysgrifeniadau cyhoeddedig, yr ydym yn ei ystyried yn un o'r traddodwyr salaf, yn un o'r meddylwyr gwanaf, ac yn un o'r athrawon cyhoeddus mwyaf unocbrog ac anbeg y daethum i gyffyrddiad ag ef erioed. Gwrthoda, fel peth diawdurdod hollol, bob rhan ac adnod o'r Beibl nad yw yn gyson a'i atbrawiaetb ef. Ni chydnab- ydd fel yn meddu Dwyfol ysbrydoliaeth ond y rhanau hyny o'r Beibl y mae yn gallu gwyrdroi eu geiriad a'u cystrawen i ffafrio Undodiaeth. Gwrthoda, gyda dirmyg sar- haus, bob adnod sydd yn cydnabod Duwdod yr Arglwydd Iesu. Bid sicr, mae athraw crefyddol fyddo yn mabwysiadu yr egwyddor hon i esbonio yr Ysgrythyrau nid yn unig yn gamarweiniol, ond yn beryglus. Mae y gwr hwn, er pan mae yn y dref, wedi bod yn gwaradwyddo Israel Duw trwy ei herio yn anuniongyrchol i ddadl ag ef. Bellach mae y 'Parch J. M. Gibbon, gweinidog ieuanc, galluog, a phoblogaidd Castle-street, n el wedi cymeryd yr herfeiddiad i fyny, ac yn sicr mae yr Undodwr wedi cyfarfod a. llawer mwy na'i drech yn mhob ystyr. Fel cyfan- soddiad gloew, ac fel ymresymiad cadarn, nid oes dim cymhariaeth rhwng pregethau y ddau. Dymuuwn longyfarch Mr Gibbon ar draddodiad ei bregethau amserol, a gwnantwasanaeth dirfawr trwy chwalu y niwl pendduawl sydd wedi ymgasglu o gwmpas canwyll llygaid poblach ydynt wedi I ymlanw gymaint gan falchder, nes dymuno i bawb gredu mai bwynt-bwy ydyw unig ddoethion y bydysawd, a darbwyllo eu bunain i gredu fod cydwybod wedi marw, ac nad yw y fath argyhoeddwr ffyddlon yn perthyn i'r oes hon ond yn ofer ac am ddim y llafuriant.. CYNADLEDD DDIRWESTOL NEWYDD.— Am y deugain mlynedd diweddaf mae llawer cynadledd ddirwestol wedi ei chynal yn y deyrnas hon. Bu >adeg pan nad oedd ond ychydig o bersonau yn meddu y gwrol- deb angenrbeidiol i fvned i gynulliad felly, ac edrychid ar y cyfryw fel penboetbiaid direswm ond yn awr mae y cwbl hyn wedi newid. Bellach nid oes un acbos mor bobl- ogaidd mewn cynulleidfa gyhoeddus a'r achos dirwestol, a phleidir y mudiad gan bendefigion a gwyr mwyaf dysgedig ac urddasol yr oes. Mae gweinidogion, medd- ygon, a barnwyr, a phob dosbarth o gymer- iadau cyhoeddus, wedi rhoddi eu tystiolaeth ar y mater hwn, ac yr oedd eu condemniad o'r diodydd meddwol yn unol a diamwys. Ond yr oedd un dosbarth pwysig heb roddi ei dystiolaetb ag oedd mewn cyfle i weled dinystr meddwdod yn llawn cymaint a neb. Daeth i feddwl rhywun i gael cynadledd o reidweinyddwyr y tlodion (relieving officers) yn Llundain, er cael gwybod ganddynt hwy yn bersonol eu barn am ddylanwad yr ym- yfed ar amgylchiadau bydol dynion. Mae gan y swyddogion hyn fanteision arbenig i ffurfio barn ar y mater, canys y maent yn ddyddiol yn dyfod i gyffyrddiad a thlodi yn ei wahanol agweddion. Cynaliwyd y gynadledd ar y 15fed o Fawrth diweddaf, ac ar wahoddiad y National Temperance, League daeth lluaws o'r swyddogion hyn yn nghyd. Bellach mae crynodeb o'r adrodd- iad wedi ei gyhoeddi, a chan ei fod, trwy haelioni Mr Morley yn benaf, yn cael ei wasgar yn lied gyffredinol, yr ydym yn gobeithio y darllenir ef yn ystyriol. Dat- gana y llefarwyr eu barn bendant fod tair rhan o bedair o dlodi y ddinas i'w briodpli i feddwdod, ac ategant eu gosodiad a ffeithiau anwadadwy. Dywedai un iddo fod yn swyddwr am un flynedd ar bymtheg, ac na welodd ond un dirwestwr yn derbyn cynorthwy gan y plwyf, a bod amgylch- iadau bollol eithriadol yn cyfrif am dlodi hwnw. Dywedant oil yn hollol ddifloesgni y byddai ein tlotai yn fwy na haner gwag pe peidiai y bobl ag yfed a meddwi. Dyma, dystiolaeth yn ffafr llwyr-ymwrthodiad o gyfeiriad hollol newydd, ac nis gall lai na chynyrchu brwdfrydedd newydd yn mhlaid y mudiad dirwestol. GORESGYNIAD MADAGASCAR. — Mae yn wybyddus i'n darllenwyr fod y Ffrancod yn ymyryd yn amgylchiadau Madagascar er's tair blynedd, ac ar sail rhyw hen gytun- debau hawliant math o amddiffyniad dros ran fawr o'r ynys. Maent wedi cymeryd meddiant o'r prif borthladdoedd, ac wedi dangos anmharch mawr i Mr Shaw, un o'r cenadon. Am ei garchariad anghyfreithlon gorfu iddynt dalu £1,000 o iawn. Mae genym awdurdod Arglwydd Granville dros ddyweyd nad oes un sail gyfreithlon i'w ceis- iadau trahaus, ac nad yw yr oil ond ffrwyth uchelgais anniwall a pheryglus. Bygythiant ryfel yh barhaus, ac ymddengys fod yr adeg wedi dyfod i osod y bygythiad mewn grym. Wedi gorphen ei rhyfel yn Tonquin, China, anfonwyd 1,000 o'r milwyr hyny i Mada- gascar, ac y maent wedi glanio, ac wedi derbyn gorchymvn i fyned rhagddynt i'r brifddinas. Anfonwyd y "cynygolaf" i'r frenines yn bawlio iawn arianol mawr, yn nghydag amodau ereill nad oedd yn bosibl iddi gydsynio heb beryglu ei gorsedd a'i choron. Diau fod yr ymgyrch wedi cychwyn erbyn hyn, a bod yno frwydrau gwaedlyd wedi eu hymladd, oblegid mae y Malagas- iáid yn penderfynu ymladd yn lie colli eu gwlad. Nid yw byddin Madagascar mor wrol a dysgybledig ag eiddo Ffrainc, ac | mewn brwydr ar faes agored byddai yn dra sicr o gael ei gorchfygu ond mae neilldu- olion y wlad a'i hinsawdd yn ei ffafr, ac y mae yr ymgyrch yn sicr o droi allan yn ddrud mewn eiddo a bywydau i Ffrainc. Mewn ymddyddau a gymerodd le yn Senedd Ffrainc y dydd arall, dywedai un esgob Pabyddol nad oedd y ffrwgwd hwn ond brwydr rhwng Pabyddiaetb a Phrotestan- iaeth, a dadleuai dros yr ymgyrch er mwyn sefydlu Pabyddiaeth yn yr ynys. Mae Llywodraeth Ffrainc yn ddigon diegwyddor a gwasaidd i ddifreinio y Pabyddion yn eu gwlad eu hun, a'u boddio a'u maldodi mewn gwledydd ereill. Yr ydym yn teimlo yn ddwys dros y cenadon a'r miloedd Cristion- ogion sydd yno mewn profedigaeth mor chwerw. Ni hyderwn y gwna yr eglwysi gofio am danynt yn eu gwedd'iau. +
YR ARGYFWNG GWLEIDYDDOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR ARGYFWNG GWLEIDYDDOL. MAE y cyffroad gwladol yn rhedeg fel trydan gwyllt a llosgedig trwy y deyrnas oil. Nid oes dim i'w weled ond baneri a gorymdeithiau, na dim llawer i'w glywed ond y waedd gynhyrfus ac arwyddocaol, I lawr a'r Arglwyddi! Mae Lloegr yn ferw trwyddi, ac y mae cyfarfodydd anferth o fawr yn cael eu cynal trwy yr holl wlad i wrthdystio yn erbyn ymddygiad yr Ar- glwyddi, ac i hawlio Mesur yr Etholfraint. Nid yw yr arddangosiad yn Llundain ond dechreuad