Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLOFFION 0 ABERTAWY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLOFFION 0 ABERTAWY. Y Sunday Bands.—Yn y Cynghor Trefol dydd Mercher, darfu i'r pwnc hwn fod dan sylw yr aelodau. Daeth yno ddirprwywyr o'r gwahanol enwadan, pa rai a arweiniwyd i mewn gan y Cynghorwr James Jones, a chyda hwynt gofeb wedi ei harwyddo gan 11,000 o bersonau dros 18 mlwydd oed, yn erbyn y Sunday band. Siarad- wyd yn nerthol yn ei erbyn gan y Mri Bishop, Dr Rawlins, a Ficer Abertawy, a ehawsant wrandaw- iad astud yn ystod yr amser y buont yn siarad. Wedi hyny bu yr aelodau ya ymdrin ag ef, ac wedi cryn lawer o siarad o bob ochr, cafwyd ym- raniad, a tbrodd y fantol yn ei erbyn y tro hwn, ac yn mhlith y lleiafrif y tro hwn gwelsom enw y Cadben Thomas Davies (M.C.), yn ei bleidio. Paham, tybed, (1.) Am i'r gwahanol sewadau beidio d'od allan i bleidio ei fesnr ef, sef cau y siopau bach ar y Sabbothau. (2 ) Yn wyneb fod Ilawer mwy o bersonau heb fyned i unrbyw le o addoliad nag sydd yn myned, ac felly eisieu cael recreation ar gyfer y rhai byny. O y fath resymau gwael, onide? Darfu i'r Cyngborwr Freeman wneyd sylwadau pwrpasol iawn yn ei gynygiad yn erbyn y band i gael c-hwareu do, nes iddo ddenu y Maer i bleidio ei gynygiad, er iddo wneuthur fel arall yn y cyfarfod o'r blaen. Ond er fod hyn wedi ei gario, dywedodd yr Ys- grifenydd (J. Thomas), nad oedd un gyfraith a rwystrau y band i chwareu o gwbl, a thebyg iawn mae yn uilaen yr ant rhyw dymhor eto. Rbyfedd fel y mae rhai personau yn gwingo yn erbyn y weithred hon o eiddo y Cyngbor. Llawer sydd wedi ei ysgrifenu ganddynt o bryd i'w gilydd yn cyhuddo ac yn rhyfeddu yn ddirfawr fod y Cynghor wedi gwrando ar weinidogion anelus- engar, ofergoelwyr, cibddall, a dysgyblaeth dyn- ion beilchion, pa rai a ofnent fod eu cynulleidfa- oedd yn cael eu gwasgaru a'u :£ s. c. yn cael eu haberthu." Dyma fel y mae un o ohebwyr wytb- nosolyn yn rhoddi ei syniadau dienaid a chib- ddall. Sieryd fel un ag awdurdod gaiiddo. Dyma ydyw ei gan drwyddi, ac y mae y lleUl yn myned i'r un cyfeiriad uniongyrchol. Y Fever Hospital. — Daeth y cvvestiwn hwn o flaen cyfarfod gohmedig a gynaliwyd dydd Mawrth y 15ed. Cafwyd Ilawer o siarad yn nghylch hwn, o barthed y lie mwyaf cyfleus i'w osod. Nodasid amryw leoedd, ond daethwyd i'r penderfyniad mae mewn cae gerllaw gwaith alean Cwmbwrla y codasid ef pertbynol i'r Corporation, Damwain alaethus. — Fel yr oedd dyn o'r enw Thomas Hancock, 34 mlwydd oed, gyda'i oruch- wyliaeth boreu Gwener yn ngwaith arian yr Hafod, fel potman, daeth i gyffyrddiad adamwain alaethus. Pan oedd wrth "tap" y croman (cupola) yr hyn sydd ddcrbynfa. i dderbyn y metel ttddedig, pan wrth redeg allau o'r croman, yr oedd wedi ei lenwi yn agos a dwfr y pryd byn, a'r metel yn rhedeg iddo yn gyfiym. Ymddengys fod Hancock yn cerdded ar hyd ocbr y" tap" pan y dygwyddodd i'w droed lithro, ac yntau i gwympo i mewn iddo. Gwaeddodd am help, a daeth lluaws o'i gydweithwyr mewn mynyd i'r man, a rbyddhawyd y dyn anffodus o'i sefyllfa beryglus, ond nid cyn iddo dderbyn niwed ar ei goesau a'i freichiau. Cymerwyd ef ar unwaith i'r meddygdy, ac y mae yn dyfod yn tnlaen yn rhag- orol. Plescnleithiatt.- Prydna wn lau, bu pleserdaith gwasanaethyddion Mr W. Richards, grocer. Nifer y cwmni oedd 42. Aethant mor belled a Rey- noldstone. Felly befyd gwasanaethyddion Mr Jabez Davies, grocer. Yn Park Mill bu gwasan- aetbyddion Mr Roderick Evans, draper, caw- sant brydnawn hyfrydac wrth eu bodd. Hwn oedd y cyntaf iddynt hwy. Gwyl De. — Prydnawn Ian, y l7eg, cafwyd gwledd ardderchog o ffrwyth y ddeilen Indiaidd a bara brith yn ngbapel Calfaria!(B.), Raven Hill. Yn y boreu yr oedd y cymylau yn ymarllwys eu cynwysion, a bygythient na fuasent yn aros chwaith. Ond erbyn y prydnawn cliriodd yr awyrgylcb, ac felly cafwyd pob petb yn ffafriol, a daeth canoedd lawer i fwynhau y danteithion darparedig gan y gwahanol foneddigesau. Fel pob lie arall cafwyd tipyn o chwareu diniwed arol ymborthi, ac felly y treuliwyd prydnawn wrth fodd pawb. Plentyn wedi ei ladd. — Boreu Sadwrn, cafodd bacbgenyn pum' mlwydd oed, mab David Beynon, saer yn ngwaith dur Elba, Gower Road, ei ladd gerllaw gorsaf Gower Road ar linell y London and North Western. Nid oes ond ychydig amser er pan symudodd Mr Beynon a'i deulu i'r lie, a thybir mai peiriant balasarn oedd wedi rhedeg drosto. Cydymdeimlir yn fawr a'r rbieni yn eu tywydd garw. Y Sunday band eto.-Mae y cwestiwn yma yn fyw hyd yma eto. Prydnawn dydd Gwener cynaliwyd cyfarfod wedi ei alw drwy gylchlythyr yn y Cameron Arms Hotel, i'r pwrpas o ystyried y moddion goreu i barbau y seindorf i chwareu (?) yn y Pare ar y Sabboth. Cymerwyd y gadair gan Dr Paddon. Gwnaeth araeth ofnatsan o blaid y seindorf. Siaradwyd gan Cynghorwyr W. J. Rees, H. Maliphant, H. Mason, ac ereill. Llymeitwyr a tbafarnwyr oedd y rban fwyaf o'r rhai hyn, a gellid meddwl y gwnant bwy eu goreu i gynal y seindorf, a'r hyn a wnant ydyw cael deiseb i'w gosod i fyny yn mhob Hotel, &c.. i gael enwau yn fiafr y seindorf. Gwnant befyd olrhain (?) cofeb a anrhegwyd yn ddiweddar i'r Cyngbor Trefol. Dyma bethau rbyfedd. Cyn sychu ein hysgrifell, dymunem gael diolch, dyma'r cyfle cyntaf, i "Gobebydd," alias Mul- turn in parvo," am ei garedigrwydd yn cymeryd gofal gohebiaeth Fforestfacb," &c., oddiwrthym. Nid llawer fuasai iddo i awgrymu hyny wrthym. Gadawer iddo. DEWI o'n GAD. _—

BEAUFORT,'.

WYDDGrRUGr.I

CWM RHONDDA.

YR ARGYFWNG GWLEIDYDDOL.