Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
LLOFFION 0 ABERTAWY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLOFFION 0 ABERTAWY. Y Sunday Bands.—Yn y Cynghor Trefol dydd Mercher, darfu i'r pwnc hwn fod dan sylw yr aelodau. Daeth yno ddirprwywyr o'r gwahanol enwadan, pa rai a arweiniwyd i mewn gan y Cynghorwr James Jones, a chyda hwynt gofeb wedi ei harwyddo gan 11,000 o bersonau dros 18 mlwydd oed, yn erbyn y Sunday band. Siarad- wyd yn nerthol yn ei erbyn gan y Mri Bishop, Dr Rawlins, a Ficer Abertawy, a ehawsant wrandaw- iad astud yn ystod yr amser y buont yn siarad. Wedi hyny bu yr aelodau ya ymdrin ag ef, ac wedi cryn lawer o siarad o bob ochr, cafwyd ym- raniad, a tbrodd y fantol yn ei erbyn y tro hwn, ac yn mhlith y lleiafrif y tro hwn gwelsom enw y Cadben Thomas Davies (M.C.), yn ei bleidio. Paham, tybed, (1.) Am i'r gwahanol sewadau beidio d'od allan i bleidio ei fesnr ef, sef cau y siopau bach ar y Sabbothau. (2 ) Yn wyneb fod Ilawer mwy o bersonau heb fyned i unrbyw le o addoliad nag sydd yn myned, ac felly eisieu cael recreation ar gyfer y rhai byny. O y fath resymau gwael, onide? Darfu i'r Cyngborwr Freeman wneyd sylwadau pwrpasol iawn yn ei gynygiad yn erbyn y band i gael c-hwareu do, nes iddo ddenu y Maer i bleidio ei gynygiad, er iddo wneuthur fel arall yn y cyfarfod o'r blaen. Ond er fod hyn wedi ei gario, dywedodd yr Ys- grifenydd (J. Thomas), nad oedd un gyfraith a rwystrau y band i chwareu o gwbl, a thebyg iawn mae yn uilaen yr ant rhyw dymhor eto. Rbyfedd fel y mae rhai personau yn gwingo yn erbyn y weithred hon o eiddo y Cyngbor. Llawer sydd wedi ei ysgrifenu ganddynt o bryd i'w gilydd yn cyhuddo ac yn rhyfeddu yn ddirfawr fod y Cynghor wedi gwrando ar weinidogion anelus- engar, ofergoelwyr, cibddall, a dysgyblaeth dyn- ion beilchion, pa rai a ofnent fod eu cynulleidfa- oedd yn cael eu gwasgaru a'u :£ s. c. yn cael eu haberthu." Dyma fel y mae un o ohebwyr wytb- nosolyn yn rhoddi ei syniadau dienaid a chib- ddall. Sieryd fel un ag awdurdod gaiiddo. Dyma ydyw ei gan drwyddi, ac y mae y lleUl yn myned i'r un cyfeiriad uniongyrchol. Y Fever Hospital. — Daeth y cvvestiwn hwn o flaen cyfarfod gohmedig a gynaliwyd dydd Mawrth y 15ed. Cafwyd Ilawer o siarad yn nghylch hwn, o barthed y lie mwyaf cyfleus i'w osod. Nodasid amryw leoedd, ond daethwyd i'r penderfyniad mae mewn cae gerllaw gwaith alean Cwmbwrla y codasid ef pertbynol i'r Corporation, Damwain alaethus. — Fel yr oedd dyn o'r enw Thomas Hancock, 34 mlwydd oed, gyda'i oruch- wyliaeth boreu Gwener yn ngwaith arian yr Hafod, fel potman, daeth i gyffyrddiad adamwain alaethus. Pan oedd wrth "tap" y croman (cupola) yr hyn sydd ddcrbynfa. i dderbyn y metel ttddedig, pan wrth redeg allau o'r croman, yr oedd wedi ei lenwi yn agos a dwfr y pryd byn, a'r metel yn rhedeg iddo yn gyfiym. Ymddengys fod Hancock yn cerdded ar hyd ocbr y" tap" pan y dygwyddodd i'w droed lithro, ac yntau i gwympo i mewn iddo. Gwaeddodd am help, a daeth lluaws o'i gydweithwyr mewn mynyd i'r man, a rbyddhawyd y dyn anffodus o'i sefyllfa beryglus, ond nid cyn iddo dderbyn niwed ar ei goesau a'i freichiau. Cymerwyd ef ar unwaith i'r meddygdy, ac y mae yn dyfod yn tnlaen yn rhag- orol. Plescnleithiatt.- Prydna wn lau, bu pleserdaith gwasanaethyddion Mr W. Richards, grocer. Nifer y cwmni oedd 42. Aethant mor belled a Rey- noldstone. Felly befyd gwasanaethyddion Mr Jabez Davies, grocer. Yn Park Mill bu gwasan- aetbyddion Mr Roderick Evans, draper, caw- sant brydnawn hyfrydac wrth eu bodd. Hwn oedd y cyntaf iddynt hwy. Gwyl De. — Prydnawn Ian, y l7eg, cafwyd gwledd ardderchog o ffrwyth y ddeilen Indiaidd a bara brith yn ngbapel Calfaria!(B.), Raven Hill. Yn y boreu yr oedd y cymylau yn ymarllwys eu cynwysion, a bygythient na fuasent yn aros chwaith. Ond erbyn y prydnawn cliriodd yr awyrgylcb, ac felly cafwyd pob petb yn ffafriol, a daeth canoedd lawer i fwynhau y danteithion darparedig gan y gwahanol foneddigesau. Fel pob lie arall cafwyd tipyn o chwareu diniwed arol ymborthi, ac felly y treuliwyd prydnawn wrth fodd pawb. Plentyn wedi ei ladd. — Boreu Sadwrn, cafodd bacbgenyn pum' mlwydd oed, mab David Beynon, saer yn ngwaith dur Elba, Gower Road, ei ladd gerllaw gorsaf Gower Road ar linell y London and North Western. Nid oes ond ychydig amser er pan symudodd Mr Beynon a'i deulu i'r lie, a thybir mai peiriant balasarn oedd wedi rhedeg drosto. Cydymdeimlir yn fawr a'r rbieni yn eu tywydd garw. Y Sunday band eto.-Mae y cwestiwn yma yn fyw hyd yma eto. Prydnawn dydd Gwener cynaliwyd cyfarfod wedi ei alw drwy gylchlythyr yn y Cameron Arms Hotel, i'r pwrpas o ystyried y moddion goreu i barbau y seindorf i chwareu (?) yn y Pare ar y Sabboth. Cymerwyd y gadair gan Dr Paddon. Gwnaeth araeth ofnatsan o blaid y seindorf. Siaradwyd gan Cynghorwyr W. J. Rees, H. Maliphant, H. Mason, ac ereill. Llymeitwyr a tbafarnwyr oedd y rban fwyaf o'r rhai hyn, a gellid meddwl y gwnant bwy eu goreu i gynal y seindorf, a'r hyn a wnant ydyw cael deiseb i'w gosod i fyny yn mhob Hotel, &c.. i gael enwau yn fiafr y seindorf. Gwnant befyd olrhain (?) cofeb a anrhegwyd yn ddiweddar i'r Cyngbor Trefol. Dyma bethau rbyfedd. Cyn sychu ein hysgrifell, dymunem gael diolch, dyma'r cyfle cyntaf, i "Gobebydd," alias Mul- turn in parvo," am ei garedigrwydd yn cymeryd gofal gohebiaeth Fforestfacb," &c., oddiwrthym. Nid llawer fuasai iddo i awgrymu hyny wrthym. Gadawer iddo. DEWI o'n GAD. _—
BEAUFORT,'.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BEAUFORT, CYFARFODYDD ORDEINIO. Mehefin 30ain, cynaliwyd cyfarfodydd i ordeinio Mr J. Vinson Stephens, o Goleg Aberhonddu, yn weinidog ar yr eglwys Seisonig yn y lie uchod. Boreu dydd Llun, am 11 o'r gloch, dechreuwyd y gwasanaetb drwy ddarllen a gweddio gan Mr, T. Edmunds, o Goleg Aberhonddu. Pregethwyd ar natur eglwys gan Dr Morris, Aberhonddu, a holwyd y gofyniadau gan y Parch J. O. Jones, Ferndale, y rhai a atebwyd yn gryno a cbynwys- fawr gan y gweinidog ieuanc. Offrymwyd yr urdd-weddi gan Dr Morris, a gofynwyd am yr ar- wyddion arferol gan y Parch W. Griffiths, Beau- fort. Am 2, dechreuwyd gan y Parch J. W. Jones, Llanhiddel. Pregetbodd y Parch J. LI. Jones, Penclawdd, ar ddyledswydd y gweinidog ieuanc; a'r Parch W. Griffiths, Beaufort, ar ddy- ledswydd yr eglwys. Am 6.30, dechreuwyd gan Mr W. Morgan, o Goleg Aberhonddu, a phiegetb- wyd gan y Parchedigion J. Morris, Pontygof, a Dr Morris, Aberhonddu. Heblaw y rhai a enwyd gwelsom yn bresenol y personau canlynol :— Y Parchn- E. Powell a B. Shankland, Tredegar; W. T. Hughes a J. T. Thomas, Ebbw Vale T. D. Evans, Cross Keys a'r Mri E. Groves, New- port; S. R. Jones, a J. M. James, Coleg Aber- bonddu a Dr Evans, Beaufort. Cafwyd cyfarfodydd dymunol iawn. Ni chlyw- som lawer gwell canu erioed, a da oedd genym fod ein brawd ieuanc yn dechreu ar ei weinidogaeth o dan amgylchiadau mor gysurus. Llwyddiant iddo. YMDEITHYDD.
WYDDGrRUGr.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WYDDGrRUGr. Agoi wyd Brawdlya Sir Fllinl, boreu Iau, Clorplienaf 24tin, gan Syr Robert Grove yn neuadd y sir. Hen wr pwylloo-, gofatus, ao amyneddgar yw Syr Robert, a thra gwahanol i amvyw o'i frcdvr barnol a gadwant mewn cof eu bod yn cynrychioli y Frenines. Nid ydyw lledneisrwydd a thiriondeb yn angbydweddi a gwir urddas. Deallwn i'r Barnwr gael tri phar o feny^ gwynion yn ystod ei gylchdaith, a byfryd i ni flusai bod mewn sefyllfa i voddi par iddo dros y sir hon ond drwg- genym fod y rhif-res droseJdoi yn dduach nag arfer. Achos gofidus ydoedd un ELIZABETH BLYDDYN, geneth ddeuddoa oed, heb addysg o un math, o fynydd Coed-y-Fflint. Yr oedd ei thad yn droseddwr, a'i mam yn esgeulus o ddysgu gonestrwydd iddi. Cymer- wyd hi gan un Mre Rees gyda'r amean o'i diwygi0{ ond lladrataodd amryw wisgoedd oddiarni gwerth dwy bunt. Cafwyd hi yn euog, ac er ei lies anfonodd y Barnwr, yr hwn a siaradai yn dadol, am bum* mlynedd i ysgol ddiwygiadol.—Cyduddiad pwysig a ddygid yn erbyn RICHARD PBITCHARD, a fu hyd yn ddiweddar yn gweitbio yn agos i'r Wyddgrug, mewn fie a elwir Plas Major. Y gyhndd- gwyn yn ei erbyn ydotdd, iddo gymeryd llw drwg mewn prawf a gymerodd le yn Llys Chwarterol y sir, Gorplienaf 2il. Cyhuddid un Francis Jones o ladraia gwair o Plas Major yn Mawrth diweddaf, a Pritcha'd oedd y prif dyst yn ei erbyn ond gwrth-ddywedid ei dyst;olaeth mor amlwg a phenderfynol gan amryw dystien, fel na chredai y rh< ithwyr ef, felly dygasant Jones yn euog o dderbyn lladrad, ac an fonwyd ef am dri mis i'r carchar. Cymerwyd Pritchard i fyny am anudoniaeth, a chyfaddelodd ei fod yn euog o ddyweyd anwire idau. Am ei lod wedi addef ei bechod (a hyderai y Barnwr y gwnai ei adael), anfonwyd ef i'r un carchar a Francis Jones am bum' mis gyda llafur caled. Kdrych yn hynod ar eu gilydd yn ddiau wnaeth y ddau, Jones a Pritchaid, pan welsint wynebau eu gilydd o tYwn muriau carchar. Hyderir y deuant allan yn well dynion.—Dedf'ryd drom gafodd WILLIAM WOOD, o'r Maesglas, ger Tieffynon, ond nid rhy drom ychwaith pin ystyrir ei drosedd anfad o geisio lladd ei wraig gyda cbyllell, Ebrill 28ain. Ymbnododd a Mrs Wood yn Hydref diweddaf. Yr oedd efe yn weddw, a hithau yr un modd, a chariddynt dri o blant bob un. Ni buont byw yn ddedwydd am nemawr wythnos, ac aeth o ddrwg yn waeth hy.1 y dyddiad nchod, pan yr aeth Wood i ysfcafell gysgu y wraig, a rhwygodd ei gwyneb gyda'r gyllell a ddangosid yn y llys, fel yr oedd y gweiy a'r dil ai wedi eu mwydo mewn gwaeJ, ac oherwydd ei hegni anghyttradtn llwyddodd y wraig i ddianc o'r ystafell gan waeddi i dy cymydog. Bn mewn sefyllfa beryglus am wythnosau, ac yr oedd yr archollion ar ei boch yn profi mo- benderfynol a chreulawn oedd yr ymosodiad. Ainddiflfynidy carcharor gan Mr C. Williams Aeth y barnwr yn tanwl dros y dystiolaetb, a,c eglurodd y ddeddf yn amlwg a dealladwy, a gadawodd yr achos yn Haw y rheithwyr, y rhai, wedi byr ymgyngboriad, a ddygasant reithfarn o euog. Dedfiydwyd ef i 15 mlynedd o wasanaeth penydiawl, er syndod i'r rbai oeddyni yn y llys. Mae y carcharor yn ddeuddesr a deugain oed, ac arwyddion o yfed trwm amo. Mae Mrs Wood wedi ei dwyn i fyny yn gref- yddol a pharchus, a merch ydyw i un o'r diaconiaid enwocaf gyda yr Annibynwyr a fu yn s;r Fflint, ond sydd wedi marw er's tuag ugain mlynedd. DEWISIAD LLEOL (LOCAL OPTION). Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddns yn neuadd bardd y dref, nos Fercher, y 23ain o Orphenaf, ar y symudiad uchod, pan y nymerwyd y gadair gan yr hybarch, ac arch gadeirydd VV yddgrug-, y Parch Roger Edwards. Wedi ychydig sylwadau Uongyfarchiadol, galwodd ar y Parch Thomas Roberts i ddarllen y penderfyniad cyntaf. Eiliwyd ef gan Mr Edward Wheldon, Cadeir- ydd y Bwrdd L!eol. Diweddai gydag addewid o ddi, wygiad pwysig wedi i Dy yr Arglwyddi gael ei safn- rwymo. A tegwyd y penderfyniad gan y Parch Thomas. Evans, Preston (diweddar o Ferthyr). mewn araeth lithrig a llawn arabedd. Un thagorol yw y brawd hwn am uodi hwyl, a nofia yn rhwydd pan y bydd awelon teimIadau yn chwythu ar ei lawn hwyliau, ac ni wnai fawr ohoni ar diriogaeth rbesymeg Cynygiwyd yr ail benderfyniad gan y Parch W. T. Thomas, yr hwn a sylwodd ar y tegweh a'r rhesymoldeb fod rheoleiddiad y tafarndai a buddianau lleol dan arolygiaeth y treth- dalwyr. Cefnogwyd gan Mr C. Candlin, ae ategwyd ef gan Dr Thomas, Liverpool, mewn araeth gref, degr. ac ymresymiadol. Yn ddiau, mae Dr Thomas yn mblith y rhai blaenaf yn y Dywysogaeth inewn tegweh, cywir- deb, a rhesymiadol lei ysgrifenydd a siaradydd, a gfesyn na ddarllenid ei lytbyrau rhagorol yn y TYST A'B DYDD o wythnos i wythnos dan yr enw "Hadmer- y d," a'r erthyglau galluog ond diymhongar a gy- hoeddir yny newyddiadar hwnw. Eiliwyd diolcbgarweh i'r Cadeirydd gan Mr C. H. Murray, goruchwyliwr, a chefnogwyd gan y Parch Owen Thomas, M A. Ap RICHARD. -0
CWM RHONDDA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CWM RHONDDA. Mesur Ccm y Tafarndai ar y Sabboth.-Hysbys- wyd fod cyfarfod i'w gyn ll gan gefnogwyr diddymiad y mesur uchod yn Ngwesty Ynyscynon, Trealaw, am 6 o'r gloch y Llun diweddaf. Daeth yr awr enwedig, ond, er syndod i'r rhai a alwodd y cyfarfod, nid oe d neb yn cynwys y gynulleidfa ond hwy eu hunain. Cyf- logasact seindorf o Gierdyd(I i flaenori eu gorymdaitb, gan gychwyn o Dreorci, ond ni chyinieddasant hwy y lie cyfarfod hyd chwarter i 7, a'r pryd hwnw nid oedd ond dau o'r cefnogwyr yn dilyn, gan chwifio baner. Yn union daeth nifer fawr o Blue Ribbonites i'r fan, a chan iddynt ddeall nad oedd fawr arguel i'r cyfarfod i ddechreu, cymerodd y rhai hyn, yn cael eu blaenori gan Mr Councillor Beavan, Caerdyd), eu safle ar embankment oddeutu 50 Hath oddiwrth gefnogwyr y diddymiad o'r ddeddf, ¡pn ddeuhreu cyfarfod gwrth- wyi ebol. Yn fuan daeth cetnogwyr y diddymiad i'w He penodedig, ond mewn sefyilfa wan iawn (dim ond oddeutu 50 o amgylch eu hesgyn'awr), lie yr oedd Mr Hicks, o Lundain, yn ceisio dangos anghyliawnder Deddr Can y Tafarndai yn Nghyanru. Yr oedd gor- ymdaith a chyfarfod y diddymiad yn fethiaat.
YR ARGYFWNG GWLEIDYDDOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
-mae Manchester, Birmingham, a'r trefydd mawrion ereill yn dilyn. Mae Mr Gladstone yn myned i Midlothian diwedd Awst, a gellir dysgwyl ganddo ddwy araeth wna angerddoli y teimlad dros y mesur. Nid yw y Toriaid wedi anghofio ei areithiau yn Midlothian yn 1880, ac nid oes arnynt fawr awydd i'w weled yn myned yno drachefn. Mae yr hen arwr, John Bright, wedi aroglu brwydr o bell, ac yn barod i ym- daflu iddi. Hyd yn hyn nid yw y cyffroad wedi lliniaru dim ar gynddaredd Arglwydd Salisbury -mae mor chwerw, dygasog, a herfeiddiol ag erioed; ond dygir yntau i'w synwyr, a bydd yn edifar ganddo godi y fath ysbrydion. Tra mae Lloegr yn cyuhyrfu, atolwg, pa beth mae Cymru yn myned i wneyd ? A ydyw Cymru yn myned i oddef y gwaradwydd hwn heb wrthdystio ? Digrif yw clywed ambell gorachyn o Dori yn dyweyd y gwna yr oil ddibenu mewn mwg; ond byddai yn burion iddo gofio nad oes byth fwg heb fod tan mewn cysylltiad ag ef, ae y mae y tan hwn, cyn y diffoddir ef, yn sicr o losgi hen draddodiadau Ty yr Arglwyddi, nes ei gael i fod o wasanaeth i'r wlad, ac nid yn atalfa i ddeddf- wriaeth oleuedig.