Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
GURNOS, YSTALYFERA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GURNOS, YSTALYFERA. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,-Mae ein hen weinidog parchus, B. Thomas, wedi rhoddi gofal eglwysig y lie uchod i fyny er's ychydig amser, oherwydd llesgedd a methiant henaint. Bu yn gweinidogaethu yma 26 o flynyddau gyda ffyddlondeb a Ilwyddiant. Da genym ei fod yn alluog eto i bregethu. a gweinyddn yr ordinhadau yn acblysurol yma, yn gystal a manau ereill y bydd galw am dano. Yr ydym o galcii yn dymuno prydnawn da iddo cyn noswylio. Dros yr eglwys, WM. EVANS, Ysgrifenydd. Cyfeirier pob gohebiaeth i'r eglwys uchod at Wm. Evans, saddler, Ystalyfera, Swansea.
Y " CENAD HEDD " AC " ADRODDIAD…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y CENAD HEDD AC ADRODDIAD YR UNDEB AM 1872-5." At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Yn adolygiad y Genad Hedd ar yr Adroddiad uchod ceir y sylw a ganlyn Dyna breg- ethau Ap Vychan, Proff. Morgan, ac anerchiad Hwfa Mon i'r ieuenctyd wedi eu colli. Yr ydym yn sicr i ni ddarllen yr olaf yn y TYST A'R DYDD, a darllenasom Ap Vycban ar Arwyddion yr Amseroedd' yn yr un man, neu yn y Dysgedydd, a thrueni mawr na buasent toedi eu dodi i mewn, pe dim ond er mwyn cyfanrwydd yr Adroddiad." Nis gallasai yr adol^gydd, mi gredaf, fod wedi dar- llen y nodiad arweiniol ar ddechreu y gyfrol, neu ni buasai yn vsgrifenu fel y gwnaeth. Yr wyf yn dymuno J hysbysu iddo na ddarllenodd yn y TYST A'R DYDD I na'r Dysgedydd y bregeth y cyfeiria ati yn y dyfyniad I uchod o eiddo y diweddar Ap Vychan, nac araeth Hwfa Mon, yn Nghaernarfon, yn 1873. Dian na thybiai yr adolygydd parchus briodoli dim drwg am canion i neb wrth y sylw uchod, ond gall fod yn achlysur i ereill i dynu camgasgliadau.—Yr eiddoch, Llansamlet, Gor. 21,1884. J. B. PARRY.
-"---COFIANT Y DIWEDDAR BARCH.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. E. JONES, CRUGYBAR. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION, Dymunaf ar eich care ligrwydd arferol ganiatau i mi gyfran fechan o'ch papyr clodwiw i gyflwyno diolchgarwch gwresOg i'r rhai y perthyn iddynt, am eu cynorthwy effeithiol, a'u cyd- weithrediad ewyllysgar yn nglyn a chofiant v diweddar Barch E. Jones. Gan mai cymliarol gyfyng oedd cylch yr adnabyddiaeth, nifer fechan a argraffwyd; a rbag- myned i ddyryswch, ymgymerais a dwyn y liyfr m' fy bun ger bron yr eglwys drwy y cyfundeb a lleoedd ereill yr oeddwn yn meddwl y buasai derbyniad. Cefais hawddgarwch mawr yn mhob lie, a sirioldeb rhyf ddoï gan yr boll frawdoliaeth, a llawer oedfa bapus dan wenau y Nefoedd. Bydd yn dda genyf gofio am danynt eto. Diolch yn fawr i chwi oil am eich ffyddlondeb, ganhyderu y gwna y llyfr barhau i feithrin ei ugeiniau ddarllenwyr mewn crefydd a duwioldeb. Llansawel. J. EVANS. [Drwg genym nas gallem gyhoeddi y rhan olaf o'r ohebiaeth ond fel hysbysiad.-GOL J
GAIR AT Y PARCH JOSEPH HENRY,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GAIR AT Y PARCH JOSEPH HENRY, MAERDY. BARCHEDIG SYR,—Caniatewch i mi eich adgofio am yraddewid hono ynLIanharry yny Cyfarfod Chwarterol. Addawsoch y buasech yn anfon y bregeth ragorol a draddodasoch ar y pwnc, "Y Genadae.h," i rai o gy- hoeddiadau yr Enwad. Yr wyf wedi bod yn dysgwyl am ei gweled yn dyfod allan yn y Diwygiwr, ond nis gwelais. Fel y'dywedwyd y pryd hwnw, Dylai gael ymddangos." Gobeithio y cydsyniwch a'm cais.—Yr eiddoch, yn ostyngedig, UN WEDI EI GWRANDO.
AGERLONGAU CAERDYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AGERLONGAU CAERDYDD. Mae Gwenllian Thomas, s.s., yn Genoa yn dadlwytho nwyddau o Gaerdydd. Pasiodd lolo Morganwg, s.s., Elanior, Gorphenaf 22ain, am Gaerdydd. Mae Anne Thomas, s.s., yn Nghaerdydd yn llwytbo am Syra (Greece). Garlawodd Kate Thomas, s s., Constanti- nople am Kertch, Gorphenaf 25ain, 1884. Gadawodd Wynnstay. s.s., Savona am Constantinople, Gorphenaf 23ain, 1884. Cyrhaeddodd Walter Thomas, s.s., Malta o Port Said, Gorphenaf 25ain, 1884.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CANWCH YN DDA! SIAEADWCH YN DDA!— Mae Doughty's Voice Lozenge wedi cael ei werthfawrogi yn fawr gan gleri'gwyr, cantorion, ac enwogion ereill am yn agos i 40ain mlynedd. llhydd glirder a gloewder i'r llais. JENNY LIND.—"Y mae yn bleser mawr genyf, mor bell ag y mae fy mlxrotiadyn myned, i gadarnliau y dystiolaeth sydd mor gy- ffredinol yn fratr y Lozenges a barotoir genych ohwi" (Miles Doughty). 6c, Is, 2s 6e, 5s. a lis—yn rliydd trwy y llythyrdy, 7c, Is 2c, &c. Gofynweli i'ch Cyft'erydd am danynt —XK WUKH Y a'i FJ3IBION' 1, King Edward-street, Lluudain, E,C. Sefydlwyd yu y 4l>vyddyu 1716
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TYNEWYDD, MYNYD D ISL WYN.-Gorphenaf 14eg-, cynaiiwyd cyfarfod mewn adrodd, canu, ac areithio am 7.30 o'r gloch. Cymerwyd y gadair gan y Parch J. Jones, gweinidog. Wedi araeth fer gan y llywydd, aed trwy y rhaglen a ganlyn :—Adrodd Ni frysia'r hwn a gredo" gan C. M. Bull; adroddiad gan E. Lewis; unawd, "Fanny Blodau Ffair" gan C. M. Bull; adroddiadau gan E. Davies ac E. Jones; dar- lleniad gan A. Russell; dadl gan J. Edwards a J. Price adrodd Y trên" gan H. Pi>gh dadl gan J a F. Davies unawd, Fe ddaw Llewelyn eto'n ol," gan S. A. Lewis; ymddyddan, Rbanu'r deisen gan H, Pugh, L. Edwards, a C. M. Bull; darlleniad gan W. Lewis; ymddyddan, "Y meddwyn, ei wraig, a gwraig- y tafarnwr" gan J. Price, S. Morgan, a Mrs Mosley; unawd, "Hen wlad fy nhadau," gan S A. Lewis; adrodd The babes in the wood" gan L. Lewis; araeth ddifyfyr ar Dipyn o'm hanes," saith yn cynyg-goreu, Tom Lewis ymddyddan gan R. G. E. Williams; adroddiad gan T. Davies; dcuawd, The old house at home," gan C. M. Bull a L. Lewis; adroddiad gan P. Worthington ymddyddan difyfvr- ni chafwyd y feirniadaeth eto adroddiad gan Mrs Mosley; unawd, Say a kind word when you can" gan H. Lewis, Islwyn Cottage. Yna ymwahanwyd, wedi trenlio cyfarfod hapus, bywiog, a dyddorol iawn. -H. Absalom. PORTH, AMLWCH.—Llanwyd pwlpud yr-Anni- bynwyr yma y Sabboth cyn y diweddaf gan y Parch Morien Mon Hughes, o'r America, ac yr oedd yn pregetbu gyda hwyl diwygiadol. Ni chlywais fod neb wedi aros yn ol, ond yr oedd yma deimlad mawr. Dyn ieuanc ydyw, ac yn bregethwr da.—Llais o'r lie. LLANDILO.-Nos Lun, Gorphenaf Mag, trad'od- wyd darlith ar Ddeugain mlynedd o adgofion am hpn gymeriadau hynod vn y Taberriacl, gan Mr T. Edwards (Iorwertb), Llandilo. Cymerwyd y gadair gan y Parch D. Morgans (M.C). Cafwyd darlaniad manwl a dyddorol iawn o'r dydifiau a'r bobl gynt yn eu dull a'u barferion cymdeithasol a chrefyddol, hanes ilawer o gymeriadau hynod ac enwog mewn crefydd a duwioldeb, yn nghyda llawer o gyfarfodvdd crefyddol. Yr oedd y ddarlith nid yn uniy vn ddyddorol, ond yn adeiladol, ac yn llawn hyfforddiant ac addysg grefyddol neillduol i ddynion ieuainc yr oes hon. Mae Mr Edwards yn ddyn craffus iawn, o feddwl cryf a gwybodaeth eang, ac yn ddoniol fel adroddwr dy- gwyddiadau a phersonau y blynyddoedd gynt. Daeth cynulleidfa luoso? yn nghyd, a chafodd pawb eu difyru a'u hadeiladu.-Gohebydd. BETHEL, CAERPHILI-Cynaliwyd gwyl flyn- yddol Ysgol Sabbothol y lie hwn dydd Morcher diweddaf, pryd > bu rhyw 300 o'r deiliaid yn cyfranogi yn ewyllysgar o'r te a'r bara brith, &c., yn y Board School Room. Yr oedd piwb yn can mol y wleid. Cafodd y plant radd o sioinedigaeth oherwydd iddi droi yn ddiwrnod mor wlyb. Yr oe Idem wedi arlaethu cael gorymdaith i fyny i fferm Ty'r Gibbwn, yn ymyl palasdy yr enwog Ei erglyn. Yr oedd y boneddwr haeddbarch Mr Henry Anthony wedi addaw cae cyfleus iawn i gynal cyfariod adrodd a chanu, ac ychydig ymarferion adloniadol, ond methwyd derbyn ei addewid oherwydd y tywydd. Ar yr un pryd, diolch iddo ef. Gwnaed y diffyg hwnw i fyny yn o lew trwy gael ychydig adloniant ar y playground o gylch ysgoldy. Am 7 o'r }_>loch, aed trwy raglen lied dda o adrodd a chanu, o dan lywyddiaeth y Parch D. Richards, yn yr ystafell fwyaf o'r ysgoldy. Canodd cor y plant dfn arweiniad E. Bush, a chanwvd dwy ganig gan S. Williams a'i barti. Canodd J. Lewis "Hen wlad fy nhadau." Rhoddwyd anerchiad byr befyd gan Mr H. Anthony. Diolchwyd i bawb am eu cydweithrediad rhyfeddol eyda'r boll ddyledswyddau mewn cysylltiad â'r wyl.-Gohebydd Caerphili. CAERDYDD.— Ar y trydydd Mercher o Orphenaf cynaliwyd cyfarfod te blynyddol capel Cynulleidfaol Severn-road, Canton. Daeth lluaws yn nghyd i gyfranogi o'r danteithion darparedig. Yn yr hwyr, yr 9 oedd darpariaeth ar gyfor y meddwl-cyfarfod adlon- iadol cyfansoddedig o adroddiadau, darllen. a chanu, o dan lywyddiaeth fedrus Mr William Rees, un o ddiaconiaid Ebenezer, ac un o noddwyr yr achos Cymreig yn Canton oddiar ei gychwyniad. Gan fod becbgyn y mesur bir wedi cael awgrym i ddefnyddio y mesur byr yr wythnosau hyn, yn llwybrau yr hwn y mae llawer ohonom yn anghyfarwydd, ni cho'nodaf y manylion, a sychaf fy ystrrifell ayda dywedyd mai trwy ymdrechion Mr Rees Erans, athraw cynorthwyol yn Ysaol Fyrddol Canton, y dygwyd oddiamgylch ac y mwynhaodd y gwyddfodolion yr oedfa adloniadol hon. -D. L.D. LLANWDDYN.-Nos Fawrth, Gorphenaf 22ain, cynaliwyd cyngerdd yn y Cocoa Rooms, pryd y gwas- anaethwyd gan Miss Maggie Jonos Morewood, R.A.M., Llnndain Miss Jennie Hughes a Miss Lizzie Price, Llanfyllin; Eos Morlais, ac Alawydd Myllin; String Band, a Chor Cwm Vyrnwy. Cyfeilydd, Mr T. M. Price, R.A.M. Erbyn 7.30, yr oedd y lie eang yn orlawn o gynulleidfa barchus-yr oedd y ffaith fod Eos Morlais a Miss Jones Morewood wedi addaw dyfod yn sicrhau cynulleidfa. Wedi i'r cadeirydd, Mr R. T. Martin, C.E, d Ivweyd ychydig eiriau, dechreuwyd trwy i'r seindorf ehwareu Largo. Wedi byny caiwyd deuawd gan Misses Hughes a Price. Yna aed trwy raglen ragorol. Teilwng yw hysbysu fod Miss More- wood a'r Eos wedi canu yn ardderchog. Canodd Miss Morewood Orpheus with his lute" yn deilwng o un o'i safle a'i gallu. Er fod y darn dipyn yn galed, eto dangosodd fod ganddi allu i feistroli ei llais yn nodedig o dda. Cafodd encore deirgwaith, ac atebodd ddwy- waith trwy ganu Gyda'r Wawr a Twickenham Ferry." Nid oes yr nn amheuaeth y cawn glywed eto am dani wedi enill safle mwy anrhydeddns yn y byd cerddorol. Yr oedd yr Eos hefyd yn ei hwylian arferol; cafodd yntau encore bob tro. Amcan y gyntterdd oedd clirio ychydig o'r ddyled a arosai ar eglwys Annibynol y lie, a da genym hysbysn fod yr amcan wedi ei gyrhaedd. Cynygiwyd diolcbgarwch i'r Cadeirydd gan y Parch J. Vyrnwy Morgan, gweinidog yr eglwys Saesoneg, ac ar yr hwo yr oedd gofal yr boll drefniadau. Dywedodd ei fod bob amser wedi cael Mr Martin yn gyfaill ffyddlon-bob amser yn barod i'w gynorthwyo gyda phob achos da. Eiliwyd y cynygiad gan Dr Lowgrove, a phasiwyd ef yn unfrydol. Bernir fod y gynulleidfa yn rhifo tua 600.—Iconium.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
Genedigaethau, Priodasau, &c. MARWOLAETHAU. TH- MAS.—Gorphenaf L3eg, Mr John Thomas, Banky. gwin, Llansadwrn, yn 58 oe I, wedi ychydig dros bythefnos o gystudd caled. Derbyniwyd ef pan yn ieuanc yn aelod o Eglwys Crist yn Ebenezer, Llan- sadwrn, lie y treuliodd amryw flynyddoedd yn ddiwyd a gweithgar gyda'r Ysgol Sabbothol a holl gyfarfodydd ereill yr eglwys hono. Wedi ei symudiad i Bankygwin, ymunoddag eglwys Hermon, Cefuglasfryn, lie y gwasanaethodd y swydd ddiacon. aidd am amryw flynyddoedd gyda pharch a chymer- adwyaeth ger bron Duw a dynion. Yr oedd ei wen siriol, ei ymadroddion tarawiadol, difyr, a didram- gwydd wedi enill iddo lawer o gyfeillion mynwesol, a chwith genym fydd canfod ei sedd yn wag ohono yn Hermon. A'i le nid edwyn et mwy." Colled i bawb yn y gymydogaetb, ond iddo ef ei hun, oedd ei golli. Y dydd Ian canlynol, ymgasglodd tyrfa luosog i weinyddu iddo y gymwynas olaf. Cyn cychwyn o Pantygwin, darllenodd, gweddiodd, a phregethodd y Parch D. R. Bowen, Hermon. Wedi cyrhaedd addoldy Hermon, darllenwyd a gwedd'iwyd gan y Parch — James, Aberduar, a byr anerchiad ar lan y bedd gan yr ysgrifenydd, a gweddïwyd gan y Parch — Jones, Cwmifor.—Iorwerth. ARNOLD.—Gotphenaf 14eg, mewn mod' anghyffredin o sydyn ac annysgwyliadwy, mewn ffit o apoplexy. yn 61 oed, Mr Mathew Arnold, tailor and draper, Queen-street, Castellnedd. Nid oes nemawr neb sydd wedi tain ymweliad a Maesyrhaf o fewn y 30 neu y 40 mlynedd diweddaf nad yw yn cofio Mr Arnold, canys yr oedd vn un o'r rhai mwyaf blaen- llaw gyda'r achos yn y lie. Y Sabboth olaf y bu byw, bu gyda'r gwaith trwy y dydd-yr oedd yn y cyfarfod gweddi am 9, yn y cyfarfod pregetbu am 10.30, ac ya gweinyddu ei swydd fel diacon ar y Cymundeb; yn yr ysgol am 2, mewn cyfarfod gweddi am 5, ac yn y gwasanaeth arferol am 6; ac yn edrych mor iach a siriol ag y gwelwyd ef erioed. Aeth i'w wely tuasr 11 o'r gloch mor iach ag arfer, ond ychydig wedi haner nos ymaflodd y ffit ynddo, a bron cyn bod neb o'r teulu yn ymwybodol fod dim yn y mater arno, yr oedd ei enaid wedi cymeryd ei ehedfan i wlad well, i fynwes y Gwr y canodd gymaiut am dano ar y ddaear. Credwn i'r geiriau hyny gael eu cyflawni yn marwolaeth ein brawd- Sudden death, sudden glory." Bu yn dal cysyllt- iad aml w g iawn â'r achos yn Maesyrhaf am flynyddau lawer. Bu yn aelod am fwy na deugain mlynedd yn blaenori y canu am y rhan fwyaf o'r amser hwnw, a daliodd ato hyd y diwedd yn ddiacon am un mlynedd ar hugain, yn arolygydd yr Ysgol am tuag ugain mlynedd—mewn gair, yr oedd yn barod bob amser i wneyd pobpeth yn ei allu er lies yr achos. Nid yn unig- yr oedd yn llanw cylch cyhoeddus yn eglwys a chyda'r acbos yn Maesyrhaf, ond yr oedd yn Ilanw He cyhoeddus a pharchus iawn yn y dref a'r gymydogaeth. Bu yn aelod o'r Cynghor Trefol am naw mlyne,id, ac iddo barch mawr gan ei gyd. aeiodau. Heblaw hyny, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf cyhoeddus gyrla'r Cymdeithasau Dyngarol. Yr oedd y dorf fawr—dywed rhai ei bod yn rhifo tua thair mil-ddaeth yn nghyd ar ddydd ei angladd yn dystiolaeth fod iddo le mawr yn mharch a chalon ei gymydogion. Perthynai iddo lawer iawn o rinweddau teilwng o efelychiad, meeys ci ofal am deimladau pobl ereill, ei ffyddlondeb i'r byn a gredai oedd yn wirionedd, a'i yrr.Iyniad diysgog wrth ei argyhoedd- iadau, a'i barodrwydd i wneyd pobpeth yn ei allu o blaid yr achos. Yn mhlith ereill, gwelsom yn bresen-d yn yr angladd y Maer, aelodau y Cynghor Trefol, a phrif fasnachwyr y dref. Darllenwyd a gwed Iwyd yn y ty gan Mr Evans, Si!ob, yna ffurfiwyd yn orymdaith i fyned tua'r gladdfa newydd yn Ynysmaerdy. Yn y capel, darllenwyd rhan o Air Duw gan Mr Edwards, Soar, gweddïwyd gan Mr Morgan, Sciwen, cafwyd ychydig eiriau o anerchiad gan ei weinidog, ac ar ol canu penill cafwyd pregeth nodedig o doddedig a phwrpasol gan Dr Rees, Abeitawy. Ar Ian y bedd, cafwyd ychydig eiriau pwrpasol gan Mri Foulkes, Aberafon. ac Evans, Britont'e-ry, a gweddïodd Mr Evans, Wern, Aber- afon. Dymunwn fendith Duw ar y tenlu galarus yn eu trallod mawr, gan obeithio y bydd i ddeuparth ysbryd eu tad syrthio ar y plant, pa rai y cafodd y fraint o'u gwelel bob un wedi cymeryd iau Crist arnyut.—Gohebydd.