Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB YR ANNIBYNWYRI .CYM…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

gredo newydd, neu rhodder enwarall arno; galwer ef yn statement, neu yn declaration o'r ffydd Gristionogol fel ei credir yn lled gyffredinol gan yr Enwad yn America. Yr oedd siarad am hyn er's blynyddau, ac o'r diwedd daeth y pwnc yn ddigon addfed i'w basio yn unfrydol. Anfonodd yr hynafgwr parchus Dr Bacon, o Yale College, lythyr i ddiolch iddynt i'r Independent American- aidd, a dywedai nad oedd Cyffes Savoy, na'r hyn a adwaenir yn America fel Platfform Labrook," yn gwir gynrychioli cred yr oes hon ar rai pwynt- iau lied bwysig. Fe nodwyd pump ar-hugain o weinidogion enwog am eu dysg a'u crefyddolder, ac fe'u gosodwyd ar hyn o orchwyl. Perthynai rhai ohonynt i'r hyn a elwid yr hen ysgol ac ereill i'r newydd. Wedi dewis un i lywyddu eisteddai y pedwar benuriaid ar hugain hyn o'i amgylch i ystyried y materion yn bwyllus o un i nn, ac wedi cynadleddu a gohebu am dair blynedd tyn- wyd allan gredo byr, cynwysfawr, cryf a chlir, ond fe wrthododd dau o'r pump ar hugain osod eu henwau wrtho, a derbyniwyd ef yn llawen gan y cyhoedd fel document gwertbfawr ac yn index dda i farn y gwyr mwyaf profiadol ar brif bynciau ein ffydd. Anfonodd duwinydd mor fanwl-gywir ac uniongred a Dr Hodge lytbyr i'r wasg i lawen- hau fod mwyafrif mawr y rhai a ystyrid yn advanced school yn glynu yn ddiffuant wrth ffydd yr Efengyl. Ar yr olwg gyntaf, gellid darllen y credo hwn heb weled nemawr os dim gwahaniaeth rhyngddo a hen gredoau da. ag oeddynt wedi ei flaenori. Ond erbyn sylwi gwelir fod gwahan- iaeth. Yn y cyfeiriad at yr Ysgrytbyrau a'u Hysbrydoliaetb, gadewir y gair "anffaeledig" allan. Nid am yr un rhesymau efallai, ond cy- tunent oddigerth y ddau a nodwyd, ei fod yn air dialw am dano, a bod rbywbeth i'w enill mewn ffordd o gyd-ddealltwriaetb, a dim i'w golli wrth ei adael allan. Gwrthodid ganddynt yr hen ddam- caniaeth o verbal inspiration, ond glynent yn ddi- ysgog yn awdurdod Ddwyfol yr Ysgrytbyrau. Gosodir atbrawiaeth y Drindod allan yn ngeiriau credo Nicea. Yn y cyfeiriad at yr lawn, gadewir allan y termau "expiatory" a "vicarious" a thebyg mai yma y ceir yr ymadawiad mwyaf. Cytunir y cosbir yr annuwiol yn y sefyllfa ddy- fodol, ond gadawyd y modd a'r parbad yn open question. Nid ydynt yn hyn yn ffafru yr adferwyr na'r diddymwyr, ond yn unig yn bod vn ddystaw lie y mae yr Ysgrythyr yn ddystaw. Mae safla yr Annibynwyr yn Lloegr i'w gael, yn ogystal ag y gellir ei gael ar byn o bryd, efallai yn yr Year Book. Ond ni synem pe byddai i Annibynwyr Lloegr ddilyn esiampl eu brodyr Americanaidd yn hyn cyn pen nemawr flynyddau. Teimlir yn gyffredia ein bod mewn cyfwDg mwy neu lai peryglus, ac fod rbai yn gwneyd liongddryIliad am y ffydd. Gallai mai pedwar ban duwinyddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg ydoedd y rhai hyn 1. Awdurdod anffaeledig yr Ysgrythyrau. 2. Y cyfiawnhad trwy ffydd. 3. Offeiriadaeth pob credadyn. 4. Penarglwyddiaeth Duw. Hwyrach y gellid rboi pedwar ban duwinyddiaeth ddiwedd- ar yn bur agos yn yr un geiriau a'r hen fel bYIl 1. Awdurdod Ddwyfol yr Ysgrythyrau. 2. Cyf- iawnhad trwy ffydd. 3. Offeiriadaeth pob cred- adyn. 4. Tadolrwydd Duw. Credwn mai yr hyn sydd wedi achosi y cyfnewidiad mwyaf yn syn- iadau duwinyddion ydyw y ffaith eu bod yn es- bonio y Dadguddiad, y Prynedigaetb, a Rbaglun- iaeth yn ngoleuni y berthynas sydd rhyngom a Duw fel Tad yn hytrach nag fel Pen-arglwydd. Y mae Efe eto megys cynt, yn Ben-arglwydd a Pben-llywydd. Ond credir yn Iled gyffredin fod son am benarglwyddiaethol ras yn cuddio mwy nag a wna ddadguddio, ac na allwn ni dd'od i synio am, a tbeimlo yn briodol tuag at Dduw nes ei weled fel Tad, ac mai dynaydyw dadguddiad Duw yn wl-, ne ) lesu Grist, "Y neb a'm gwelodd i, a weloc".l y Tad," "Fel y tosturia tad wrth ei blen- tyn ac nid fel y tosturia pen-arglwydd wrth ei dde liad. A dyma'r atbrawiaeth debygir sydd yn cydgordio a'r cyfiawnhad trwy ffydd-ac offeir- iadaeth credinwyr. Tra yr edrychir ar Dduw fel Pen-arglwydd a Barnwr o'r cwmwl tywyll a'r mynydd tanllyd yn unig y ciwn olwg arno, a gwaedd naturiol y galon ydyw, Llefared Moses ac nid Duw rhag ein marw." Llefared Pedr, Pab, Mair a'r offeiriad ger llaw i ni. Yn y gagendor hwn rhyngom a Duw y ceir lie i afrifed gyfryngau y Babaeth a chyfiawnhad trwy sacramentau a phenydiau. Ond yn y cymeriad tadol y mae i ni yn bersonol fel unigolion ddyfodfa ato, a'r ysbryd mabaidd yn llefain Abba Dad. Rhaid i ddyn sydd a'i olwg at ben-arglwydd droi am ymwared ac nid ydyw yn un syndod os gwrthoda y syniad y g-dl "Un Cyfrytigwr" wneyd y tro rhwng Duw a dynion. Mae yr ysbryd mabaidd yn galw am Dad, a chan na all weled Tad Dwyfol am ei fod wedi ei wisgo yn y goleuni nas gellir dyfod ato, try at y swyddog eglwysig—a geilw yr offeiriad a'r esgob yn "Dad yn Nuw"—"Father in God"—yn lie myned at Dduw Dad, a dyweyd "Ein Tad yr bwn wyt yn y nefoedd." Mae yr atbrawiaeth o Dad Dwyfol wedi bod bob amser yn cael ei dysgu i ryw fe&ur gan y Diwygwyr, ond rhyw "ddoetbineb guddiedig i fod yn gynil arni yr ystyrid hi. Ond yn y canrif hwn mae hi wedi d'od yn fwy- fwy amlwg, nes ydyw hi yn awr yr amlycaf oil. Credwn fod y pwlpud yn gyffredin o flaen duwin- yddiaeth yn y pwnc bwn. Yn y fyfyrgell yr oedd y Pen-arglwydd a'r Pen-llywydd yn gorwedd yn esmwyth ar holl ranau y system, ond wrth wynebu torf o bobl, yr oedd yn rhaid ceisio enill y galon ddynol ac nid y Pen-arglwydd, ond Tad yr afradlon a wnai hyny. Gadewid i daranau awdurdodol Sinai gael eu clywed ar y deebreu, ond deuid i Galfaria i ddiweddu. Cariad Crist" oedd yn gorcbfygu, ond yn fynych ceid yr anghysondeb hwn yn dyrysu y bobl. Crist yn llawn cariad yn y ffrynt, a Phen-llywydd llidiog o'r tucefn iddo. Tadolrwydd Duw, meddir, ydyw haul y Prynedigaeth, ac wrth yr athrawiaeth hon y dywedir "yn dy oleuni y gwelwn oleuni," a hon ydyw ein bamddiffyniad goreu rhag yr amheuwr a'r rhesymolwr ar un liaw, a'r Pabydd a'r defodwr ar y llaw arall; ond mae yn ddiau fod dylanwad dysg a gwybodaethau ereill o'r tuallan i gylch cyfrin y duwinyddion wedi bod a llaw yn y gwaitb. Mae gan y gwyddonwyr, y beirdd, a'r llenorion en syniadau am bertbynas rbyngom â, Duw, ac nid dibwys ydyw tystiolaeth dynion ag sydd wedi ymroddi gyda dyfalwch i ymgydnabyddu a llyfr natur, ac ym- gynghori a cbyngreddfau goreu y galon ddynol. Sicr yw am luaws mawr darllenwyr Seisonig eu bod yn derbyn eu syniadau duwinyddol oddiwrth y beirdd, y gwyddonwyr, a'r ffugchwedlau a ddarllenant, a cbymer lluaws mawr yn ganiataol fod yr arweinwyr hyn yn fwy craff, eang eu hamgyffredion, a mwy dyogel i'w dilyn na specialists duwinyddol, y rhai v tybir na wyddant nemawr ddim tuallan i gylch cyfyng y Beibl a duwinyddiaeth gyfundrefnol a hanesiol. At bwy, gan hyny, yr aiff yr arweinwyr hyn am eu duw- inyddiaeth ? Ychydig a ant at y llyfr, a llai fyth i ddarllen llyfrau, na gwrando darlithiau duwin- yddol. Dibyna y bardd ar ei ddarfelydd a'i grebwyll, y ffugchwedleuwr ar ei gyngreddf (intuition), ac yn fynych aiff y gwyddorydd at y bardd neu lenor i geisio cynorthwy pan am ddeall duwinyddiaeth ei oes. Cawn wr o awdurdod Proff. Huxley (American Lectures), pan y mae yn ceisio esbonio ffurf bresenol y byd hwn, yn gosod ger ein bron dri golygiad posibl, ac un ydyw yr un a eilw yn Miltonic hypothesis fel ei ceir yn Paradise Lost. Gwyddis nad yw Milton yn gwneyd dim arngen na rhoddi y syniadau Beibl- aidd a geir yn Genesis, fel ei hesbonid yn ei amser ef gan y duwinyddion Puritanaidd. Y prif-fardd ydyw athraw duwinyddol y gwyddorydd, ac mae yn ddiamheu genym fod y werin yn Lloegr a'r America yn gyffredin yn cael eu holl, neu o'r bron yr oil o'u syniadau duwinyddol oddiwrth y llenorion a ddarllenant. Diau fod rhai yn oymesuro ycbydig ar y ddysg hono wrth yr hyn a glywsant yn awr ac eilwaith o'r pwlpud yn ol eu ffydd yn ngallu eu hathraw Sabbothol. Er fod yr olwg a geir ar bethau o'r cyfeiriad yna yn achos o bryder i'r Eglwys Gristionogol, ac yn gymhelliad y n, i'r rhai sydd yn sefyll ar dyrau Seion wneyd a allant i roddi y gwir oleuni," gall duwinydd- iaeth gwyno oherwydd yr ymosodiad sydd arni beunydd gan y rhai sydd oddiallan; oud y mae ganddi ddau reswm da dros gymeryd cysur. Mae yr ymosod arni yn llai ffyrnig nag ydoedd er's haner canrif yn ol, ac y mae yr ymosodwyr presenol yn debyg o droi yn elw pwysig yn y cynorthwy a roddant i ni weled pa fodd i ysgoi yr anhawsderau oedd yn gorwedd ar y ffin rhwng duwinyddiaeth a gwyddoriaetb. Dylai plant y golenni y garu goleuni o ba le bynag y daw, a rhaid cydnabod fod gwyddoriaeth yn awr yn oleuni y byd mewn ystyr bwysig. Llyfr Duw ydyw llyfr natur, ac eithafion ffolineb fyddai diystyru ei esbonwyr—cydweithwyr Duw ydynt hwy megys ninau. Ac fe ddywed yr Arglwydd wrth ami i un ohonynt megys y dywedai wrth Cyrus gynt—"Gwregysais di, er na'm hadweinit." Mae Rhesymoliaeth Germany yn ddirym bellach, ac enwau ei hapostoiion penaf yn prysur gael eu cuddio dan y lIwcb; ond mae hi wedi bod o wasanaeth bwysig i'r Eglwys. Trwy roddi brech y fuwch yn nghyfansoddiad dyn y cadwyd allan y frech wen. Yr ydym ninau bellach wedi inoculatio ein ffydd a swm digonol o reswm i fwrw allan ofergoel offeiriadaeth ar un llaw, a dirymu nerth rhesymoliaeth ar y llaw arall. Mae y gwrthwynebiad angerddol a deimlid i'r gor- uwchnaturiol wedi agor ein llygaid, Dangoswyd i ni y gall rhlLi-I. Wadu pob gwyrth ac eto gredu yn Ngbrist; 2. Dysgwyd ni i ochel bod yn hygoelus-tra yn derbyn y gwir wyrthiau ar sail tystiolaeth digonol, i ochel a bwrw ymaith grynswth gwyrthiau gau-offeiriaid Rhufain, a gau athrawon ereill; 3. Rhoddi lie israddol i'r gwyrthiau o'i gymharu a'r dyddiau gynt, n.y., rhoddi y gwyrthiol uwchlaw y moesol. Gallwn ymgysuro—1. Fod yr oes yn un dra ymchwilgar, ac o angenrheidrwydd yn debyg o fethu cyduno a'u gilydd nac a'r henafiaid ar bob pwnc yn eu credo; 2. Fod yn athrawon ac arweinwyr yr oes gariad angerddol at wirionedd 3. Ei bod yn meddu mwy o gyfleusderau i farnu pa beth sydd wirioaedd nag a gafodd unrhyw oes a fa o'i blaen; 4 I-Ifd nes y delom i weled lygad yn llygad, mai y peth goreu a allwn wneyd ydyw cadw eia meddwl yn rhydd oddiwrth y rhagfarn sydd yn cau tllan bersonau a chredoau sydd yn bynciau dadleuol, a chadw undeb yr ysbryd yn nghwlwm tangrefedd; ac yn hyn yr ydym wedi gwella llawej, ac yn gwella yn gyilym-e.g., credoau Caderwyr yr Undeb Cynulleidfaol a'r hen ddadl- euon duwinyddol yn Nghymru, &c., dechreu y canrif hwn. Eiliwyd gan y Parch R. Lumley, Trefor, Arfon, a dywedodd-- Da jjenym oil, yn ddiau, oedd sylwi ar don uchel, wrol, L diofn Mr Lewis, tra yn cymeryd golwg ar agwecd pethau yn y presenol, ac wrth edrych yn mlaen i'r dyfodol. Meddienir ni, hwyrach, weith- iau gm rywbeth fel ofn ac amheuon, pan yn dar- llen rhai pethau a gyhoeddir mor hyf fel ffeithiau a jrwirioneddau profedig; ond ein gwendid ni ydywyr achos o hyny. Mae cofio yr hyn a ddy- wedi? yn y papyr a wrandawsom, sef fod pob gwirionedd o Dduw," a "bod y Beibl yn llyfr a Duwtu cefn iddo," yn ein dwyn yn ol i'n lie i ail feddianu ein hunain mewn tawelwch yn nghanol y soa sydd am ddarganfyddiadau neillduol, a dar- oganau damcaniaethwyr beiddgar a hyf yr oes. Cyfsiria Mr Lewis mai dau beth neillduol y dylem eu gochelyd yn y\ dyddiau hyo-y naill ydyw glynu yn rhy gaeth a chyndyn wrth ben ffurfiau allanol a chyfundraethol gwirioneddau efengyl- aidd, fel ag i wrthod gwirioneddau newyddion, neu oleuni newydd ar hen wirioneddau; a'r llall ydyw y llacrwydd hwnw nad oes ganddo wir afael ar ddim, a'r hwn, trwy hyny, sydd yn barod bob amser i neidio at, a derbyn pob peth newydd a gynygir iddo gan feddylwyr byf, a rhai ohonynt yn lied wyllt a direol. Wrth siarad am y cyntaf, y mae yn weddus i ni fod yn barchus yn ein teimlad tuag atynt, a chynil yn ein geiriau con- demniol ar y rhai a allant fod yn y bai; canys y mae yr hen wirioneddau yn y ffurf y gosodid hwy allan ac y pregethid hwy i'r byd wedi gwneyd gwaith aruthrol fawr ynddo tros Dduw a dynol- iaeth. Yr heu gyfundraethau duwinyddol, neuyr hen ffurfiau ar wirionedd y siaredir yn lied ddibris am danynt gan rai yn y dyddiau hyn, ac y ceisir eu cilgwthio bron gyda dirmyg o'r byd, oedd y cyflegrau y gyrwyd tdn ysol Duw trwyddynt yn yr desoedd a fu i wersylloedd gelynion Duw a dyn- ion, gaa eu hymlid ymaith; a thrwy y rhai hyn y gyrwyd gyda grym a nerth anorchfygol fwledau tanllyd y nefoedd trwy furiau cedyrn llawer Babylon, lie y cedwid cyrff ac eneidiau dynion yn gaeth, gan agor ffordd i'r carcharorion ddianc. Gwelwyd breninoedd a llywiawdwyr gorthrymuK yn crynu ar eu gorseddau, gan ofn gwroniaid a) dderchog rhyddid crefyddol a gwladol oedd yn handlo y rhai hyn. Ac i'r pethau a wnaed gan ein tadau yn nerth a thrwy eu hysbrydoliaeth hwy, yr ydym ni yn ddyledus am y rhyddid sydd genym a'r rhagorfreintiau mawr a fwynhawn. Trwy offer- ynoliaeth rhai o hen ffurfiau gwirionedd Dwyfol, a'r athrawiaethau y ceisir eu bychanu gan rai fel na buasent wedi bod yn ddim ond rhwystr i lwyddiant a dyrchafiad dynoliaetb, y deffrowyd Ewrop o drwmgwsg y canol-oesoedd, ac y gwnaed i ddynion ymunioni odditan iau gorthrwm o bob math, ac y galluogwyd hwynt i godi eu penau, gan edrych i fyny tua'r nefoedd, ac ymdeimlo eu perthynas uchel a Duw, ac ymgodi i'w safle briodol fel bodau rhesymol yn eu perthynas &'u gilydd. Ac fel mai trwy yr hen ffurfiau allanol yr ydym yn cyfeirio atynt y deffrowyd gan gwirionedd o'u cwsg ysbrydol, gan eu dwyn i ryddid gogoneddus plant Duw, lu mawr sydd wedi cyrhaedd adref i'r nef trwy yr un a'r unrhyw ffurf arno, y cychwyn- wyd llawer sydd eto yn fyw ar eu ffordd yno. Mae ein dyled, gan hyny, i'r hen wirioneddau yn eu hen ffurfiau a'u gwisgoedd cyntefig yn ein rhwymo i siarad yn barehus am danynt; ac y mae yr hyn ydynt yn awr iddynt hwy yn galw arnom i fod yn dyner ac esmwyth wrth y rhai sydd ya ymlynu wrthynt, ac yn methu symud yn mlaen yn gyflym gyda'r oes. Nis gall y rhai a achubwyd yn yr