Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB YR ANNIBYNWYRI .CYM…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

hen gwch cyffredin yr olwg rbag dyfrllyd fedd lai na theimlo yn ymlynedig wrtho, ac yn anhawdd ei roddi o'r naill du, er mwyn y newydd a all ym- ddangos yn rhagoracb, ac wedi ei wneyd yn ol y cynlluniau a'r gwelliantau diweddaiaf. Felly hefyd nis gall y rhai a gyrhaeddasant yn ddyogel Graig yr oesoedd yn ben gweh neu long yr ben athrawiaetbau a ffurfiau o wirionedd Dwvfol o ganol in or oolledigaeth lai nag ymglymu wrth- ynt. a theimlo yn anhawdd ganddynt eu newid am rai diweddaracb, er ymddahgos obonynt yn eang- ach a mwy cydweddol ag ysbryd a cbynydd yr amseroedd. Oud wedi y cwbl, nid doeth ydyw glynu yu gyndyn wrth yr ben am ei fod yn hen, ac wedi bod yn ddet'nyddiol hyd yn nod i aehub rhag angeu, os ydyw y newydd mewn gwirioledd yn well, yn eangacb, ac yn effeithiolach i wirgyr- haedd a dylanwadu ar yr oes. Tra yn parcha yr ben am y gwasauaeth a wnaethant i ni, a'r gwr- hydri a gyfiawnwyd trwyddi dros Dduw a dyu yn y byd, na wrthodwn oleuni pellach y gal' fod Duw yn ei roddi i ni arno ei bun mewn cysoideb a llinell y Datguddiad sydd genym, a'r bwn sydd yn dwyn ei stamp a'i ddelw diamheuol. Ond rhaid i mi gyfaddef, syr, fy mod yn credu msi nid mewn glynu wrth yr ben ffurfiau athrawiaethol y mae ein perygl mwyaf ni y dyddiau hyn, ond lnewn bod yn rhy barod i lyncu, a cbael ein llyncu gan bethau newyddion. Nid wyf yn gweltd yn wir unrhyw berygl neillduol mewn glynu wr:h yr hen, yn enwedig i'r rhai sydd yn glynu yn wir- ioneddol wrtbynt. Mae yr hen wedi profi eubun- ain yn alluog i ddeffro y byd, a'i symud tuag at Dduw ond y mae gan rai o'r pethau newyddion a gynygir i ni fel rbai mwy rhagorol eto i brofi eu gallu i wneyd hyny. Ac eto at y newydd, ynddi- ddadl y mae tuedd gref yr oes. Mae yr ystryd mya'd rhyfedd yma sydd yn nodweddu yr im- seroedd gyda phetbau naturiol wedi ymwtho i diriogaethau cysegredig pethau Dwyfol, ac wedi meddianu yn lied lwyr rai o'r rhai a broffesantfod fel gweledyddiou ar y mur yn dysgwyl gwcledig- aetbau oddiwith Dduw at yr Eglwys a'r bjd. Dallir dynion hefyd gan ddysgleirdeb ymddang- osiadol pethau dyeitbr a gynygir ar werth In marchnad gwirionedd, tra yn ddiystyr o'r ffaith ei fod yn wir yn foesol yn gystal ag yn naturiol, mai "Nid aur yw pob peth sydd yn dysgleirio." Mae y darluniad a roddir yn llyfr yr Actau o'r Athen- iaid yn amser ym tveliad Paul a'r ddinas hono yn gywir iawn o rai esbonwyr Beiblaidd yn gystal a darllenwyr yn y dyddiau byn—" Nid oeddynt yn cymeryd bamdden i ddim ond i ddyweyd a chlyw- ed rhyw newydd." Symudwn yn mlaen ar bob eyfrif gyda gwir gynydd, yn ngolenDi a than faner gwir wybodaetb, gan ymryddhau oddiwrth bob culni a rhagfarn credoawl a ffurfiau allanol yn nnig, pa mor henafol a pbarchedig bynag y gall- ant fod; ond gofalwn fod genym afael sier a di- ysgog yn ngwirioneddau diamheuol a diamwys Gair Duw, a'u bod hwytbau wedi ciel gafael sier ynom ninau, ac yna bydd ein hymdaith yn mlaen yn ddyogel a diberygl. Gwr wedi ciel gafael ar bethau sicr a tbragy wyddol, ac a wyddai fod y pethau hycy wedi, ac yn gafael yn sicr ynddo yntau, oedd hwnw a ddywedodd (acymae Ysbryd Dnw yn dywedyd wit'aym ni yh awr yn ei eiriau ef), "Prof weh bob. peth, deliwch yr hyn sydd dda." Cyn ymadael, gwnaed rhai sylwadau rhagorol ar y mater hwn gan Dr Morris, Aberhonddu, pa rai a dderbyniwyd gan y dorf gydag uchel gymeradwyaeth. Teimlem yn ddiolchgar i Dduw fod genym athraw mor alluog, goleuedig, ac uniongredig yn llywyddu sefydliad duwin- yddol sydd yn addysgu iiu mawr o weinidogion y dyfodol. Gorphenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Cadeirydd. Cynaliwyd cyfarfod y prydnawn yn yr un lie am ddau o'r gloch. Dechreuwyd gan y Parch O. INI. JeDI-ins, B.D., America, ac yr oedd yn dda gan bawb weled gvvr parchus o Wlad y Gorllewin yn cymeryd rhan yn nghyfarfodydd yr Hen Wlad. Darllenwyd papyr ar "Ein Dyledswydd fel Enwad yn wyneb cynydd Addysg Uwchraddol yn Nghymru," gan y Parch E. Herber Evans, Caernarfon, ac y mae dyweyd pwy oedd ei awdwr a'i ddarllenwr yn ddigon o warantiad am ei nerth, ei amseroldeb, a'i hyawdledd. Mae yn amheus genym a daflwyd y fath ddawn aruchel a'r fath boblog- rwvdd uwchraddol i ddarlleniad papyr mewn unrhyw gyfarfod o'r blaen. Nid oes neb yn deali y cwestiwn hwn yn well na Mr Evans, ac yr oedd dewisiad y Pwyllgor ohono i ymdrin a'r pwnc yn nodedig o hapus. Megys arfer, gwefreiddiodd y gynulleidfa trwyddi, ac ambell i adeg yr oedd hualau y papyr yn rhy gaeth i'w ysbryd bywiog a mawrfrydig, a thorai allan i lefaru nes eyn hyrfu gwaelodion calon pawb. Gallesil meddwl mai pwnc sych iawn oedd ganddo, ond gwnaeth Mr Evans ef mor boblog. aidd, a dygodd ef mor agos atom, nes y gwelsom amryw yno yn wylo yn hidl. Efallai fod hyn mewn rhan yn cyfodi oddiwrth deimladau diolcbgar y gynulleidfa i weled Mr Evans wedi cael adferiad mor gyflawn fel ag i'w alluogi yn ddiberygl iddo ei hun i gyflawni y gorchwyl hwn. Hyderwn y rhydd y pregethwyr ieuainc a'r eglwysi sylw difrifol i rybuddion Mr Evans, oblegid yn ddiau yr ydym yn myncd trwy gyfnewidiad pwysig mewn cysylltiad ag addysg ein gweinidogion ieuainc. Cynygiwyd gan y Parch R. James, Llan- wrtyd- Fod y cyfarfod hwn yn dymuno galw sylw yr eglwysi at bapyr amserol y Parch E. Herber Evans ar "Ein Dyledswydd fel Enwad yn wyneb cynydd AdHysi? Uwchraddol yn Nghvmrn," ac yn hyderu yn gryf y bydd iddynt amlygu yr un parodrwydd i gymeryd mantais ar y cyfnowidiatiau sydd < isoes weJ.i cymeryd l'e, ac sydd yn fiebya o gymeryd lie eto yn fuan yn nglyn ag addys? yn Nghymru, ac y maent wedi arfer oi ddangos gyda phob diwygiadau gwladol a chrefyddol, fel y byddo i gretydd yr Arglwydd lesu Grist fod ar ei he ill trwyddynt. Y mae yn dda genyf fod Pwyllgor yr Undeb wedi dewis testyn mor amserol i gael papyr arno gan un sydd yn teimlo y fath ddyddordeb yn y cwestiwn. Nis gallwn lai na llawenhau fod addysg elfenol ac uwchraddol hefyd wedi gwneyd y fath gynydd yn Nghymru yn y 15 mlynedd diweddaf. Buwyd am flynyddau lawer yn ceisio deffroi meddwl y genedl, a diau fod yr ychydig sydd yn aros hyd heddyw o'r rhai fu a. llaw yn y mudiad yn llawea wrtb weled yr holl wlad wedi dibuno mor llwyr. Teimlid er's blynyddau fod yn rhaid gwneyd rbywbeth yn effeithiol i osod Cymru ar yr un tir a rhanau ereill y deyrnas o barthed i addysg uwchraddol. Tra y meddai yr Ysgotland ar ei pbedair Prifysgol er's canrifoedd, a'r Iwerddon ohoni hithau ei Phrifysgoliou, yr oedd Cymru beb yr un ond y mae genym ninau yn awr ein tri choleg, ac wedi y ceir ysgolion canolraddol, am y rhai y dysgwylir yn bryderus, ac am y rhai y parhawn i guro nes llwyddo, bydd Cymru wedi ei gosod ar safle fanteisiol i ym- gystadlu a chenedloedd ereill. Nid i'r Annibyn- wyr, yn anad neb, y perthyn hi i ddychrynu wrth weled addysg a gwybodaeth yn ymledaenu yn y wlad. Onid ydynt hwy wedi bod yn y rbestr flaenaf o blaid addysg, ac wedi gwneyd abertbau mawrion o'i pblaid, pan Dad oedd byny yn waith mor boblogaidd ag ydyw ar hyn o bryd ? Gallant edrych yn ol gyda balchder goddefadwy arlecbres o bobl ddysgedig a gododd yn eu plith o bryd i bryd-pobl a fuasent yn addurn i unrhyw enwad crefyddol. Pan gauwyd yn eu herbyn hwy ddrysau Prifysgolion Lloegr, ni phetrusasant pa beth i'w wneyd. Agorasant sefydliadau addysgol mewn lleoedd diarffordd. Ceid amryw o'r eyfryw yn Lloegr yn nechreu a thua chanol y canrif ddiweddaf, ac nid oedd Cymru ar ol yn ei dyled- swydd yn hyn o beth. 03 na chawsai y rhai a wynebent ar y weinidogaeth yn ein plith fwynhau manteision y Prifysgolion, ni chaent er byny fyned beb addysg. Gwnaethpwyd y diffyg hwn i fyny yn y modd goreu a ellid y prycl hWDW, ac yr ydym ninau wedi glynu wrth yr un cynllun it'esur mwy neu lai o hyny hyd yn brosenol. Cawn ni ein bunain yn awr mewn amgylcbiadau tra gwahanol i'r tadau, ac y mae yn gwestiwn y rhaid ei wynebu yn ddiofn, ac eto yn bwyllog, pa beth a ddylem ei wneyd ar hyn o bryd. Y mae yn amIwg y dylid cymeryd gafael ar y manteision sydd yn ein bywyd i gyrbaedd addysg fydol, tra na elwir arnom wrth wneuthur hyny abertbu ein begwyddorion fel Ymneillduwyr. Nid anmhriodol ar y mater bwh ydyw y geiriau a ddefnyddiwyd gan Radama wrth y cenadon gynt-" Os rhedaf yn rhy fuan, mi a fyddaf mewn perygl o daro fy nhroed yn erbyn careg a syrthio; ac os cerddaf yn rby bwyllog, byddaf yn debyg o fethu cyrbaedd fy amcan." Diamheu fod y mesurau a gymerwyd gan rai enwadau yn Nghymru yn fudiad yn y cyfeiriad iawn. Trwy byn sicrheir gwell training i'r myfyrwyr mewn addysg gyffredin, a deuant gyda galluoedd mwy dysgybl- edig i fyfyrio materion ddaliant gysylltiad mwy uniongyrchol a'r weinidogaeth. Camsynied o'r mwyaf er hyny fyddai ceisio gwneyd y mudiad hwn yn gyffredinol ar hyn o bryd. Bydd yn rhaid am flynyddau wrtb y system bresenol o gydgyfrauu addysg fydol a duwinyddol. Nid wyf yn tybied y bydd anhawsder gyda golwg ar y rhai a gawsant fanteision da yn eu hieuenctyd. Bydd y rhai hyu yn barod i gyfarfod a'r safonau a osodir i fyny amdderbyniad i mewn i'r colegau anenwadol, ond y mae yna ddosbarth arall wedi bod, a pharhant eto, y rhai ni cbawsant fanteision yn ieuanc, ond rhai yn meddu ar bob cymhwys- derau ereill. A yw y rhai hyn, gan nas gallant gyrhaedd y saft nan uwch y ceisir ymgyrhaedd atynt, i fyned heb addysg P Nag ydynt, yn sicr. Ar gyfer y rhai hyn, rhaid parhau y drefn g-ymysg, ond golygwn y bydd yn rhaid i hon hefyd fyned dan gyfnewidiad. Onid gwell na phoeni y dosbarth hwn fyddai eyfyngu ea haddysg i'r Saesoneg a duwinyddiaetb ? Rhydd y colegau uwchraddol symbyliad nerthol i'r iaith Saesoneg yn y Dywysogaeth, a bydd galwad cynyddol i bregethu yn yr iaith hon. Ond ein perygl ar byn o bryd yn ddiau ydyw, nid colli ein golwg ar addysg fydol. Myn hon sylw bellach. Y mae yn boblogaidd, tra y mae addysg dduwin- yddol at a discount; ac eto ni bu adeg ar Gymru pan oedd angen mwy ar arweinwyr y bobl allu rhoddi rheswm am y gobaith sydd ynddynt. Ysgrifenai un tua 18 mlynedd yn ol fel yma-I( Y mae lie i ofni fod yr Ymneillduwyr yn bresenol mewn perygl o ddyoddef yn Ngbymru yn gystal ag yn Lloegr oddiwrth yr un drwg ag sydd wedi peri cymaint colled i'r Eglwys Sefydledig, sef aberthu duwinyddiaeth i glasuriaeth." Y mae hyn wedi ei wneyd yn Nghymru mewn oesau blaenorol, er colled ddirfawr i grefydd bur ac efengylaidd. A 11awer yn ddiamheu yn union- gyrchol o'r colegau anenwadol yma i'r weinidog- aeth heb dderbyn unrhyw addysg arbenig—mwy mewn cyfartaledd am rai blynyddau nag sydd wedi myned yn y blynyddau diweddaf byn. Dylid, gan hyny, ei gwneyd hi yn bwynt i wreiddio ein pobl ieuainc mewn gwybodaeth Feiblaidd nid yn gymaint rhoddi iddynt swm o wybodaeth a rhoi cyfeiriad i'w meddwl-rhoi gogwydd a bias iddynt at ddarllen llyfrau ac efrydu pynciau duwinyddol. Eitbriadaa wedi y cwbl fydd y dosbarth hwn. Bydd y mwyafrif yn derbyn addysg benodol at y gwaith. Gofala yr Eglwys am ddarpar yr addysg hon. Dylid ei gwneyd yn effeithiol a tbrwyadl, fel yr ystyrir hi yn fraint gan y goreuon o'n myfyrwyr i dd'od ac eistedd wrth draed yr athrawon hyn. Fel y teimla yr ysgolion elfenol ddylanwad Prifysgolion ein gwlad, felly y dylai, ac felly y gwna sefydliad duwinyddol cryf gario dylanwad ar holl gylch ein haddysg grefyddol. Wel, wedi darparu yn dda, rhodded yr eglwysi amser i'r myfyrwyr i fanteisio ar y ddarpariaeth. Onid ydyw, ar ol darparu yn dda, yn waith ofer, ie, gwaeth nag ofer, yn greulondeb a'r myfyrwyr, ac yn hunan-ddinystriol a'r eglwysi eu tynu ymaith cyn gorphen ohonynt eu cwrs addysgol. Coeliweh hyn, y mae lleoedd enbyd yn y blaen; y mae brwydrau celyd i'w byinladd, ac nid dyogel rhuthro i'r maes er meddu gwroldeb. Rhaid cael arfau miniog, a medr i'w trin. Gwnawn hyn, ac edrycher i fyny am yr arweiniad Nefol, yna ni raid ofni mo'r canlyn- iadau. Eiliwyd gan Mr W. Scourfield, Whitland, yr hwn a ddywedodd— Profa hanesiaeth hen a diweddar fod yn y Cymro allu i ymenwogi fel ysgolhaig, ac fod yn ein gwlad awydd er yn foreu am addysg uwch- raddol. Nid peth newydd yw y son yn y Dywysog- aeth am golegau uwchraddol. Cawn fod yn Ng6r Llanilltyd Fawr gynifer a dwy fit o fyfyr- wyr. Parhaodd y coleg hwn i fod yn llwyddianus iawn edrychid arno am gryn amser fel Prif- athrofa Prydain. Gallasem gyfeirio at golegau Llancarfttn, yr Hendygwyn-ar-daf, Bangor-iscoed, &c., yr un fath. Nid rhyw lawer o chwareu teg mae ein gwlad wedi gael ar law einbrodyryr ochr draw i Glawdd Offa erioed. Cawn fod y Sacson- iaid wedi ymosod ar Bangor-iscoed, ac wedi lladd 1,100 o'r mynachod, yn nghyda llosgi yr oil o'u llyfrgell, ac yna penderfynasant adarostwng yr oil o'r Brythoniaid, ond yn hyn camgymerasant. Ond fel y mae gwaethaf adgofio, ysbeiliasant hwy o'r rhan fwyaf o'u gwaddoliadau, ac felly cafodd ein colegau uwchraddol eu newynu braidd yn hollol. Syrthiodd ein gwlad ar ol byn i drwm- gwsg o ddifaterwch, a hyny am flynyddau. Mae addysg elfenol wedi gwneyd strides mawrion oddiar yr ymchwiliad yn 1847 hyd yn bresenol; ac fel y mae y wlad yn dyfod i werthfawrogi yr addysg hon, fel y tybia rhai yr addysg israddol, ond yr addysg boll bwysig cofier, oblegid dyraa sylfaen yr oil o'r adeilad addysgawl, mae y wlad wedi berwi yn yr awydd am addysg uwchraddol. Teimlwn yn llawen fod y wawr wedi tori, ac hyderwn fod boreu braf ger Haw, ac y daw yn hyfryd ddedwydd ddydd ar feibion a merched talentog Cymru eto. Amcan sefydliad colegau uwcbraddol gynt oedd dadwreiddio heresiaeth. (1'arhad yn tudalen 10.)