Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y CYFARFOD CYHOEDDUS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CYFARFOD CYHOEDDUS. Yr oedd y eyfarfod cyhoeddus i fod yn y Tabernicl am 6.30. Mae y Tabernacl y capel mwyafyn Llanelli, ac yn un o'r rhai mwyaf yn Nghymru, ond er ei helaethrwydd, nid oedd yn agos digon i'r gynulleidfa y noson hono. Awr 0 amser cyn adeg dechreu yr oedd y capel wedi ei lanir yn dyn, a chanoedd lawer yn yr am- gylchoedd yn methu dyfod yn agos i'r drysau. Treuliwyd cryn amser i geisio dyfalu pa fodd i wneyd, ac yr oedd pawb yn edmygu doethineb a thymher dda Mr Thomas, Glandwr, a Mr Johns, Llanelli, yn ceisio dwyn y gynulleidfa i drefn a rhoddi mantais i bawb i wrando yr areithiau. Wedi hir gynyg trefnwyd fod dau areithiwr i fyned i Moriah-capel y Bedyddwyr ger Haw, a'r cyfarfod hwnw i gael ei lywyddu gan Syr John Jones Jenkins, A.S., ac yna i ddychwelycf i'r Tabernacl. Mr H. Richard, A.S., i lywyddu yn y Tabernacl, ac wedi gwran- do dau areithiwr i fyned gyda hwy i Moriah. Cafodd pob areithiwr felly gyfle i draddodi ei araeth ddwywaith yr un noson, a'r unig golled oedd fod y ddau Gadeirydd yn cael elywed yr un dau yn y ddau gapel, ond cafodd y ddwy dorf glywed y pedwar a'r ddau gadeirydd an- rhydeddus hefyd. Boddlonodd pawb i'r drefn hoa fel yr oreu allesid ddyfeisio dan yr am- gylchiadau. Safasom ni yn y Tabernacl hyd y diwedd, er i ni orfod treulio yr holl amser mewn mor o chwys poethedig, a chawsom yn dal un o'r gwleddoedd ardderchocaf a fwynha- odd dyn erioed. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch T. Evans, Amlwch. Pan gododd Mr H. Richard, A.S., fel Cadeirydd, neidiodd y dorf enfawr ar ei thraed, a derbyniwyd ef gyda'r gymeradwyaeth fwyaf brwdfrydig. Mae yn amheus geoyf a gafodd yr aelod anrhydeddus dderbyniad mwy cynes erioed, ac yr oedd rhywbeth yu ogonedd- usi weled y fath warogaeth yn cael ei thalu i foneddwr sydd wedi gwasanaethu ei genedl a'i wiad mor ffyddlon a hunanymwadol dros gy- nifer o flynyddau, Wedi siarad ychydig yn Gymraeg, a mynegi ei resymau dros draddodi ei sylwadau yn Saesoneg, dywedodd fel y canlyn: — Yr wyf yn cydnabod fy mod mewn ychydig o ddyryswch pa beth i'w ddyweyd ar yr achlysur hwn. Buaswn yn dymuno fad PwyllgoryrUndeb wedi gosod i mi ryw bwnc neillduol fel y maent wedi gwneuthur i'r areithwyr ereill ydynt i gy- meryd rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd byn. Mae testyn o unrhyw natur bob amser yn ddef- nyddiol fel man o ganolfan oddeutu pa un y gall meddyliau dyn ymgasglu, neu fel yn cynwys rhyw flaguryn bychan o argymhelliad wna ymddadblygu dan ddylanwad myfyrdod. Mae yn anhawdd gwneyd araeth am bethau yn gyffredinol. Addefaf pan ddechreuais feddwl am rywbeth i'w ddyweyd yma heno, fy mod yn awyddus, ac ar y cyntaf yn hollol benderfynol i beidio siarad dim ar wleidiad- aeth, am fy mod i raddau wedi blino ar y pwne hwnw, ac yn hiraethu am ddianc o'r awyrgyleh boethedig ydym yn anadlu yn barhaus yn St.

UNDEB YR ANNIBYNWYRI .CYM…