Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Y CYFARFOD CYHOEDDUS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Stephen ac i aros am ychydig, fel mae Milton yn darlunio "llawn parth o awyr dyner, dawel, a dysglaer," yr hyn a obeithiwn fyddai i'w gael yn Llanelli, oa nad yn anianyddol, yn foesol, ac ys- brydol beth bynag. Mae dadleuon politicaidd yn bethau dymunol iawn mewn cymedroldeb, fel maa yr eog yn fwyd dymunol iawn mewn cymedroldeb. Diau genyf eich bod wedi clywed yr banes am y cyfnod pan oedd y pysgod hyn yn gorlenwi afon- ydd Scotland, a bod gweision ffermwyr yn amser cyflogi yn amodi a'r amaethwyr nad oeddynt i gael salmon yn ymborth yn amlach na thair gwaith yr wythnos, ond beth a ddywedech pe caffech salmon yn fwyd fel yr ydym ni yn cael gwleidiadaeth yn y Senedd, nid tri diwrood yn yr wythnos, ond pump a chwech gwaith yr wythnos, a'i gael o bedwar y prydnawn hyd dri a phedwar y boreu, ac yn ami iawn wedi ei goginio yn wael, ac heb unrhyw saws blasus gydag ef. Yr wyf yn credu y byddai y cryfaf ohonoch wedi cael iigon ar salmon erbyn byny, ac y mae yn bosibl ddiflasu ar wleidiadaetb. hefyd. Mae rheswm arall dros fy awydd i adael gwleidiadaeth o'r neilldt. Yr oeddwn yn dra bwyrfrydig i arwain y cyfarfod hwn ymaith oddiwrth yr amcan mawr sydd glfiych mewn golwg, sef cynyddu nerth a dyrchafu gweithgarwch yr eglwysi. Ond wedi i ni gael yehydig ohebiaeth a'm cyfaill Mr Johns, gwelais nad oedd yn bosibl i mi ysgoi gwneyd rba: sylw- adau mewn cyfeiriad gwleidyddol. Yr ydfm yn cyfarfod heno yn nghanol argyfwng difrfol yn ein bywyd cenedlaethol, oblegid y cwestiwt sydd ger bron y wlad yw, nid a wneir mesur neilduol yn ddeddf, ond a ydyw yr Arglwyddi ddia wedi gwneyd peth annoeth iawn trwy godi ewes iynau i sylw, a gorfodi ymchwiliad i gyfansoddiad a hanes eu Ty. Edrycher ar ynfydrwydd eithffol yr pgwyddor o gael Senedd etifeddol i ddeddfu i'r wlad. Beth mae hyn yn olygu ? Mae yn golygu hyn fod nifer o ddynion yn meddu hawl acavdur- dod hollol i wahardd deddfwriaeth, a hyny an yr unig reswm eu bod yn feibion i'w tadau. Mae dyn yn aelod o Dy yr Arglwyddi, nid oblegid ei fod yn meddu unrhyw gymhwysder trwy allu meddyliol, trwy addysg, trwy ddysgyblaeth flten- orol, na thrwy unrhyw wybodaeth arbenig o am- gylchiadau y deyrnas, ond yn unig am fod ei dad yn Arglwydd-fel mae y sen-wawdiwr Ffrengig yn dyweyd am un o'r dosbarth hwn, mai ei unig gysylltiad a'r gorphenol yw iddo gymeryd y dra- fferth i gael ei eni. A ydyw y pendefigion eti- feddol yn teilyngu yr uchafiaeth aruthrol hyn yn ein bywyd cenedlaethol. Nid wyf am wneyd aoghyfiawnder a Tby yr Arglwyddi. Yr wyf yn foddlon addef ei fod yn cynwys rhai dynion galluog ac enwog, yn alluog i gyflwyno gwasan- aeth gwerthfawr, ac y mae rhai ohonynt wedi bod o wasanaeth mawr i'w gwlad. Yr wyf wedi gwrando llawer o ddadleuon yn y Ty hwuw ar faterion cyhoeddus pwysig, ac yr oedd y cyfryw yn cael en nodweddu gan allu meddyliol uchel ac amlwg. Nid wyf yn addef, fel yr haera rhai o wenieithwyr yr Arglwyddi eu bod yn rbagori ar y Ty Cyffredin mewn hyawdledd a gwladofyddiaeth. Nid oes eymaint ag un yn eu plith yn dyfod yn agos i Mr Gladstone a Mr Bright fel areithwyr, ac y mae nifer luosocach o'r eyfryw yn y Ty Cyffredin a fedrant gymeryd rhan effeithiol mewn dadl nag sydd yn eu Ty hwy. Ond ni fedr yr un dyn teg wadu na fyddai dynion fel Arglwyddi Salisbury, Cranbrooke, Granville, a Derby, yn nghyda'r Due o Argyll, a'r Arglwydd Ganghell- ydd yn ddynion nerthol a dylanwadol yn unrhyw gynulliad cyhoeddos. Ond edrycher arnynt fel dosbartb. A ydyw y ddysgyblaeth maent yn myned trwyddo — yr amgylchiadau dan ba rai maent yn byw yn ngbydau harferion meddylgar yn gyfryw ag sydd yn eu cymhwyso i arfer y gallu aruthrol sydd yn eu meddiant gyda doetbineb a chyfiawnder i'r bobl. Maent yn troi mewn cylch neillduol, gan fwynbau moethau a chysuron y cylch hwnw-mewn gair, maent yn byw i fyny mewn awyren, heb fawr eysylltiad na chyfrinach rbyngddynt a thanddaearolion betbau. Dywedai Mr Bright yn 1858, fel hYD, Beth yw pendefig ? Mae yn un o'r dynion ffodus hyny y dywedir eu bod yn dyfod i'r byd gyda llwy aur yn eu genan." Pan yn fachgen yn mblith ei frodyr a'i chwiorydd, mae yn tra rhagori arnynt—efe yw y mab henaf —mae efe yn My Lord." Un diwrnod bydd y palas ardderchog, y parciau prydfertb, y ffermydd dirifedi a'r dylanwad politicaidd enfawr yn canol- bwyntio yn y bachgen hwn. Mae y gwasanaeth- yddion yn gwybod hyn, ac yn talu iddo fwy o barch a gwarogaeth oblegid hyn. Mae yn tyfu i fyny ac yn myned i'r ysgol a'r Coleg-mae ei safle yn y dyfodol yn adnabyddus, ac nid oes iddo un- rhyw gyrnhelliad arbenig i w'aith caled, oblegid pa beth bynag a wna mae yn anhawdd iddo wella ei ddyfodol yn unrhyw ffordd. Paa yn gadael y I. coleg mae ganddo safle ddyogel ac urddasol mewn cymdeithas yn barod, ac nid ymddengys fod iddo un rheswm dros iddo ddilyn yn ddifrifol unrhyw alwedigaeth sydd yn gwneyd dynion yn fawr ac enwog yn mysg eu eyd-ddynion. Cymer ei sedd yn Nby y Pehdefigion-beth bynag yw ei gymer- iad, ei a.llu meddyliol, a'i fywyd blaenorol, mae yn rhoddi ei bleidlais dros neu yn erbyn, ac, yn an- ffodus, gan amlaf yn erbyn y mesurau mawrion byny ydych cbwi a'r wlad wedi gosod eicb calonau arnynt. Dywed John Stuart Mill, ''Byddai yn anhawdd dangos pa ddrychfeddwl newydd mewn damcaniaeth—pa ddyfais neu ddarganfyddiad yn y celfau ymarferol—pa sefydliad defnyddiol neu pa lyfr gwerthfawr mae Prydain Fawr am y can' mlynedd diweddaf yn ddyledns i'r Bendefigaeth am dano (y prif eithriadau er esgyniad teulu Hanover yw y fferyllydd Cavendish yn y ganrif ddiweddaf, ac Arglwydd Rosse yn hon)-pa an- turiaeth fawr gyboeddus-pa symudiad pwysig mewn gwleidiadaeth neu grefydd mae y dosbarth- iadau hyn wedi gychwyn, nac hyd yn nod gy- maint a chymeryd y rhan bwysicaf yn ei ddygiad yn mlaen." A oes genym ni fel Cymry ac fel Ymneillduwyr ryw ddyddordeb i'w gymeryd yn y Bendefigaeth. Nid oes un dosbarth yn y gym- deithas ddynol yn meddu ar resymau cryfach dros gymeryd dyddordeb ynddynt-nid oes neb a llai i'w obeithio a mwy i'w ofni oddiwrthynt. Edrycher ar gyfansoddiad y ddau Dy. Yn Nhy y Cyffredin mae tua 100 o Ymneillduwyr o bob math, heblaw lluaws ereill ydynt yn cydymdeimlo â'n hegwyddorion, ac yn gwerthfawrogi ein llafur crefyddol, ond mae Ty yr Arglwyddi heb unrhyw wybodaeth am danom, nag unrhyw gydymdeimlad a ni, a chadarnheir hyn gan eu hymddygiad tuag at fesurau oeddynt wedi eu hamcanu nid yn unig i'n llesoli, ond hefyd i sicrhau i ni gyfiawnder a thegweh. Gwrthodasant y mesur i agor y Prif- athrofeydd i'r Ymneillduwyr haner can' mlynedd yn ol. Gwrthodasant dair gwaith y mesur oedd yn dileu y Prawflwon oeddynt yn cau allan Y m- neillduwyr rhag dal swyddi yn y Prifathrofeydd. Gwrthodasant dair givaith y biliau oeddynt yn dileu y Dreth Eglwys. Pan ddilewyd y Test a'r Corporation Acts yn 1828, gosodasant i fewn ddatganiad gormesol a ofynid gan bob Ymneill- duwr wrth gymeryd swydd yn unrhyw gorffor- aeth. Amcan hwn fel y dywedai un o'r Arglwyddi oedd, "cael sicrwydd gan bob Ymneillduwr ar ei dderbyniad i swydd ei fod yn cydnabod uchaf- iaeth yr Eglwys Sefydledig." Dygodd ein di- weddar gyfaill Mr Hadfield fesur i fewn er dileu y datganiad hwn a phasiwyd ef saith gwaith trwy Dy y Cyffredin, a gwrthodwyd ef gynifer a byny o weithiau gaa yr Arglwyddi. Pasiwyd mesur yn symud analluoedd gwleidyddol yr Iuddewon, a'u derbyn i iawnderau dinaswyr chwech gwaith gan Dy y Cyffredin, a thaflwyd ef allan chwech gwaith gan yr Arglwyddi. Dwy waith darfu iddynt wrthod cynygiad Arglwydd Granville. i benderfynu cwestiwn y claddu yn mynwent yr Eglwys trwy ganiatau i wasanaeth crefyddol trefuus i gael ei arwain gan ereill heblaw offeir- iaid yr Eglwys Wladol, ac eto mae cyfiawnder yn galw arnom i ddyweyd iddynt ar ol hyn fabwys- iadu y mesur yn sylweddol ar gynygiad Arglwydd Harrowby. Ond dyna maent yn wneyd bob amser yn y pen draw. Dywedir eu bod yn gweithredu fel atalfa ar olwynion deddfwriaeth. Os felly, maent yn cyflawni eu dylodswyddau yn rhagorol. Ond yr hyn a wnant yw cadw yr atalfa ar yr olwynion mor hir ac mor gildynus nes mae perygl i'r cerbyd ddymchwelyd ac yn ei dyuu i fyny yn sydyn nes mae yn rhedeg ar y goriwaered gyda chyflymder mawr. Gellid meddwl nad byrbwyll- dra a gormod brys yw un o bechodau parod Ty y Cyffredin-eymerant ddigon o amser i ddadleu y mesurau, ae y mae gwaith yr Arglwyddi yn taflu allan y mesurau y cymerwyd cymaint o amser i'w dadleu, a hyny mewn dull mor sarhaus, yn dwyn y wlad i derfycau chwildroad. Mae genym ni fel Ymneillduwyr a Chymry achos i gymeryd dydd- ordeb arbenig yn y cwestiwn hwn. Nid oes un dosbarth yn fwy felly, ac y mae genym awdurdod Mr Gladstone ei hun dros ddyweyd fod methiant Mesur Addysg Ganolraddol i Gymru i'w briodoli i ystyfnigrwydd yr Arglwyddi. Mae Mr Glad- stone yn dra awyddus am basio y mesur hwn, canys y mae yn gwybod am angerddoldeb teimlad y Dywysogaeth o'i blaid, ond nis gellir cael hyn oddiamgylch tra byddo yr Arglwyddi yn cymeryd y cwrs presenol. Nl wnaethant ond gwrthod Mesur yr Etholfraint and maent wedi codi materion ereill i sylw nas gallant gysgu mwyach nes cael diwygiad trwyadl yn Nby yr Arglwyddi, a goreu oil i'r wlad pa mor fuan y daw hyny oddiamgylcb. Nid oes angen i ni ddyweyd fod yr Araeth o'r Gadair wedi ei gwrando gyda'r astudrwydd mwyaf a'i derbyn gyda'r brwdfrydedd mwyaf angerddol. Teimlai pawb yn falch fod ganddyut Gymro mor alluog yn y Senedd, a dymunent iddo estyniad dyddiau i wasanaethu ei genedl a'i wlad. Yna galwyd ar y Parch R. Rowlands, Aber. aman, i anerch y cyfarfod ar Ymgysegriad Personol ein Pobl Ieuainc i Wasanaeth Crist." Wedi hyny, y Parch R. S. Williams, Bethesda, Arfon, ar Sefydliad Gwladol o Grefydd fel y mae yn rhwystr i Gydweithrediad Cristionogion." Cynygiodd Mr T. Williams, Y.H., Gwaelod. ygarth, ac eiliodd Mr R. Roberts, Pwllheli— Fod diolcligarwch gwresocaf y cyfarfod yn cael ei gyflwyno i Mr Henry Richard, A.S., am ei wasanaeth fel Cadeirydd, ac yn arbenig am<ei araeth odidog. Cododd yr holl dorf ar ei thraed i arwyddo ei diolchgarweh, gan guro dwylaw eilwaith ac eil. waith yn frwdfrydig. Gyda fod hyn drosodd daeth Syr J. Jones Jenkins, A.S., a'r ddau areithiwr arall i fewn trwy ymdrech fawr, ac wedi ychydig sylwadau arweiniol galwodd y Cadeirydd ar y Parch T. Nicholson, Dinbych, i draddodi ei anerchiad ar "Drueni Cymdeithasol ein Gwlad, a'r Feddyg- iniaeth." Dilynwyd ef gan y Parch Thomas Rees, D.D., Abertawy, ar Ddylanwad y Cymry ar y Genadaetlx Dramor." Wedi i'r Doctor orphen cyflwynodd y ddau genadwr oedd yn bresenol, sef y Parch Maurice Phillips, o'r India, a'r Parch W. Griffiths, o Affrica, i'r Cadeirydd, yr hwn a siglodd law a hwy yn roesawgar, a'r dorf yn curo cydym- deimlad. Gan fod ein hadroddiad wedi chwyddo dipyn yn faith, yn hytrach na chwtogi yr Areitbiau, cant ymddangos yn gyflawn yn ein rhifyn nesaf. Cynygiodd y Parch J. Thomas, D.D., Liver- pool, ac eiliodd Dr J. A. Jones, Llanelli- That this meeting heartily supports the Franchise Bill as an act of justi e to two millions of capable cit's^Ds; protests against the action of the House of Lords in refuainsr to pass the bill after it had been carried by overwhelm ng majorities in the House of Commons, and against the pretensions of the Peers to dietacethe dissolution of Par iament, as involving B. subversion of the principle of representative govern- ment and that this meeting pledges itself to stand by Her Majesty's Ministers in their determination to ad- here firmly to the policy of passing the Franchise Bill; and that a copy of this resolution be sent to the Right Hon. W. E. Gladstone, M.P. Cynygiodd y Parch W. Roberts, Liverpool, ac eiliodd y Parch J. Jones, Maehynlleth- Foi diolchgarwch unfrydol y cyfarfid yn cael ei gyflwyno i Syr John Jone- Jenkins, A.S., am lywyddu tnor fedrus yn y ddau gyfarfod. Pasiwyd diolchiadau cyffelyb yn y cyfarfod arall yn Moriah, ond nid ydym yn gwybod pwy oedd y cynygydd a'r eilydd. Gorphenodd y cyfarfod bythgofiadwy hwn tua deg o'r gloch, ac yr oedd yn dda genym gael anadlu awyr agored. Yr oedd yr holl ar- eithiau o ran mater a thraddodiad yn ardderch- og, ac ni wna neb oedd yn bresenol anghofio hwn tra fyddo byw. Boreu dydd Mercher, am saith, cynaliwyd Cynadledd yn Ebenezer i ymdrin ag amgylch- iadau yr Undeb, ac yr oedd lluwas yn bresenol, er fod pregethu ar y pryd yn y Tabernacl. Llywyddwyd gan y Parch D. Griffith, Dol- gellau-Cadeirydd y Pwvllgor am y flwyddyn. Dechreuwyd gan y Parch T. Morris, Dowlais. Darllenodd y Parch J. B. Parry, Llansamlet, Adroddiad y Pwyllgor fel y canlyn :— ANWYL FROD^B,—Y mae eich Pwyllgor eto eleni yn dymuno cyflwyno i chwi Adroddiad byr o'i weith. rediadau yn ystod y flwyddyn. Gobeithio fod y trefn- iadau ar gyfer y cyfarfod blynydipl yn gyfryw ag a gant eich cymeradwyaeth galonog. Yn unol fig anogaeth Pwyllgor y flwyddyn ddi. weddaf, cyhoeddwyd trwy y wasg Adroddiad o weith- miiadau yr TJndeb yn ystod y pecl,ár blynedd cyntaf o'i hanes yn un gvfrol unffnrf a'r Adroddia 'an ereill a llawen gan eich Pwyllgor hysbysu iddo gael cylchred- iad digonol i gyfarfod a'r draul o'i gyhoeddi, er fod ei bris yn anarferol o rad. Gofidus iawn yw genym nad ymddengys ynddo yr oil o gynyrchion y cyfarfodydd hyny. Y rhai sydd heb fod vnddo ydynt bregethau y diwe ldar Bar hn Robert Thomas (Ap Fychan) yn Nghaerfyrddin, a Proff. Morgan yn Nghaernarfon hefyd, araeth y Parch R. Williams (Hwfa Mon) yn Nghaernarfon. Gwuaed ymchwiliad manwl am breg- eth y Parch-R. Thomas, ond methwyd a'i chael; dy-