Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

OL-SYLWADAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OL-SYLWADAU. Dysgwyliwyd a darparwyd llawer ar gyfer y cyfarfodydd hyn. Bu Pwyllgor yr Undeb am y flwyddyn yn cynllunio ac yn chwilio am bregethwyr, areithwyr, &c., a llwyddasant i sicrhau gwasanaeth dynion a wnaethant eu gwaith yn rhagorol. Peth hollol eithriadol yw cael nifer mor fawr i gymeryd rhan gyhooddus ar achlysur mor bwysig, a phob un ar ei oreu, beb gymaint ag un yn wan yn mysg y Uuaws. Bu y Pwyllgor Lleol wrthi yn ddiwyd a doeth yn darparu ymborth a lletyau i'r dyeithriaid. Cynllun rhagorol oedd cael ciniaw a the mewn tri lie. Yr oedd digon o le i bawb, a phob cysur a llonyddwch i fwynhau yr ymborth. Yr oedd yn amlwg fod yr eglwvsi fel y cyfryw yn cymer- yd rhan amlwg yn y gwaith pleserus o weini ar y dyeithriaid; ac am hynawsedd a charedig- rwydd y boneddigesau, mae yn rhaid cael rhyw ysgrifell lieblaw yr eiddom ni i'w ddarlunio, gan mor berff'aith oedd. Yr oedd cyflawnder ohonynt yn gweini, a phob un yn ymgystadlu a'r llall mewn sirioldeb a pharodrwydd. Mae Llanelli wedi rhoddi esiampl dda mewn llawer o bethau, ac yr ydym yn credu y dilynir yr un Uwybr gan ereill yn y dyfodol; ond bydd yn anhawdd rhagori. Ymgymerodd y Pwyllgor Lleol a gwneyd yr ymborth eu hunain, yn hyt- rach na'i roddi allan i contractors. Trefnwyd fod gwragedd y gweinidogion i roddi te pryd- nawn dydd Linn i'r ymwelwyr ar eu dyfodiad i'r dref yn Ysgoldy y Tabernacl. Yr oedd y ciniaw a'r te y ddau ddydd canlynol yn Yagol- dai eang Capel Als, Park Church, a'r Taber- nacl. Yr oedd yr ymborth yu Capel Als dan ofal Mrs John, yn y Tabernacl dan ofai Mrs Williams, ac yn y Park dan ofal Mrs Davies a Mrs Lewis. Gwisgasid yr ysgoldai yn bryd- ferth a chwaethus ar gyfer yr Undeb. Yr oedd yr ymborth yn neillduol o flasus, a'r byrddau wedi eu troi allan yn ddigon da i gioesawu Ael- odau Seneddol. Gan gofio, gwelsom Syr John Jones Jenkins wrth y bwrdd te yn Capel Als yn mwynhau ei hun yn nghyfeillach ei hen gyfaill, Mr Herber Evans. Yr oedd yn dda genym weled Syr John yn arddel ei Enwad ar ddydd yr uchel-wyl hon yn y Fwrdeisdref mae yn gynrycliioli mor effeithiol yn y Senedd. Yr oedd, medd y Guardian, 430 o ymwelwyr y rhai y darparesid ar eu cyfer. Sylwasom fod cryn nifer o ustusiaid heddweh. yn bresenol, ac mae y B.A.'s, yr M.A.s, a'r D.D.-od yn cyn- yddu yn gyflym yn ein plith fel Enwad. Drwg genym glywed Mr Johns yn gorfod cwyno fod diweddarwch dynion yn anfon eu bwriad i fod yn bresenol, a gwaith ereill yn dysgwyl am lety ac ymgeledd, heb anfon o gwbl, wedi peri cryn anhwylusdod i'r Pwyllgor. Ni ddylai y pethau hyn fod felly, ac y mae yn llawn bryd i rywun fagu y gwroldeb i wrtbod gwneyd sylw o'r diweddariaid hyn, fel y dysg- ont wers eflfeithiol mewn trefnusrwydd prydlon oiad mae calon Mr Johns mor dyner fei y poeu- wyd llawer arno gan rai felly. Er hyn oil, ni welsom gyfarfod erioed a phawb mewn tymher mor dda. Ehoddir profedigaethau llymion yn fynych gan ddynion annoeth a byrbwyll mewn cvnulliad mor lawr; ond os dygwyddodd peth felly yn Llanelli, ni welsom ondy lledneisrwydd a'r sirioldeb mwyaf ar wyneb pawb. lYi chlyio- ■som gityno ar ddim ond yr hyn y crybwyllir uchod Wt dano. Nid oedd neb yn beio y trefn- iadau sac yn awgrymu fod unrhyw ddrwg yn cael eiamcanu trwy unrhyw benderfyniad, ond yr oedd pawb yn yr ysbryd goreu yn mwynhau y wledl a ddarperid iddynt. Mae yr hen wrth- ddadleion a ddygid yn erbyn yr Undeb wedi llwyr firw yn nghalon a barn pob dyn meddyl- gar; canys y mae hanes yr Undeb wedi profi yn dWTiiol nad oedd dim sail i'r ofnau na gwir. ionedd rn y gwrthwynebiad. Gwelsom yno rai personau nad oeddynt wedi bod yn un o'i gyfar- fodydd o'r blaen, a gwyddom eu bod yn coIeddu amheuasth am ei amcanion, ac yn rhy barod i gredu y chwedlau a'r ffiloregau a daenid am dano gan ddynion hunan-geisiol; ond wedi ei weled t gwrando yr oil, tynwyd y mwgwd oddiar m llygaid, a gwelsant nad yw yr Undeb yn am^anu dim ond meithrin brawdgarwch Cristiotogol, a chreu barn gyhoeddus iachus ar brif byaciau y dydd; ac wedi gweled, nid oedd diwedd ar eu canmoliaeth. Mae yr Undeb felly ya enill mewn dylanwad bob blwyddyn- mae y trefniadau yn ymberffeithio, a'r oil yn gweitbredu dylanwad bendithfawr a dyrchafol trwy yr holl eglwysi. Dyma gyfarfodydd y flwydayn hon drosodd, ac nid oes genym ond gweddïo am i fendith Duw ddilyn yr oil, fel y byddõ y ffrwyth yn ogoniant i Dduw.

Y PREGETRU.

Y CYFARFOD CYHOEDDUS.