Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA MYNWY.

--------+-CYDWELI.

TREORCI.

[No title]

^ AT FIR OF A FFRWDVAL A'I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

gydag ef bob prydnawn i Ffrwdvat. Parodd yr helbul anarferol hwn i'r myfyrwyr hefyd i edrych i mewn i'w bags llyfrau i weled a oedd- ynt hwy wedi cael en hysbeilio o'u mcddianau, eithr ni chafodd yr un ohonynt hwythau yr un golled o lyfr, slate, na copy. Pwy oedd y Heidr neu y Hadron beiddgar fu yma yn ymchwilio am ysglyfaeth, oedd y gofyn- iad yn awr. Yr oedd ateb hyn yn ormod gwaith i'r ysgolheigion clasurol, hanesyddol, a mesuronol, ie, ac i'r Doctor ei bun i'w wneyd, oblegid yr oedd y ddaear ar y pryd raor syched a'r corcyn, a gravel oedd oddiamgylch i ff'cnestr y cefn. Meddyliai rhai o'r myfyrwyr mai yr hen leidr oedd yn chwanog iddwynfowls ar hyd y gymyd- ogaeth ydoedd, neu mai rhai o'r tramps oeddent a gerddai yr heol a arweiuiai o Gaio a Phum- saint heibio i'r Athrofa, ac i lawr i Lansawel, oblegid yn Llansawel yr oedd head quarters y tramps a'r commercial travellers, fel y galwent hwy eu hunain, a gludai fatches, o dan nawdd y Frenines, pinau, nodwyddau, inclau, brooches, signets, spectacles, a phob trash diwerth i'w gwerthu i wirioniaid (simpletons) y wlad. G-orchwyl lied rwydd oedd tori i mewn i'r Atbrofa, canys nid oedd un ty yn nes ati na Nantgwyneu, ac yr oedd bwnw yn sefyll dros ddau cant o latheni oddiwrthi. Gwaith anfad ac ysgeler oedd cynyg ysbeilio y Doctor o'i arian ar yr amser hwn, oblegid yr oedd newydd brynu un lie, os nad dau, yn agos i Salem, ger Llandilo Fawr. Enw y lie oedd y Mount. Talodd rhwng tri a phedwar cant am dano, a thrwy hyn yr oedd eifunds wedi myned oddiwrtho i dalu am y lie a'r gweithredoedd. Darfu i'r Doctor yn mhen rhai blynyddau ar ol hyn dirwystlo yn helaeth ar fferm a elwir Gellignros, yn mhlwyf Llandyfeiliog. o fewn i ddwy filldir i dref Caerfyrddin, ac o'r diwedd fe'i prynodd yn eiddo cyfangwbl iddo ei hun- Cerddodd yr hanes unwaith i gvlch tra eang ei fod wedi gosod ei arian fel ail dirwystlwr ar y ff'erm flaenorol, a'i fod wedi ei gosod mewn math o anturiaeth tebyg i'r South Sea Bubble gynt, ond trodd yr ymdrafodaeth allan yn llwydd- ianus. Dyma'r Doctor bellach yn statesman, a'r arian yn dylifo i mewn iddo o'r Athrofa. y fferradai, o eglwysi Parkyrhos, Esgerdawe, Ffaldybrenin, Crugybar, y banciau, ac o Fwrdd Coleg Presby- teraidd Caerfyrddin, am arholi y myfyrwyr yno mewn Hebraeg, Sacred History, Mesuroniaetb, a'r Gwyddorau Anianyddol. Ni raid i'r ded- wydd ond ei eni. Ond a ydyw efe yn awr mewn cyflawn ddedwyddwch, neu a ydyw fel y bedd yn gwaeddi Moes, moes," neu yn debyg i Alexander Fawr, gynt, yn barod i wylo o eisieu ychwaneg o fydoedd i'w gorchfygu? Rhaid i ni yma gofio yr hen ddiareb Rufeinig, De mortuis nil nisi bonum." Gwr ystyriol, pwyllog. gofalus, a diwyd iawn fu efe gyda phethau y byd darfodedig a chyfnewidiol hwn. Cafodd lawer o hyfrydwch, yn ddiau, wrth grynhoi ei drysorau. Yr oedd fel Hannibal, y eadfridog enwog o Carthage, yn ilawn o ddyfeis- iadau ac o egni anorcbfygol braidd, ac yr oedcU yn golofn fywiol o'r ddiareb, Waste not, want not." Wedi yr helynt byrflin y boreu blaenorol, bu y Doctor am hir flynyddoedd yn cadw yr Athrofa, a chafodd. ei lyfrgelloedd lonydd byth mwy gan yr anonest. Dichon nad oedd y lleidr a fu i mewn yn gwybod gwertb llyfau clasurol, na'r gweitbiau mesuronol, na gweith- iau O. K. Muller ar Lenyddiaetb Groeg, Nie- buhr, Grote, Teufnel, a Dr W. Smith ar Len- yddiaeth Groeg a Rhufain, neu fe ddichon ei fod yn ofni y cawsai ei ddal pe buasai llyfrau o'r fath ganddo, a'i daflu i garcbar murdew a chadarn Caerfyrddin. Gan na chafodd neb golled, darfu y twrw hwn yn mhen ychydig amser, ond aeth y Doctor a'r llyfrau mwyaf gwerthfawr a phrisfawr gan- ddo i'w cadw i Ffrwdval, a chludai hwynt yn ol yr archebion oddiyno i'r myfyrwyr, yn ol yr eisieu. Tuag yno yr aeth a gweithiau Gesenius -Hebrew Grammar a'r Lexicon, Vanderhoot's Hebrew Bible, gweithiau A. De Morgan, Bourdon, j John Stuart Mill, Syr Wm. Hamilton's Logic and Metaphysics, S. Davidson's Introduction to the New Testa- ment, a rhai o weithiau Olshausen, &c. Daeth y Rural Police yn fuan ar ol hyn i'r wlad, ac fe aeth yn fwy cyfyng ar y tramps i chwareu eu hystranciau. Yr un elfen, yn ddiau, oedd ynddynt o hyd, ond yr oedd yn rhaid iddynt fod yn fwy gochelgar, cyfrwys, a thafod-deg. Yr oedd y Doctor yn lion i weled y police yn teithio heibio yr Athrofa. 0