Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG-.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

3. Yn cynyrchu cariad. Cariad yw yr egwyddnr sydd yn dwyn y dyn yn llawn ymgysegredig i'r Arglwydd. Y gofyniad mawr y mae y Gwaredwr yn ofyn i bob dysgybl iddo yw, A wyt ti yn fy ngharuji yn fwy na'r rhai hyn ? Ac y mae yr hwn sydd wedi cysegru ei bun iddo yn gallu ateb, Ti a wvddost bob peth, a thi a wyddost fy mod yn dy garn di." Yna y mae y Gwaredwr yn ateb, Portha fy wyn, bugeila fy nefaid." Er cynyrchu yr egwyddor hon yn y galon, da yw i wr ddwyn yr iau yn ei ieuenctyd." Y dyn sydd yn dechieu ar ei alwedigafth yn foreu sydd yn d'od i'w charu, a chariad ati sydd yn ei rwymo mewn hoffder wrthi; a'r hwn a gar ei alwedigaeth a lwydda ynddi." Felly y mae dechreu ar wasanaeth Crist, yr alwedigaeth nefol, yn foreu yn cynyrchu cariad ati, ac y mae hwn yn myned yn gryfach, gryfacb, nes y mae y dyn yn d'od yn llawn gysegredig i'r Arglwydd a'i waith nes gallu gofyn, Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Duw yr hwn sydd yn Nghrist lesu ein Har- glwydd?" Ac yn d'od i allu dyweyd, "Mae yn ddyogel genyf na all nac angeu, nac einioes, pethau presenol, na phethau i ddylod ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yn Nghrist lesu ein Harglwydd." Y rhwymyn a rwyma yr angel byth- icuanc wrth wasanaeth yr orsedd dragywyddol, sef cariad, wedi ei gynyrchu trwy ymarferiad, wedi d'od yn allu cryf ar feddwl y dyn, nes y mae y dyn trwyddo wedi d'od mor hunan-ymgysegredig i'r Arglwydd a'r angel yn y nef. Dan ddylanwad yr egwyddor hon y gadawodd miloedd eu gwlad i fyned at genedloed(i tywyll-lcoedd y ddaear a'r Efengyl dragywyddol ganddynt, i droi yr anialwch fel ga'dd yr Arglwydd, y rhai y dywedir am danynt, Mor brydferth ar y mynyddoedd yw traed y rhai sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch." Ac am yr Efengyl o'u genau ni a ddywedwn, Eheda, eheda Efengyl dragywyddol." III. EFFEITHIAU GOGONEDDUS YMGYSEGRIAD TERSONOL IEUENCTYD I GRIST A'I WASANAETH. 1. Trwy hyn fe.ddiflana tywyllwch moesol y byd. Yn ei berthynas a gwybodaeth yn ein gwlad, y mae yr oesau tywyll wedi myned heibio, a goleuni gwybodaeth yn tywynn megys o orsedd ein gwlad, a'r Llywodraeth yn penderfynu dysgu y plant. Llwyddiant iddi, ond iddi ofalu rhag eu lladd wrth eu dysgn. Dysgu yr ienanc yw y ffordd a gymer y Llywodraeth i gyrhaedd at oesau euraidd gwybodaeth a dysg. Mae Eglwys Dduw wedi ymgymeryd a'r gwaith o ddwyn y byd yn gyfan i ymgysegru i Grist a'i waith, a'r ffordd a gyrner Oí: cyrbaedd yr oesau euraidd pan y bydd hyu wedi cymeryd lie yw casarlu v plant, nid trwy rym cyfraith gwlad na, hi a ddywed wrth hono, Gorwedd di yn gylcb amddiffynol o amgylch personau a meddianau dynion, ond paid a d'od yn agos i dir cysereli-, dysgeidiaeth crefyddol caiff holl ienenctyd y byd ddywdyd am fy Mhen mawr i, 'O'i wir ewyllys yr enillodd efe ni trwy Air y gwirionedd.' A phan y daw ienenctyd y byd felly, dyma y pryd y bydd y ddaear wedi ei symud o dywyllweh i oleuni, a'i phreswylwyr wedi eu gwneyd yn olenni yn yr Arglwydd yn rhodio fel plant y goleuni, ac yn eu hymgyseriad i'r Arglwydd yn "llewyrchu yn ngwydd dynion fel y gwelont eu gweithredoedd da hwynt, ac y gogoneddont eu Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd a "gwybodaeth yr Arglwydd yn llenwi y ddaear, fel y mae y dyfroedd yn toi y m6r." 2. Fe godi* cymeriad cymdeithas. Cywilydd pobloedd yw eu pechod." Mae pechod wedi toi y ddaear a gwarth-" ei gwarth a'i todd." Beth yw ei gwarth ? Tywyllwch, o'ergoeledd, anghyliawn ler, twyll, celwydd, malais, godineb, a meddwdod ond pa fodd y mae symud y gwarth ymaith ? Mae rhai yn dywedyd mai trwy foes-wersi dynol ac addysg gyffredin. Mae y rhai hyn wedi gwneyd da mawr, a gwnant dda mwy eto; ond y maent wedi methu gwneyd hyn. Gwyddom am genedloed I oedd yn arwain y byd mewn athroniaeth a dysg—y cenedloedd mwyafllygredig ar wyneb y dda( ar; a gwyddom am rai o ddysgedigion penaf ein gwlad yn pydru mewn llygredd. Mae doethineb ddynol yn rhy wan i godi cymeriad y byd, ond trwy y ddoethineb sydd oddi ucbod fe geir daear newydd a nefoedd newydd yn y rhai y bydd cvfiawnder yn cartrefu-pan y bydd ieuenctyd y byd wedi eu dysgu gan yr Arglwydd, ac wedi ymgysegru iddo; cyfiawnder yn y Senedd, yn y llys, wrth y counter, yn y gwaith, yn mhobman; ffynonellau Uygredd wedi eu puro, a rhinwedd yn aberoedd bywyd yu rhedeg trwy holl gyfangorif cymdeithas. 3. Fe godir mwynhad cymdeithas. Mae dyn yn naturiol yn dyhen am ddedwyddwch, a dyn ieuanc yn neillduol felly, ac y mae yr Arglwydd am iddo fod yn ddedwydd. Mae gogoniant mawr mewn gweled creaduriaid anian yn ddedwydd-yr anifeiliaid yn prancio ar y bryniau, y pysgod yn chwareu yn y dyfroedd, yr adar yn telori ar gangau y coed ond y mae mwy gogonimt fyth yn nghaniadau ieuenctyd, os na bydd eu can yn codi o lawenydd yr annuwiol, yr hwn sydd dros fynyd awr. Yr hwn sydd yn cann felly gellir dyweyd wrtbo, "Ha, huuan-dwyllwr siomedig, fe dry dy gan yn alargan, a chwpan dy felusder yn wcrmod marwolaeth ond am yr ieuainc a ymgysegrant i'r Arglwydd a'i waith, y rhai hyn a etifeddant lawenydd anhraethadwy a gogoneddus. Gorfole Idant mewn gortbrymderan, a chanant yn y nos, yr hyn a'i gwna yn eosiaid llywodraeth y Duw mawr. Yn breswylwyr dedwydd y ddinas y dywedir am dani, A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwareu yn ei heolydd hi.' "— Heolydd y ddinas o gwmpas i gvd A lenwir yn brydferth, yn brydferth ryw bryd, j O fechgyn tra hynod, a chwithau'r genethod Yn chwareu mewn cymod wrth ganfod y Gwr— Eu tarian a'u twr, a'u sylfaen gref siwr, Yn chwareu mewn cymod wrth ganfod y Gwr." Dydd mwynderau ieuenctydaymgysegrant i'r Arglwydd a'i waith mor llawn, fcl y mae yn amheus a fydd cawgiau angylion yn y nef yn llawnach o olew gor- foledd na'u cawgiau hwy yn eu hymgysegriad i Dduw eu hiachawdwriaeth. 4. Trwy hyn yr adnewyddir y ddaear. Mae pechod wedi gwn-yd y ddaear baradwysaidd yrrauiatwob gwag erchy l, a'r ieuenctyd fel drain a miyri ynddi ond fel y daw ieuenctyd i ymgysegru i'r Arglwydd a'i waith, daw y ddaear anial yn baradwys yn oi hoi—troir y tafarndai yn ysbytai a'r chwar. udai yn gapeli; a'r enwau a nodwe,idarit ieuenctyd yr oesau hyny fydd Joseph, Samuel, Pafydd, Abiah, Obadiah, Josua, Daniel, a Timotheus. Daear anwyl fydd y ddaear y dydd hwnw. 5. Dadymchwelir teyrnas Saian. Mae Satan ar ei oreu trwy yr oesau yn cadw ieuenctyd dan rwymau ei dywyllwch yn gaethion, end y mae golejni gwybod- aeth eoaoniant Duw yn wyneb lesu Grist yn myned i ddryllio ei rwymau ef. Dysgir y plant, a daw yr ieuanc o'i fodd i ddyweyd Kiddo yr Arglwydd ydwyf fl." Ac wedi i hyn gymeryd lie yn gyffredinol dros y byd, y gall yr angel ddyweyd, "Aethteyrnasoeddy byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef." G. Dyrchefir gogoniant mynegol Duw. Mae Duw wedi creu dyn i'w ogoniant, ond y mae pechod wedi troi ei ogoniant yn war;h ac o b >b gwarth, nid oes gwarth mwy na bod d nion ieuainc yn rigwasanaeth y diafol yn rlioi eu blynyddoedd i'r creulawn. Oad pan y deuant i roi eu hncain i'r Arglivydd yn ebvrth byw, cyn cael en crino gan henaint mewn pechod, yn hyn gogoniant yr Arglwydd a, ddyrchefir, a phob cnawd yn nghyd a'i gwfil. Yn lie drain y cyfyd ffinydwydd, ac yn lie mieri y cyfyd myrtwydd, a hyn a fydd i'r Arglwydd yn enw ac yn arwydd tragwyddol, yr hon ni thorir yma tli." Gaiwodd y Cadeirydd yn nesaf ar y Parch R. S. Williams, Bethesda, i draddodi araetli ar Y SEFYDLIAD GWLADOL 0 GREFYDD FEL Y MAK YN RHWYSTR I GYDWEITHRED- IAD CRISTIUNOGOL. Awgryma v testyn fod cydweithrediad Crist onoglon yn ddymunol a manteisrol. Ac y mae hanes crefydd yn y byd, a phrofiad personol pawb sydd yn ymdrechu i'w ddiwygio, yn cadarnhau gwirionedd yr awgrymiad. Teimlir ei ddymunoldeb, am ei fod yn arwydd g* el- edig o yrnddiiietiaeth dyi ion yn eu gilydd, a'u bod yn credu yn drwyadl yn ngwe'th adylanwad bendith:ol yr un ejwyddorion. Nis gellir cydweithredu yn galonog a pharhaol, ond i'r graddau y byddis yn credu mewn egwyddorion a phersonau, rhywbeth teilwng i weithio o'i blaid, a chymeriadau yn meddu digon o gywirdeb a gallu i enill ymddiriedaeth y galon i ymuno & hwy yn eu hymgais. A pha le bynag y cantyddir hyn bydd yn anhawdd peidio cydweithredu a'r cyfryw, canys y mae adnabyddiaeth o egwyddor fn yn ddigon nerthol ei dylanwad i wneyd dyn mor dda ag y gellir ymddiried yn ddiofn ynddo (nid oes ofn mewn ymddiriedaeth) yn cario buddugoliaeth ar y meddw) nea ei enill i geisio ei gymdeithas. Trwy nerth cydweithrediad crefyddol mae y hyd yn dyfod yn llai peryglus i fyw ynddo, a ffynonellau ei gysur a'i ddedwyddwch yn l^uosoai. Mae hefyd yn faitteisiol. Effaith anocheladwy cyd- weithrediad yn ngJýn a'r hyn sydd dda ydyw eangu ayniadau dynion, a chyfoethogi eu profiad, nodweddion sydd o angeniheidrwydd yn fychain a hancrog mown personau ewbl gyfyngedig i s^*ct a phlaid. Ni fedd pleidiaeth sectol ddigon o atnrywiaeth i ddadblygn me Idwl yn ei holl agweddion. Rhaid i bob dyn fyned ychydig oddicartref cyn cyrhaedd y mawredd a'r an- rhydedd uchaf sydd bosib! iddo. Fel y mae myned dros rhydedd uchaf sydd bosibl iddo. Fel y mae myned dros y ffin i faes cymydog i edrych arno yn trin y ddaear, yn cynorthwyo amaethwr i ddiwyllio ei dir ei hun yn y ffordd oreu, a myned i ffair yn fantais iddo ddeall rhag- oriaethan a diffygion anifail, y mae dyfod i gyffyrdd- iad a gwahanol gyfundrefnau duwinyddol, sylwi ar effeithiau gwa,hanol systemau egiwysig, a cnyferbyriu y cymeriadau a gynyrchant, yn angenrheidiol er deall cryfder y naill a gwendid y llall. A gall yr adnabydd- iaeth a ffurfiwyd yn y dull yna droi yn foddion dad- blygiad a chynydd i fywyd ysbrydol yr oil. Yn y goleuni yma. ymddengys pob cymhorth geir or dyogelu cydweithrediad Cristionogion yn werthfawr, a'r rhwystr lleiaf i'w sicrhau yn galw am ym irech i'w symud o'r ffordd. At un o'r cyfryw mae y testyn yn cyfeirio—" Y Sofydliad Gwladol o Grcfydd," &c. Nid yw yn golygu pe diddymid y Sefydliad fel y mae yn wladol, pe dadgysylltid yr Eglwys, y csid o angen- rheidrwydd gydweithrediad crefyddol, canys nid yw y blodeuyn prydferth hwnw yn Hyf ac yn gwasgar ei arogl yn mhell mewn enwadau o'r tuallan i'r Sefydliad. Lied amhens ydynt o'u gilydd yn fynych. Ac ambell cuwad-credwn fod rhai yn fwy yn y camwedd nag ereill—yn rhy barod i geisio mantais anheg iddo ei hun o wendid achlysurol ddygwyddo ymddargos yn y llall. Cofus genyf am wr ieuane mown ysgol nas gellid ei foddloni adeg boreubryd heb iddo gael ei de neu yoffi me-Jvn cwpan las ddygid i'r bwrdd. Cyffelyb ydyw yn rhy ami gyda'r enwadau crefyddol. Ni chyflogir i w;asanaeth, ac ni ddyrchefir i swyddau mewn rhai manau os na bydd o gwpan las yr enwad—nis gellir ymddiried cystal mewn neb ar fyrddau addysg ein gwlad os na bydd o gwpan las yr enwad ac nid ar- chwacthir bias crefyddol dyfroedd iachawdwriaeth os na byddant yn dyfo 1 allati o gwpan las yr enwad. Gweithia enwadaeth ei hun yn ormodol i wahanol gylchoedd cymdeithas yn ein plith. Ac nid oes brinder arwyddion ei bod yn bwysicach yn Bgolwa: rhai na Christionogaeth ei hun. Eto ni I oes dim o'r tuallan yn rhwymo yr enwadau i'r fath gulni ysbrydol, ac yn eu hatal i ymgodi uwchlaw iddo, tra y mae felly yn y Sefydliad gwladol o grefyd I. Dylai yr Eglwys Sefyd- lodig fod yn fwy haelfrydig ei hysbryd nag un o'r enw- arinu, neu ynte roddi i fyny y broffes ei bod yn genedl- aethol, ond y gwrthwyneb ydyw y gwirionedd am dani. Er hotii bod uwchlaw plaid, y mae yn fwy sectol nag un o'r sectau, ac wedi ei darostwng i'r safle yna gan y gallu gwladol. Nid yw yn golygu chwaith nal oes personau o fe,n y Sefydliad yn awyddus i gydwe'th- redu a brodyr crefyddol o'r tuallan iddo. Y mae llu mawr o wyr mewn urddau eglwysig yn dyheu am dano, ac yn ei arfer hyd eithaf y terfynau a ganiateir iddynt gan y Llywodraeth Wladol. Safant ochr yn ochr ag Ymneillduwyr i bleidio a chario yn mlaen ddiwygiadau cymdeithasol, ymunant .a ni memn ymdrechior. i led- aenu gwybodaeth Gristionoaol drwy y byd, a chymer ambell un ohonynt ran mewn gwasanaeth crefyddol yn ein capelau, fel y gwnaeth Canon Freemantle yn nghyf- arfod agoriad capel y Parch R. F. Horton, yn Hamp- stead, Go, phenaf 3ydd, 1884. Eto, rhaid cydnabod wrth edrych arnynt yn gyffredinol, mai prin ydyw y gras hwn yn ein cyfeillion Eglwysig. Nifynantgyd- weithredu a ni o fewn y terfynau y gallant yn rhwydd a diwrthwynebiad ymuno yn dynt. Cadwant mor cldyeithr ac estronol, fel yr ymffrostia rhai ohonynt na buont erioed mewn capel Ymneilldaol. A'r that horrible place," y gelwir lie ein cysegr ni ganddynt. Er fod y fath ymddygiad yn fwy o arwydd gwendid a bychandra ynddynt h-vy, nag o ddiffyg cymhwysder ynom ni i'w preseno'deb, credwn mai ffrwyth ydyw y rhan fwyaf ohono yn codi o grefydd fel y mae ynsefyd- liad gwladol. Gadawer i ni chwilio beth sydd mown sefydliad gwladol o grefydd yn rhwystr i gydweithred- iad Cristionogion. 1. NIP OES TUEDD MEWN SEFYDLIAD GWLADOL o GREFYDD I GYNYRCHU GWEITIIGARWCH CRIST- IONOGOL 0 GWBU Gan nad ydyw yn cynyrchu gwaith yn y rhai sydd o'r tutewn i'r cylch, nis gall godi yr oil a'u troi i gyd- weithio ag ereill. Cydnabyddwn fod rhai o ser dys- gleiriaf crefydd heddyw i'w cael yn yr Eglwys Wlado', a ehyfliwn;r gwaith mawr a daionus ganddynt. Yn ngolenni v ddysgeidiaeth a ddygasant hwy i esbonio y Beibl y gwi.aed llawer rhan ohono yn ddealladwy i nifer luosog ei ddaillenwyr, ac nis gall y llafur gymer llawer ohonynt i ddwyn eneidiau at Waredwr, lai na chyaieradwyo ei hun i bob cydwybod dynion a wyr am dano. Ond nid y sefydliad fel y cyfryw ydyw yr achos ohono, eithr cydymgais rhwng ei wahanol bleidian, neu fywyd ysbrydol yr aelodau, ac hwyrach pob un o'r ddau sydd w: di ei gynyrchu. Mae y ffaith fod llawer yn ymlynu yn dyn yn y cysylltiid, a thynu ohono gymaint ag a all bwnw fforddio gyfranu, na cheir ffrwyth fel hyn arnynt o gwbl a bod gwaith cyffelyb yn cael ei gyflawni gan Ymneillduwyr o'r tu ail-m i'r Sefydliad ja brawf digonol mai nid ohono ef y mae yn tarddu. Mor bell ag mae a fyno y sefydliad gwhdol a gwaith ysbrydol crefydd, tuedda yn fwy i'w atal nag i'w feithrin. 1. Am ei fod yn gwanhau y syniad o gyfrifoldeb personol. Mae y syniad o gyfrifoldeb yn banfodol er dwyn dyn i deimlo dyddordeb mewn crefydd a gwaith ysbrydol. Mewn deffroad o'r teimlad yna mae y gwaith yn dechreu, ac i'r graddan y bydd yn cryfhau a dyfod yn fwy byw y bydd sM ac ymdrech dyn yn fwyafegniol. Nis gellir cyflawni gwaith crefydd yn briodol Leb iddo fod yn effaith calon wedi deffro, canys mae y galon i fod yn y gwasanaeth, yn nawseiddio yr oil ohono cyn yr edrychir arno yn gymeradwy. Ond mae y Sefydliad yn atalfa rhwng dyn a llawer o wrthddrychau sydd a thuedd uniongyrchol ynddynt i gynyrchu y teimlad o .Y gyfrifoldeb, a chreu dyddordeb ynddo mewn gwaith ysbrydol, ac yn penderfynu y cwbl drosto. Mae ceisio allan o Lyfr yr Arglwydd wybodaeth bersonol o'r hyn sydd i'w gredu, a ffurfio barn am ddefodau a seremon- iau gwasanaeth crefydd, chwilio, am ddynion i'w hyfforddi o ran cymeriad a chymhwysder, i fyny a'r nodau Ysgrythyrol ddylai fod yn ngweinidogion y Gair, a llawer o bethau cyffelyb, a thuedd ynddynt mewn modd arbenig i ddwyn dyn i deimlo ei fychander, ei ddibyniaeth ar Dduw a'i gyfrifoldeb iddo, ond ni chaniata y Sefydliad i'w aelodau wneyd hyn, rhaid der- byn y cwbl yn ready made o'i law of. Ceisio gweithio ymaith y ffaith o gyfrifoldeb personol ydyw ymddyg- iad o'r fath, yn gystall a gwanhau y syniad am dano. Teimla y Sefydliad gan mai efe sydd yn talu y costau y dylai gael llywodraethu, ac nid oes rheswm dros wrthod yr olaf os caniateir y blaenaf. Onid oes tuedd yn hyn oil i gynhyrfu dyn i lefaru,' os dysgwylir rhyw- beth arall oddiwithyf fi, gwnewch chwi y gweddill fel y gwnaethoch y rhanau blaenorol.' Ac am creill a feidd- iant goleddu barn wahanol, a mynu dewis drostynt eu hunain, cyfyd y Sefydliad mewn gwrthwynebiad iddynt, nes can all in yn llwyr y posiblrwydd o gyd- weithrediad. 2. Mae y Sefydliad er dyogelwch iddo ei hun dan orfodaeth yn fynych i atal givaith. Rhaid i ddyn wrth weithio gael mwy o le na phan fyddo yn dawel a llonydd obleiid hyny bydd cage y Sefydliad mewn perygl o gael ei ddryllio, neu ynte gosodir rhy vrai dan orfodaeth i gyfyngu ar symudiadau y sawl fyddo o'i fewn. Mae un o ddau beth yn rhwym o ddygwydd yn nglyn a phren fyddo yn tyfu mewn llestr, Atal tyfiant y pren neu adael i'r tyfiant ddryllio y Ilestr." Medd- ianwyd llawer o ddeiliai 1 yr Eglwys Wladol o dro i dro gan argyhoeddiadau dyfnion, yr hyn fu yn symbyliad i waith crefyddol ar raddfa helacth gael ci gyflawni,