Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

. CWM RHONDDA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CWM RHONDDA. Gorymdaith yr Ysgolion Sabbothol. — Yr oedd dydd Llun, Awst 4ydd, yn ddiwrnod hir ddys- gwyliedig gan drigolion rhanbarth uchaf y Cwm, fel diwrnod ag y bwriadai holl Ysgolion Sabboth- ol Treorci yn unol wneyd un gorymdaith fawredd- og, yr hyn hefyd a fwriadant ei wneyd yn flyn- yddol. Gwawriodd y boreu, gwenodd yr haul mawr naturiol ar yr orymdaith hardd a gobeith- iol. Am 2 o'r gloch, cychwynodd Ysgol Bethania, yn rhifo 765, yn cael ei blaenori gan y faner fwyaf hardd a welais erioed, ac ni phetrusaf ddy- wedyd mai dyma'r harddaf a fedd y Cwm. Ar y naill wyneb yr oedd iddi y painting mwyaf godid- og o'r Bugail da yn anog porthi'r wyn," ac ar y wyneb arall ddarlun prydferth iawn o'r Samari- tan trugarog. Yn canlyn Bethania yr oedd yr ysgolion canlynol: Tabernacl (106), Noddfa (761), Horeb (219), Bethlehem (314), Calfaria (93), Hermon (221). Yr oil yn gwneyd 2,479. Gorymdeithiwyd mor bell ag Incline D. Morgan, heibio y Rhondda News Agency i Heol y Park, ac o flaen palas y boneddwr caredig a chymwynas- gar Mr W. Jenkins, Ystradfechan, prif swyddog glofeydd mawrion yr Ocean. Yna dychwelwyd ar hyd y rhan uchaf o heol y Bute trwy restr yr afon, ac yna wrth ddychwelyd yr oedd pob ysgol yn myned i'w chapel ei hun. Cafodd pawb o ddeiliaid ysgol Bethania eu te yn rhad ac am ddim. Wedi i'r holl ysgolion gael eu gwala a'u y 1:1 gweddill o'r te a'r bara brith (ac yn wir yr oedd y gwragedd a'r merched ieuainc yn debyg iawn i Esau gynt yn gwybod pa fodd i wneyd blasus- fwyd o'r fath a garem), aethwyd can belled a'r cae yn ymyl Ystradfechan House, yr hwn yn gar- edig a ganiatawyd i ni gan Mr Jenkins. Yr oedd yr ieuenetyd yn mwynhau eu bunain yn rhagorol iawn mewn gwahanol chwareuon difyrus. Am haner awr wedi saith cafwyd cyfarfod cyhoeddus o dan lywyddiaeth Mr Jenkins. Wedi canu yr hen don adnabyddus G waed y groes," &c., cyf- archodd y Cadeirydd y dorf, gan ddywedyd, ei bod yn wir ddrwg ganddo nad oedd wedi gweled yr orymdaith, ond ei fod wedi cael ar ddeall eifod yn un hardd anarferol, a dymunai bob llwyddiant i'r Ysgol Sabbothol. Yn nesaf, catwyd anerchiad gan Mr D. Johns, Bethania, ar "Addysgiant y Plant." Wedi hyny cynygiodd Mr Thos. Jacob y penderfyniad canlynol Fod y cyfarfod hwn, yn yr hwn y mae yn ymgynulledig holl Ysgolion Sabbothol Treorci, perthynol i bob enwad cref- yddol yn y lie, y rhai a rifant yn nghyd tua 3,000 o aelodau, yn wyneb yr ymgais bresenol yn y dylfryn hwn i gynhyrfu y boblogaeth yn erbyn y Gyfraith er Cau y Tafarndai ar y Sabboth, yn dy- muno cydnabod y daioni mawr y mae y gyfraith hon wedi bod yn foddion i'w ddwyn oddiamgylch eisoes trwy leihau meddwdod ar y Sabbotb, ac hefyd ein bod yn dymuno ar i'r gyfraith gael eu gwneyd yn fwy-effeithiol eto trwy ddileu adran y teithwyr a threfnu mesurau or mwyn rhwystro sefydliad clybiau yfed." Eiliwyd gan Mr R. W. Park, a phasiwyd yn hollol unfrydol. Cynygiwyd gan Mr W. Phillips, grocer, ac eiliwyd gan Mr Evan Uees, a phasiwyd yn unfrydol eto, Fod copi o'r penderfyniad blaenorol wedi ei arwyddo gan y Llywydd, yn cael ei ddanfon i'r Prif Wein- idog, yr Ysgrifenydd Cartrefol, yr aelodau dros y sir, yn nghyda Mr J. Roberts, A.S." Wedi y diolchgarwch arferol i'r Cadeirydd, terfynwyd yr wyl fawr hon. Hyderwn y gwelir y canoedd plant bychain sydd o dan ofal y gwahanol Ysgolion Sabbothol yn y dyfodol yn gewri cedyrn o dan arch Duw nes eu dwyn yn ddyogel i dir eu gwlad.

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG-.