Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Cynwysiad. I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Cynwysiad. Ymylon y Ffordd-Athrofa Ffrwdval a'i Hanesion 3 Cymanfa Mynwy-Oyd weli-Gohebiaethau -Cyfar. fodydd,&o. 4 Undeb yr Annibynwyr Cymreig 5,6,7 Cwra Rhondda 7 At ein Gahebwyr—Yr Wythnos 8 Y BRIF ERTHYGL- Cynadledd Esgobaeth Bangor-Cwmafon-Mountain Ash 9 Penmain-Cyfarfod Ymadawol y Parch D. Stanley Davies, Llanfyllin iit JQ Cymdeithas Ddarbodol Gweinidogion yr Annibyn- wyr yn Nghymrn-Aboraman- Ysgol Eamadegol Caerdydd-Gonedigaethaii, &e.—Galwadau 11 YJWers Ehyngwjadwriaethol—So^r, Mertbyr 12 Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Aeron 13 Cyfarl'odydd 14 Hysbysiadan "14, 15^ 16
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
GREAT WESTERN RAILWAY. EXCUESION TO LONDON. International Health Exhibition. ON SATURDAY NIGHT, August 16th, a cheap fast excursion train for LONDON will leave MERTHYR at 11.0 p.m. Hirwain 11.25, ABERDARE 11.35, Mountain Ash 11.45, Quakers' Yard 11.55, Llan- caiach, 12 5 a.tn (Sunday morning), Crumlin (High Level), 12-25, PONTYPOOL (Clarence-street) 1240 Pontypool Road 1250, Abergavenny 1.30, Pontrilas 1.35, and Ledbury at 2 40 a.m, to return August 18th trom Padungton at 11.5 p.m. For fares see Special Bills. J. GRIERSON, General Manager. CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. CCLASSES now reading for the UNIVERSITY Colleges, the J TRAINING and DENOMINATIONAL ColWes the MEDICAL, LEGAL, and PHARMACEUTICAL Examin ations. and for the CIVIL SERVICE and COMMERCIAL PURSUITS. DUTIES resumed on MONDAY, JULY 28tli, 1SS4 For terms, &c., apply to R. G. LEVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff 18 7 r
YR WYTHNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR WYTHNOS. ARGLWYDD SEAFIELD. — Mae un o ben- defigion y deyrnas hon yn cael ei adnabod wrth y teitl ucbod, ac ymddengys ei fod newydd farw yn ddiblant. Ei olynydd yn y teitl a'r etifeddiaeth yw yr Anrbydeddus James Ogilvie Grant. Mae gan y boneddwr hwn fab o'r enw F. W. Grant, yn brif was amaetbwr yn Oamarn, New Zealand, ac y mae yno er's amryw flynyddau yn dilyn ei alwedigaeth, ac yn rhoddi boddlonrwydd mawr i'w feistr fel goruchwyliwr deallus, ffyddlon, a gonest. Rhai blynyddau yn ol priododd ferch Major Evans o'r lie hwnw, ac y mae ganddo amryw blant. Pan dder- byniodd y newydd annysgwyliadwy am ddyrchafiad ei dad i'r bendefigaeth a'i fod yntau i'w adnabod bellach wrth yr enw Arglwydd Reidhaven nid yn unig gwrtbod- ai gredu, ond ymwadai yn llwyr a'r an- rhydedd, ac y mae yn mynu aros yno i ofalu am y fferm megys cynt. Mae incwm blvn- ydd 1 Arglwydd Seafield yu < £ 70,000, ac y mae y cyfanswm mawr hyn yn dyfod i'r mab yn fuan, oblegid mae ei dad yn 85 mlwydd oed. Dyma gyfnewidiad rbyfedd yn amgylchiadau dyn yn dilyn galwedigaeth gyffredin, a digon helbulus. Gobeithio fod egwyddorion rhinwedd a chrefydd wedi gafaelyd yn ei galon, onide bydd y cyfoetb a'r dyrchafiad yn felldith iddo. BANK HOLIDAY. Adnabyddir y dydd Llun cyntaf yn Awst yn ngbyda rhai dydd- iau ereill yn y flwyddyn fel banlc holidays am fod mesur Syr John Lubbock wedi sicr- hau rbai dyddiau ycbwanegol o wyliau i'r bobl trwy orchymyn cau yr boll fanciau trwy y deyrnas, ac felly mae un gangen bwysig o fasnach yn gorfod sefyll am y diwrnod bwnw. Diau mai amcan rnwyaf ymarferol y mesur oedd sicrhau i'r gweith- iwr caled ycbydig yn rbagor o seibiant, oblegid yr ydym yn credu fod darbodion y mesur yn rhoddi hawl i'r gweithiwr i fynu y dyddiau iddo ei hunan, ac v mae defnydd- iad y dydd fel gwyl yn myned-yn fwy cyff- redinol bob blwyddyn. Eleni yr oedd y tywydd yn bob peth allesid ddymuno, a throdd miloedd allan i fwynhau awyr iachus a golygfaoedil tlysig y wlad, a hwnw yw yr unig ddiwrnod mewn blwyddyn a gaiff llu- aws i gymdeithasu a phrydferthion natur. Yr oedd pob tren, a phob agerfad yn mhob parth yn orlawn o deithwyr yn ymdaflu yn foddhaus i ganol bywiogrwydd natur nes adnewyddu eu meddyliau, os nad gwella llawer ar eu cyrff. Gwelsom fod dros 18,000 o bobl wedi eu cludo o Abertawy i'r Mumbles gyda'r Tramway Company, ac nid ydym wedi darllen am un ddamwain wedi dygwydd yn un man. Gyda chynydd sobrwydd ac addysg, a dyfnhad o deimlad crefyddol yn nghalonau y bobl, bydd y gwyliau hyn yn dyfod yn fwy diniwed i foes- oldeb. Diau fod dydd gwyl yn ysgafnhad-i lafur caled, ond dylid leteinio cymdeithas a'r fath egwyddorion ag a'i dyogela rhag rhedeg i ormod o ryfyg, nac i ddim annuw- ioldeb hyd yn nod ar ddydd gwyl. MARWOLAETH Y PARCH C. E. B. REED, M.A.—Tarawyd holl gyfeillion y Gym- deitbas Feiblaidd trwy Brydain, ac, yn wir, yr holl fyd Protestanaidd, a syndod a galar pan dderbyniwyd y newydd fod Mr Reed wedi cyfarfod a'i angeu trwy syrthio dros graig. Yr oedd yn fab i'r diweddar Syr Charles Reed, a'i fara yn ferch i Syr Edward Baines, Leeds. Gwelir felly ei fod yn dyfod, nid yn unig o deulu Annibynol, ond hefyd o deulu nodedig am ei grefyddoldeb a'i ddyngarwch. Yr oedd er yn fachgen yn ofni yr Arglwydd, ac wedi llefain, Ti yw fy nhad, tywysog fy ieuenctyd." Cafodd addysg ragorol, a graddiodd yn M.A. yn Cambridge. Gan fod ei galon ar y wein- idogaeth, bu am rai blynyddau yn astudio duwinyddiaeth yn New College, "Llundain. Cafodd ei urddo yn Warminster, lie y bu yn llafurio mewn parch mawr am clair blynedd. Cafodd ei ddewis i fod yn un o brif ysgrif- enyddion y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, ac yr oedd yn meddu ar bob cyinhwysder i lanw y swydd yn anrhydeddus. Yr oedd yn foneddwr, yn ysgolhaig, ac yn Gristion gloew; ac yr oedd wedi enill hyder cyffredinol fel un o swyddogion y gymdeith- as hon. Yn herwydd llafurwaitk caled, yr oedd ei iechyd wedi anmharu ychydig, ac yr oedd y meddygon wedi ei orchymyn i fyned i'r Cyfandir am dymhor byr i orphwys. Aeth yntau i bentref tawel o'r enw Pontresina, ar lechweddau rbamantus yr Alps. Un diwrnod, aeth gyda chyfaill i ben un o'r bryniau cyfagos; ac wrth ddychwelyd ar hyd lwybr cul, pan yn troi i gael golwg gyflawn ar olygfa fawreddog yn ymyl, llitbrodd ei droed a disgynodd i'r dyinder. Pan godwyd of i fyny, rhoddodd anadliad neu ddau, ond bu farw yn y fan. Un o'r pethau diweddaf a addawodd i'w wraig cyn ymadael oedd peidio anturio i leoedd peryglus ond or iddo gadw ei addcwid, eto cyfarfyddodd a'i angeu, ac y mae y newydd torcalonus wedi taenu trallod, fel cwmwl du, dros lawer o deuluoedd. Ar dderbyniad y newydd, cyflvmodd rhai o'i berthynasau yno, a chladdwyd ef yn mynwent y pentrof yn nghanol arwyddion o barch a cholled. Yr oedd o ran oedran dan ddcugaiu oed, ac l'ii golwg ni, ar ganol ei waitb. Bydded yr Arglwydd yn gynorth- j wywr i'r weddw a'r plant, ac hefyd i'w fam oedranus sydd wedi cael ergyd a lyn wrthi hyd ei bedd.
0 MOUNTAIN ASH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
0 MOUNTAIN ASH. Cyfarfod Pregethu.—Sabboth, Awst 3ydd, cynal- iodd yr EgI wys GynuIleidfaol Seisonig y He h wn ei chyfarfod pregethu blynyddol. Y gwahodded- igion oeddynt y Parcbn J. Matthews, Abertawy R. Thomas, Penrhiwceibr; a D. Silyn Evans, Aberdar. Cafwyd cyfarfodydd rbagorol o'r decbreu i'r diwedd, a phregethai y pregethwyi* gyda nerth o'r ncbelder, nes dwyn ar gof i ni yr ben hwyl Gymreig. Arosed bendith y nef ar waith y gweision, a bydded y cyfarfod yn symbyl- iad i'r achos Seisonig er enyn sel a gweitbgarwek crefyddol yn mysg y brodyr. Yn ystod y cyfarfod cafwyd pregeth Gymraeg gan Mr Silyn Evans. Darlith.—Nos Lun, Awst 4ydd, yn yr un He, traddodwyd darlith gan y Parch J. Matthews, Abertawy. Testyn y ddarlith ydoedd "Dewin- iaeth." Llywyddwyd yn fedrus gan y Parch R. Thomas, Penrhiwceibr. Cafwyd darlith ragorol gan Mr Matthews. Dangosodd dwyll a hoced dewiniaeth gyda medrusrwydd, a sicr yw, pe elai Mr Matthews yn fwy o amgylch ein gwlad i dra- ddodi y ddarlith hon, y gwnelai les dirfawr i lawer un sydd yn credu y fath ffiloreg y dyddiau hyn. Caed cynulliad da, a gobeithiwn elw rhagorol tuag at yr achos yn y lie. UN OEDD YWO.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PLANT Y CAMLESYDD.—Ymddengys fod miloedd lawer o blant ieuainc yn gweitbio mewn gwahanol gylchoedd ar gamlesydd y deyrnas. Er fod cledrffyrdd yn croesi yr boll wlad, ac yn cludo nwyddau i wabanol barthau, eto mae i'r camlesydd eu gwaith, a chyflawnant ran bwysig yn nhrafnidiaeth y wlad. Gweithia nifer fawr o bobl yma, a threuliant ran fawr o'u hamser yn y cychod bob gymdeithasu nemawr a phobl tuallan i'w cylch hwy eu hunain. Dosbarth caled, anwybodus, a phaganaidd ydynt, a dim ond ychydig sydd wedi ceisio eu diwygio. Mag- y 0 ant eu plant i fyny yn nghanol yr anwybod- aeth fwyaf, ac y mae eu eyflwr meddyliol a moesol yn wir druenus. Mae Mr George Smith, wedi adnabod eu sefyllfa, wedi teimlo i ddyfnder ei euaid drostynt, ac wedi pen- derfynu cael addysg iddynt. Nid oedd Deddf Addysg 1870 yn effeithio arnynt hwy, am eu bod yn boblogaeth mor symudol. Trwy daerineb dibafal mae wedi llwyddo i gael gan v Senedd i basio Mesur Addysg sydd yn delio yn uniongyrchol a'r plant hyn. Bydd ei weithio allan yn fendith an- mhrisiadwy i'r paganiaid, bach hyn. Bydd enw George Smith yn sicr o gael coffadwr- iaeth barch us, os nad cofadail farmoraidd gan ddisgynyddion plant y camlesydd. YR AIPHT ETO. — Mae y Gynadledd Ewropaidd, a gynaliwyd yn Llundain yr wytbnosau diweddaf hyn dan lywyddiaeth Arglwydd GranvilJe, ar Gwestiwn yr Aipht, wedi troi yn fethiant yn herwydd ystyfnig- rwydd Ffrainc. Pan ddeallwyd hyn, yr oedd y Toriaid yn gorfoleddu fel dynion wedi cael ysglyfaeth fawr. Nid oedd son am ddim yn eu gwersyll ond am bleidlais o gondeniniad, a byrddiad y Weinyddiaeth gyda dirmyg allan o'i swydd. Dros bryd- nawn byr y parhaodd eu gorfoledd, oblegid pan fynegodd Mr Gladstone paham y meth- odd y Gynadledd, a beth oedd cynygiad nesaf y Llywodraeth, ac yn neillduol pan ofynodd am arian i barotoi ymgyrch i war- edu Gordon, os buasai hyny yn angenrheid- iol, disgynodd eu gwynebau lawer iawn o raddau ni fynent son am dynu brwydr ar y tir yma, ac, mewn gwirionedd, rhedodd y rhan fwyaf obonynt i ddarparu eu drylliau, eu pylor, a'u cwn er saetbu adar y'mynydd- ocdd. Bydd y Senedd yn tori i fyny ganol yr wytbnos bon, a ebaiff yr Aipht a'r Soudan lonydd, ac ymdafla y wlad i ymladd y frwydr sydd wedi dechreu mor angerddol yn erbyu trabausder Ty yr Arglwyddi.