Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
PENMAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENMAIN. CYFARFOD S E F Y D L I A D. Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod blyn- yddol ar y Sul a'r Llun, Awst 3ydd a'r 4ydd. Y Sul, pregethwyd gan y Parchn J. Jones, New Tredegar; R. Hughes (M.C.), America, a W. Griffiths, Cendl. Cawsom bregethau grymus ac effeithiol, a mwynhawyd Sibboth dymunol iawn genym yn ngwaith crefydd. Y Llun, am 10.30, rboddodd y cyfarfod blynyddol ei le i gyfarfod nad ydym wedi cael un o natur gyffelyb iddo yn Penmain er yn agos i ddeugain mlynedd, sef cyf- arfod yn nglyn a sefydlu y Parch R. Evans, gynt o Troedyrbiw, yn weinidog ar yr eglwys. Wedi darllen a gweddio gan y Parch W. Griffiths, Bar- goed, traethwyd ar Natur Eglwys gan y Parch L. P. Humphreys, Abercanaid, ac ar ol gofyn a der- byn arwydd oddiwrth Mr Evans a'r eglwys o'u dewisiad o'u gilydd, gweddiwyd yn afaelgar gan y Parch T. Rees, Sirhowi, am fendith Duw ar yr undeb. Yna cafwyd pregeth gan y Parch W. Griffiths, Cendl, ar Y Gweinidog yn ei berthynas a'r Eglwys a dilynwyd ef gan y Parch J. Grif- fiths, Casnewydd, ar I I Y ffordd i'r eglwys i fod yn gefnogol i'r weinidogaeth." Am 2 o'r gloch, caf- wyd cyfarfod anerchiadol, o dan lywyddiaeth y Parch J. Griffiths, Casnewydd. Dywedai fod hen eglwys barcbus Penmain yn uchel yn ei olwg, na wyddai end am ddwy eglwys ag oedd yn nes at ei galon-yr eglwys y magwyd ef ynddi, a'r eglwys y meddai yr anrhydedd o fod yn weinidog arni yn bresenol. Honai ben gydnabyddiaeth a Mr Evans befyd, fel un a fu yn gyd-fyfyriwr ag ef yn yr athrofa, dygai y dystiolaeth uchaf iddo fel person nad oedd adnabyddiaeth gywir ohono ddim yn creu awydd ymbellhau oddiwrtho, a tbeimlai yn 11awen i'w roesawu ar ei ddyfodiad i'r un sir ag ef i lafurio. Dywedai Mr R. Morgans, Troedyrbiw, ei fod yn teimlo yn wylaidd i anerch y gynujjeidfa, ond fod yn dda ganddo i fod yn bresenol er dwyn tystiol- aeth o'i edmygedd personol o Mr Evans, a'i hiraeth with feddwl am ei gdlli o'u plith. Teimlai mai diffyg Mr Evans, os gallesid ei alw yn ddiffyg hefyd-oedd ei fod ar y mwyaf touchy-yn un lied hawdd ei gyffwrdd, ond y gallai y rhai a'i had- waenent oreu ei esgusodi yn rhwydd, a'i fod ef yn ystyried y saith mlynedd y bu o dan ei weinidog- aeth fel y cyfnod mwyaf hapus a dysglaer yn hanes ei brofiad crefyddol. Ystyriai y Parch W. Griffiths, Bargoed, fod eglwys Penmain wedi bod yn ddoeth yn ei dewis- iad, ond fod y Cyfundeb y perthynai efe iddo wedi dyoddef colled trwy ymadawiad Mr Evans, ond gan mai newid cyfundeb ac nid newid gwaith yr ydoedd, ei fod yn dymuno llwyddiant mawr iddo yn ei faes newydd. Dywedai y Parch T. Rees, Sirbowi, er nad oedd efe wedi byw mewn cysylltiad agos iawn a Mr Evans, eto eu bod yn croesi llwybrau eu gilydd yn achlysurol er's amryw flynyddau, a'i fod wedi arfer coleddu y syniadau mwyaf parchus am dano. Anogai yr eglwys yn Penmain i siarad yn uchel am bethau crefyddol, ac am y gweinidog ar eu haelwydydd. Mai y ffordd fwyaf sier i ladd dylanwad y weinidogaetb, ac i feithrin y plant i annuwioldeb oedd siarad yn ddirmygus am y gweinidog yn e ) elyw, a thrin y rhai fyddo yn amcanu cario dylanwad dyrchafol arnynt. Y peth nesaf oedd anerchiad Saesoneg gan y Parch T. James, Bethesda'r Fro. Edrychai ar Mr Evans fel ei dad yn y weinidogaetb, a theimlai ei hun yn ddyledus iddo am lawer o addysg a char- edigrwydd, ac am ei gymhell i ddechreu pregethu, a'i gyfarwyddo i'r amcan hwnw. Ystyriai dy Mr Evans fel cartref iddo. Cafwyd ycbydig syl wadau pwrpasoI i'r un cyfeir- iad hefyd gan Mr Evan Williams, bachgen ieuanc yn dechreu pregethu yn eglwys Saron, Troed- yrhiw. Cawsom wedi hyn grynodeb o hanes yr achos yn Penmain, gan yr hen frawd doniol Mr John Jones. Dywedai fod yr eglwys wedi ei eborffoli er's 244 o flynyddau, ac mai Mr Evans oedd y deuddegfed gweinidog yoo. Teimlai yn llawen fod yr eglwys wedi arfer ymddwyn yn dyner at ei gweinidogion, a bod eu harosiad hir yno yn brawf o hyny. Bu Mr David Williams yno naw mlynedd a deugain Mr Phillip Dafydd wyth mlynedd a deugain Mr David Thomas haner can' mlynedd a Mr Ellis Hughes dair ar ddeg ar hugain o flynyddau. Gallesid meddwl fod yr ben frawd John Jones wedi byw yn eglwys Penmain er adeg ei ehorffol- iad, gan gymaint ei ddebeurwydd yn adrodd ei hanes. Yna cafwyd anerchiadau bywiog gan y Parchn R. O. Jones, Bedlinog L. P. Humphreys, Aber- canaid; a W. James, Porth. Adroddwyd hanes x yr alwad gan Mr Edmund Elwards, Penmain, a chododd Mr Evans i anerch y cyfarfod. Dywedii fod yn dda iawn ganddo weled cynifer yno o Saron, Troedyrhiw. Fod cyfeiriad wedi cael ei wneyd ato fel un touchy, a bod hyny i raddau pell yn wirionedd am dano. Nad oedd dim yn ei gy- ffwrdd yn gynt na gweled bywyd anheilwng o'r Efengyl, ac y gallai pobl Penmain benderfynu os buasai arogl diod arnynt yn y cyfarfodydd gweddi a'r cyfeillachau crefyddol, y buasai efe yn cael ei gyff wrdd ganddynt i'r byw; ond ei fod yn cael ei gyffwrdd yr un mor effeithiol or tu arall pan yn gweled dynion mewn caledi ac ansren. Dibenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Cadeirydd. Yn yr hwyr, pregethwyd gan y Parchn T. Rees, Sir- bowi T. James, Bethesda'i Fro a W. James, Portb. Hir oes i Mr a Mrs Evans, a'u teulu caredig i wasanaethu achos Duw yn ardal Pen- main. BEODOR.
^ CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH D. STANLEY DAVIES, LLANFYLLIN. Fe! yr hysbys wyd yn y TYST A'R DYDD, penderfyn- odd Mr Davies ateb yr alwad unfrydol loddwyd iddo gan hen eglwys barchus a dylanwadol Llanbrynmair. Teimlai y cyfeillion yn Llanfyllin na fedrent oddef i'r amgylchiad gymeryd lIe heb gael cyfarfod cyhoeddus or amlygu eu parch tuag ato. Felly, prydnawn dydd Llun, Gorphenaf 28a;n, cafwyd gwd de yn yr Ysgol Frytanaidd, pryd y daeth liuaws yn nghyd i gyfranogi o'r danteithion a dian y buasai llawer rhapor yno oni bai drygni y tywydd. Am haner awr wedi saith o'r gloch yr un noson, cat- wyd cyfarfod cyhoeddus yn nuhapel Pendref. Decli- reuwyd trwy ddarllen a gweftdio g)a,ti y Parch W. L. Ev ins Periyb,,nt. Cymerwyd y gadair gan Mr R. Bowen, boneddwr p-irchus yn Llanfyllin, a diacon yn eglwys P. ndref. Wedi ycbydig eiriau pwrpasol gan y 'Oadeirydd, galwyd ar Mr C. R. JONES, Y.H., i anerch y cyfarfod. Dy. wedai fod yn hyfrydwch ganddo weled cynifer yn nghyd ar achlysur mor bwysig. Gorchwyl anhawdd ydoedd ymadael ar unrhyw adeg, yu enwedig ar' yr amgylch- )ad hwn, oblegid fod perthyoa3 mor agos rhwng yr eglwys a Mr Davies. Anhawdd i'r amgylchiad fyned heibio heb fod y teimladau mwyaf tyner yn cael en harddangos. Da oe,1d ganddo ef ddeall fod Mr Davies yn ymadael a L anfyllin dan amgylchiadau mor hapus. Dymunai yr eglwys bob cysur a lIwyddiant idlo. Da oedd ganddo hefyd ganfod gymaint o frodyr o enwadau ereill yn br sonoj. Dangosai hyn ea bod yn teimlo dyddordeb yn achos Mr Davies, ac yn teimlo yn flin am ei ymadawiad.—Yna galwyd ar Mr J. JONES, Corner House, siarad. Dywedai fod taro y cyweirnod yn y lleddf yn fwy cydnaws a'i deimladau ef ac a theimladau y bohl yn Llanfyllin. Yr oedd ef vno yn cyd-ofidio a'r eglwys ar ymadawiad y gweinidog oedd wedi llafurio mor galed am yr amser maith o ddeng mlynedd. Cysylltiad agos ac anwyl yn cael ei dori-y dref, y gymydogaeth, a'r eglwys yn teimlo yr ys^ariad. Yr oedd eyfei lach Mr Dav es bob amser yn felus iddo ef, a dymunai bob cysur a llwydd- iant iddo yn ei faes newydd,- Y nesaf i anerch y cyf- arfod oedd y Parch E. 0. PARRY (B.) a dywedai y buasai yn flin ganddo weled Mr Davies yn ymadael heb gael cyf arfod cyhoe-ldus. Bywyd gweinidoa yn un cyhoeddus, felly feddylai ei ymadawiad fod yn gyhoeddos hefyd. Pobl Llanfvllin yn gwohrwyo teilyngdod pan yn gwobrwyo Mr D tvies. Handed ei swydd yn anrhyd- eddus. Y ffaith ei fod wedi aros yn yr un man a phregethu i'r nn bobl am ddeng mlynedd yn profi ei fod yn ddyn ac yn bregethwr mawr. Ni allai pregeth- wr ac astudiwr caled fod yn ymwelydd mawr.—Yna galwyd ar y Parch PETER JONES (W.) i siarad. Dywedai fod yr eglwys a'r dref yn colli gallu pan yn colli Mr Davies Llawer o bobl wasaiud yn ein plith yn cyfarch ac yn moesgrymu i bawb, ac nid ydynt yn dangos yr un math o aumbyniaeth meddwl a barn. Ond nid dyn o'r stamp yna ydoedd Mr Davies. Dyn ydoedd ef ag oedd yn me iru "ieddwl drosto ei hun, a ch inddo ewyllys gref a phe byddai pawb yn me i(iti ar vsbryd Mr Davies, byddai golwg arall ar achos crefydd ac ar Ymneilldu- aetli yn y lie ac yn y wla,l. Ystyriai ef Mr Davies yn modem preacher. Y ttiae yn cyd-redeg a'r oes y mae yn byw ynddi. Un nodwedd neillduol iawn yn Mr Davies fel prex-etbwr oedd ei allu i gyfleu ei feddwl a'i syniadau i'r rhai oc III yn gwrando arno. Llawer o bregethwyr yn gweled gems, ond yn methu eu cyfleu i bobl ereili. Teimlai yn ofidus na chai weled Mr Davies mor ami ag o'r blaen, ond dymunai bob cysur a llwyddiant iddo.—Wedi hyny anerchwyd y cyfarfud gan y Parch W. L. EVANS, Penybont. Dywedai fod gan- ddo ef barch calon i Mr Davies, ac fod y fiaith ei fod wedi dyfod i'r cyfarf d o dan y fath anfanteixion yn profi hyny. Yr oedd yn nghyfarfod sefydliad Mr Davies, a gwell oedd ganddo hwnw na hwn. Yr osdd Mr Davies wedi bod yn y lie am dleng mlynedd, ac yn ystod yr arnser hyny wedi ffurfio llnaws o gysylltiadau agos iawn, a diau ganddo fod y rhai hynv yn gwibio trwy feddwl Mr Davies y noswaith hono. Da oedd ganddo feddwl y cawsai eto weled Mr Davies, obleg,d eu bod vn yr un cyfundeb.—Y nesaf i anerch y gynull- eidfa oedd Mr WILLIAMS, ysgolfeistr. Yr oe ld ef yno ar ran y bobl ieuainc, ae yr oeddynt oil yn flin fod eu hanwyl weinidog yn ymadael. Dacthai Mr Davies, fel yntau, o'r Dehendir, ac nid oedd dim ond pobl dda yn dyfod o'r Deheudir. Dymunai ef bob llwyddiant i Mr a Mrs Davies a'r plant.—Yna galwodd y Cadeirydd ar y Parch R. CURRY (W.) Dywe,lai ei fod yn sior na feddyliodd Mr Davies erioe i fod gand fo g-ymaint o gyfedlion cyn y noswaith hono. Cre lai ef fod trefn y Wesleyaid yn well na'r un drefn o dan haul, oblegid ei bod yn rhoddi cyfleusdra i ddyn symud os na fyddai ef yn hoffiyr eglwys, non yr eglwys yn groes iddo ef. Yr oedd yn sicr fod Mr Davies yn teimlo* wrth ymadael fel yr oedd efe ei hun yn teimlo. Llawer o bobl i'w cael yn canmol y gweinido/ ar y dechreu, ond yn ceisio ei labyddio cyn pen ychydig amser. Llawer yn meddwl r.a,doestrondiau na blinderau yn dyfod yn agos i'r gweinidog, ond camsyniad mawr ydyw hyny. Yr oedd Mr Davies, fel yohn, yn gwvbod beth ydyw metha cysgu y nos. a bwytt bara gofidiau oblegid rhai pobl. Bu ef (Mr Curry) unwaith yn ceisio boddloni pawb, ond erbyn hyn wedi rhoddi y cyfan i fyny fel bad job. lesu Grist yn methu bo d'oni pawb, a pha debycaf fyddo y gwas i'r Meistr, mwyaf anhawdd fydd iddo foddloni pobl. Methodd Mr Davies a boddloni pawb yn Llanfyllin er fod ugeiniau yno yn flin o galon am ei ymadawiad, rhaid oedd dyw 'yd y gwir, a'i ddyweyd yn eu gwydd, fod yno rai nad oedd yn flin ganddynt o gwbl ei tod yn ymadael. Dynion odd oedd dynion fel hyn. Dymunai ef bob cysur i Mr a Mrs Davies a'r plant yn Llanbrynmair.—Yna cafwyd yehydig eiriau gan Mr BftYAN, nrgraffydd, ac un o ddiaconiaid yr eglwys. Yr oedd efe wedi bod o dan weinidogaeth pump o weinidogion, ac wedi bod mewn pump o gyfar- fodydd ymadawol; ond yr oeld yn teimlo cymaint yn hwo ago yn yr un ohonynt. Bydd yn byfrydwch ganddo wyliecl sjmu iiadau Mr Davies bob amser, ac i ddeall ei fod yn llwyddo. Wedi hyn darllenwyd vr anerchiad vr oedd yr eglwys yn ei gyfl-vyno i Mr Davies. Illuminated address yd. oedd, ac yr oedd yn edrych yn hardd ac yn brydferth. Wedi i Mr C. R. JONES ddarllei yr anerchiid, dy- wedodd Y mae cynwys yr anerchiad yn cynrychioli teimlad a phrofiad yr eglwys. Da genyf feddwl nad yw Mr Davies yn myned yn rhy bell i ni gael gafacl arrio eta, felly cawn ei glywed yn y pwlpud hwn eto yn achlysuro1. L'awer o weinidog ion wedi bod ar yr eglwys hon, ae yr oeddynt oil yn rhai teilwnr, er i rai ohonynt wyro oddiwrth y ffydd on I ni raid i'r un eglwys fod a chywilydd ohonynt. Dysgwyliai ef glywed llais Mr Davies eto o'r pwlpud yn Pendref. Yna cyflwynodd Mr Jones yr anerchiad i Mr Davies, a rhoddodd Mr Homes Evans, un o ddiaconiaid yr eglwys, bwrs i Mr Davies yn cynwys y swm anrhyd- eddus o .£21 17s, fel arwydd o barch a theimlad yr eglwys tuag ato. Yna atebodd Mr DAVIES mewn teimladau dwys a thoddedig fel y canlyn Os y byddaf yn ddyryslyd yn eich anerch heno, y rheswm yw fod fy nlieimladau yn cymylu fy neall. Yr oedd yn teimlo cymaint fel y gallai si irad ar bob phase i'r pwnc. Edrych-d yn ol at y cyfarfod y sefydlwyd pf end nid oedd ond dau yn bresenol y noswaith hono ag oedd yn y cyfarfod sef. ydliad, set y Parch W. L. Evans, Penybont, a Mr C. R. Jones. Gwelai fod mwy yn ei gyfarfod ymadawol nag yn ei sefydliad, yr hyn a brofai nad oedd eu parch tuag ato yn llai. Da oedd ganddo feddwl nad oedd yr eglwys wedi myned yn llai o dan ei weinidogaeth. Yn ystod y deng mlynedd derbyniodd 216 i gvflawn aelod- aeth. Ymadawodd 124 trwy lythyrau. Claddwyd 60. Felly yr oedd y cynydd yn 32. Ac yr oedd hyn yn hynod pan yr ystyriwn fod poblogaeth y lie yn lleihan yn gyflym. Yr oedd wedi priodi hefyd cynifer a 77. Dywedodd Mr Davies nas gall byth anyhofio Llanfylliu a'i gysylltia iau. "Anghofied fy neheulaw ganu, glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau, cynyr anghof- Jaf y lie hwn." Diolchai i bawb am eu caredigrwyd I —i'r gwahanol enwadau am eu presenoldeb a'u cymer- adwyaeth. Crefai am fwy o undeb a chydweithrediad yn mhlith crefyddwyr. Teimlai ei fol yn colli llawer o bethau wrth ymadael & Llanfyllin-col i melusder y gymdeithas, &c. Rhaid oedi i bobl Llanbrynmair d lerbyn trwy ffydd yr hyn mae pobl Llanfyllin yn ei wybod trwy brofiad. Wrth derfynu, dywedai-" Yr wyf yn dymuno llwydditnt i bawb; undeb a chyd- weithrediad fyddo yn eich plith, a llwyd liant o fewn eich palasau, a Duw yr heddweh fyddo gyda chwi 011," Ar ol hyn pasiwyd diolchgarwch i'r Cadeirydd ac wedi canu penill gofynwyd am fendith ar y cyfarfod gan v Parch D. Curry. Mae Mr Davies wedi llanw ei gylch yn Llanfyllin yn hynod o alluog. Nid peth bach oedd llanw pwlpud y dysgedig Dr Lewis, y sersphaidd William Morris, v t inllyd a'r gweithgar David Morgan, a'rpar a'r difril'ol D. Milton Davies. Eiddunwn i Mr a Mrs Divies a'r plant lawer o gysur a llwyddiant yn Llanbrynmair. Hen eglwys barchu3 ydyw Llanbrynmair, lie mae cewri wedi bod yn cy- hoeddi y newydd am Grist a'i waed. Da ydyw gw-?led dynion yn dringo i fyny; felly am Mr Davies, ar i fyny mae yn myned o le da i le g- oil. Duw yr hedd- weh fyddo gydag ef bendith yr Ysbrv-d Glan fyddo ar ei weinidogaeth, a nawdd y Nef fyddo drosto ef a'i deulu tra byddont byw ar y ddaear. Llanwddyn. J. VERNWY MORGAN. O.Y.—Yr oedd vn bresenol yn y cyfarfod hefyd yr Ys^rifenydd a'r Parch W. R. Edwards, Sardis, ond ni chawsant gyfleusdra i siarad.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
"GREEN MOUNTAIN ASTHMA CUEE — Anfonirtiniau bychain yn rliyjcl Irwy y liytliyrdy am ls2c.- K. NEWBEI1V, a'i FE115ION, 1, Kiuf? Edwari-aticct, LLuudain Sol'ydlwyd yn y flwyddyu 1746.