Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

CYMDEITHAS DDARBODOL GWEINIDOGION…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMDEITHAS DDARBODOL GWEINIDOGION YR ANNIBYNWYR YN NGHYMRU. Yn unol ag hysbysrwydd blaenorol, cafwyd cyf- arfod yn nglyn a'r mudiad uchod yn Ysgoldy Soar, Merthyr, dydd Gwener, Gorphenaf 25ain, 1884. Yr oedd yn bresenol y Parchn J. Thomas, P. W. Hougb, D. C. Jones, a D. G. Williams, Merthyr L. P. Humphreys, Abercanaid; T. Morris a J. T. Jones, Dowlais T. J. Hughes, Maesycwmwr T. Rees, Sirhowi; D. Silyn Evans, Aberdar; R. Rowlands, Aberaman; W. I. Morris, Pontypridd J. R. Williams, Hirwaun D. Jones, Cwmbwrla; R. Thomas, Glandwr; T. Dennis Jones, Plasmarl; D. Thomas, Llanybri; D. Morgan, Resolven; W. C. Davies, Llantrisant M. Jones, Blaenrhondda R. Thomas, Penrhiw- ceibr; J. C. Evans, Gilfach Goch; D.P.Jones, Cwmrhos; D. G. Evans, Harlech; L. Williams, Bontnewydd; W. Charles, Rhymni; J. H. Williams, Dowlais; a W. Morgan, Coleg Aber- honddu. Dewiswyd Mr Rowlands, Aberaman, yn gadeir- ydd, a dechreuwyd trwy weddi gan Mr Davies, Llantrisant. Neillduwyd Mr Jones, Plasmarl, i gofnodi y cyfarfod, ac yna aed yn mlaen a'r gwaith. Wedi cael hanes y mudiad hyd yn hyn gan Mr Thomas, Glandwr, a chyfeiriad caredig a phriodol at y cynyg wnaed flynyddau yn ol at sef- ydlu cymdeithas i amcan cylfelyb, a nodi ein cred- iniaeth fod addfedrwydd mwy yn ein plith am y fath symudiad i ffynu y dyddiau hyn, penderfyn- wyd yu unfrydol— Fod Cymdeithas Ddarbodol i gael ei sefydlu yn ein plith, a'n bod ni fel cyfarfod yn ymffurfio yn bwyllgor i roddi cychwyniad a bodolaeth i'r cyf- ryw ar unwaith. Cafwyd ymdriniad lied helaeth a maith ar v rheolau a anfonwyd er's rhai misoedd yn ol i agos holl weinidogion yr Enwad yn Nghymru, a phas. iwyd hwynt wedi gwneyd ychydig gyfnewidiadau. Yr unig gyfnewidiadau teilwng o'n sylw ymayw— Rheol 5.—Ychwanegwyd ar ol yr ymadrodd .£1 yn flynyddol," neu 10s 6c yn haner blynyddol. Hefyd, ychwanegwyd rheol i'r perwyl yma- Rheol 17.—Fod pob annealldwriaeth a all godi i'w derfynu drwy gyflafareddiad. Dewiswyd pwyllgor am y flwyddyn ddyfodol, a dymnnir hysbysu yn y fan hon nad ydyw y pwyll- gor mor gynrychiadol o holl siroedd a chyrau y wlad ag y byddai yn ddymunol genym, ond fel y barnwyd mai gwell eyfyngu y pwyllgor eleni o fewn cylch y brodyr oeddynt wedi ysgrifena neu ddyweydeubod yn bwriaduymuno a'r gymdeithas. Cadeirydd: Parch Josiah Jones, Machynlleth. Ysgrifenydd: Parch R. Thomas, Glandwr. Trys. orydd: Mr Thomas Williams, Y.H., Merthyr; Pwyllgor: Parchn T. J. Hugbes, Maesycwm- wr; W. Griffiths, Cendl; W. I. Morris, Pontypridd; R. Rowlands, Aberaman J. R. Williams, Ilirwaun D. G. Davies, Glyn nedd D. Jones, Cwmbwrla; T. Johns, Llanelli; W. Davies, Llandilo; D. Thomas, Llanybri; D. P. Jones, Cwmrhos; J. Silin Jones, Llanidloes; J. Pritchard Corwen; D. Oliver, Treffynon; L. Williams, Bontnewydd a W. V. Davies, Moelfro. Gohiriwyd dewis ymddiriedolwyr. Bydd i'r pwyllgor uchod ffurfio nifer o reolau neillduol etc, ond byddant yn ddarostyngedig i farn ac ymgynghoriad cyfarfod cyffredinol yn ol llaw. Penderfynwyd ein bod yn gwneyd cais at Bwyllgor yr Undeb yn Llanelli am gania,t-id i alw sylw at ffurfiad y gymdeithas, a nodwyd Mri Morris, Pontypridd, a Williams, Bontnewydd, i'w ddwyn i sylw yno. Wedi diolch i'r cyfeillion yn Soar am fenthyg yr ysgoldy, ae i'r Cadeirydd, terfynodd Mr Jones, Blaenrhondda, drwy weddi. Hyderwn y bydd y gymdeithas hon yn cymhell ei hun i ffafr yr holl frawdoliaeth. Plasmarl. T. DENNIS JONES, Ysg. Cofnodol.

. ABERAMAN.

Advertising

YSGOL RAMADEGOL CAERDYDD.I

Family Notices

[No title]