Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YR YSGOL SA-BBOTHOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

YR YSGOL SA-BBOTHOL. Y WERS RHYNGWLADWRIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. AWST 17.—Marwolaeth Absalom.-2 Samuel xviii. 24-33. Y TESTYN EURAIDD-" Canys Moses a ddy- wedodd, Anrhydedda dy dad a'th fam a'r hwn a felldithio dad neu fam, bydded.farw y farwol- aeth.Marc vii. 10. RHAGARWEINIOL. PAKHAODD y gwrtbryfel am dri mis. Cymerodd Absalom feddiant o Jerusalem, a choronwyd ef yn frenin yno. Yr oedd Dafydd a'i ganlynwyr wedi ffoi i Mahanaim ar yr ochr ddwyreiniol i'r Iorddonen. Daeth llawer ato i'w gynorthwyo, fel o'r diwedd yr oedd yu alluog i ymfyddino yn erbyn Absalom. Ewyllysiai Dafydd i fyned allan i arwain ei fyddin, ond darbwyllwyd ef i aros gartref. Aeth Absalom allan gyda'i fyddin, ac yr uedd yn llawer lluosocach na byddin Dafydd. Yr oedd y frwydr, yr hon oedd i benderfynu pwy oedd i lywodraethu, ar gael ei hymladd yn ngboed Ephraim. Dy wedir gan Josephus i Dafydd anerch ei fyddin a gweddio drostynt, a dymunai iddynt gymeryd gofal rhag gwneuthur niwed i Absalom. Ciwn iddo mewn modd neillduol anerch Joab, ac Abisai ac Ittai, gan ddywedyd, Byddwch esmwytb, er fy mwyn i, wrth y llanc Absalom." Ymladdwyd brwydr waedlyd, a throdd y flldd- ugoliaeth o blaid byddin Dafydd. Lladdwyd ugain mil o ganlynwyr Absalom. Darostyngwyd y y gwrthryfel, a lladdwyd Absalom ei hun. Fel yr oedd yn prysuro i ddianc, gan farchogaeth ar ful, glynodd ei wallt ef yn nghangenau derwen fawr, "felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a'r ddaear, a'r mul oedd dano ef a aeth ymaith." Pan glywodd Joab hyn, prysurodd i'r fan, a tbrywanodd ef & thair o bicellau a'r deg llanc oedd yn gwasanaethu ar Joab a gwblasaat ei farwolaeth, ac a'i tynasant oddiar y pren gan ei fwrw i ffos, ac a osodasant arno garnedd geryg fawr." Profodd y gwallt yr ymogoneddai gymaint ynddo yn fagl iddo. Y mae galar dwys Dafydd am y mab drwg hwn yn un o'r rhanau mwyaf effeithiol o hanes amrywiaethol "mab Jesse" i gyd. ESJBONIADOL. Adnod 24—"A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth: a'r gwyliedydd a aeth ar nen y porth ar y mur, ac a ddyrcbafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele wr yn rhedeg ei hunan." Arosai Dafydd yn Mahanaim, gan ddysgwyl yn bryderus y newydd o faes y rhyfel, ac y mae yn amlwg fod ei feddwl yn benaf gydag Absalom. Teimlai yn hyderus am fuddugoliaeth, ond ofnai i rywbeth ddygwydd i'w fab. A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth. Adeiledid yn gyffredin ddau boith wrth y fynedfa i ddinas gaerog er mwyn ei gwneyd yn fwy cadarn, gan mai ar y fynedfa yr ymosodid yn fwy penderfynol mewn adeg o warchae. Rhwng y ddau fur byddai ydtafell. Mewn ystafell felly yr oedd Dafydd. Yn y twr ar nen y porth yr oedd y gwyliedydd yn e irychyn giaffus a welai rywnn yn dyfod a newydd o faes y frwydr. Ac wele wr yn rhedeg ei hunan. Yr oedd dau wedi cychwyn i gludo y newydd-Abimaas a Cusi, yr Ethiopiad ond yr oedd Abimaas wedi cael > blaen ar Cusi, fel mai un a welal y gwyliedydd. Adnod 25 —"A'r gwyliedydd a waeddodd, ac a fynegodd i'r brenin. A'r brenin a ddywedodd, Os ei hun y mae efe, cenadwriaeth sydd yn ei enau ef. Ac efe a ddLeth yn fuan ac a nesaodd." Pan ddeallodd y brenin mai nn oedd yn dyfod, tynodd y casgliad mai newydd da oedd ganddo. Pe buasai yn dianc o'r rhyfel, buasai ereill yn rhedeg gydag ef. Adnod 26.—" A'r gwyliedydd a ganfu wr arall yn rhedeg; a'r gwyliedydd a alwodd ar y porthor, ac a ddywedodd, Wele, wr arall yn rhedeg ei hunan. A dywedodd y brenin, Hwa hefyd sydd genad." A'r gwyliedydd a ganfu wr arall, sef Cusi. Porthor. Gwaith y porthor ydoedd agor a chau y pyrth. Y mae y gwyliedydd yn ei hysbysu ef er mwyn iddo fynegi i'r brenin. Trwy redegwyr buan fel hyn yr anfonid brys-newyddion am ddygwyddiadau bynod. Adnod 27.—"A'r gwyliedydd a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaas mab Sadoc. A dywedodd y brenin, Gwr da yw hwnw, ac a chenadwriaeth dda y daw efe." Fel yr oedd y rhedegwr blaenaf yn agosau, adnabu y gwyliedydd ef fel Ahimaas, mab Sadoc. Sadoc ydoedd archoifeiriad o linach Eliazar, ac yn gyfaill i Dafydd. Profodd ei bun yn ffyddlon iddo yn y gwrthryfel hwn. Gwyddai Dafydd na buasai mab ei hen gyfaill yn prysuro i gludo newyddion drwg, ac y mae yn cael ei gadarnhau mai cenadwriaeth dda oedd gan y rhedegwyr. Adnod 28.—"Ac Ahimaas a alwodd, ac a ddy- wedodd wrth y brenin, Heddwch ac a ym- grymodd i lawr ar ei wyneb ger bron y brenin, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a warchaeodd ar y gwyr a gyfod- asant eu llaw yn erbyn fy arglwydd frenin." Mor awy^dus ydoedd Abimaas i gyhoeddi y newydd fel y maeyn gwaeddi yn gyntaf, Heddwch -Shalon, hyn yw, pobpeth yn dda. Wedi dyfod yn ddigon agos, y mae yn llefaru. Dengys ei ysbryd crefyddol trwy gydnabod rhagluniaeth Duw yn y fuddugoliaetb, ac yna llongyfarcha y brenin oddiwrth fod ei wrtbwynebwyr wedi eu darostwng. Ymgrymodd i lawr ar ei wyneb i ddangos ei barch i'r brenin, yr hwn oedd eto wedi ei sicrhau ar orseld Israel. Adnod 29-" A'r brenin a ddywedodd, Ai diangol y llanc Absalom ? a dywedodd Ahimaas, Gwelais eythrwfl mawr, pan anfonodd Joab was y brenin a'th was dithau, ond ni wybum i beth ydoedd." Y mae ffurf gofyniad y brenin yn dangos ei anwyldeb at Absalom. Geilw efy llanc, fel pe buasai ei ieuenctyd yn rhyw esgusawd am ei ymddygiadau. Y mae yn amlwg hefyd ei fod yn ofni y gwaethaf; ond nid oedd Ahimaas yn barod i roddi y newydd am lofruddiaeth ei fab. Try y gofyniad heibio. Ei genadwri of ydoedd hysbysu am y fuddugoliaeth yr oedd byddin y brenin wedi ei henill, ac y mae am gadw at hyny. Pan anfonodd Joab was y brenin a'th was dithau. Yn ol cyfieith iad y Vulgate-Pan yr anfonodd Joab, gwas y brenin, fi dy was. Adnod 30—"A'r brenin a ddywedodd, Tro heibio; saf yma. Ac efe a dfodd heibio ac a safodd." Gorchymyna y brenin i Ahimaas sef j 11 gyda'r rhai oedd o'i amgylch, fel y gatlasai gael ei wobrwyo am ei wasanaeth. Yna dychwela i ddysgwyl am newyddion y rbedegwr arall a ganfyddai y gwyliedydd. Adnod 31.—" Ac wele Cusi a ddaeth. A dywed- odd Cusi, Cenadwti, arglwydd frenin: canys yr Arglwydd a'th ddialodd di heddyw ar bawb a'r a ymgyfododd i'th erbyn." Yr un newydd oedd ganddo yntau ac Ahimaas. Rhydd y brenin iddo yntau yr un gofyniad am Absalom. Adnod 32.—"A dywedodd y brenin wrth Cnsi, A ddiangodd y llanc Absalom ? A dywedodd Cusi, Fel y llanc hwnw y byddo gelynion fy arglwydd frenin, a'r holl rai a ymgyfodant i'th erbyn di er niwed i ti." Nid ydyw Cusi yn teimlo yr un petrusder i ateb ag ydoedd Abimaas. Tybiai hwyrach ei fod yn newydd da. "Nid ydyw yn dywedyd wrtho yn amlwg ei fod wedi ei drywanu, ac wedi ei gladdu dan garnedd o geryg ond yn unig bod ei dynged yr hyn a ddymunai fod tynged pawb ac oeddynt yn fradwyr yn erbyn y brenin, ei goron a'i fawrhydi." Adnod 33.—"A'r brenin a gyffrodd, ac a aeth i fyny i ystafell y porth, ac a wylodd: ac fel byn y dywedodd efe wrth fyned 0 fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom o na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab, fy mab." Y mae Dafydd yn gymaint o dad, fel y mae yn anghofio ei fodyn frenin, am hyny nis gall lawenhau yn y newydd am y fuddugoliaeth." Pan glywodd am dynged Absalom, y mae ei natur yn ymollwng, ac y mae yn wylo yn dost. Wrtb fyned i fyny i ystafell y gwyliedydd er mwyn bod ar ei ben ei hun, a lie y gallasai roddi ffordd i'w deimlad. Clywid ef yn dywedyd, "0 fy mab Absalom, fy mab," &c. Diau fod galar Dafydd mor ddwys oherwydd ei ofal am gyflwr Absalom, a'r ymdeimlad nad oedd yntau wedi rhoddi yr esiampl oreu iddo. GWERSI. Y mae pechod yn rbwym o esgor ar dristwch' Y mae hyn i'w weled yn amlwg yn banes Dafydd. Y mae ysbryd balch ac uchelfrydig yn rhwym yn y pen draw o arwain i ddinystr. Y fath ddiwedd truenus a ddaeth i Absalom. Yn ei fywyd, nid oedd yn gofalu am neb ond am dano ei hun pan ddaeth i'r prawf, cafodd nad oedd neb yn gofalu fawr am dano yntau. Cawn olwg yma ar nerth cariad. Yr oedd calon Dafydd yn ymglymu am Absalom er y cwbl. Dyma gysgod o gariad Duw at bechaduriaid. GOFYNIADATJ AR T WEBS. GOFYNIADAU AR Y WEBS. 1. Pa foddy llwyddodd Dafydd i gael byddin i fyned yn erbyn Absalom ? 2. Yn mha le yr ymladdwyd y frwydr ? Beth oedd gorchymyn neillduol Dafydd i'w gadfridog- ion? s 3. Pa fodd y lladdwyd Absalom ? 4. Yn wha 10 yr oedd Dafydd ar y pryd? V. Pabam na fuasai yn myned allan i arwain ei fyddin ? 5. Pwy ddygodd i'r brenin y newydd gyntaf am fuddugoliaeth ? Paham na fuasai yn hysbysu y ffaith am farwolaeth Absalom ? 6. Pwy oedd Cusi ? Pa fodd y mae ef yn hysbysu y ffaith am farwolaeth ei fab i'r brenin ? 7. Pa ddylanwad a gafodd y newydd ar feddwl y brenin ? 8. Paham yr oedd galar Dafydd mor ddwys ar ol ei fab Absalom ?

— SOAR, MERTHYR.

Advertising