Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dydd Iau diweddaf y dygwyd y Senedd-dymhor eleni i'r terfyn, ac yn unol a'r arferiad ar achlysuron felly, cafwyd yr hyn a elwir yn Araeth y Frenines. Fel rheol, ceir dwy araeth yn mhob Senedd-dymhor—y naill ar ei ddechreu, yn yr bon yr hysbysir y mesurau a fwriedir ddwyn ger bron, a'r Hall ar ei derfyn, yn yr hon yr adolygir y gwaith a gyflawnwyd; y nam yn broffwydoliaeth, a'r Hall ynifaith. Araeth y Frenines y gelwir hi, ond gwyr y rhan fwyaf mai cynyrch meddwl y Cabinet ydyw, a'r Prif Weinidog yn benaf, fel rheol. Y mae yn rhaid cael cydsyniad y Frenines iddi, ac y mae y foneddiges a eistedda yn bresenol ar Orsedd Prydain yn bur ofalus wrth ba beth y rhydd ei Haw. Gwneir i fyny ddeddfwrfa ein gwlad o dair adran, sef Ty y Cyffredin, Ty yr Arglwyddi, a'r Frenines, ac nid oes yr un mesur yn dyfod yn ddeddf nes y bydd wedi cael cymer- adwyaeth y tri. Ar ddechreu a therfyn 'pob tymhor, gwelir y Prif Weinidog, ac un arall o'r Cabinet weithiau, yn prysuro tua Chastell Windsor, neu rywle arall y dygwyddo Ei Mawrhydi fod ynddo ar y pryd, a gwyr y cyfarwydd mai y neges ydyw cyflwyno i'w sylw yr Araeth fydd yn dwyn ei henw. Darllena hithau yr Araeth yn fanwl, ac weithiau arfera ei bawl i wrtbwynebu ambell i beth a fyddo ynddi; ond fel rheol, mae yn ddigon doeth i gydsynio a'r hyn a fynegir. Ond na feddylier mai goddefol hollol ydyw .fo bob amser. Mae pob mynegiad o bwys yn cael ei chydsyniad ewyllysgar, os nad calonog hefyd. Mae Araeth y Frenines a ddarllenwyd gan yr Arglwydd Gangbellydd, dydd Iau diweddaf, yn meddn rbyw gymaint o arbenigrwydd a newydd- deb. Y peth cyntaf a wna Ei Mawrhydi ynddi ydyw datgan ei gofid didwyll fod rhan fawr o Jafur y Senedd yn ofer, gan gyfeirio yn ddiau at waith Ty yr Arglwyddi yn taflu allan Fesur yr Etholfraint. Dyma fynegiad hyf a diofn, a barna y rhai a gymerant arnynt wybod y dirgelion mewn pethau fel hyn fod gwir deimlad ei chalon yn y geiriau, ac o ran hyny ni raid i neb-betruso llawer yn nghylch y peth, oblegid sicr yw na adawsai hi eiriau mor gryfion i ddianc o'i llaw heb eu bod yn fynegiad gonest o'i theimlad. Pur ) debyg y gwna hyn anfoddlotii y Toriaid yn fawr, ac y ceir gan ambell un ohonynt awgrymiadau i'r perwyl y dysgwylid pethau amgen oddiwrtbi hi; ac o bosibl y gwna ambell i Dori sydd yn dra gofalus o deimladau y Frenines awgrymu mai cael ei gorfodi a ddarfu gan ormes a thrais y pen- gormeswr William Ewart Gladstone. Dyfaler a dyweder a fyner, dyna'r ffaith; mynega Ei Mawrhydi ei gofid pur fod rhan mor fawr o lafur y Senedd-dymhor heb ei sylweddoli yn ddeddf. Llwyddodi y Toriaid yn y Ty Cyffredin i dreulio cymaint o amser wrth ddadleu a gwrthwynebu Mesur yr Etholfraint, fel na chaed amser at y mesucau addawedig ereill, a gwnaeth Toriaid Ty yr Arglwyddi daflu allan yr unig fesur mawr a ddaeth o'r Ty Isaf, nes rhyngddynt a'u gilydd llwyddasant i gael Sesiwn ddiffrwyth. Hyny eedd en hamcan, a bwriadant trwy hyny ddrygu y Weinyddiaeth yn ngolwg y wlad. Amser a ddengys a lwyddant i hyny. Mae yr arwyddion presenol i'r gwrthwyneb yn hollol. Gall y Senedd-dymhor diffrwyth ymddangosiadol hwn brofi y mwyaf ffrwythlon o wir ddiwygiad gwladol a welwyd er's llawer blwyddyn. Er nad oes ond ychydig o fesurau wedi pasio yn ddeddf, a dim un o'r eyfryw yn cael ei ystyried yn un mawr, eto mae yn ddigon posibl, ac yn dra thebygol hefyd, fod gwaith mawr a gwirioneddol wedi ei wneyd. Mae yr Arglwyddi Toriaid drwy daflu allan brif fesur y tymhor-niesur oedd i ryddhau dwy filiwn o'r boblogaeth-wedi galw sylw at eu Ty yn y fath fodd na adewir llonydd iddo nes cael cyfnewidiad pwysig ynddo, a'i ddwyn yn fwy cydrhywiol a chorff y bobl. Gwneir llawer i oleuo y bobl mewn gwleidydd- iaeth, a rhoddir achlysur iddynt i ddatgan eu barn am bersonau a sefydliadau a gawsant lonydd am dymhor oni bai am hyny. Nage, nid Senedd- dymhor diffrwyth a fu y diweddaf. Gwnaeth fwy, mi a hyderaf, i brysuro deddfwriaeth na'r un Senedd-dymhor a fu er's haner can' mlynedd. Mae llygaid y bobl wedi ej hagoryd, nid yn unig at ymddygiad y Toriaid yn Nby yr Arglwyddi, ond hefyd at ystrywiau gwaradwyddus Toriaid y Ty Cyffredin er ceisio atal gwaith, a chant weled na oddefir iddynt sefyll ar ffordd hawliau y bobl. Gelynion penaf dyn yw tylwyth ei dy ei hun, medd Awdurdod uchaf y bydysawd, ac y mae yn llythyrenol wirionedd am Dy yr Arglwyddi. Mae Ardalydd Salisbury wedi gwneyd mwy i brysuro dinystr y Ty hwnw na'r un dyn yn fyw. Ei ewyllys ef yn benaf a gariwyd allan yn y cwrs a gymerwyd ar Fesur yr Etholfraint, ac a ydyw un dyn felly i wrthsefyll Ilais ac ewyllys miliynau y bobl ? Nid oes berygl. Mae yn ormod o'r dydd o lawer, ac os nad wyf yn camgymeryd yn ddirfawr, unol lef y bobl fydd, Ymaith 4 Thy yr Arglwyddi yn ei ffurf bresenol." Mae y rhyfel wedi dechreu o ddifrif. Bu gan y Rhyddfrydwyr gyfarfodydd a demonstrations ar- uthrol yn Llundain, Manchester, a Birmingham, heb son am ganoedd o leoedd llai drwy Gymrn a Lloegr. Teimlid dyddordeb neillduol yn nghyf- arfodydd Manchester a Birmingham, am y gwyddid fod dau lais v Cabinet, sef Hartington a. Chamberlain, i siarad ynddynt—y blaenaf yn Manchester a'r olaf yn Birmingham. Pendefig yn hanu o hen deulu pendefigaidd y Due o Devonshire yw Hartington, a bydd cyn bo hir yn aelod o Dy yr Arglwyddi ei hunan. Gwr cymedrol a goehelgar yw efe-un yn symud yn wyliadurus a gofalus, eto yn symud, ac yn symud yn gyflym- ach nag y meddyliodd ei gefnogwyr mwyaf selog pan apwyntiwyd ef er's rhai blynyddoedd yn ol yn arweinydd y blaid Ryddfrydig yn y Ty Cyffredin yn lie Mr Gladstone, yr hwn a ymddeolodd dros dymhor. Ni ddysgwylid iddo ef ddyweyd dim yn eithafol, a chynghorai y bobl i feddianu eu hunaiD, a pharhau i geisio gan yr Arglwyddi basio y mesur. Mynegodd yn ddiamwys ei farn y byddai cyfnewidiad yn angenrheidiol yn fuan. Yr oedd Mr Bright gydag ef yno, a chyda Mr Chamberlain yn Birmingham. Nid oedd bloesgni ar dafod Mr Chamberlain wrth son am yr Arglwyddi Tonaidd, a rhaid cydnabod mai ato ef, ac nid aty llais arall, yr edrycha y rhan luosocaf o'r blaid am ym wared llwyr rhag gorthrwm y Toriaid. Eto da cael y ddau yma yn y Cabinet-cadwant y cydbwysedd angenrheidiol. Mewn gwlad fel yr eiddom ni, rhaid gofalu cael gwelliantau; ond rhaid gofala hefyd na ddygir hwynt i fodolaeth cyn bod add- fedrwydd digonol iddynt. Yr oeddMr Chamberlain yn un o'i fanau goreu, a barna llawerfod ei araeth yr oreu eto a draddodwyd ar y mater. Nis gall lai na ddyga areithiau felly ffrwyth toreithiog, a gwnant lawer i glirio y ffordd ar gyfer y dyfodol. Nid oes gobaith am i ni gael y cyfnewidiadau angenrheidiol tra y goddefir i'r Arglwyddi fod fel y maent. Rhaid cael diwygiad yn rheolau y Ty Cyffredin, ac yn nghyfansoddiad Ty yr Arglwyddi, ac yna gellir dysgwyl am ddeddfwriaeth fyddo yn deilwng o wlad rydd. Mae llawer o gynrychiol- aeth Ty y Cyffredin yn sham, a phery felly tra y pery yr angenrheidrwydd am swm go dda o gyf- oeth cyn y gellir myned iddo. Nid yw y wlad eto yn addfed i chwildroad yn hyn, ond y mae yn graddol symud i'r cyfeiriad yma. Nid y Rhyddfrydwyr yn unig sydd ar y maes, ond y mae y cewri Toriaidd hefyd yn gwneyd hyny a allant i ddal eu tir, ac i gadw y gelyn yn ol. Bu Ardalydd Salisbury ac Arglwydd Randolph Churchill, a goleuadan llai, yn Pomona Gardens, yn y very man ag y bu Bright a Hartington ychydig cyn hyny yn cynal cyfarfod cyhoeddns, a chawsant nifer mawr yn nghyd gan fod y tywydd yn braf, ac awydd yn y bobt am glywed a gweled dau arwr y Toriaid. Nid oedd dim newydd yn eu hareithiau-yr hen haeriadau a'r hen ymosodiad- au-ac nid oedd gwawdiaeth Salisbury morfrathog ag arferol, nac ergydion Churchill mor daraw- iadol ag ar achlysuron ereill. Hwyrach fod agos- rwydd y ddau at eu gilydd yn effeithio ar eu nerth, oblegid gwyr pawb nad oes llawer o gariadyncael ei golli rhyngddynt. Synai llawer fod y ddau gyda'u gilydd, a pharod oedd ambell un i ddyweyd Y dwthwn hwnw yr aeth Pilat a Herod yn gyf- eillion." Dilynir esiampl yr arweinwyr hyn gan rai o'u canlynwyr, a daw ambell un i Gymru er ei goleuo a'i dwyn i'r iawn. Mae Raikes a Syr W. Hart Dyke, ac ereill, wedi bod mewn manau yn y Gogledd. Bu eyfarfod yn y Bala, yn yr hwn yr oedd Syr Watkin Williams Wynn a Syr W. Hart Dyke ac ereill. Un o brif amcanion y cyfarfod oedd cefnogi Mr Wynn o Beniarth fel ymgeisydd dros Feirionydd yn yr etholiad nesaf. Ei gefnder o Wynnstay oedd yn ei gynyg, a gwelais yn rhywle mai blaenor Methodistaidd oedd yn ei eilio. Go dda, onide ? Rhwng y barwnig a'r blaenor, tybed nad yw rhagolygon yr hen ymgeis- ydd o Beniarth yn ddysglaer ? Nid yw y rhyfel ond megys wedi dechreu eto. Cyn y cyferfydd y Senedd yn yr Hydref i gymeryd i sylw drachefn Fesur yr Etholfraint, bydd y wlad wedi ei chy- nhyrfu o ben bwy gilydd, a barn ddiamwys o bertbynas i Dy yr Arglwyddi wedi ei datgan. Cydnabyddir gan y Totiaid yn gystal a'r Rhydd- frydwyr ei bod yn crisis, a llynca y cwbl iddo ei hun. Nid yw yr Aipht a methiant y Conference o berthynas iddi yn meddu digon o atdyniad i gael sylw neb oddieithr ambell i Dori sydd am alw sylw y bobl oddiwrth brif bwnc y dydd. GWLEIDYDDWJS.

EBENEZER, DUNVANT.

YMYLON Y FFORDD. -