Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

CWM RHONDDA.

RHOSTYLLEN. -

AGE B LONG ATJ CAERDYDD.

TABERNACL, HIRWAUN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TABERNACL, HIRWAUN. CYFARFOD ORDEINIO. Yn y lie uchod, Sul a Llun, Awst y 3ydd a'r 4ydd, cynaliwyd cyfarfodydd urddiad Mr T. Edmunds, o Goleg Aberhonddu. Da genym ddwyn tystiolaeth i lwyddiant y cyfarfodydd hyn. Dydd Sul, drwy y dydd, bu y Parch R. Trevor Jones, Pant-teg, yn cyfranu i ni o fara y bywyd, ac yn wir yr oedd y gwirioneddau yn flasusfwyd o'r fath oreu. Dydd Llun, am 10 o'r gloch, pregethodd y Parch J. Davies, Soar, Aberdar, ar Natur Eglwys, ac yn absenoldeb Dr Morris, Aberhonddu, gofyn- wyd y cwefatiynau arferol i'r gweinidog ieuanc gan y Parch R. T. Jones, ac offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch J. Morgan, Cwmbaeh, a tberfynwyd y cyfarfod drwy waith y Parch T. George yn pregethu siars i'r gweinidog etholedig. Am 2 o'r gloch, pregethwyd gan y Parchn Thomas, Pen- rhiwceibr, a Williams, Canaan, yr olaf a bregeth- odd siars i'r eglwys. Gwyn fyd na fyddai pob eglwys Annibynol yn Morganwg yn cael ei chlyw- ed. Am 6 o'r gloch, pregethodd y Parcbn Williams, Castellnedd, a Williams, Omaan. Ni raid iddynt wrth gynieradwyaeth. Hefvd, cy- merwyd rhan yn y cyfarfodydd gan y Parchn Davies, Abercwmboy; Jones, Waunlwyd a Lewis, Treforris. Yn ychwanegol at y rhai a enwyd, gwelsom yn bresenol y Parcbedigion Morgans, Resolven; Evans, Brynmawr Jones, Llwynypia; Stephens, Beaufort Rees, Tredws- tan; Williams, Quaker's Yard; a Rees, Salem, Aberdar. Meistri D. Phillips, J. Price, Waters, Davies, Prothero, James, Walters, Morgan, Lewis a Rees, pa rai oeddynt fyfyrwyr o Aberhonddu a Thomas, Western'College. Dymunwn longyf- arch y gweinidog ieuanc ar ei waith yn cychwyn ei weinidogaeth dan amgylchiadau morddymunol. Caffed hir oes i lafurio yn y lie. CTPAILL. ♦

PETHAU NAS GWYR PAWB.

BETH DDYWEDIR YN NGHYMYDOGAETH…

Advertising