Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

ATHROFA ITEWDTAL A'l HANESIOiN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ATHROFA ITEWDTAL A'l HANESIOiN. GAN SILURYDD. PENOD XIV. AR foreu heulog yn y gwanwyn fe ddarfu i Mr. William Evans, y Poly, alw yn yr Athrofa. Gwr bychan, tua pump troedfedd a phedair modfedd, oedd Mr Evans teneu ei wyneb, ac a llygaid bywiog a threiddgar ganddo. Yr oedd yn wr enwog i adrodd hanesion am yr hen amserau, yn enwedig am wyr boneddig, eu liachau, eu dull o fyw, eu gwastraff, a'u ffoedig- aethau tua'r Gyfandir. Yr oedd efe hcfyd yn dipyn o fardd, ac yn areithiwr penigamp mewn clybiau; yr oedd hefyd yn lJed hyddysg yn y Criminal Law. Wedi iddo alw yn yr Athrofa, gofynodd i'r Doctor pa fodd yr oedd, a phil. bryd y deuai tua Porthyrhyd fod ei eisieu yn rhyfeddol yno i gau y ffin rhwng rhosfeydd y y 11 defaid a berthynai i Porthyrhyd a Chwmsaru- ddu a Chommons tlawd y diafol. Yr ydwyf yn cyfaddef," meddai, na fu neb yn debyg i chwi i gauad y ffin yno yn y dyddiau gynt rhwng Gosen y defaid a chreigie llwm Gilboa Satan." Erfyniai arno i ddyfod yno gyda brys. Bu Robin Ddu acw yn ceisio cauad y ffin yn ddyogel; ond pan ddaeth ffeiriau a marchnad- oedd mawrion Llanymddyfri oddiamgyleh, a rbai arwerthiadau (aitctioiis), fe aeth y defaid yn haerllug o eofn ac yn dra anhawdd eu trafod, ac i gyfeiliorni mewn crwydriadau mawrion hwnt ac yma; o ganlvniad, yr ydwyf yn gaiw gyda chwi, y bugail da, i ofalu dyfod" acw ar fyrder i grynhoi y praidd yn nghyd ger llaw y porfeydd gwelltog a'r dyfroedd tawel," O," meddai y Doctor, "y mae y Parch J. Morgan, Talyryn, y gvreinidog, genych at waith o'r fath, ac y mae efe bellach yn wr profiadol ac yn fedrus i drafod y defaid, a'u dychwelyd yn ol i'w corlanau." Addefodd Mr Evans fod llawer o rinweddau da yn perthyn i Mr Morgans; "ond nid yw staggro trwy yfed ac wrth deithio y ffordd tuag adref o ffair neu farchnad Llanymddyfri yn ym- ddangos yn bechodau atgas yn ei olwg, oblegid V mae e'e ei hun yn hoff o'r botel n'r fire liquids." Fe roddodd y Doctor addewid gysurus'i Mr Evans trwy ddyweyd y gwnelai addysg g iff red- inol wellhau y bob) gwna y gwybodaethau a gyfrenir yn y Grammar Schools, &o., oleuo y bobl, a pkeri iddynt ddeall nad yw yfed diodydd neu wirodydd meddwol yn angenrheidiol iddynt i fyw yn iaeh, dedwydd, hirhoedlog, neu i weithio yn galed na chyrhaedd llwyddiant. Y mae diodydd meddwol yn arwain i ysmoeio, i wastraff arian, amser, ac, yn y diwedd, naill ai i'r tloty neu i'r bedd yn anamserol. Mae yfed y diodydd meddwol yn cynyddu y dreth dlodi, yn amlhau tlodion, gwallgofioa, ac yn gosod dynion sobr a gwoithgar i dalu trethi trymion at eu cynaliaeth yn y tlotai a'r gwallgofdai. Meddyliai y Doctor y deuai y ffbrmni-yr, y gweithwyr, a'r boneddigion i weled hyn, ae y byddent yn defnyddio pob gallu a dyfais i atal yfed gwirodydd, &c. Siglo ei ben wuaeth Mr Evans wrth glywed hyn, a dywedodd ei fod wedi adrodd llawer o wir mewn theory, ond nid mewn arferiad. Blys ac nid rheswm sydd yn llywodracthu y miloedd., Y mae attractions y tafarndai yn fawr yno y mae yr ystafelloedd glan, y tåuau gwresog, yr ystor'iau difyr, y bazaars hudoliaethus, y clyb- iau yn cael eu cadw, y crwth neu y delyn yn cael eu chwareu, y tafarnwr gweaieithgar a llwynogaidd, a'r liuaws yn ymgasglu. Heblaw hyny,-y mae llawer o'r dynion dysgedig, ryw- fodd, wedi myned yn yfwyr mawr; y mac y meddygon, yr off'eiriaid, y cyfreithwyr, y cad- fridogion, a llawer o'r boneddigion yn bobl ddysgedig, ac y maent hefyd yn 3rfwyr ofnadwy. Atebodd y Doctor ef trwy ddyweyd fod rhifedi y meddwon, yn ol cyfartaledd y boblog- aeth, yn myned yn liai yn barhaus, ac mai eu cyfoeth a thynenveh eu mamau a ddinystriodd laweroedd o'r boneddigion. Ymadawyd a'r pwnc yna lieb olrhain ychwan- eg arno, a gofynodd y Doctor i Mr Evans a oedclynt j n bedyddio llawer yn Porthyrhyd y dyddiau hyny. "Nac ydynt ddim," ebe efe, eithr un yn unig fedyddiasaut er's e',IWC" mis, a bedyddiwyd hwnw yn hynod drwsgwl, oblegid ei faintioli a'i bwysau, canys ni fedyddiwyd ei ddwy benlin o gwbl yn yr afon," ac oblegid hyny gwnaeth jVJr Evans beniU i'r gwr fel yma:— Pechadur oedd y Cymro, Gwr anhawdd iawn ei drin, Fe'i trochwyd yn yr afon Hyd at ei ddwybcnlin Bydd rhyfedd gweled Cymro Yn oanu ar Seion fryn, A'r ddwy benlin yn dduon, A'r corff ond byny yn wyn. Gwenodd y Doctor ar ol clywed y peniit yna, a dywedodd, Pe buasent yn gwykod eich bod cliwi wedi diystyru eu bedydd, buaaech yn dra thebyg o gael eithaf trochfa gauddynt." O," meddai Mr Evans, Pe b'awn i ddim ond gwybod Fod dw'r yn golchi pechod. Mi awn i Towy, fel 'rwy' byw, Mi ymdrochwil dri diwrnod. Ar ol ychydig ymddyddan yn nghylch Porth- yrhyd, gofynodd Mr Evans iddo pa un ai y classics neu y mathematics oedd y fwyaf llesiol i wr ieuanc i'w dysgu. Meddyliai y Doctor fod yn angenrheidiol iddo i ddysgu y naill a'r llall ohonynt. Er fod y mathematics yn fwy sicr yn ei pkrofion na'r addysgiadau clasurol, meddyl- iai fod y Hall yn fwy awchlym a llesiol i ddad. blygu galluoedd y meddwl all an na'r mathe- matics. Felly hefyd y meddyiiodd yr enwog Dr T. Arnold, o Rugby. Mae darllen a deal] athroniaeth Plato ac ereill yn galetach dysgybl- aeth meddwl na dysgu 'Euclid, y differential a'r integral faculties; ond nid gwaith rliwydd yw meistroli y gweithiau diweddaf. Pe na ddysgid y classics, byddai bwlch helaeth o hanes y byd yn eisieu. Ni fyddem yn gwybod dim am eu fTurf-lywodraethau, eu masnach, eu syniadau am bethau, am wychder eu dinasoedd, tlysni eu beirdd, mawredd en liareithwyr a'u byddin- arweinwyr, euwogrwydd eu haneswyr, eu han- turiaethau morol a gwladwriaethol, &c., na dim ychwaith am eu celfyddydau mewn sculpture, paintings, a cherddoriaeth. Y mae gwybod am hanes Darius, Cyrus, Alexander Fawr, Hannibal a Julius Cesar, yn nghyda'r effeithiau a wnaeth- ant ar y byd y pryd hwnw, ac ar yr oesau dyfodol yn werth pwysig i'w wybod. Diolchodd Mr Evans iddo am ei foneddig- eiddrwydd, a chan fowio iddo, ymadawyd.

TAITH 0 LUNDAIN I GANOLBARTH…

--YMYLOlSr Y ITORDD. -