Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
10 erthygl ar y dudalen hon
LLANBEDR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANBEDR. Cynalivvyd Cyfarfod Chwarterol yn y lie uchod ar y 12fed a'r 13eg o Awst. Cynadledd am 7.30 boreu Mercher. Llywydd, Mr Evens, Aberaeron. Penderfynwyd- Fod y cyfarfod nesaf i fod yn Claracb, y Mawrth a'r Mercher cyntaf yn Nhachweld, a bod addysg ragbarotoawl ymgeiswyr i'r weinidogaeth i fod dan sylw yn y Gynadledd. Ein bod yn dymuno atnlygu ein cydymdeiralad a'n hanwyl frawd Mr Thomas, Penrhiwgaled, yn ei lesgedd presenol, ac yn mawr hyderu y ca ad- feriad buan, ac y cawn ei gymdeithas a'i wasan- aeth am fiynyddau lawer. Ein bod yn llawenhau fod Mr Jones o Pencader, gynt America, wediderbyn galvvad unfrydol oddi- wrth eglwysi Jerusalem, Canaan, a Phenartb, a'i fod yntau wedi ei hateb yn gadarnhaol. Dymun- wn ei gyflwyno ya wresog i'r frawdoliaeth yn Nbrefaldwyn. That this Conference, failing to regard the Lampeter meetings held respectively in June and July as a fair representative of the majority of the Liberal voters of the county, desires Mr Pugb, the hon. member, to retain his seat until the end of the present Parliament, so as to avoid a bye- election, and hope Mr Pugh will not fail to visit his constituents as soon as opportunity presents itself, and trust the declaration of his political creed will have the desired effect of uniting every section of the party. Pwnc y Gynadledd, "Cynydd mewn gras." Pregetbwyd gan Mri Williams, Llechryd; Lloyd, Gwernogle; Davies, Bethesda; Jones, Pencader; Evans, Aberaeron Parry, Llanbadarn; Morgan, Sciwen Prytherch, Wern; Edwards, Castellnedd; Miles, Aberystwyth; a Jones, Pea- clawdd. Cawsom gyrddau dymunol. Mae y frawdoliaeth yn Llanbedr yn edrych yn dra. llewyrchus. Hy- derwn y bydd ymweliad y Cyfarfod Chwarterol a'r lie yn sirioldeb i feddwl ein hanwyl frawd a'r bobl. J. M. P.
DAMWAIN ANGEUOL YN AOCW l'n…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DAMWAIN ANGEUOL YN AOCW l'n WYDDGKUG. Nos Iau diweddaf, taflwyd trigolion Caerwys ac Afonwen i gryn gyffro pan glywsant am ddam- wain ddychrynllyd ddygwyddodd mewn cysylltiad ag odyn galch perthynol i gwmni Afonwen. Rhywsut rhoddodd yr odyn ffordd, a cbwympodd y top i lawr, a chladdwyd dau o'r gweithwyr dan amryw dunelli o geryg. Buwyd tult dwy awr cyn dyfod o hyd i'r cyrfif. Enwaa y personau oedd John Rogers, 47 mlwydd oed, post office, Afonwen, a George Hughes, 80 oed.
,LLOFRUDDIO GWRAIG YN MANCHESTER.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLOFRUDDIO GWRAIG YN MANCHESTER. Nos Ian diweddaf, cymerodd llofruddiaeth ddychrynllyd le yn Chorlton-street, agos yn nghanol y ddinas. Enw y llofrudd yw Charles Blanchfield, 65 mlwydd oed, crydd wrth ei alwed- ig-aeth, ameddwyn o ran:arferiad. Daeth gartref nos Ian dan ddylanwad y ddiod, cwerylodd a'i wraig, ac yn nghanol y flrae trywanodl briod ei fynwes amryw weithiau gyda chylleU erydd, fel y bu farw o fewn yr awr, ac y mae'r gwr wedi ei draddodi i sefyll ei brawf am lofruddiaeth.
YMDDYGIAD ANWEDDAIDD OEPEIRIAD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YMDDYGIAD ANWEDDAIDD OEPEIRIAD. Yn Preston, dydd Gwener diweddaf, cafwyd offeiriad o'r enw John James Long yn eaog o ym- ddwyn yn anweddus tuag at ddwy o torched bychain chwech mlwydd oed. Nid oedd y tyst- iolaethau yn gyfryw ag y gellir gyda gweddusder eu cyhoeddi. Cat'odd ddeuddeg mis o garchar gyda chaledwaith.
MARWOLAETHAU TRWY FODDI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETHAU TRWY FODDI. Nid ydym yn cofio clywed am gynifer o fodd- iadau trwy ymdrochi er's blynyddau lawer ag eleni, a diau fod hyny i'w briodoli i'r tywydd braf ydym wedi ei fwynhau er's amryw wythnosau. Dechreu yr wythnos ddiweddaf aeth dwy chwaer ieuanc o'r eaw Batchelors, o Abertawy, i ym- drochi i Laagland yn agos i'r Mumbles. Gwelwyd eu bod mewn cyfyngder, ac aeth dau foneddwr allan i geisio eu hachub, a Uwyddwyd i ddyfocl ag un i'r tir yn fyw, ond cafwyd y Hall yn farw, a'r carlI yn noflo ar wyneb y dyfroedd, a dywedai y meddyg ar y ttengholiad, mai ofn a dychryn fu achos marwolaeth y foneddiges. Diwedd yr wyth- nos ddiweddaf boddodd un William Dunn wrth ymdrochi yn Porthcawl. Prydnawn dydd Gwe- ner diweddaf yo afon Teifi, boddodd Evan, mab Mr David Evans, C:oss Hands, Llandysul, wrth ymdrochi. Canol yr wythnos collodd bachgenyn o'r enw Thomas Williams, 13 mlwydd oed, ei fywyd wrth ymdrochi yn Llyn Paddy, Rhymni. Prydnawn Gwener syrtbiodd merch fechan i bwll o ddwfr pan yn chwareu gydag amryw creill yn agos i Glunmor Foundry, Llanelli, a boddodd cyn i neb lwyddo ei chael allan. Boreu Sabboth wyth- nos i'r diweddaf, boddodd dyn ieuanc with, ym- drochi yn Birmingham o'r enw James Field, 23 mlwydd oed. Yc oedd wedi trefnu i briodi yr wythnos hon.
YMGAIS I LOPRUDDIO TRI 0 SLANT,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YMGAIS I LOPRUDDIO TRI 0 SLANT, A HUNAN- LADDIAD. Dydd Sadwrn diweddaf cynaliwyd trengholiad yn y Trallwm, ar gorff un Elizabeth Adams, gwraig i saer, a mam i saitb o blanfc, a'r ieuengaf ohonynt ond saith mis oed. Mae yn debyg fod y druanes yn dyoddef poen arteithiol yn ei phen byth er genedigaeth y plentyn diweddaf, ac ar rai adegau byddai agos a myned yn wallgof gan- ddo. Noson cyn y gyflafan acbwynai yn nhý viti o'i chytnydogesau fod y poen agos a chymeryd ei phen oddiar ei chorff. Tranoeth tiflodd tri o'i phlant i'r camlas, a tbaflodd ei hun ar eu hol. Gwelwyd y plant ar wyneb y dwfr,a chafwyd hwy allan cyn iddynt foddi, ac awd i chwllio am y fam, a chafwyd hi yn ngwaelod y camlas yn hollol farw.
TY DP.WG AR DAN-NIWIEIDIAU…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY DP.WG AR DAN-NIWIEIDIAU MARWOL. Boreu y Sabboth diweddaf aeth ty 0 gymeriad drwg ar dan yn heol Arundel, Sheffield. Yr oedd yn y ty ar y pryd 5 o ferched, a dau ddyn. Diang- odd y dynion allaii drwy y ffenest-ri yn ddianaf. Yn eu gwylltineb rhedodd dwy o'r merched i fyny i oruwch-ystifell, a thaflasant eu hnnain allan i'r heol, dyfnder o 25 t-roedfedd. Dorbyniodd un ohonynt niweidiau marwoi, ac nid oes gobaith am y Hall. Cafodd y tair creill eu niweidio yn fawr gan y tan er fod gobaith am eu bywyd.
TROSEDDWYR IEUAINC.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TROSEDDWYR IEUAINC. Dydd Sldwrll diweddaf, dygwyd o flaen Ynadon Merthyr, Michael Clifford, William Sheldron, a John Having, yr oil o Ddowlais, a pbob un ohon- ynt yn 14 mlwydd oed. Y cyhuddiad a ddygid ya en hcrbyn oedd lladrataoriawr a chadwen, gwerth. 34s., eiddo un Evan Evar.s. Cymerodd y lladrad le prydnawn Sadwrn, yr 17eg cyfisol. Yr oedd Evan wedi myn'd i ymdrocbi i'r afon yn Dgbym- ydogaeth Pontsarn, a pban oedd ef yn y dwfr, daliodd y llanciau ar y fantais i gymeryd yr eiddo o'i logell, a pbenderfynasant gycbwyn ar nnwaith. am Liverpool, a ffwrdd a. hwy mor bell ag Aber- hondd", gan dybied y llwyddasent i werthu, neu bauno yr oriawr yno, er eu galluogi i gael bwyd, &c., ar eu taith ond methwyd a gwneyd y naill na'r Hal), felly Did oedd dim i wneyd ond troi ya ol tua chartref, ac ar ol cysgu noson allan ar y mynydd, cyrhaeddasant Cwmtaf oddeutu wyth o'r gloch y boreu, ac aethant i amaetbdy a gedwid gan un Ellen Mainwaring. Dywedasant wrthi mai brodyr oeddynt ar dramp o Liverpool, a bod eu tad newydd farw, ac wedi gadael ei unig eiddo rhyngddynt, sef ei ivatch and chain, a chan eu bod yn wlyb ac yn newynog, cymerodd y wraig dru- garedd arnynt, sychodd en dillad, a rhoddodd iddynt foreufwyd braf, a phrynodd yr oriawr ganddynt am naw swllt, ac aethant hwytbau rhag eu blaen tua Dowlais, ac erbyn iddynt gyrhaedd yno yr oedd yr heddgeidwaid yn barod i'w der- byn. Dywedai yr heddgeidwad nad oedd y bach- Sheldran ddim wedi cysgu mown ty yn ystod y chwech wythnos diweddaf, ac fod yn Nowlais tuag ugain ereill o fechgyn tua'r un oedran yr un fath ag ef. Gollyngwyd hwy yn rbydd ar ol eu fflangellu. Cafodd pump ereill eu ffiangellu yrun dydd yn Mertbyr tua'r un oedran am ladrata saith cap oedd yn hongian tuallan i faenachdy Mr D. W. Jones, draper, Dowlais. +
CYFARFOD CHWARTEROL BRYCHEINIOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFOD CHWARTEROL BRYCHEINIOG. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn Trecastell, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Awst 19eg a'r 20fed. Yr oedd yn bresenol yn y Gynadledd a gynaliwyd am ddau o'r gloch y dydd cyntaf, y Parchedigion Jones, B.A., Aberlionddu (yn y gadair); James, Llanwrtyd Jones, Ty'nycoed Hughes, Pen-north;'Morgans, Ilesolven; Davies, Glyn-nedd; Thomas, Aberhonddu; Williams, Brychgoed Ilees, Libanus Davies, Merthyr- cynog, a'r Ysgrifenydd. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Morgans, Resolven. Wedi cadarnliau penderfyniadau cyf. arfod Pen-north, penderfynwyd yn unfrydol- 1. Fod y cyfarfod nesaf i gael ei gynal yn y Dyffryn. 2. Fod y brodyr James, Llanwrtyd, a Thomas, Aberhonddu, i bregetbu ar y pynciau rhoddedig- y cyntaf ar ryw fater a roddir gan eglwys y Dyffryn, a'r olaf ar Ffydd." 3. That this Conference strongly protests against the conduct of the majority of the House of Lords in refusing to pass the Franchise Bill, and ex- presses its unabated confidence in the administra- tion of the Right Honourable W. E. Gladstone, M.P., and that a copy of this resolution, signed by the Chairman, be sent to the Premier. 4. Ein bod yn taer anog pob eglwys yn y Cyf- undeb i ddanfon i Mr. Hannay, Golygydd y Con- gregational Year Book, gyfrif cywir o eisteddleoedd ei chapel. 5. Fod eglwys Bethlehem, Abercrave, yn cael gollyngdod i ymuno a Chyfundeb Gorllewinol Morgan wg. 6. Gan nad oedd yn gyfleus i Mr. Jones, Aber- honddu, ddarllen ei bapyr ar Gydweithrediad Enwadol" yn y gynadledd hon, foddymuniad arno i'w ddarllen yn nghynadledd y cyfarfod nesaf. Cafwyd anerchiadau pwrpasol gan y brodyr Morgans, Resolven, a Davies, Glyn-nedd, pa rai oeddynt yn dygwydd bod ar ymweliad a'r ardal. Terfynw-yd trwy weddi gan Mr Davies, Glyn-nedd. MODDION CYHOEDDUS. Pregetbwyd yr hwyr cyntaf, heblaw yn Tre- castell, yn Uwmwysg a Chwmdwr. Cymerwyd rhan yn nygiad yn mlaen yr oedfaon cyhoeddus gan y brodyr Rees, Libanus; Davies, Merthyr Cynog; Davies, Glyn-nedd; Jones, Aberhon- ddu; Williams, Brychgoed; Jones, Ty'nycoed; James, Llanwrtyd; Evans, Caerdydd Hughes, Pen-north; Jones, Pentretygwyn Thomas, A berhonddu, a Morgans, Resolven. Amser ciniaw yr ail ddydd diolchwyd yn gynes i Mr. Hughes, Pen-north, am ei bregeth ardderchog ar Ddyledswydd yr Eglwys tuag at yr Ysgol Sabbothol." Cafwyd cyfarfod rhagorol—y capel yn orlawn o wrandawyr astud, a'r Nefoedd yn gwenu. Canlyned firwyth toreithiog. THOMAS EVANS, Ysg.
TAITH 0 LUNDAIN I GANOLBARTH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ddeg y boreu, cawsom dosbavth_ Swahili, fel arfer. Wedi i'r dosbarih orphen aethom i areio ein doniaa yn y Swahili gyda'r Negroaid. (Yi' ydy.m wedi t'odi ychydig frawddegau ei byn hyn). Fe'n siomwyd r.i yn fawr-nid oedd unobonynt yti gwybod dim oboni o gvvbl. Rhoddodd y Parch John Harris penknife i bob un ohonynt; a mawr mor falch oeddynt ohonynt—yr un fath yn ?ywir a phtentyn rhwng chwech a saith mlwydd oed wedi cael cyllell yn rhodd gan ei dad am y tro cyntaf erioad. Prydnawn heddyw daeth y Canary Islands i'r golwg esgyuent i fyny o'r North Atlarltic yn y pellder draw—rhy bell i ni allu rhoddi unrhyw ddesg rifiad ohonyn t. Mehefin 19eg.—Dim neilllliol wedi dysrwydd heddyw. Mae ein calonau yn dyhen am weled Affrica fawr yn dyfod i'r golwg. Bob dydd ymgas^lwn at ein gilydd fel nn teulu i siarad am Affriea, a'r gwaithpwysig sydd genym menu llaw; ac y mae Mrs Capt. Here fel mam yn y teulu yn ein calonogi, gan ddywedyd," Awn a meddianwn y wlad." Teithia'r Hong taa thri chant o filldiroedd bob dydd, eto i gyd nid ydvm yn teimlo ei bod yn teithio haLer digon cyfiym i'n cario at ein gwaith. Mehefin 20fed.—Yr ydym yn y tropics heddyw, ac y mae yn dechreu twymo arnom. Mae y teithwyr wedi gwisgo yn eu diiiad gwynion, ac yn liecha yn rhywle o olwg yr haul, yr hwn sydd fel pelen o dan tirias uwch ein penau. Mehefin2Iain.-Dydd Sadwrn. Mor wahanol ywar y mor i'r hyn ydyw ar y t;t-dim byd gyda ni i brofi mai dydd Sadwrn ydyw ond y Dy !dia;'ur neu yr Al- manac. llhaid i'r morwr fod wrth ei waith am gynifer o oriau y Sadwrn fel rhyw ddiwrnodjarall nid oes dim yn yr hyn maent yn wneyd yn tafln yr un awgrym ei bod yn Sabboth y fory. Gartref gallem ddywoyd pwy ddiwrnod fyddai yn union wrth weled y gweithwyr yn darfod yn gynar, y* gwragedd yn eu trafferth yn sdan- hau, y gweinidog dros ei ben a'i glustiau yn ei bregetb, a'r myf yriwr, druan, a'r bag bach yn eilaw a'r umbrella dan ei fraich yn myned i ddal y treti. Wel nid oes dim o'r pethau yna ar y mor i adgofta mai dydd Sadwrn ydyw. Mehefin 22ain.-Dyma yr ail Sul ar y mor, ac yn wir byddai yn dda genyf pe byddai hwn yr olaf, oblegid dyma'r Saliau niwyaf arigi-tysurus a dreuliais erioe I. Bore u heddyw, am haner awr wedi desr, bûm yn gwrando ar y Cadben yn darllen gweddiau Eglwys Loe.zr. Nos Sabboth, cawsom gyfarfud yn ol dull y Cynulleidfaolwyr. Dechrcuodd Dr Laird y cyhrfod, a phrezethodd yr Ysgrifenydd. Nid oes yr un Cymro ar y bwrdd ond fy hunan, yr hyn sydd yn boen i'm tafud a'm calon. Mehefin 23am hyd Gerphcnof 3ydd.-Ni ddy- gwyddodd dim yn y cyfamser uchod yn werth ei gof- nodi. Cawsom dywydd dymunol, ar y cyfan. Dyma ni wedi cyrhaedd Cape Town, Deheudir Affrica, yn iach ac yn gysutus. Dysgwyliaf roddi tipyn o banes Affrica i'r darllenydd yn yr ysgrif nesaf. Cofion fyrdd at y cyfeillion yn Ne a Gogledd Cvmru, ac at bob darllenydd o'r TYST A'R DYDD.—Yr eiddoch yngywir, BOWEN BEES.