Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am rai wytbnosau yn ddiweddar nid yw cwes- tiwn y Dadgysylltiad mor amlwg ger bron y cy- hoedd ag y bu. Mae a fyno yr adeg o'r flwyddyn j'vwbetb a hyn. Ehaid i bleidwyr Rhyddhad (^refydd gael gorphwyso weithiau fel pobl ereill. Ac y mae pwnc yr Etholfraint a Thy yr Arglwyddi wedi claddu pob symudiad arall i fesur am ryw ysbaid, ac yr ydym yn cyfaddef fod y mater hwnw yn fwy pwysig i ni ar hyn o bryd na hyd yu nod Dadgysylltiad. Hyd nes y ceir yr etholwyr newyddion ar y rhestr, ychydig o obaith sydd am irydraddoldeb crefyddol yn Lloegr, beth bynag am Gymru. Ond pan fydd pob cynrychiolaetk wedi ei lefeinio Ag ysbryd gwerinol, a'r bobl yn cael datgan eu llais yn y polling booths, ni raid aros yn hir cyn y gwelir crefydd sefydledig yn mhlith y psthau a fu. DJ. genym ddeall fod yr aelodau presenol yn llefaru yn glir ar y mater bwn y naill ar ol y llall. Y diweddaf i wneyd datganiad ydyw Mr Sathbone, yr aelod dros sir Gaernarfon. Yr oedd cryn lawer o ambeuaeth o'i ddystawrwydd, ac o'r ffaith mai Undodwr ydyw, a gwyddis mai syniad y mwyafrif o'r Undodwyr ydyw y dylid gwaddoli pob plaid grefyddol-levelling ttp yw eu cynllun hwy, ac yr oedd rhai o ymddygiadau Mr Kithbone yn nglyn a Choleg Bangor wedi rhoddi lie i dybio ei fod am ddangos cryn lawer o ffafr i'r Eglwyswyr ond y mae yntau wedi llefaru yn ddi- floesgni ei fod yn barod i gefnogi cyuygiad Mr Dillwyn pa bryd bynag y daw ger bron Ty y Oyffredin. Ond tI dan yr amgylchiadau presenol, pe llwydddid i basio mesur yn nglyn &'r mater drwy Dy y Cyffredin, byddai Ty yr Arglwyddi wedi hyny ar y ffordd, ac nid oes un amheuaeth pa beth a wnai y Ilys hwnw, fel y mae o fwy pwys i bleidwyr Dadgysylltiad nag i neb arall fod y Ty Ucbaf yn cael ei symud ymaith, neu ei ddiwygio yn drwyadl. Yn nghyfarfodydd TTadeb y Bedyddwyr a gynal- iwyd yr wythnos o'r blaen yn Nghaergybi, cafodd y cwestiwn sylw pur helaetb. Yr Eglwys a'r Wladwriaeth" ydoedd testyn yr anercbiad o'r gadair, ac nid oedd bosibl llefara yn eglurach a mwy pendant nag y gwnaerl ynddo. Ehoddai yr Adroddiad Blynyddol a ddarllenwyd gan yr ys- grifenydd sylw neillduol i'r eyffro sydd yn y wlad o blaid cynygiad Mr Dillwyn, a darllenwyd papyr ar Ddadgysylltiad a Dadwaddoliad gan Mr B. Rees, Granant, Penfro. Nis gallwn adael rbai o'r ffeithiau a gynwysai y papyr heb eu nodi-ff eith- iau yn dal perthynas a chyflwr yr Eglwys yn Esgobaeth Ty Ddewi. Yn mblwyf Bagvil y mae 149 o breswylwyr, a'r fywioliaeth yn werth £ 104 yn y flwyddyn. Dim ond dau gymonwr yn per- thyn i'r eglwys sydd yn y plwyf, a'r ddau byny yn mynychu eglwys arall. Y mae yn Movil bobl- ogaeth o 143, a'r fywiolaeth yn werth .£105. Dim un Eglwyswr yn byw yn y plwyf, a rhan o'r eglwys heb do arni, ond cynelir gwasanaeth pan fydd ei eisieu. Poblogaeth Casmael yn 245, a dau ohon- ynt yn Eglwyswyr, a'r fywiolaeth yn werth XIOI. Maenclochog, gyda phoblogaeth o 510, yn cynwys dim ond chwech yn arfer mynycbu yr Eglwys Sefydledig. Dim un Eglwyswr yn mhlwyf Llan- dilo allan o boblogaeth o 1)7; yr eglwys a'r fyn- went yn adfeilioD, ac yn orchuddiedig gan ddrain a mieri. Nid oes gwasanaeth wedi cael ei gynal yno am haner can' mlynedd. Llangolmau, yn cvnwys poblogieth o 264, ond dim un obonynt yn Eglwyswr. Y mae y tri phlwyf byn-Maenclocb- og, Llandilo.Ji LlalJgolman-yn un fywioliaetb, a'i gwertb yn .£28".t. Llanycefn, gyda pboblogaeth o 279, a bywioliaeth gwerth .£76. heb un Eglwyswr. Mynachlogddu, yn cynwys 470 o drigolion, a gwerth y fywioliaeth yn JE129, dim un yn arfer myned i'r eg-lwys. Dywedodd un o blwyfolion y lie hwn wrth Mr Reps, ei fod yn byw yn y plwyf er's yn agos i ddeugain mlynedd, ac na welodd erioed mo'r offeiriad, Fe dybiai ei fod yn byw yn rhywle yn sir Forganwg. Yn yr wyth plwyf y mae y boblogaeth yn 2,148, y bywiolaethau yn werth .£799, a nifer yr boll Eglwyswyr yn 10. Y mae y ffeithiau hyn yn lIefaru drostynt eu hunain, a chredwn nad yw pethau ond pur debyg mewn llawer cwr arall o'r wlad. Nid oes eisieu tystiol- aeth gliriach o fetbiant y sefydliad gwladol, ac eto dyma y sefydliad sydd yn bwyta i fyny gyfoeth y tir. NONCON.

[No title]

[No title]