Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

PETHAU NAS GWYR PAWB.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

CYFARFOD SEFYDLIAD Y PARCH…

LLANGRANOG.

Advertising

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

y ddamwain, nen beth bynag y gelwir ef, yn achos i Ffrainc gynddeiriogi, a gofynodd am dri chan' miliwn o francs yn iawn. Gomeddodd China, a gostyngwyd y ctis i bed war ugain miliwn, ond gomeddodd China drachefn, a'r canlyniad ydyw peth tebyg i gyhoeddiad rhyfel rhwng y ddwy wlad. Gresyn fod Llywodraeth Ffrainc mewn dwylaw rnor wan. Yr oedd yr Ymherawdwr diweddaf yn ymyraeth a materion tramor, gan geisio trwy hyny dynn sylw y bobl oddiwrth ddeddfwriaeth gartrefol, a gwyr pawb beth fu y canlyniad iddo, ac ofnir fod gormod o'i ysbryd yn y rhai sydd wrth y llyw yn Ffrainc yn bresenol. Nid oes yn yr boll wlad yr un dyn cryf iawn, yr un wedi ei eni yn lly wydd, yr un ag y ceir gan bawb i ymostwng i'w farn a'i gynghor. Os it yn rhyfel rhwng Ffrainc a China, bydd tevrnasoedd ereill yn rhwym o ddyoddef i raddau ac y mae yn dra thebygol y bydd cydymdeimlad dystaw a dirgel- aidd dynion goreu y wlad hon a China fel un sydd yn cael ei haflonyddu yn ddiachos. Nid oes neb yn meddwl y daw Ffraine allan o'r ymgyrch ar ei henill mewn unrhyw ystyr, ac ychydig iawn tuallan i'w therfynau ei bun sydd yn gobeithio hyny hefyd. GWLEIDYDDWK.