Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Y GYMDEITHASFA A'R " EFENGYLESAU."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nghymru hyd o fewn yr ugain mlynedd diweddaf; ond er byny, y mae wedi bod yn achlysurol, er mai yn ystod y tair blvnedd diweddaf y mae y peth wedi bod yn amlwg iawn, ac fel y mae yn fwyaf o syndod i lawer, y Methodistiaid yn Ngbymru sydd wedi rboddi mwyaf o nawdd id do. Er nad ydym yn deall ychwaith fod yr un o'u merched hwy yn pregethu, na bod yr un o'r rhai a elwir yn efengylesau yn perthyn iddynt, eto yn eu plith hwy y mae yr olaf wedi cael mwyaf o ffafr. Mae eu capeli a'u pwlpudau wedi bod yn agored iddynt, ac y mae amryw o'u gweinidogion a'u blaenoriaid wedi bod yn trefnu eu cyhoeddiadau trwy ranau o'r wlad ac os cywir yr hysbyswyd, y mae rhai o'u Cyfarfodydd Misol wedi rhoddi gwahoddiad iddynt i fyned trwy eu capeli. Yr oedd llawer o'u gweinidogion yn teimlo yn gryf yn erbyn y peth, am y cyfrifent ef ynddo ei bun yn anweddaidd ac anmbriodol, ac yn ol rheolau eu Cyfundeb hwy yn afreolaidd; ond yr oeddynt yn gynil a gochelgar mewn dyweyd dim yn eu herbyn, rhag cael eu cyhuddo o eiddigedd a cbenfigen at boblogrwydd yr "efengylesau," oblegid, fel y gallesid dysgwyl, yr oeddynt yn boblogaidd, ac yn tynu tyrfaoedd ar eu hoi; a chan fod eu lleisiau yn fwyn a thyner, mae yn bawdd credu eu bod yn effeithio yn fawr ar deimladau dynion gweiniaid. Yr oedd y swn wedi cerdded yn mlaen fod dysgwyliad am danynt i Gym- deithasfa Caernarfon, ac os na fwriedid eu rhoddi i gymeryd rhan yn ngwasanaeth cyhoeddus yr wyl, y bwriedid eu cadw yno ar ol hyny i gynal cyfarfodydd, y rbai y dysgwylid eu cael yn fwy poblogaidd na'r Gymanfa. Yr oeddynt yn sir Gaernarfon er's mwy nag wythnos, ac yn tynu y Iluaws ar eu hoi. Gadewid y gweinidogion mwyaf teilwng gan ddynion merwinllyd eu clustiau er myned i'w gwrando, a throid ereill o'r neilldu er mwyn gwneyd lie iddynt, fel mai ar weinidogaeth y chwiorydd yn unig yr oedd myn'd ac yr oedd yn rbaid i bawb ildio y maes i'r efengylesau," fel y dewisa eu hedmygwyr eu galw. Daeth y Parch D. DAVIES, Abermaw, a'r mater o flaen y Gymdeithasfa yn Ngbaer- narfon, ac nis gallesid cael neb 0 mwy cymhwys i wneyd byny, ac nis gallasai neb ei wneyd yn fwy priodol a ch-ymedrol nag y 0 gwnaeth ef. Dyma sylwedd yr hyn a draddododd— Y mae genyf air i'w ddyweyd ar bwnc na bydd pawb yr un farn, ac eto yr wyf yn credu y dylwn ddyweyd ychydig. Dywedais air byr, byrach nag a fyddaf yn arferddyweyd yn gyffredin, i ddytnuno ar y cyfeillion yn ein Cyfarfod Misol ni i ystyried beth oeddynt yn wneyd, ac am iddynt beidio a myned tuhwnt i'w hawdurdod pan yn agor drysau y pwlpudau i ferched i fyned yno i siarad, am fy mod i fy hun yn meddwl fod natur yn gwahardd hyny, ac fe ddarfu iddynt wrando arnaf. Ond yr wyf fi yn meddwl fod rhywbeth arall i'w ddyweyd ar hyn-mae yna egwyddor yn y peth, oherwydd nid ydym ni fel Cyfundeb wedi cymeradwyo swyddogaeth gyhoeddus y chwiorydd. Nid wyf yn meddwl fod hyny yn Ysgrythyrol, i chwiorydd sefyll i fvny i ddysaru cynulleidfa gyboeddus o bob]. Hwyrach mai rhyw bwnc o ddadl ydyw hefyd. Modd bynag am hyny, nid ydym ni fel Cyfundeb wedi derbyn byny, neu gymeradwyo fod chwiorydd i sefyll i fyny ac i fyned i fyny i'r pwl- pudau i ddysgu cynulleidfaoedd cyhoeddus ar y Sabboth ac ar amseroedd ereill. Pe bai rhyw Gyfarfod Misol ynte yn dyfod a hyn yn gynygiad i'r Gymdeitbasfa i godi swyddogaeth o chwiorydd i siarad yu gyhoeddus, byddai yn gofyn llawer iawn o bwyll a siarad beth wnaem cyn penderfynu ar ddosbarth o swyddogion fel yna; a phe baem ni yn penderfynu hyny, pa fath rai fyddent-ai merched ieuainc pump-ar-hugain oed fyddent, ai hen wragedd triugain oed?—rhai wedi enill gair da gan bawb o'u cydnabod ar ol bod ar brawf fel yna. Ond nid oes dim siarad am hyny wedi bod. Nid ydym wedi penderfynu y derbyniwa swydd- ogaeth fel yna. Nid ydyw ein Cyfundeb ni, yn y Gogledd na'r De, os oes rhyw gyfundeb arall yn Nghymru, wedi penderfynu—nid wyf yn gwybod fod-i godi swyddogaeth o fercbed i siarad yn gy- hoeddus o ganlyniad, rhaid i mi ddyweyd fod y pregethwyr a'r blaenoriaid sydd yn agor drws y set fawr iddynt i ddyfod i lefaru yn gyhoeddus, ac yn enwedig agor drws y pwlpud, yn myned yn mhell dros derfynau eu hawdurdod. Beth ydyw dyben y Cyfarfodydd Misol—y Cyfarfodydd Misol yr ydym yn treulio oriau bob blwyddyn i holi ac i ymofyn a dynion ieuainc, a'r dynion ieuaine yn myned dan arholiad, ac yn ymddyddan a hwy, ac yn gwneyd pobpeth fel y gallom i dnio cyflawni y gairhwnw, A phrofer y rhai hyny yn gyntaf." A dyna ydyw barn pobl gallaf ein gwlad, os bu rhyw adeg ag y mae eisieu profi llawer ar ein swyddogion eglwysig mewn trefn i'w codi i fyny i'w swyddau, dyma yr adeg yn anad unrbyw adeg yn ein hanes. Beth ydym i'w wneyd wrth basio penderfyniad ar bethau fel yna, ac, yn wir, rhoi addysg iddynt hyd y gallwn—beth ydyw hyny ond i'r dyben o'u cymhwyso i lefaru yn gyhoeddus yn y set fawr ac i fyned i fyny i'r pwlpud ? Wel, wedi iddynt gael penderfyniad y Cyfarfod Misol, dyna hwy wed'yn, a'r swyddogion eglwysig yn agor drws y pwlpud iddynt i wneyd peth agy mae y Cyfundeb yn ystyried ei fod ynrheolaidd iddynt wneyd. A phan y'u hordeinir, dyna hwy yn rhydd i gyflawni holl waith y weinidogaeth. Nid oes hawl gan neb ohonom i roi un dyn i siarad yn y pwlpud ond y rhai y mae y Cyfuadeb wedi eu cymeradwyo i wneyd hyny, yn enwedig y chwior- ydd a merched ieuainc dan bump-ar-hugain oed. Welais i mohonynt, ac nid wyf yn gwybod dim am danynt, ond yr hyn wyf wedi ei glywed. Ond dymunwn i'r Gymdeithasfa fod yn bur arafaidd, a pheidio myned yn frysiog at ddim. Ar yr un pryd, pan fydd galw arnom, dylem fod yn gadarn dros egwyddorion a thros grefydd. A bendith yr Ar- glwydd ar drefn y Methodistiaid sydd wedi ein dwyn yn mlaen hyd yma a rhaid i ni feddwl am gadw y drefn, a pheidio myned dros y terfynau. Wel, os bydd rywrai ohonom yn myned dros y terfynau, mae gan y Cyfarfod Misol a'r Sasiwn hawl i'n dwyn i gyfrif, ac i ofyn, Pahatn yr ydym yn myned i osod pwlpudau y Methodistiaid i was- anaeth rhai nad ydynt wedi eu hawdurdodi gan ein Cyfundeb ni. Wn i ddim beth allaf gynyg. Hwyrach mai gwell i mi beidio cynyg. Ddymun- wn i ddim briwo yr un swyddog, ond cynyg rhyw. beth a roddo atalfa ar beth aflywodraethus o'r fath. Amddiffynai y Parch EVAN WILLIAMS, Morfa, hwy, a dywedodd fod ei ragfarn ef yn erbyn merched i bregethu yn gymaint a neb, ond iddo glywed un ohonynt y Sabboth cyn hyny, ac y buasai yn hoffi ei cblywed eilwaith, ac yn hoffi i bawb arall ei chlywed. Ymddengys iddi gario y fath ddylanwad ar ei deimladau nes lladd ei holl ragfarnau, ac y mae yn bur sicr felly mai rhagfarn ddall, ac nid barn bwyllog, oedd yn peri ei fod o'r blaen mor gryf yn. erbyn i fercbed bregethu. Y Parch JOHN JONES, Pwllheli, a gyngborai y Gymdeithasfa i beidio gwneyd dim yn ngtyn a'r m.ater, onide os gwnaent, y dolurient deimladau canoedd o bobl dda. Dygai dystiolaeth i gymeriad yr efengyl- esau," y rbai a fuont o dan ei gronglwyd ac ychwanegai, Nad oedd yn meddwl fod yr un pregethwr yn y Cyfundeb y dyddiau hyn a allasai godi cynifer i'w wrando ag y mae y merched hyn yn godi." Y Parch N. CYNHAFAL JONES a ddywedai, Nad oedd y ffaith fod rhai yn tynu sylw ac yn casglu cynulleidfaoedd yn rbeswm dros eu pleidio. Cofiai am gynulleidfa fawr yn gadael ben weinidog parchus er myned i wrando bachgen pedair ar-ddeg oed, am mai bachgen oedd. Pan beidiodd a bod yn facbgen, fe beidiodd yr atdyniad ar ei ol. Ond am y merched hyn, nid oedd yn dysgwyl iddynt y C, hwy beidio a bod yn ferched, ac felly y ceir yn barbaus ddynion mercbedaidd i redeg ar eu bol." Ychwanegodd Mr JONES, pad pwnc o boblogrwydd ydoedd, ond pwnc o wedd- eidd-dra a rheoleiddiwch. Adgofiai sylwad- au difrifol a chadarn Mr HENRY REES ar yr un mater mewn ffurf arall pan ddygwyd ef ger bron ryw bymtheg mlynedd yn ol, a chredai fod yn nghofnodion yr ysgrifenydd 0 benderfyniad yn condemnio yr afreoleidd- iwcb. Dr LLUGWY OWEN a ddywedai fod- pobl yn cymeryd eu cario gan eu teimladau, a bod ganddynt fel Cyfundeb safon o farn ond credai ef fod safon i deimlad yn llawn mor angenrheidiol a safon i farn. Siaradodd Dr HUGHES, Liverpool, yn gryf iawn ar y mater, ac ofnai eu bod yn nglyn a byn a rbyw bethau ereill yn myned yn ffolach y naill oes ar ol y llall. Dywedai fod llawer o bethau wedi llithro i mewn i'w plith yn nglyn a dygiad crefydd yn mlaen oedd yn peri iddo ofidio a cbywilyddio. Arferai eu cymeriad fod yn lied uchel, hwyrach yn uwch nag un enwad arall, am eu manylwch pwy a dderbynid i'r eglwysi, a pbwy a ollyngid i'r pwlpudau, ac ar gwestiynau o drefn, a gweddeidd-dra, a dysgyblaeth yn oy gyffredin ond ofnai eu bod yn colli yn fawr yn y dyddiau hyn yn eu synied am urddas gweinidogaeth y Gair ac yna cyfeiriodd at y mater oedd yn uniongyrcbol ger bron. Meddai- Dyma chwi yn trin y pwnc sydd ger ein bron- gweinidogaeth y chwiorydd. 'Does yr un o'r ddwy chwaer yn perthyn i'n benwad ni. Mae un yn Fedyddwraig, a'r llall yn Annibynwraig. Paham na adewch i bob un fyned at ei llwyth ei hun? Onid oes gan y Bedyddwyr gapeli yn sir Gaernarfon, ac yn Ngogledd Cymru ? Ai nid oes gan yr Annibynwyr gapeli ? I beth yr ydych yn tynu yr Efengylesau, fel yr ydych yn eu galw, oddiwrth eu henwadau eu hunain ? Dyma bWDC arall—pwnc derbyn aelodau. Yr oedd ein hen dayau, Rowlands, Llangeitho, o hyny i lawr hyd Henry Rees, dyweder, yn fawr eu hawydd am achub peehaduriaid-gymaint a neb sydd yn fyw; y ac yr oedd y dynion yna yn fawr eu gofal pwy a dderbynient i Eglwys Dduw. A ydym ni felly yn awr ? Ai felly y mae hi y dyddiau yma ? Onid ydym wedi ymadael fel pregethwyr, rhywrai ohonom, oddiwrth y dull y byddai ein tadau yn ei fabwysiadu gyda byn ? Ydych chwi ddim am roddi cefnogaeth i ddyfod i mewn i'r Eglwys ? Ydym rhowch help Haw iddynt. Mae y Gyffes Ffydd yn dyweyd yn amlwg mai dyna ydyw y cymhwysder mewn ymgeisydd, fod y swyddogion yn meddwl ei fod wedi ei argyhoeddi o bechod, yn adnabod ei hunan, ac yn meddu. ffydd yn y Gwaredwr. Ond dyma chwi yn barod i ofyn, A oes rhywun wedi aros ar ol?" Rhyw greadur wedi aros? Mae rhai odd iawn yn aros ar ol. Yna nododd Dr Hughes engreifftiau o ddynion a merched o gymeriadau isel oedd wedi tynu gwarth ar grefydd yn y cymydogaethau oherwydd y dull yn mha un yr oeddynt yn siarad am eu hymuniad a'r Eglwys. Gohiriwyd yr ymdriniaeth ar hyny o bryd, ond nid oes un ddadl nad yw tynge I gweinidogaeth y chwiorydd yn Ngbyf- undeb y Methodistiaid wedi ei phenderfynu, ac y bydd hyny hefyd yn help i roddi atalfa ar afreoleiddiwch mewn cyfeiriadau ereill, at y rhai yn ddiau y cyfeiriai Dr HUGHES. Nid oes un ddadl nad oes perygl mawr i grefydd ysbrydol yn yr awydd sydd am rywbeth i beri cyffroad, a'r argraff a osodir yn rhy ami ar feddyliau dynion mai eu cael i'r eglwys yw yr amcan eithaf, ac ond cael hyny y bvdd pobpeth ar ben. Mae y rhai a saif yn ddewr yn erbyn yr afradedd yma, ac a lefara eu meddyliau allan yn eglur, yn bur sicr o fod am ysbaid yn nod i lawer o saethau; ond cyn yr ii pum' mlynedd heibio, bydd pawb yn cydnabod mai hwynt- hwy oedd yn deall "arwyddion yr amserau," a diolchir iddynt am eu gwasanaeth. Mae yn ddiau fod llawer o'r dynion merched- aidd y cyfeiriai Mr CYNHAFAL JONES atynt yn teimlo yn siomedig fod yr "efengylesau" wedi ymadael a Chaernarfon heb gyflawni eu gweinidogaeth, a sicrheir fod un cyfaill yn arbenig, sydd wedi gwirioni arnynt, yn barod i ofyn fel Laban, "Paham y lladratasoch fy uuwiau ? Ysgrifenasom fel hyn am fod y mater yn perthyn, nid i un enwad, ond i bob enwad, er, hwyrach, mai y Methodistiaid yn unig a allasai ei derfynu yn gyfundebol.