Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YR YSGOL SABBOTHOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

YR YSGOL SABBOTHOL. Y WERS RHYNGWLADWRIAE THOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. AWST 31ain.—GweitLredoedd Daw a'i Air.—Salm xix. Y TRSTYN EURAIDD. Ymgrymaf tu a'th deml sanctaidd, a chlodforaf Dy enw, am Dy drngaredd a'th wirionedd oblegid Ti a fawtheaist Dy Air uwchlaw Dy enw oll.Salm cxxxviii. 2. EHASAKWEINIOI. YN y gwersi o'r b'aen yr ydym wedi bod yn sylai ar rai o amgylchiadau bywyd allanol Dafydd fcl brenin, ond yn y Salmau a gyfansoddodd cawn olwg ar brofiad mewbot ei galon. Y mae yn dra thebygol mai Dafydd ydyw awdwr y Salm hon, ac iddo ei cbyfansoddi pan oedd yn ddyn ieuane, pan mewn unigecld yn bugeilio defaid ei dad. Wrth weled y wawr yn ymagor yn y dwyr.^n, a'r haul, fel gwr priod yn dyfod allan o'i ystafell, ac yn ymlawenhau fel cawr i redea iiyrfa," y mae ysbryd duwiolfrydigr Dafydd yn cael ei gyro hyrfu, ac y mae yn tori allan i fawrygu Duw. Ar ol bod yn myfyrio ar y dystiolaeth ddygir gan natur i fawredd a gogoniant Dnw, y mae y Salmydd yn troi i edrych ar y datguddiad Jlawnach ac eglurach yr oedd Duw wedi roddi ohono ei Hun yn ei Air, ac yna terfyna gall ddat- gan ei ddymuniad i ddwyn ei fywyd i gydymffai fio a gorchymynion Gair Duw. Sy!wa P. W. ar y Salmhon, Y mae'r Salm ddewisol hon yn gosod allan ogoniant Duw-yn dangos fod y nefoedd yn datgan gogoniant Ei fawredd, a'i Air yn mynegi gogoniant Ei ras felly y mae dau lyfr hynod yn pregethu i Gristionogion a pha mor ddiesgns fydd y rhai ni wrandawaut Y mae'r Salmydd yn canmol y Gair o ran ei natur a'i effeithiau, ac wrth ystyried purdeb y Gair yn ngoleuni yr Ysbryd, dymuna am faddeuant o feiau anwybod, a'i gadw rhaor beiau rhyfygus, a deisyfa fod ei berson a'i weithred yn gymeradwy." ESBONIADOL. Adnod 1.—" Y nefoedd sydd yn datg.;n gogoniant Dnw; a'r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylaw Ef." Ynefoedd- Y rhif lnosog, gan olyuu y bydoedd sydd uwchben, ac a welir yn ymgolli yn yr eangderau fry. Wrth syllu ar y rhai hyn yr oedd y Salmydd wedi dyfod i deimlo yn ddwys fawredd a gogoniant y Creawdydd mawr. Y mae yr cydymdeitnlad o fawr- edd Duw yn cynyrcnu ysbryd duwiolfrydiq, ac y mae y ser a'r planedau sydd yn y nefoedd uwchber: yn dang- os ei fawredd mewn modd amlwg. Nid yn unig dat- ganant ogoniant, ond gogoniant Duw. Y mae y gair It ddefnyddir am Dduw (El) yn y rhan gyntaf o'r Salm yn golygu mawredd a gallu Daw. Yn yr ail ran o'r Salm defnyddir y gair Jehofah. Duw yn ei fawredd a ddatguddir gan y greadigaetb, ond yn Ei Air datguddir Daw fel Duw cyfamodol. Ffurfafen. Y wybr neu yr entrych. Sylwa Perowne fod yr adran gyntaf o'r adnod yn mynegi y fjfailh fod y nefoedd yn datgan gogon- iant Dnw, a'r ail adrsn pa fodd y gwneir hyn, set" trwy ddwyn tystiolaeth mai. Efe a'u gwnaeth. Gwaith ei ddwylaw. Gwaith dwylaw Daw ydyw yr holl ser a'r planedau a welir yn yr eangderau. Nid damwain a'u dygodd i fod, na'r un galla arall ond gallu Duw. Yn yr eangderau y mae Duw megys yn ysgwyd ei faner serenol, er mwyn dangos fod y Brenin gartref, ac y mae yn hongian allan ei arwyddlen er mwyn i't atheist- iaid weled pa fodd y mae yn dirmygu eu geiriau caled- ion.Spurgeon. Adnod 2.—" Dydd i ddydd'a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddeogys wybodaeth." Y mae y dystiol- aeth yn barbaol. Y naill ddydd yn cyrneryd tystiolaeth y dydd biaenorol, a'r naill nos yn dwyn yn mlaen ystori y nos a basiodd. Nid oes dim taw ar y dystiolaeth. Y mae y greadigaeth yn barhaus yn mynegi mawredd a gogoniant Duw. A draetha ymadrodd. Yn arllwys allan ymadrodd, fel ffynou lawn yn bC\rw allan ei dyfroedd. Dengys wybodaeth "Nid oes yr un dydd yn myned heibio nad yw yn dangos ryw dystiol- aeth arbenigol o'i allu. Y mae pob dydd vn ddilynol yn ychwanegu rhywbeth newydcl er profi bodolaeth a pherffeithrwydd Duw. Maeydyddiaa a'r nosweithiau yn ymddyddan â'u gilydd, ac yn ymresymu yn nghylch gogoniant y Creawdwr." — Calvin. Adnod 3.—" Nid oes iaith nac ymadrodd, lie ni chly.. buwyd eu lIeferydd hwynt." Nid ydyw eu tvstiolaeth yn glywadwy-nid oes ganddynt iaith i lefaru wrth y glust. Arwyddluniol vdyw en haddysi, gan gyfeirio at y llygad a'r galon. Ni chlybuivyd eu lleferydd hwynt. Y maent yn hollol ddystaw, eto yn llefuru yn eglur mewn iaith y gall pawb o wahanol ieithoedd eu deall. Y mae y cyfieithad yn well wrth adael allan y gair lie. Adnod 4.—" En llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a'u geiriau hyd eithafoedd y byd i'r haul y gosododd Efe babellynddynt." En llinyn. Rheol neu orchymyn Golyga y gair yn llythyrenol linyn mesur. Eu gorch- ymyn ydyw mynegi mawredd a gogoniant y Creawdydd a d ledswydd dyn i'w addoli. Ceir y gorchymyn hwn yn mhob rhan o'r gread'gaeth. Eu geiriau. Sef eu haddysg. Y mae natnr yr un i bawb, ac y mae natur yn mhob man yn cyhoeddi mawredd Daw. I'r haul y gosododd Efe babell. Yn nghanol y nefoedd y mae yr baul fel ymdeithydd breninol, ac yn gosod i fyr:y ei babell. Ynddynt. Yn ea canol. Adnod 5. Yr hwn sydd fel ewr priod yn dyfod allan o'i ystafell, ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa." Fel engraifft o dystiolaeth natur i Dduw, noda y Salmydd yr haul, yr hwn sydd fel gwr priod yn dyfod allan o'i ystafell wedi ymdrwsio yn brydfertb, ac yn llawn dedwyddwch. Ac a ymlawenha fel cawr i redeg—yn fwy priodol, yn rhedeg. Yn ymvvybodol o'i allu, ac felly yn ddedwydd yn rhedeg. Adnod G. 0 eithaf y nefoedd y mae ei fyned:ad ef allan, a'i amgylchiad hyd eu heitbafoedd hwynt ac iiid ymgndd dim oddiwrth ei wres cf." Nodir tri pheth am yr haul, 1. GOlumiaut a dvsgleirdeb ei if'urf. 2. Y cyflymdra gyda pha un y mae yn rhedeg ei yrfa. 3. A pallu anghyffredin ei wres." — Calvin. Darlunir yr haul yn codi, yn dysgleirio, ao yn rhoddi ei oleuni a'i wres, a hyny i bawb. Ac fel nas gall neb ymguddio rhag goleuni yr haul, felly nis gal! neb ym. yuddio rhag dyfod dan ddylanwad datguddiad Duw ohono ei hUll mewn natur. Adnod 7. Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith yn troi yr enaid tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth." Y mae y Salmydd yn troi oddiwrth ddadguddiad Duw mewn natur at y dadguddiad roddodd o hono ei hun yn ei Air. Y gair Jehofah—Dnw cyfamodol—a arfeiir gan- ddo mewn cyferbyniad i El- Duw natur. Yr hyn oedd yr haul yn y byd natnriol, dyna ydyw y gyfraith yn y byd moeso]. Cyfraith. Tystiolaeth Duw am dano ei hun mewn datguddiad. Yn berffaith. Dyna ydyw y gyfraith ynddi ei hnn. Yn troi yr enaid. Yn adferu yr enaid yn ol at Dduw. Nodir yma ddylnn- wad y gyfraith ar y rhai sydd yn ei deibyn. Tystiol- aeth. Y gyfraith fel y mae yn dwyn tystiolaeth am gymeriad Duw- Sicr. Cywir, fiyddlawn. Y gwirion yn ddoeth. Y diddysg, neu y d;.ddeall yn ddoeth. AdnoJ 8.—"Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn.yn llawenhau y galon gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleno y llygaid." Deddfau. Gosodiadau Duw yn ei Air. Uniawn. Yn deg, gan eu bod wedi eu seilio ar gyfiawnder. ViT, llawenhau y getlon. Dyma eu dylanwad ar yr ufudd. Dyna'r adeg y daw dyn yn berffailh ddedwydd, pin y daw i gydgordiad perffaith a deddf Duw. I'r graddau y mae yn gallu ufuddhau, y mae yn ddedwydc. Yn goleuo y Illigaict-yu symud y rhagfarn o'r meddwl, ac yn dangos pethau yn eu goleuni priodol. Felly y gelwir Gair Duw yn llusem. Gyda Gair Duw yr) ein llaw cawn oleuni ar holl lwybrau bywyd. Adnod 9.—" Ofn yr Arglwydd sydd Ian, yn parhan yn draaywydd barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, eyfiawn ydynt i gyd." Ofn. Ofn mabaidd afn parchedig. Sydd bin. Yn glanhau yr enaid, Pc yn ei buro oddiwrth halogrwydd pechod. Yn parhau yn dragywydd. Y mae llygredd yn dadfeilio, ond y mae dylanwad pur ofn Duw yn y galon yn arosol—yn egwyddor ddihalogedig a thragywyddol. Barnau, sefei ddeddfau, fel y mient yn ddatgatiiad oewyllysgyf- iawn Duw. Ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd. Yn wirionedd yuddynt ea hunain ac mewnperHa.ith gydgordiad a'u gilydd. Adnod 10.—" Mwy dymunol ynt nag aur. j'e, nag aur coeth lawer melusach hefyd na'r mel, ac na difer iad diliau mel." Gosodir allan y profiad mewnol o ufuddhau i ddeddfau Duw. Mivy dymunol ýnt nag aur. Dyma'r metal gwerthfawrocaf. Y mae yna esgyr cb-aur, aur coeth, aur coeth lawer. Melusach hefyd na'r met. Golygir y met fel y peth melusaf, ac felly yn arwydd o'r mwynhad mwyaf. Y diferynau o ddiferiad y diliau met ydyw y rhai melusaf o'r mel, Ceir yr un syniad mewn Salm arall (cxix. 103) Mor felus yw dy eiriau i'm genan melus :ch na mel i'm safn." Adnod 11.—"Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was o'n cadw y mae gwobr lawer." Yr oedd y Salmydd yn gwybod t'-wy brofiad am effeithiau cyf- raith Duw ar ei fywyd. Rhybuddir dy was-trwy ddangos pethau yn eu lliw priodol, ac felly ei aHuoni i iawn farnu am danyrit. D'u cadiv y mae gwobr lawer. Sylwer, nid am fu cadw, ODd o'u cadw—yn y weithred o'u cadw y mae gwabr. Dywe 'ir fod y gair gwobr yn y gwreiddiol yn golvgu sawdl, ae felly yn arwyddo di- wedd y gwaith. Y mae gwobr wrth ufuddhau, ond ni byddy wobr yn gyfhwn hyd y diwedd—yna ceir gwobr lawer. Adnod 12.—" Pwy a ddeail ei gamweddau ? glanha fi oddiwrth fy me'au cuddiedig." Y mae y Salmydd am i'w galon a'i fywyd i gael eu dwyn i gydymffurfio a cbyfraith Duw. Er mwyn hyn y mae am gael adna- byddÜtCthohono ei hun. Ei gamweddau. Ystyr y gair ydyw crwydro. Pwy a ddeall grwydriadau cyf- eiliornus ei galon. Y mae gwe thrediadau y galon a'r meddwl mor ddir elaidd. Goleuni Gair Duw sydd yn gallu dangos i ddyn ei hun wyrni ei galon. Glanha fi. Syniad cyfreithiol sydd i'r gair. Cadw fi rhag cosbed- ijaeth trwy fy nglanhail. Fy meian cuddiedig—beiau anhysbys i mi fy hun ac i'm cymydogion. Adnod ]3. Atal hefyd dy was oddiwrth feiau rhyfygus, na arglwyddiaethont arnaf yna y'm per- ffeithir, ac y'm glanheir od ldiwrth anwiredd lawer." Peehodau rhyfygus. Mown gwrthgyferbyniad i feiau cuiidiedig. Peehodau wedi eu cyfl iwni dan ddylanwad nwyd, a hyny pan yn ymwybodol o'u drygau. Dyma'r peehodau sydd yn caethiwo dyn, ac yn ei gadw mewn cadwynau. Na arglwyddiaethont—trwy feddu gallu parhaus arno i'w dda^ostwng dan eu ha^durdod. Edrychirarypehodau hyn fel gelynion beiddgar a chryfion. Anwiredd lawer — nea anwiredd mawr. Tybir fod y Salmydd yn eyteirio at ryw bechod neill- duol yr oedd ef yn agored iddo. Adnod 14. Byd.fed ymadroddion fy ngenau a mvfyidod fy nghalon yn gymeradwy ger dy fron, O Arg'wydd, fy nghraig a'm prynwr." Myfyrdod fy lighaloi,t-ei gyniluniau a'i fwriadau dirgelaidd. Yn gymeradwy-arferir yr un gair yma a arferid am gy- meradwyaeth Duw i'r aberthau Iuddewig. A'm prynwr. Ceir yr ymadrodd gyntaf yn Gen. xlviii. 16. Y mae yn golygu Duw fel gwaredwr ei bobl. Fy nghraig, i'w nerthu a'i alluogi i gadw y gyfraith a'm prynwr, i'w waredu l'hag llygredd a gallu pechod. GWERSI. Y mae Daw yn ei weithredoedd yn datguddio ei fawredd, ei allu, ei ddoetbineb, a'iddaioni. Y mae tystiolaeth gweithredoedd Duw yn dystiol- aeth barhaus ac i bob cenedl. Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd a welir yn amlwg, gan eu bod i'w canfod trwy y pethau a wnaed sef ei dra- gywyddol allu a'i ddwyfoldeb, fel y byddent vn ddi- esgus (C\f. Diw.)-—Rhuf i. 20. Y mae myfyrdod ar weithredoedd Duw yn cynyrchu syniadau am fawredd Dnw—hyfrydwch ynddo ac ym- ddiriedaeth yn ei ffyddlondeb. Ond n ei Airy ceir datguddiad llawn o Dduw yn ei holl briodoleddau-fel Duw trugarog a maddengar. I ddyn y mae Gair Duw yn rheol berffaith—yn oleuni i'w gyfarwyddo-yu cyr'yrchu hapusrwydd a mwynhad-ac yn allu pureiddiol i'w sancteiddio oddi- wrth halogrwydd cnawd a buchedd. Denjys i ddyn ganlyniadau anufudd-dod a gwobr nfudd-dod, ac addawa y nerth angenrheidiol er ei allu. ogi i ddwyn ei fywyd i gydymffurfiad a deddf Daw, ac felly i ymhyfrydu yn yr Arglwydd fel ei graig a'i brynwr." GOFYNIADAU AR Y WEES. 1. Pwy gyfansoddodd y Salm hon, ac o dan ba am- gylchiadau y cy fansoddwyd hi P 2. Pa fodd y rhenir y Salm ? 3. Pa ystyr neillduol sydd i'r gair Duw yn y rhan gyntaf o'r Salm, a pha ystyr neillduol sydd i'r gair Ar* glwydd yn y rhan olaf ? 4. Pa addysg- neiJIduol a ddysgir am Dduw gan y nefoedd a'r ffurfafen ? DangoBwch fod eu haddysg yn barhaus a chyffredinol. 5. Esboniwch adnod 3. Pa ddefnydd wneir gan y Salmydd o'r haul i egluro ei osodiad P 6. Eglurwch ystyron y geirian a ddefnyddir gan y Salmydd am Air datguddiedig Daw. 7- Dangoswch effeithiau Gair Duw ar y rhai sydd yn ei dderbyn, a'r modd y mae yn ddatguddiad llawnach o Dduw na'r greadigaetb. 8. Pa beth a olygir wrth "feiau cuddiedig," a phechodau rhyfygus P 9. Esboniwch ddymuniad neillduol y Salmydd yn adnod 14.

CYFLWYNIAD RHODD I MISS M.…