Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

YMYLON Y FFORDD. I-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMYLON Y FFORDD. I Nos Sadwrn Sulgivyn. Mae cyfarfodydd YR UNDEB CYMREIG yn Aberystwyth wrth y drws, a pbawb sydd yn bwriadu bod ynddynt yn ddiau wedi an- fon, a'r Pwyllgor Lleol ar fin, os nad wedi cwblbau eu trefniadau; ond ni byddant allan o'r pryder a'r drafferth hyd nes y bydd Y cyfarfodydd wedi myned heibio. Gellid gwneyd llawer trwy ragfeddwl i leihau pryder ac ysgafnhau gwaith cyfeillion. Dau oeth yn arbenig yr wyf wedi clywed ewyno 0 u herwydd yn yr boll gyfarfodydd a fu. Y cyntaf ydyw hwyrfrydigrwydd cyfeillion i anfon en bod yn bwriadu dyfod, a rhai yn dyfod heb anfon gair o gwbl, ac yn dysgwyl lr Pwyllgor Lleol sicrhau lie iddynt er hYDY. Gwelais rai felly agos yn mbob cyfarfod. Peth arall llawn mor boenus ydyw i gyfeillion anfou ar yr awr olaf nad ydynt yn dyfod, a rbai morddifoes a pheidio all on gair nad oeddynt yn dyfod. Mae hyny yn dyrysu pethau yn ddirfawr. Siomir teuluoedd wedi iddynt ddysgwyl a pharotoi; a chollir yn ami boll fudd a mantais y Ilety- dai mwyaf cyfleus a chysurus. Yr wyf yn inawr hyderu y daw pawb sydd wedi anfon eleni, oni bydd ryw rvvystr anorfod oblegid yr wyf yn deall fod pawb o bob enwad yn hynod o groesawgar, a gresyn fyddai eu siomi. Owelaf fod y Pwyllgor Gweithiol wedi ewblhau ei drefniadau, ac wedi darparu rhaglen ragorol. A barnu wrtb y materion sydd i'w dwyn ger bron, a'r personau sydd i ymdrin a hwy, gallwn feddwl na bydd y cyfarfod eleni yn ol i'r eyfarfodydd blaen- 0l'ol. Nis gall neb gwyno nad yw y Pwyll- t, 5 gor yn gofalu cael gwaed newydd i mown bob blwyddyn ac erbyn hyn y mae pob un sydd yn cymeryd rban yn y cyfarfodydd WeQi dyfod i deimlo fod yn rhaid iddo daflu ei holl egni iddo. Yr wyf yn credu mai dyna un peth sydd yn cyfrif am effeithiol- aoth y cyfarfodydd a gafwyd. Beth bynag a all pob un, y mae yn teimlo fod yn rhaid iddo roddi ei oreu yn y cyfarfodydd hyn. Ond y mae amryw bethau nad ydynt yn nhrefulen y Pwyllgor wedi troi i fyny ag na ddylai y fath gynuliiad fyned heibio hebalw sylw atynt. Mae yn sicr geuvf fod y Pwyllgor yn effro i'r pethau byn, ac y bydd iddynt yn eu cyfarfyddiad prydnawn Llun wueyd eu trefniadau pa bryd a cban bwy y dygir hwy yn mlaen. Ni byddai yn deg, heblaw y byddai yn hollol afreolaidd, dwyn unrhyw fater ger bron y fath gynulliad ond trwy y Pwyllgor. Nis gwn yn sicr pa fater- ion a dry i fyny ond y mae yn fwy *na tbebyg, yn ngwyneb yr Etboliad Cyffredinol sydd with y drws, a'r miloedd yn ycbwan- egol o'n cydwladwyr a fydd yn y meddiant o'r Etholfraint, y bydd llawer yn teimlo y dylai Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghyuiru gael lie amlwg, ac y dylid bawlio ei wneyd yn Ngbymru yn brawf-gwestiwn yr Etboliad. Ni ddylai yr un gynadledd bwysig bellach fyned. heibio heb fod hwn yn cael ei wthio yn mlaen, a pharhau i'w ddal i fyny nes y byddo yr am- can wedi ei gyrhaedd.. Gan ein bod yn cyfarfod yn Aberystwyth, o'r braidd yr wyf yn meddwl y byddai yn iawn i ni fyned oddiyno heb ddatgan trwy benderfyniad cryf ein llawenydd am lwyddiant y Brifysgol vno a thra yn diolch i'r Llywodraeth am yr hyn y maent wedi ei wneyd, nad ydyw yn teimlo y bydd cyfiawnder wedi ei wneyd a Choleg Aberystwyth hyd oni osodir ef ar yr un tir a Cholegau Bangor a Chaerdydd. Ni wiw i ni fod yn ofnus ar faterion fel hyn. Os ydym am ein bawliau, rhaid i ni siarad allan. Diau fod materion ereill ddaw ger bron, a'gwertbfawr ydyw cael, cyfle o'r fath ¡ i ddatgan ein barn. Nid rhaid wrth amser hir gyda'r naill na'r Hall, ond bydd y pen- derfyniadau a basir yn ddatganiad o deimlad y rhai a fyddo yn bresenol, ac mewn ffordd anawdurdodedig yn cynrycbioli llais yr Enwad. Mae cynifer o gyhoeddiadau yn ym- ddangos yn ein biaith fel y mae yn anhawdd i ddyn gael eyfle i'w gweled oil, llawer llai i'w darllen yn fanwl a galw sylw atynt. Yn achlysurol y byddaf yn gweled y Red Dragon, ond gwelais ynddo o bryd i bryd amryw ysgrifau rbagorol iawn. Anfonwyd i mi yn ddiweddar un o'r rhifynau am y flwyddyij ddiweddaf, lie y mae ysgrif ddy- ddorol o eiddo y Parch J. Wyndham Lewis, Caerfyrddin, ar CANON POWELL JONES. Ychydig, mewn cymhariaeth a « yddwn am y Canon cyn darllen yr ysgrif hon, heblaw fy mod yn ei gofio yn gurad, ac wedi hyny yn fleer yn Casllwchwr, a'r rhan a gymerai mewn dadleuon ugain a deng mlynedd ar hugain yn ol. Bu mewn gafael a'r Esgob Thirlwall a Dr Rowland Williams, heblaw ei ddadleuon Cymreig a Mr Rees, Llanelli; Dr Rees, Abertawy; Dr Roberts, Pont- ypridd; ac ereill. Mae Mr Wyndham Lewis, yn yr ysgrif dan sylw, wedi gwneyd tegweh llawn a'i goffadwriaetb, ac nid yw yn ysgrifenu am dano heb fod ganddo bob I 1 9 mantais i'w adnabod, ac wedi ei ddwyn i fyny yn agos ato, er nad o dan ei nawdd. Yr oedd y Canon yn ddyn dysgedig, o olyg- iadau Efengylaidd, ac er yn Eglwyswr cyd- wybodol, eto mor ryddfrydig at bobl ereill ag y gallesid dysgwyl cael unrhyw ddyn wedi ei ddwyn i fyny yn Eglwys ffafredig ei wlad. Nis gall neb ar ol darllen yr ysgrif hon lai nag edmygu y dyn a pharchu ei goffadwriaeth, er yn gwabaniaethu' yn fawr oddiwrtho yn ei olygiadau. Treuliodd yn agos i ugain mlynedd olaf ei oes yn Llau- ¡ trisant, Morganwg, ac apwyntiwyd ef gan y ¡ Z, t, diweddar Dr Ollivant, Esgob Llandaf, yn un It o ganoniaid yr esgobaeth ac yn sicr buasai C, gwr o alluoedd, a dysgeidiaeth, a chymeriad Canon Powell Jones yn llawer mwy anrhyd- ¡ eddus yn mysg ei gydwladwyr oni buasai y dylanwad sydd gan y Grefydd Sefydledig i ddyeithrio ei gweinidogion oddiwrth luaws y genedl. Dyma un arall o ddrygau v cy- sylltiad rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Os cyhoedda Mr Lewis gyfrol o bregethau a llythyrau y Canon, fel yr awgrymodd rhyw- un i mi fodyn'ei fryd i wneyd, gwasanaetha yr ysgrif yma yn rhagorol fel rhagdraeth i'r cwbl, J Mae mwy nag un o'm cyfeillion wedi ys- grifenu ataf yn nglyn a CHANMLWYDDIANT YR YSGOL SABBOTHOL, ac yn gofyn pa beth yw dyledswydd yr en- wadau crefyddol ereill yn ngtyn a dathliad Canrnlwyddiant yr Ysgolion Sabbotbol fel eu cychwynwyd gan yr anfarwol Charles o'r Bala. Ni fynwn ddyweyd gair yn anfrawdol yn y mater yma, nac ysgrifenu llinell a fyddo yn ddolur i neb. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi dyweyd o'r blaen, fod dau neu dri o bethau y buasai yn dda fod ein brodyr y Methodistiaid wedi eu gwneyd er sicrbau i ddathliad y Canrnlwyddiant fod yn fwy calonog gan yr holl genedl, ac i orwedd yn fwy esinwyth ar yr holl enwadau. Buasai yn dda fod cydnabyddiad wedi ei wneyd o'r .cyfarfodydd egwyddori a'r ysgolion darllen, fel eu gelwid, a gynelid yn flaenorol gan yr hen Ymneillduwyr. Gwn nad oedd ond ychydig o'r rhai hyny, ac y mae yn amheus genyf a oedd yr un ohonynt yn aros yn yr adeg y cychwynodd Mr Charles allan. Mae y cyfeillion hyny sydd yn tybied fod y rhai hynyn gyffredinol yn yr hen eglwysi yn llafurio o dan gamargraff hollol. Nid oes banes am danynt ond mewn ychydig leoedd. Ond yr oeddynt mewn rhai manau. Ceir mewn hen lawysgrif o eiddo un Morgan John o Dreforris, dyddiedig 1720, iddo ef ddysgu darllen mewn ysgol a gynelid ar y Sul yn Nhy'rdwncyn (Mynyddbach yn awr) mor foreu a'r flwyddyn 1697, a bod gan yr eglwys yn y Chwarelau Bach, Castellnedd, ysgol o'r fatb yr un amser. Clywais y di- weddar Barch Daniel Evans, Castellnedd, yn dyweyd, er's dros ddeugain mlynedd yn ol, ddarfod i hen wraig yn Nghastellnedd ddyweyd wrtho ef mai mewn ysgol ddarllen yn y Chwarelau Bach, a gynelid ar y Sul, y dysgodd hi ddarllen. Rhaid fod hyny cyn y flwyddyn 1771, oblegid dyna y flwyddyn y symudodd y gynulleidfa o'r Chwarelau Bach i Maesyrhaf. Ond fel y dywed Dr Rees yn ei History of Nonconformity," tudal. 394, fod yn debygol mai cyfarfodydd egwyddori oedd yr ysgolion hyn, y rhai a. Z, 0 gynelid yn rheolaidd yn yr hen eglwysi, ond y cymerid mantais hefyd ar rai ohonynt i ddysgu darllen, er yn ddiau eu bod yn wahanol iawn i Ysgolion Sabbothol y dydd- iau hyn. Buasai er hyny yn foddlonrwydd i lawer fod eu bodolaeth yn cael ei gydnabod wrth anrhydeddu coffadwriaeth y rhai a sef- ydlodd yr ysgolion ar gynllun mwy effeith- iol. Buasai yn foddlonrwydd hefyd fod enwau y rhai a fu yn gynorthwyol yn y gwaith y tuallan i gylch y Methodistiaid yn cael ei grybwyll. Mor foreu a'r flwyddyn 1786, gyda chynorthwy ychydig gyfeillion hael- ionus yn Lloegr, bu Dr Edward Williams, yr hwn oedd ar y pryd yn Nghroesoswallt, yn foddion i sefydlu amryw Ysgolion Sab- bothol yn Ngogledd Cymru. Wedi i Dr Edward Williams symud o gyrhaedd Cymru, bu Dr George Lewis yn noddwr yr ysgolion "hyn. 0 gylch yr un amser yr oedd y Parch J. M. Rees o Bontypool (Bedyddiwr) yn gweithio yn ddiwyd i sefydlu Ysgolion Sab- bothol ond ymfudodd ef cyn hir i America, heb adael neb a? ei ol o gyf