Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y GOLOFN WIKIDYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOLOFN WIKIDYDDOL. GAN GWLEIDYDDWR. Y Cabinet mewn argyfwng — Betlt a wna Mr Gladstone ? — Mesur Addysg Ganolraddol- Rhagolygon Morganwg. < Y CABINET MEWN AKGYFWNG. YMADAWODD dau Dy y Senedd ddydd Gwener i gael ychydig o wyliau dros y Sulgwyn. Y mae ein helyntion tramor wedi eu gwastadhau yn weddol, er nad yw yr anghydwelediad a Rwsia wedi ei orphen yn derfynol, a bod y wlad hono yn arafach cyn dyfod i bwynt nag y dy- munid ond gartref y mae un peth yn peri pryder, a gall fod yn achos o berygl mawr i'r Weinyddiaeth. Pan lofruddiwyd Arglwydd F. Cavendish a Mr Burke yn Dublin, cynhyrfwyd yr holl deyrnas, a'r canlyniad fu pasio deddf a elwir y Crimes Act yn yr Iwerddon. Amcan y ddeddf oedd gosod trosedd i lawr, a hyny mewn ffordd eithriadol. Mae yn y ddeddf ddarbodion i wneyd heb neu i newid rheithwyr. Y rheswm am hyn ydoedd ei bod yn anmhosibl cael jury i gondemnio troseddwyr a gyhuddid o lofrudd- iaeth a dynladdiad, a rhai mathau ereill o dro- seddau. Deddf dros amser y bwriedid iddi fod ac y mae'yn rhaid naill ai gadael iddi redeg allau, neu ei hadnewyddu eleni, Mae ei thym. hor ar ben y flwyddyn hon. Pa un a adne- wyddir y ddeddf hon fel y mae, neu mewn rhyw ffurf arall, nen ei gadael i farw sydd yn peryglu unoliaeth y Cabinet. Mae yn ddealledig fod Mr Chamberlain, Syr C. Dilke, Mr Shaw Lefevre, ac un neu ddau ereill, dros ei gadael i drengu, am fod deddfwriaeth o'r fath yn anghydweddol ag ysbryd Rhyddfrydiaeth, tra y dadleua larll Spencer yr hwn yw Arglvyydd Eaglaw yr Iwerddon, Iarll Granville, Selborne, Hartington, ac ereill, y dylid ei hadnewyddu. Anhawdd gwybod eto beth a fydd. Gi-esyn mawr fyddai cael ymraniad yn awr, a ninau yn ymyl Etholiad CyfTrediaol. Mae Mr Gladstone wedi hysbysu y bydd i'r ddeddf mewn rhyw ffurf gael ei dwyn ger bron, ond gyda hyny addawa fesur neu ddau o welliautau yn gyf- ochrog a'r Crimes Act. Dadl Mr Chamberlain ac ereill ydyw, fod yr Iwerddon yn ddigon llonydd ar hyn o bryd i adael iddi, ond nis gall adran yr hen Whigs gredu felly. Os na adne- wyddir y d <eddf mewn rhyw flurf neu gilydd, y mae perygl i Iarll Spencer ymddiswyddo, ac o'r ochr arall os gwneir, y mae perygl i Mr Cham- berlain a Dilke ac ereill ymddiswyddo. Hyderaf y deuir drwy yr anhawsder hwn eto fel yr ydys wedi dyfod drwy amryw o'r blaen, oeddynt yn ymddangos yn liawn mor anhawdd apheryglus. BETH A WNA MR GLADSTONE P A fwriada efe ymgilio o'r maes ar derfyn y Senedd bresenol P Kid heb achos y gofynir y ewestiwn hwn y dyddiau hyn. Mewn araeth nodedig a draddodwyd ganddo yn ddiweddar cyfeiriodd at fisoedd ac yn wir wythnosau fel rhai posibl i weled terfyn ei ran ef mewn bywyd cyhoeddus. Effeithiodd hyn yn fawr ar lawer o'i gefnogwyr. Gwir ei fod efyn llawn deilyDgu gorphwysdra, a bod y sarhad a geisia bodau difoes sydd yn cablu urddas "-bodau bach- en eidiol fel Ashmead Bartlett a'i gwmni-dafln arno yn ei demtio yntau i'w fawr ddeisyfu, oDd wedi y cwbl efe yw ein dyn ni tra y gall symud. Mae wedi myned drwy bryder mawr y misoedd diweddaf rhwng pob peth, a gresyn fod yr achos poenus o'r Crimes Act yma yn dyfod i'w ran yn awr. Nid yw ef ei hun yn ffafriol i ddeddfwr- iaeth o'r fath oddieithr mewn achosion eithafol. Mae ein gobaith ynddo ef eto am heddychu y Cabinet ar y mater hwn, fel pob mater o bwys arall. Ond pe ceid unoliaeth yn y Weinydd- iaeth nid yw hyny yn sicrhau fod yr holl berygl wedi myned heibio. Ceir brwydr ofnadwy yn y Ty Cyffredin, W rth gwrs bydd Parnell a'i blaid ar eu heithaf yn erbyn y mesur, ae y mae Mr John Morley eisoes wedi rhoddi rhybudd o'i fwriad i gynyg penderfyniad yn ei erbyn. Mae y rhan Radicalayld o'r Ty yn erbyn adne- wyddu y ddeddf mewn unrhyw ffurf, ac os unir y Gwyddelod, ac amryw o'r Toriaid sydd yn dyheu am yr adeg i osod y Weinyddiaeth mewn lleiafrif, a'r Radicaliaid, mae perygl i'r Wein- yddiaeth gael ei gorchfygu. Ond beth a enillir drwy hyny sydd yn ddirgelwch mawr. Nid oes ond ychydig o'r Senedd-dymhor hwn heb ei dreulio, a chydnebydd pawb y ceir etholiad yn Tachwedd. Rhwng pob peth y mae Mr Gladstone yn teimlo i fesur, ac yn awyddu am dawelweh a gorphwysdra. Fodd bynag, dy- muniad ei blaid ydyw iddo adael ei law at ein gwasanaeth yn yr etholiad nesaf, ac yna os bydd yn rhaid iddo ymgilio o'r maes iddo wneyd hyny ar ol yr etholiad. Nis gellir cael enw cyffelyb i'r eiddo ef i gynhyrfu y wlad ac i uno pob adran o'r blaid Ryddfrydig, ac y mae yn an- hawdd meddwl y gall yntau fod yn llonydd tra y deil ei iechyd. Methodd o'r blaen. Ond dylid cofio ei fod yn 75 mlwydd oed yn awr. Prin y gall neb feddwl hyny wrth ei waith, ac nid yw yn ymddangos yn colli dim o'i nerth. Pa bryd bynag yr ymneilldua, gwna hyny ar ol pasio mwy o ddeddfau er budd i'r holl wlad, nag y gwnaeth yr un Prifweinidog o'i :daen, ac yn goron ar yr oil y Reform diweddaf, yr hwn a esyd ei nod ar Senedd-dymhor 1884-1885. MEBUX ADDYSG GANOLBADDOJi. Cyflwynodd Mr Mundella y Mesur hwn i'r Ty cyn ypadael am wyliau y Sulgwyn. Ond gan ei bod yn tynu yn mhell yn y boreu pan ddyg- odd ef yn mlaen, ni chafodd amser i esbonio nemawr ar ei ddarbodion. Mae y mesur yn awr ger bron y wlad, a dylid ei wylio yn fanwl. Cofier nad yw Llywydd nac Is lywydd Cynghor Addysg, yn rhai y gall Ymneillduwyr Cymru adael addysg y wlad i'w gofal, heb eu gwylied yn fanwl. Yr wyf yn ofni fod llawer yn cam- ddeall Mr Mundella, ac yn ymddiried gormod ynddo, ac am Arglwydd Carlingford y mae genym gof byw ei fod yn ein herbyn pan nad oedd ond Chichester Fortescue, a gellir bod yn dra sicr nad yw awyrgylch Ty yr Arglwyddi wedi eangu llawer arno. Dylai holl gynulliadau mawrion yr enwadau Ymneillduol gymeryd y mesur i'w sylw, a phasio penderfyniadau cymeradwyol neu anghymeradwyol yn ol fel yr ymddangoso y mesur iddynt, ac y mae wedi ei gyflwyno yn amserol i allu gwneuthur hyny yn nghyfarfodydd mawrion yr haf presenol. Wrth bob tebyg yn ol yr hyn a ellir ddeall ohono, cymeradwya ei hun, ac y mae gobaith am iddo gael ei basio cyn y torir y Senedd i fyny. Dyma ffrwyth y cyffroad yn Nghymru. Gwyddom beth i'w wneyd o hyn allan pan am gael yr hyn a geisiwn. BHAGOLYGON MORGANWG. Rhaid cydnabod mai hytrach yn gymylog Yr ymddengys mewn dau neu dri o'r dosbarthiadau yn y sir hon. Anhrefnus iawn oedd y cyfarfod a gynaliwyd yn Iddiweddar yn Nghanol Mor- ganwg. Yr oedd yn mhell o fod yn unfrydol, ac ymadawodd llawer heb fod dim neillduol yn cael ei wneyd. Gellid meddwl fod y dosbarth hwn yn amddifad o arweinwyr, neu fod dynion hunan-hyderus ac uchel-geisiol, ond dynion bychain heb allu i lywodraethu eu hunain. chwaethach arwain ereill, yn ymwthio gymaint i'r ffrynt nes diflasu y gwir arweinwyr, a pheri

YMYLON Y FFORDD. I-