Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
PONTARDAWE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PONTARDAWE. Cyfarfod Bhyddfrydig.—Nos Fercher, Mai 13eg, yn Oddfellows' Hall y lie uchod, cynaliwyd cyfarfod Rhyddfrydol. Yr oedd yn bresenol dyrfa fawr o bobl. Yn absenoldeb Mr William Williams, Maer Abertawy, yr hwn oedd wedi addaw cymeryd y gadair, ond a analluogwyd gan amgylchiadau i gyflawni ei addewid, etholwyd yn nnfrvdol Syr John Jones Jenkins, A.S., i ywyddu. Wedi dattran ei lawenydd am y dewisiad doetb oedd Cymdeithas Ryddfrydig rhan orllewinol ^orjanwg wedi ei wnenthur y diwrnod hwnw yn Abertawy, sef dewis Mr P. A. Yeo i'w cynrychioli yn yr etholiad nesaf, rhoddodd Syr John fraslun o weith- rediadau y Ty yn ystod y Weinyddiaeth bresenol, yr yn a dderbyniwyd gyda mawr gymeradwyaeth. Yna cyflwyuodd Mr Yeo i sylw y cyfarfod, a chymhellodd bawb i lynu wrtho ac i weithio drosto, os byddai raid, yn y dyddiau dyfodol. Derbyniwyd yr yuigeisyiid Syda brwdfrydedd mawr, a gwrandawyd yn astud arno J31 rhoddi ei gtedo boliticaidd, yr hon syrld yn hollol lach yn y ffydd, ac wrth fodd calon pob Rhyddfrydwr e £ w,yddorol yn mhob rhan o'r dosbarth. Wedi wrando arno yn si-irad, pasiwyd penderfyniad unfrydol i'w gefnogi. Siaradwyd yn ei ffafr gan Mri Martin, ^irch^rove; White, Ystalyfera; Parchn Rees, Alltwpn; ijvans, Gellionen; Morgans, Pontardawe; Jones, ■ra t-teg Jenkins, Wern, Ystalyfera a Selby Jones, ^armel, Llanjiwc. Heblaw a enwyd, g^elsom hefyd yr esgyulawr Mri D. Smith, Alltwen R. Smith, Wandwr; Roberts, Glandwr; Parchn J. T. Davies, ■Pontardawe; a C. Williams, Ystalyfera.
! Colofn y Dadgysylltiad.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Colofn y Dadgysylltiad. Yn mhlith y lluaws o uchelwyliau blynyddol a gynelir yn LIundain yn ystod mis Mai, nid y ddistadlaf o lawer yw ucbelwyl Cymdeitbas Rhyddhad Crefydd. Cynaliwyd y cyfarfod eleni dydd Mercher, Mai 13eg, ac ni fu odid gyfarfod mwy llwyddianus. Yn nghyfarfod y Cynghor, darllenwyd yr adroddiad blynyddol gan Mr Sidney Robjohns, ac yr oedd ar y cyfan yn galonogol iawn. Mae mwy o waith wedi ei wneyd yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, yn enwedig yn Ysgotland a Chymrn, nag a wnaed yr un flwyddyn o'r blaen. Gwnaed cyfeiriad at yr anhawsderan sydd ar ffordd Mr Dick Peddie a Mr Dillwyn i ddwyn eu mestirau ger bron Ty'y Cyffredin, ond y mae cy- hoeddiad mesur y blaenaf wedi cynhyrfu Ysgotland trwyddi, a'i ddarpariadau yn cael eu beirniadu yn galed gan bob dosbarth. Rhoddir lie helaeth yn yr adroddiad i'r Etholiad Cyffredinol sydd wrth y drws, ac y mae y rbagolygon o safle y Dadgysyllt- wyr yn bynod obeithiol. Y mae lluaws mawr o ymgeiswyr Rhyddfrydol wedi datgan yn groew eu bod yn barod i roddi eu holl allu o blaid mesurau a sicrhant berffaith gydraddoldeb crefyddol, a derbyniad oeraidd a roddir i rai nad ymrwymant i hyny. Mewn lluaws o etholaethau, nid yw yr ymgeiswyr wedi eu dewis eto, ond nid yw y gym- deithas am arbed unrhyw drafferth er cael Rhyddfrydwyr pob etholaeth i ddewis Dadgysyllt- wr, os yn bosibl. Y mae sefyllfa arianol -y gymdeithas hefyd yn foddhaol. Yn ystod y flwyddyn, yr oedd y derbyniadau yn £9,416 19s 3c, a'r treuliau yn £8,670 Is 8c. Dirwynai yr adrodd- iad i fyny gydag apeliad taer at gyfeillion y mudiad am gyfraniadau ychwanegol, er dwyn y gwaith yn mlaen mor effeithiol ag sydd bosibl o hyn i'r etholiad. Yn yr ymddyddan a gymerodd le yn nglyn a'r gwahanol benderfyniadau a ddygwyd ger bron, caed digon o dystiolaethau fod y wlad, ac yn enwedig. y rhanau amaethyddol, yn fwy addfed ar y pwnc nag y tybir yn gyffredin. Nid oes un ddadl, fel y sylwodd Mr Illingworth, A.S., nad yw y trefi a'r ardaloedd poblog yn eithaf dyogel, ond pryderir cryn lawer pa beth a wna y llafurwyr amaethyddol. Ymddengys, fodd bynag, fod y rhan fwyaf o'r pryder hwn yn ddiangenrhaid. Y mae Mr Joseph Arch ac ereill- wedi agor llygaid olynwyr Cain i weled nad yw y person yn gyfaill iddynt hwy pe troid ffrwd y degwm i ryw gyfeiriad amgenach nag at ddrws y persondy. Ymddengys fod rhai yn ofni i'r Ysgotiaid gael eu hud-ddenu gan gynllun Arglwydd Aberdeen i waddoli pob enwad, ond y mae Dr Webster, A.S., wedi dwyn tystiolaeth ddigamsyniol nad oes un perygl o'r cyfeiriad hwnw. Nid yw y cynllun o gydwaddol- iad (concurrent endowment) yn haeddu sylw o gwbl o ran y derbyniad a roddir iddo yn Ysgotland, ac y mae yr Eglwys Rydd wedi datgan yn eglur na fyn gydwaddoliad mewn unrbyw ffurf. Y mae pobpetb a ddaeth i'r golwg yn ystod gweithred- iadau y Cynghor yn dangos fod achos y Dad- gysylltiad wedi enill tir aughyliredin yn ystod deuddeg mis. Cynaliwyd y cyfarfod cyhoeddus yn Nhaber- nacl Mr Spurgeon, ac er mor eang yw yr adeil- ad hwnw, yr ydoedd wedi ei orlenwi. Llywydd- wyd y-gweithrediadau gan yr Anrhyd. Lyulph Stanley, A.S., ac yn mhlith y siaradwyr ys oedd Syr Robert Cunliffe, A.S., Mr Illingworth, A.S., Mr O'Connor Power, A.S., a'r Parchn C. II. Spurgeon, A. Mackennal (Bowdon), ac Alexander Olivet (Glasgow). Yr oedd pob un ohonynt yn siarad yn dda, ond araeth Mr Spurgeon, fel y sylwodd Lladmerydd yn y TYST diweddaf, yd. oedd araeth y noson hono. Y mae yn amheus a welwyd y gweinidog enwog mewn gwell form rywbryd. Gwawdiai y syniad mai mantais idd- ynt eu hunain oedd mewn golwg gan yr Ymneill- duwyr wrth gynhyrfu am Ddndgysylltiad. Prin yr oedd ef yn meddwl y cyrhaeddid yr amcan yn fuan iawn. Dywedai fod Lloegr yn wlad iach iawn-fod abuses yn marw yma, ond marw oedd y peth diweddaf a wnaent. Hoffai ef fod yn dyner ond pan y gwrthodid tir i adeiladu capelau gan Eglwyswyr, yr oedd yn bur anbawdd bod yn dyner. Y ffordd i Eglwyswyr edrych ar y mater ydoedd, tybio fod un o'r enwadau ereili yn sefydledig; ac yr oedd yn sicr dan amgylch- iadau felly y buasai pob Eglwyswr drwy y wlad yn aelod o Gymdeithas Rhyddhad Crefydd. Ond ni fynai yr un euwad arall gael eu gwaddoli. Gwnai y cysylltiad niwed dirfawr i'r Eglwys ei hun. Yr oedd ynddi y fath gymysgedd o ath- rawiaethau. Clywsai am wallgofddyn y gofyn- wyd iddo, "Pwy ydych chwi?" "Myfi yw Lucifer." "Nage, Gabriel oeddych yr wythnos ddiweddaf." H Ië, y mae byny yn eithaf gwir, ond y mae ein mamau yn wahanol." Felly yn Eglwys Loegr. Mewn un man clywid yr Efengyl yn cael ei phregethu yn ei phurdeb a'i syml- rwydd, ac mewn man arall ceir ynddi gasgliad o holl addurniadau Rhufain-Gabriel un wythnos a Lucifer yr wytbnos nesaf-rhaid fod y mamau yn wahanol. Edrychai ef ar y cwestiwn fel uu crefyddo], a dymunai weled Dadgysylltiad er mwyn y brawdgarwch a'r undeb Cristionogol fyddai yn sicr o ddilyn hyny. Cafodd sylwadau Mr Spurgeon gymeradwyaeth fwyaf gwresog y dorf fawr oedd yn gwrando. # Cynrychiolid Cymrn gan Syr Robert Cunliffe, a gos- odid ein hachos yn glir a chryf ger bron. Sicrhaodd pe cawsai Mr Dillwyn gyfle i ddwyn ei gynygiad ger bron y Senedd, y bnasai yr wyth aelod ar hugain Rhyddfrydig Cymreig yn pleidleisio drosto. Hyderwn ei fod yn dyweyd y gwir, ond yr ydym yo lied amheus 0 rai ohonynt. Buasai yn eithaf pe gofynasid i Syr Robert lie yr oedd yr oil o'r wyth-ar-hugain heblaw Mr C. H. James ac yntau. Nid oedd y Senedd yn eistedd y noson hono ar ol chwecli o'r gloch. Gwyr yr holl aelodau mai dyma y cwestiwn y mae Cymru yn cymeryd mwyaf o ddyddorcieb ynddo, ac eto dim ond DAU a roisant eu presenoldeb yn ngbyfarfod blynyddol pleidwyr y mudiad. Buasid yn dysgwyl i rai ohonynt fod yno i gynal breichian Syr Robert Cunliffe. Nid ydym yn hoffi. beio gormod ar yr aelodau. Gwyddom eu bod yn cael en gyra yn galed, a bod noson o seibiant yn werthfawdddynt; ond y mae y modd y llwydda y mwyafrif ohonynt i ysgoi pob cyfarfod fydd yn dal perthynas & mudiad y Dadgysylltiad yn sicr o fod yn gwneyd i'r wlad golli ei hyder ynddynt. Hwyrach mai. caste sydd yn eu cadw rhag cysylltu eu hnnain a ehymdeithas fel y Liberation Society. Yr ydym yn taimlo er's talm fod gormod o ddylanwad caste ar yr Aelodau Seneddol, ac y mae yn hen bryd anfon dynion i tyny na fynant gael eu dwyn yn gaeth i'r dylanwad hwn. Rhaid gofaln yn yr etholiad nesaf am gael eglur. had gan y boneddigion hyn ar eu hymddygiadan cynen dychwelir yn aelodan eto. NONCON. ♦ y
ABERDAR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERDAR. Nid oes llawer o gornelau gwag y gellir cael lie i bethau cyffredin yn y TYST er's llawer dydd bell- ach, ac fe ddaw cyfarfodydd yr Undeb Cymreig i mewn a'i lwythi pethau yn fuan, ac nid ydym yn gwybod pwy o'n gweinidogion poblog a defnydd- iol fydd marw eto yn fuan. Mae llawer o dudalenau y TYSTyn cael eu llanw yn ddiweddar gan ysgrifau galarus ar ol ein rhai anwyl a ymadawsant a ni am y byd tragywyddol. Mae yn naturiol gofyn, Pwy fydd nesaf? Fe all- esid meddwl wrth weled y lluoedd enwau gwein- idogion Annibynol oedd yn angladd Dr Rees nad oedd neb o weinidogion yr Enwad yn absenol, ond yr ydym yn gweled eywiro y rhestr trwy en wi rhai oedd yno nad oedd eu henwau wedi eu cofnodi yn 'y TYST. Felly o Aberdar, nid oedd enwan y brodyr ffyddlon y Parchn D. Silyn Evans, Siloa, a W. S. Davies, Llwydcoed, yno, er eu bod yn yr angladd; ond gwaith anhawdd iawn oedd cael enwau yr holl weinidogion o'r Enwad y perthynai iddo, heblaw yr holl weinidogion o'r gwahanol enwadau ereili yn mhlith y miloedd dynion oedd yn ei angladd. Y Sabboth a'r Llun diweddaf, cynaliodd yr eglwys yn Moriah Aman ei chyfarfodydd blyn- yddol, pryd y pregethwyd gan y Parchn Wm. Thomas, Gwynfe; R. Morgan, St. Clears; a, J. Alun Roberts, B.D., Caerdydd. Dechreuwyd y cyfarfodydd gan frodyr o'r gymydogaeth—Parchn J. Morgan, Cwmbach; W. &. Davies, Llwydcoed R. Rowlands, Aberaman; D. Griffiths, Cwmdar. a gweinidog i'r Methodistiaid. Cyfarfodydd rhag- orol, casgliadau da, a'r brodyr yn pregethu gydag arddeliad Divyfol. Mae cryn wres yn yr eglwys, a pbeth ugeiniau wedi eu derbyn yn aelodau iddi yn y misoedd diweddaf YOOR. Gwyn fyd na thorai gwawr diwygiad grymus trwy ein gwlad yn y dyddiau hyn. Cafwyd te-parti a chyngerdd ragorol yn Saron. Aberaman, dydd Llun diweddaf. GOHEBYDD.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CAKWCH YN DDA SlARADWCH YN DDA !— Mae Doughty's Voice Lozenye. wedi cael ei wertlifawrogi yu gan gleri'gwyr, cantorion, ac enwogion ereili am yn agos i 40ain mlynedd. lihydd glirder a gloewder i'r llais. JBNNY LIND.—" Y mae yn bleser mawr genyf, mor bell agy mae fy mliroiiad yn myned,i pcadavnhau y dystiolaeth sydd mor sy- Hredinol yn ffafr y Lozenges a ttorotoir genych cliwi" (Miles Doughty). 6e, Is, 2s Cc, 5s, a lis—yn rliydcl trwy y llytliyrdy, 7c, Is 2c, Sc. Gofynvvch i'cli Cyiterydd am danynt—XEWblSEY a'i rEIBlOK, 1, King- Edward-street, Llundain, E.C.I Sefydlwyd yn Y tlwyddyu 1746 "GREEN MOUNTAIN ASTHMA. CUBE — Anfonir tiniau bychain yn rliydd trwy y liytliyrdy am Is 2c.- V. NEWBEEY, a'i FEIBTON, 1, |K.ing Edward-Street, Llundain, Sefydlwyd yn y flwyddyn 1746.
Y GOLOFN WIKIDYDDOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
iddynt gadw draw. Mr Talbot yw y dyn yn adiau i'r dosbarth yma, ond mae yn amlwg nad yw yn ddigon Rhyddfrydig wrth fodd llawer. Mewn rhyw amgylchiadau ni cheir ein dewisiad ond y mae yn rhaid i ni wneyd y goreu o'r gwaethaf. Yn ofer yr ymdrecha neb yn erbyn Talbot os y saif, ac ystyried ei oed y mae ynbur •hyddfrydig. Yn nosbarth y Rhondda drachefn, gwelir yn amlwg fod gwrthdarawiad mawr rhwng y 300 a chefnogwyr Mabon. Nis gellir dyweyd beth a fydd, ond y mae dau beth yn bur sicr, sef fod Syr Hussey Vivian wedi bod yn annoeth iawn yn y sylwadau a wnaeth ar y 300," ac wedi gwneyd drwg mawr i'r achos a broffesai bleidio, a pheth arall fod dychweliad Mabon i'r Senedd y'n mhellach nag erioed ar ol y eyfarfod a alwyd 1 r pwrpas o'i gefnogi, ac yn yr hwn y gwnaeth Syr H. Vivian yr araeth y cyfeiriwyd ati. Mae Mr Lewis Davis, dewis-ddyn y 300" yn gwrthod sefyll, ac nid yw yn hysbys ar bwy y gyrth y coelbren y tro nesaf. Yn ol yr hanes a geir am y 300 yr oedd sylwadan Vivian yn hollol anghywir, a chydnebydd yntau ei fod wedi ei gamhysbysu, ond gwna hyny mor oer, ac mor brin, fel nad yw yn sicrbau maddeuant neb. Yn wir, yr oeddwn yn methu deall beth a barai iddo fyned i'r eyfarfod yn y Rhondda o dan y fath amgylehiadau. Nid mewn tywyll- weh hollol yr aeth yno. Beth a ddywedasai efe pe y gwnaethai Mr Lewis Davis fyned i Glan- dwj- neu i Dreforris i gyfarfod mawr y gweith- Wyr a dyweyd ei fod yn synu fod Syr H. Vivian yn meddwl am sefyll dros y rhan hono o Fwr- deisdref Abertawy, ac y dylasai sefyll dros Fro Morganwg—fod y rhan bono o'r Fwrdeisdref yn cael ei gwneyd i fyny o weithwyr gan mwyaf, ae mai un ohonynt hwy, ac nid un o'u meistri ddylasai gael ei ddewis i'w cynrychioli, a bod Lewyg Afan yn ymddangos iddo ei' y dyn iawn 1 hyny o orchwyl ? Mae yn rhaid iddo ef gofio fod ewestiynau fel hyn yn bosibl. Dylai ofalu rhagllaw, ac yr wyf yn dysgwyl y gwna. Nid yw yn hwylio mewn dwfr llonydd i gyd yn Nwyrain Morganwg. Barna rhai fod yr elfen enwadol yn rhy amlwg. Crybwyllwyd yu y golofn Hon ar gychwyniad y mudiad fod Mr Alfred Thomas yn cael ei osod mewn perygl oherwydd gorawydd rhai o'i bleidwyr. Gwein- idogion y Bedyddwyr welid amlycaf y pryd hwnw yn dadleu ei hawliau, ac wrth gwrs yn gresynu fod yr elfen enwadol yn cael ei dwyn i niewn pan y sonid am neb arall. Mae Mr Alfred Thomas yn ddyn mor rhagorol, fel na raid iddo wrth foddion fyddo yn chwerwi ereili, ac yr wyf yn bur hyderus y dychwelir ef i'r Senedd yn yr etholiad nesaf. Cymered ei gyfeillion bwyll, a rhodded ambell un doeth ohonynt air o gynghor yn awr ac eilwaith i'r sawl a beryglant yr achos drwy eu hannoeth- ineb. Mae gwaith iachau mawr ar amryw o'r dosbarthiadau yn Morganwg cyn y daw y sir yn agos i'w He. Da genyf ddeall fod Mr Arthur Williams yn gweithio ei ffordd cystal yn y Fro, a bod lie cryf i hyderu yr enilla y fuddugoliaeth yn ogoneddus. «.