Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

NANTGARW'.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NANTGARW'. pyflwyniad Anrheg.-Nos Fercher, y 13eg o'r Bus hwn, ar derfyn y gyfeillach grefyddol, cododd gweinidog y lie, y Parch C. T. Thomas, ar ei draed, a dywedodd fod yno un peth arall yn galw am eu sylw. Gan fod y gangen fywiog yma. o hen eglwys y Groeswen wedi codi pregethwr yn ddi- Weddar, a'r pregethwr hwnw yia arddangos cy- toaint 0 gymhwysder i waith mawr a phwysig y Weinidogaeth, fod lluaws o gyfeillion o'r eglwys, EVr byd o ran byny, wedi cael ar eu calon i bwrcasu fcifer neillduol o lyfrau o waith gwahanol awdurou enwog, megys y Dr Thomas, Dr Storrs, ac ereill, fel arwydd fechan o'n parch a'n dymuniadau da 1 n hanwyl frawd Mr Joseph Millward. Cafwyd ychydig eiriau pwrpasol i'r amgylchiad gan y- Mri Isaac Thomas, Daniel.Edmunds, a Thomas, Ty'n- ywerD, &c., a mynegodd Mr J. Millward ei deiml- adau diolchgar mewn ychydig o ymadroddioa byw a detholedig. Arferai yr enwog a'r anfarwol Barch Griffith Hughes, o'r lie hwn, pan y deuai rhyw lyfr newydd, defnyddiol, a chostus allan o'r Wa8g, i argymhell yr eglwys i'w brynu iddo, ar yr arnod y buasai yntau yn ei gyflwyno ya ol iddynt dros yr areithfa. Hyderwn y ca ein hanwyl frawd Mtllward oes faith i fwyta y llyfrau hyn a. gafodd genym, ac ni bydd genym ninau nn .gwrthwyneb- Jad i'w derbyn yn ol ganddo dros y pwlpud. Dygwyddiad lihyfedd.—Er's blynyddau lawer yn ol, dygwyddcd i'n cyfaill Mr Thomas, Ty' nywern, adrodd wrth y diweddar foneddwr hael a pharchus Mr Evan Williams, Y.H., Dyffrynffrwd, ddarfod i Hn,o i ^aenoriaid ef, sef Cadben Evans, cydymaith 1 Cadfridog Pritchard, Llancaiach, swyddogion perthynol i fyddin Cromwell, fod yn garedig neill- duol i'r achosion a'r gweinidogion Yrnneillduol yn y rhanbarth yma o Gymru. Dangosodd yr hy- barch foneddwr awydd mawr i gael rhagor o'i hanes, yr hwn a ysgrifenwyd iddo gyda'r parod- rwydd mwyaf ac ar gais Mr Thomas, derbyniodd lyfr clodwiw yr anwyl ddiweddar Ddr Rees, Aber- tawy, ar "Hanes Ymneilldaaeth yn Nghymru." Anfonodd Mr Thomas at y Doctor am y gyfrol, ac yn mhen yr amser priodol derbyniodd hi, gyda'r hysbysiad, mai yr un hono ydoedd yr un olaf ag oedd ganddo ar ei ddwylaw! Yn mhen rhai blynyddoedd y mae dyddiau y gwladwr ardderch- og o'r Dyffrynffrwd yn cael eu rhifo .i'r pen; a chan mai Saesoneg a Jeferid gan y teulu, a'u bod yn Eglwyswyr hefyd, y mae'r hen foneddwr car- edig yn barnu yn ddoeth i ddychwelyd y gyfrol i Mr Thomas i wneyd y defnydd a fynai ohoni, gan ei fod yn tybied na buasai hanes Ymneillduaeth yn rhyw ddyddorol neillduol i'w berthynasau a'i olynwyr. Dygwyddodd yr adeg bono fod yr eglwys yma wedi codi pregethwr, yr hwn erbyn heddyw sydd yn llenwi un o gylchoedd pwysicaf yr Enwad a chan nad oedd y gyfrol grybwylledig yn ei feddiant, darfu i'n cyfaill, yn ol ei hynaws- edd arferol, ei chyflwyno i'r gwr ieuanc hynod ac athrylithgar o Gwmparc. Ond at hyn yr oeddym yn cyfeirio, a hyn sydd yn rhyfedd yn hanes y gyfrol grwydredig uchod, y very cyfrol yna-yr olaf yn myned allan o ddwylaw ei hawdwr er's blynyddoedd meithion yn ol—ydoedd y gyfrol wedi'r cwbl a ddefnyddiwyd ganddo ef ei hunan wrth barotoi ei ail argraffiad o'r un gwaith i'r wasg er's ychydig amser yn ol! Tybiwn fod pob dygwyddiad hynod ag sydd yn dal cysylltiad a'r hen Ddoctor anwyl, fel llwch aur, yn rby werth- fawr i fyned byth ar goll. Oblegid yr oedd efe yn wr da, ac yn llawn o'r Ysbryd Glan, ac o ffydd." GOHEBYDD. -»

LLUNDAIN.

TYNYGWNDWN A THROEDYRHIW,…

BEULAH, EGLWYSNEWYDD. -

CYFARFOD CENADOL ANTIOCH,…