Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y SENEDD YJIIIEIRODROL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y SENEDD YJIIIEIRODROL. TY YR AUGLWYDUL—Dydd Mawrth.Cymerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei sedd am cbwarter wedi 4 o'r gloch. Cynygiodd Arglwydd Rosebery ail ddarlleniad mesur i adfer the Earldom of Man. Eiliodd yr Arglwydd Ganghellydd, a cbyflwynwyd y mesur i bwyllgor neillduol. Yna aedi Bwyllgor ar Fesur y Cofrestriad. Cynygiodd Arglwydd Salisbury welliant ar Adran 13, yn rhoddi i ynadon dfewn Chwarter Sesiwn yr hawl i drefnu terfynau y dosbeirth yn y siroedd. Cytunwyd arno. Cynygiodd Arglwydd Salisbury welliant ar Adran 15, fel ag i roddi pleidJais i undergraduates yn Rhydychain a Chacrgrawnt. Cytunwyd arno. Arglwydd Balfour a gynygiodd adael allan yr adran sydd yn anghymhwyso dyn wedi derbyn cytnhorth meddygol gan y plwyf i bleidleisio. Ar ol dadl, canwyd allan yr adran gan 72 yn erbyn47. Yna pasiwyd y mesur. Pasiwyd hefyd fesurau cyffelyb i Ysgotbmd a'r Iwerddon. Gofynodd larll Jersey am adroddiad o'r symiau a wariwyd gan y Llywodraeth Ymherodrol a Llywodraeth India yn nglya a'r Aipht er Ionawr, 1882; hefyd, o nifer y dynion oedd wedi colli eu bywydau, ac wedi dycvhwelyd adref yn glaf yn y tymhor hwtlw, Ty Y CYFFREDIN.—Cymerodd y Llefarydd ei sedd am 4 o'r gloch. Dygwyd amryw Filiau o Reilffyrdd i fewn, a darllenwyd hwynt. Mewn atebiad i Syr W. Barttelot, dywedodd Syr A. Hayter fod y planiau ddarparwyd at adgyweirio amddiffynfeydd Alexandria yn awr o dan ystyr- iaeth Ysorifenydd y Llywodraeth. Mewn atebiad i Arglwydd J. Manners, dywedodd Mr Lefevre ei bod yn angen: heidiol i ail ddarllen Mesur Diwyg: iadol y Telegraph ddydd Gwener nesaf, os oedd i dd'od i weithrediad ar Awst laf. Awgrymal y gallasai ei arglwyddiaeth gynyg ei welliant gyda eolwsr ar gael free, address wrth fyned l Bwyllgor ar y mesur. Mewn atebiad i Syr S. Northcote, dywedodd Syr W. Harcourt y bwriedid ail ddarllen yr East Indian Loan Bill yn gyntaf, yna Mesur Addysg Ganolraddol i Gymru, ac ar ol hyny cynygid penderfyniad ei fod.i gael ei ohirio dros wyliau y Sulgwyn. Mewn atebiad i Mr Raikes, dywedodd Arglwydd R. Grosvenor nad oedd efe yn gwybod fod aelodau y Llywodraeth yn arfer cario symiau o arian ganddynt; beth bynag, nad oedd ef yn gyfrifol am yr arian, y defnydd a wnaent ohonynt, nac am unrhyw Iaiirad a gymerai le yn y Ty hwnw. Pan yr oedd Mr Warton yn siarad, galwyd sylw y Llefarydd at y nifer oedd yn bresenol. Gan nad oedd 40 yn nghyd, cododd y Ty am ddeng mynyd wedi 6. Ty YR ARGLWYDDI.—Dydd Mercher.-Cyfarfu- wyd am 11 o'r gloch. Dygwyd i fyny adroddiad ar Fesurau y Cofrestriad yn Lloegr, Ysgotland, a'r Iwerddon. Gohiriwyd hyd nes y derbynid hwynt yn ol o'r Ty Cyffredin. Am 5 o'r gloch, mynegodd y Clerc fod y gwelliantau wedi eu derbyn gan y Ty Cyffredin, a chododd y Ty ar unwaith. Ty Y CYFFREDIN.—Cymerodd y Llefarydd ei sedd am chwarter wedi 12 o'r gloch. Wedi dwyn i fewn amryw Filiau o Reilffyrdd lleol, &c., cynygiodd y Twrna iCyffredinol fod gwelliant yr Arglwyddi yn nglyn ag undergraduates Oxford a Cambridge i gael ei dderbyn. Cydunwyd ar hyny. Yna cynygiodd fod eu gwelliant arall, nad oedd derbyn cymhorth meddygol yn anghymhwyso dyn i gael y bleidlais i gael ei dderbyn. Ar ol dadl, rhanwyd y Ty-dros dderbyn y gwelliant, -107; yn erbyn, 66. Cynygiodd Mr Acland ail ddarllen- iad Mesur y Pluralites. Cefnogodd Mr Gladstone. Darllenwyd ef yr ail waith, a chyflwynwyd ef i bwyllgor neillduol. Cynygiodd Mr Broadhurst ail ddarlleniad mesur i gael lleoedd i addoli trwy orfodaeth os bydd angen. Cynygiodd Milwriad Makins fod y mesur i gael ei ddarllen yn mhen cbwe' mis. Eiliwyd gan Mr B. Hope. Syr W. Harcourt a ddywedodd fod gallu gan yr Eglwys o dan y Church Building Compulsory Act i fynu lleoedd i adeiladu eglwysi, ac nid oedd yn ei gweled yn ddyogel i barhau y fath wahaniaeth rhwng yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr. Dywedid wrtho fod anghyfleustra mawr yn cael ei deimlo yn Nghymru yn y mater hwo. Cynygiodd Mr Newdegate ohiriad y ddadl, ond gwrthodwyd ef. Ond llwyddodd Mr Hubbard i'w siarad allan am chwarter i chwech o'r gloch. Yna bu raid gohirio yr achos. Ty YR ARGLWYDDI.-Dydd Gwener.-Galwodd Arglwydd Lamington sylw at Gytundeb Paris yn 1856, yr hwn ni chadarnhawyd erioed gan y Senedd, a chynygiodd mai ein dyledswydd yw cadw ein hawliau morwrol. Gwnaeth Iarll Gran- ville sylwadau eglurhaol. Gofynodd Arglwydd Inchiquin os oedd Rwsià. wedi bawlio cael cyn- rychiolydd yn Cabul ar yr un tir a Lloegr. Atebodd Iarll Kimberley nad oedd. Ar ol ychydig eiriau gan larll Kimberley, tynodd Arglwydd Lamington ei gynygiad yn ol. Iarll Wamyss a ofynai pa ddarpariaeth oedd wedi ei gwneyd i gadw Suakim. Atebodd Iarll Granville fod y mater o dan sylw y Llywodraeth. Ty Y CYFFREDIN.—^Cymerodd y Llefarydd ei sedd am 4 o'r gloch. Mewn atebiad i Syr M. Hicks-Beach, ymgymerodd Mr Gladstone A rhoddi cyflawn fynegiad o farn y Llywodraeth gyda golwg ar y dreth ar winoedd a gwirodydd cyn gofyn gan y Ty i ail ddarllen Mesur y Customs and Inland Revenue. Cynygiodd Mr J. K. Cross ail ddar- lleniad Mesur yr East India Loan (. £ 10,000,000) er mwyn gwneyd reilffyrdd yn y wlad hono. Cynyg- iodd Mr Stanhope y gwelliant oedd yn ei enw, ond nid oedd yn bwriadu ei wasgu. Parhawyd y ddadl gan Syr G. Campbell, Mr Onslow, Mr Slagg, Mr Buchanan, Mr Bartlett, &c.

Advertising

MESUR ADDYSG GANOLRADDOL.