Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CLADDEDIGAETH Y PARCH E. STEPHEN,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CLADDEDIGAETH Y PARCH E. STEPHEN, TANYMARIAN. Claddwyd yr hyn oedd farwol o Mr Stephen dydd Gwener, Mai 15fed. Erbyn dau o'r gloch, yr oedd rhai miloedd o bobl wedi ymgasglu o gylch ty yr ymadawedig, ac yn eu plith lu mawr o wein- idogion y gwahanol enwadau. Cyn cychwyn dar- llenodd Mr W. J. Parry, Coetmor Hall, drefn yr angladd. Rhoddwyd yr emynau allan wrth y ty ac ar hyd y ffordd gan y Parch D. Williams, Garth, Bangor. Canwyd y don St. Bride," Eos Morlais yn arwain. Yna darllenodd y Parch R. S. Williams, Bethesda, ranau o'r Ysgrythyr yn dra phriodol, a gweddiodd y Parch R. Rowlands, Treflys. Yna canwyd y don, a chyfarchwyd y dorf gan y Parch R. W. Griffith, Bethel, Oni wydd- och i dywysog ac i wr mawr syrtbio heddyw yn Israel?" Nid bob amser y mae y tywysog a'r gwr mawr gyda'u gilydd; weithiau y mae y gwr mawr, ond nid yw yn dywysog bryd arall y mae tywysog, ond nid yn wr mawr ond yma y mae y tywysog a'r gwr mawr gyda'u gilydd. Cydnebydd pawb hyn. Mawr fel lienor—delw o ledneisrwydd ar bob peth o'i waith o'r dechreu hyd ei ysgrifau diweddaf am ei hen gyfeillion tua Bethlehem yma. Mawr fel cerddor. Yr oedd yn gerddor fel dad- ganydd, cyfansoddwr, ac arweinydd. Dywedodd Dr Parry wrthyf unwaith am Tanymarian mai efe oedd y cerddor mwyaf a fagodd Cymru erioed, ond fod llawer ohonynt wedi cael mwy o ddysg nag ef, ond am allu cerddorol, Tanymarian o ddigon. Yr oedd fel pregethwr a gsveinidog yn fawr. Gallaf ddyweyd dros y Cyfundeb yn Arfon, dyn pur iawn ydoedd, dyn pur staunch bob amser. Bydd rhai yn ami yn y north, south, east and west, ond byddai ef yn y canol bob amser. Dyma gadfridog yn myned i'w fedd. Parch T. JONES, Eisteddfa. Yr wyf yma o Gyf- undeb Lleyn ac Eifionydd, i dalu teyrnged o barch iddo. Yr oeddwn yn adwaen Tanymarian er's dros 40 mlynedd. Dylem roddi y diolch i'r Hwn sydd yn eu codi; i Iesu Grist y mae y clod am iddo drwy ei bregethau a'i wasanaeth i ganiadaeth y cysegr fod mor ddefnyddiol i'w wlad. Cysgod angeu heb drefn." Wn i ddim i bwy fydd y bedd yn agor nesaf. Ni syrthiodd i law yr un gelyn, bu farw yn amser Duw. Yr ydym yn lied debyg i'r rhai oedd o gwmpas corff Dorcas, pawb a rhywbeth da i ddyweyd am dano. Yr oedd yn dda genyf weled y Beibl-llyfr ddysgodd y brawd, ac a fu yn nert-h iddo yn cael ei estyn o law i law o'r ty a'i adael ar ol. Yna canwyd y don Lousanne," ac ymffurfiwyd yn orymdaith. Yn flaenaf ei feddyg, Dr Williams, Brynmeurig, yna y gweinidogion bob yn ddau, cynrychiolwyr bob yn ddau, cantorion bob yn dri, elorgerbyd, cerbydau galar-y cyntaf yn cynwys Mri Edward Handel Stephen, a G. J. Stephen, ei feibion, a Mrs Roberts a Mrs Jones, Ffestiniog, ei nithoedd, a'r cerbydau ereill, Mr Samuel Jones, Llanerchy- medd; Mr R. Roberts, Corw:m Mri W. Stephen ae Urias Stephen, Caernarfon; Mri John S. Roberts a W. Stephen, Ffestiniog, yna y dorf a'r cerbydau. Pan gyrhaeddwyd capel Bethlehem, darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch LI. B. Roberts, Caernarfon, a gweddiodd y Parch R. Parry (Gwalchmai). Pan oedd y gynulleidfa yn myned allan ch wareuid y Dead March ar yr offeryn gan Mr Jarrett Roberts, ieu., Bangor. Cludwyd y corff o'r capel, a chyn ei roddi yn yr un bedd a'i anwyl William Arthur, canwyd y d6n Eifion- ydd," arweiniwyd y canu yn y fynwent gan Dr Parry, Abertxwy. Yna anerchwyd y dorf gan y Parch R. Roberts, Manchester :—Ystyr pob peth heddyw ydyw "Onr wyddost ti mai yr Arglwydd sydd yn dwyn dy feistr oddiarnat ti P" A'r teim- lad oedd yn codi yn Eliseus, sydd ynof fiaau heddyw, Mi wn hyny hefyd, tewch chwi a son." Y cof cyntaf sydd genyf am Tanymarian yw yn yr oedfa gyntaf yn y capel hwn, am ddau o'r gloch, pan ddaeth yma yn weinidog, ei destyn oedd, Oherwydd paham yr ydwyf ya tystio i chwi y dydd heddyw, fy mod yn lan oddiwrth waed pawb oil." Yr oedd wedi lletaru yn fwy neillduol oddiar y rhan arall yn Dwygyfylchi y Sabboth blaenorol. Gallaf ddyweyd," meddai, fy mod yn lan oddi- wrth'eich gwaed chwi oil heddyw, ond sut y bydd hi yn y diwedd, sut y bydd hi yn y diwedd, boblP" Ond dyma'r diwedd, ac felly y mae hi heddyw. Ni fu neb yn,ddyfnach yn serch ei bobl na Tanymar- ian. Yr oedd yn graff a ffyddlawn, yn ddynol jawn, a duwiol iawn, digrifol a difrifol, a'r mwyaf difrifol o bawb a adnabum i erioed. Yn y pwlpud yr oedd yn ddifrifol? Na, ya y ty, yn y seiat, wrth y gate, yn Tanymarian. Gallaf ddyweyd fel Eliseus, "Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel a'i farcbogion." Heddyw dim ond ffarwelio. Hen- ffych y eawn gwrdd. Y mae ef wedi cwrdd ag Owen, Dolhelig Hugh Jones, Carmel; Gruffydd William, Caledfryn, a Dr Rees. HWFA MON. Fy anwyl gydgenedl, Gwell yw myned i dy galar na myned i dy gwledd," ond heddyw y mae gwlad yn wylo. Da genyf allu dyfod yma oherwydd fy hen gydnabyddiaeth ag Edward Stephen. Cofiwyf ef yn pregethu yn Sas- siwn Llanerchymedd am 6 yn y boreu gyda'r Parch Mathew Lewis, Bangor, ac ni anghofiaf byth yr oedfa 6 o'r gloch y boreu hwnw. Ei lais per a mwynaidd, ei wallt a'i lygaid siriol a dagrau yn hidl yn dyfod ohonynt. Mae yma ystyr newydd i'r adnodau. Gweddw—Mrs Stephen. Barnwr y gwecldwon yn fyw." Amddifaid, Tad yr am- ddifaid yn fyw." Galar drwy y. wlad, galar yn mhlith y cantorion, yn mhlith holl frodyr a chwi- orydd Carmel a Bethlehem, y cerddorion yn wylo —Eos Morlais, Dr Parry, J. Thomas. Mae ei enw yn anwyl. Fel cyfaill yr oedd yn gyflawn. Profais i ef pan yn Bethesda yn aros. Byw gyda pobl sydd yn eu profi, yr oedd ef fel careg filldir, ie, careg filldir, lie y caech ef heddyw y caech ef yfory. Y rnwyaf teimladwy a welais i erioed, Bum yn ei weled Sul y Pasg. yr oedd yn eistedd yn y gadair, ni anghofiaf byth ei ddagrau, ei lais a'ilaw grynedig. A ddoist ti, fy machgen i," dan wylo, "yr wyf yn meddwl fy mod yn gwella, y caf fyw dipyn bach." Cafodd fyw dipyn bach. WeI, llanwer ni i gyd o Ysbryd ei Dduw ef. Yna rhoddwyd .ef yn y bedd gan ddiaconiaid Carmel a Bethlehem, a chanwyd y penill diweddaf o'i eiddo. Yna anerchwyd y dorf gan y Parch T. Roberts, Jerusalem. Yr oedd genym feI cenedl a gwlad feddiant o ddarn mawr o Tanymarian, yr oedd drwy lafur mawr ar ei ben ei hun wedi dyfod i le arnlwg, yn ddyn hynod. Maeyn chwith genym ni ei golli mor fuan. Ofnwn ei fod, drwy ei fod fel llawer, yn ol amlder ei lafur a roddwyd arno wedi myned yn aberth i'r wlad. Fedrwn ni ddim meddwl am y wlad yma hebddo. Fel y dywedai Disraeli ar ol marw Cobden, fod rhai aelodau Seneddol ar ol gadael y Ty, a fyddant yn wastad yn aelodau ohono. Felly Tanymarian, all neb feddwl am yr ardal hon heb feddwl fod ysbryd Tanymarian yn hofran uwchben. Parch E. HERBER EVANS a ddywedai: Yr wyf yn teimlo yn ddigalon heddyw fel Annibynwr. Y parch mwyaf allwn ni roddi i'n gweinidogion yw eu codi i gadair yr Undeb, a dyna ni wedi colli chwech allan o ddeuddeg mewn deunaw mis, a'u colli o flaen anrhydedd oedd yn eu haros. Dr Rees ar gael myned i'r gadair i Lundain-myned i ffwrdd. Tanymarian ar dd'od ato ni i'r Pavilion a ninau yn falch ohono, ac am lanwy Pavilion i'w anrhydeddu—myned i ifwrdd. Rhy ddiweddar yw anrhydedd y byd yn wastad. Pan oeddym ni yn meddwl llenwrr Pavilion i'w dderbyn a'i groes- awu, ond beth oedd llon'd y Pavilion o gael myned adref i'r nefoedd.. Bydd yn fyw eto yn ei farwnad i William Arthur, a'i d6n Tanymarian." Ond ni ddylem dori ein calon, mae'r gwaith yn aros. Yr Iesu yn aros—mae ein dynion goreu yn myned oddiwrthym, ond yr lesu yn aros. Diolch am hyny. Deuwch. at yr lesu. Back to Jesus, Back-to Jesus. Yn ol at yr Iesu. Terfynwyd drwy weddi gan y Parch J. Owen, Llanegryn, ac ar ol canu y d6n Brooklyn troes pawb adref gan gredu fod Tanymarian yn uno gyda'r cor nefol. Ar yr arch yr oedd— THE REV. EDWARD STEPHEN. DIED MAY 10th, 1885, AGED 59. Yr oedd wreaths hardd wedi eu hanfon gan Mr a. Mrs W. J. Parry, Coetmor Hall; Mr a Mrs Johnson, Llandegai Miss Marian Williams, Llun- dain; Mr a Mrs Samuel Evans, Bod-difyr, Bangor; Mr Roose Jones, Llundain; Mr a Mrs Roberts, Coed Misses Roberts a Mr a Mrs Ellis, Talybont; Mr W. Davies, Y.H, Cae'rblaidd; Mr a Mrs Jones, Carmel; Mr a Mrs O. Jones, B mgor; Miss Parry, Glan Bethlehem Mrs Millward, a J. Owen Caban Coch. Cynorthwyid Mr W. J. Parry yn y trefniadau gan y Mri S. Evans, Bangor; 0. Pierce a Robert Williams, Talyb mt. Gwelsom yn bres- enol y Parchn R. S. Williams, Bethesda; R. Rowlands, TreSys H. Parry, Chwarel Goch W. Griffiths, Amttna; E. Herber Evans, a LI. B. Roberts, Caernarfon D. Williams, Garth, Bangor D. S. Davies, Bangor; W. Nicholson, Liverpool; J. E. Owen, Llanberis H. Joues, Birkenhead W. E. Morris, Salem, Llanbedr; R. Parry (Gwalch- mai); T. J. Tevnon, Cwmyglo H. S. Jones, Maes- ydref R. P. Williams, Ebenezer; Hwfa Mon; D. M. Lewis, M.A, Coleg Bangor; W. B. Marks, Crieieth R, Jones, Porthdinorwig; D. Griffiths, Dolgellau D. Roberta, Llann wchllyn W. Parry, ColwJo Bay; J. M. Rees, Pentrefoelas; D. P. Davies, a 0 Williams, Penmaenmawr; W. R. Roberts, Llanelltyd J. H. Hughes (Ieuan o Leyn), D. Roberts, Wrexham D. S. Jones, Chwil- og R. Roberts, Manchester; J. Owen, Llanegryn J. Parry, Crughywel; W. Lloyd, Caergybil; B. W. Griffith, Bethel; H. Ivor Jones, Llanrwst; T. Evans, Amlwch; R. Lumley, Trevor; L. Williams, Bontnewydd; P. Howells, Ffestiniog; T. -Nicholson, Dinbych R. Roberts, Rhos; W. W. Jones, Pisgah T. Jones, Eisteddfa; W. Williams, Maentwrog; W. P. Williams, Waen- fawr; E. T. Davies, Abergele W. E. Jones, Colwyn Bay; D. Rees, Capel Mawr John Thomas, Merthyr L. Probert, Porthmadog; G. Roberts, Pentir; H. M. Hughes, B.A., Carmel; R. Enoc Williams, Coleg y Bala; R. Hughes, Wid- nes E. Cynffig Davies, Menai Bridge; Proff. Lewis, B.A., Coleg y Bala H. Davies, Moeltry- fan; M. O. Evans, Trefriw J. E. Davies, Llith- faen; T. Martin, !Llanddaniel, O. Jones, Pwllheli. Methodistiaid.—Parchn D. Rowlands, M.A., Bangor Evan Jones, Caernarfon; T. Roberts, Jerusalem; J. M. Jones, Gerlan; G. Roberts, Carneddi; H. Jones, Llanllechid; W. Jones, Portdinorwig; D. O'Brien Owen, Gerlan 0. G. Owen (Alafon), R. Jones (Glan Alaw), Brynyrefail H. P. Ellis, Glasgoed E. Roberts Llanfairfechan J. O. Jones, Llanengan; W. P. Williams, Carneddi; J. Roberts, Glanadda; P. 0. Pierce, Jerusalem. Bedyddwyr.—Parch Dan Davies, Bangor. Wesleyaid.-Parchn S. Davies, T. H. Humphreys, Bangor D. Jones (Dewi Mawrth), Hugh Jones, Liver- pool D. O. Jones, Siloam H. Jones, Rhiwlas. Eglwys Loegr.-Parchn D. Richards, Llanllechid; Jones, Llanberis; W. Owen, Pentir; Walters, Gelli; a Jones, Penisafywaen. Cerddorion.— Dr Parry, Abertawy; Mri J. Thomas, Llanwrtyd; Eos Morlais; J. H. Roberts (Mus. Bac.), Isalaw, Miss Marian Williams, W. Jarret Roberts. Hefyd, y Mri W. J. Parry, W. Davies, Y.H., Cae'r- blaidd; R. Owen, Ffestiniog J. J. Evans, Brynder- wen T. H. Owen, Brynllwyd R. O. Morris, Bank; J. C. Roberts, accountant; W. J. Williams, Caernar- fon W. J. Hughes (Deiniolfryn) a H. Jones, Man- chester Honse, Ebenezer; J. Evans a S. Evans, Bangor Eos y Berth, Gaerwenydd. Alawydd Ogwen, W. Roberts, Pandy, Treban; W. C. Davies, Bangor; J. Thomas, Normal College; H. Savage, Bangor; J. Williams, Penlan; Lewis Evans, Yard, Felin Isa'; Dr Roberts, Bethesda; Dr Jones, Porthdinorwig; H. Thomas (Cadeirydd Undeb Bangor a Beaumaris), T. Owen, Wetherland Row; W. Challence, Grove-street Liverpool; T. Millward R. Robert, post feistr R, Pngh Kvans, R. Gray, E. Jones, H. Rowlands,Bangor. Goronwy Roberts, G. Johnson, A. D. Webster, R. Thomas, J. Jackson, Llandegai; E. Williams, R' Stythe, Caernarfon; J. D. Jones, Penmaenmawr; D. Jones, Pemnaenmawr D. Griffiths, J. Hughes, Porth- dinorwig; W. Richards a J. Owen, Llangefni; Hugh Williams, Menai Bridge; Humphrey Ellis, Wig; R. Grimt ts, Fourcrosses, Ffestiniog, W. Edwards, Glasinfryn, &c. Derbyniwyd llythyratt oddiwrth y parchedigion a'r boneddigion canlynol, yo dadgan eu gofid nas gallent fod yn bresenol i—Dr John Thomas, Liverpool 0. EvanB, Llundain J. Ffoulkes, Aberafon T. D. Jones, Plasmarl; W. E. Jones, Tre forris S. R.; T. Johns, Llanelli; W. Thomas, Whit- land; D. Jenkins, Mns. Bac.; J. Pritchard, Corwen; T. Morris, Dowljis D. A. Griffith, Troedrhiwdalar; Proff Morris a Rowlands, Aberhonddu Josiah Jones, Machynlleth; T. A. Penry, a J. Miles, Aberystwyth J. Roberts, Towyn E. James, Nefyn; Johns, Long- ton J. Roberts, N ea. h D. Richards, Caerphili; a D. M. Jenkins, Liverpool. Teimlif parch mawr i'w gydgerddorion dysgedig am roddi eu presenoldeb yno. Traddodwyd pregethau angladdol y nos yn Carmel, gan y Parchn P. Howells, Ffestiniog, a W. Nicholson, Liverpool. Yn Bethlehem, gan y Parchn H. Ivor Jones, Llanrwst, a D. Roberts, Wrexham. Yn Bethesda, gan y Parchn S. Davies (W.), Bangor, a D. Griffiths, Dol- gellau Pendtef, Bangor, Parchn T. Nicholson, Din- bych, a H. Jones, iiirkenliead. TONYPANDY. Pasiwyd y penderfyniad canlynol cysylltiedig A marwolaeth y Parch E. Stephen, Tanymarian- Ein bod fel gweinidogion ac eglwysi Cymanfa Gerddorol Tonypandy yn dymuno datgan ein gofid dwys yn wynsb marwolaeth yr enwog Barch g. Stephen, Tanymarian; ein hedmygedd ohono fel cerddor, a'i lafur cyson o blaid caniadaeth gysegredig einHenwad; fel dyn caredig, gweinidog ffy idlon, a phregethwr o'r radd flaenaf, gan ddioleh i Dduw am ei g -di a'i gynal yn addurn i'r Efengyl a bregetiiai, ao yn gweddio am i Dduw pob dyddanwch gysuro ei deulfl galarus a'r eglwysi oedd dan ei ofal. T. G. JENKYN, Cadeirydd. D. WILLIAMS, Ysgrifenydd.

[No title]