Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YR YSGOL SABBOTHOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

YR YSGOL SABBOTHOL. Y WERS KHTNGWLADWEIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, TREFFYNON. MAi 31.-Cynghor Paul i Timotheus.-2 Tim. iii. 14-17; iv. 1-8. TESTYN EuBAlDD.—" Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ae a ymddiriedwyd i ti am danynt, gan wybod gan bwy y dysgaist;"—Adnod 14. RHAGARWElNlOL. YSGRIFENWTD yr ail epistol hwn gan Paul at Timotheus yn ystod ei ail garchariad yn Rhufain ychydig o amser cyn iddo gael ei roddi i farwolaeth. Yr oedd ei garchariad cyntaf yn llawer tynerach na hwn. Yn y carchariad cyntaf cai ryddid i aros yn ei dy ar- drethol ei hun," ac i dderbyn pawb a'r oedd yn dyfod i mewn ato." Ond yn awr cedwid ef yn gaeth, a chyda cryn anhawsder y gallasai neb o'i gyfeillion ei weled. Yr oedd wedi ei adael yn unig, ac nid oedd neb gydag ef ond Luc. Teimlai hiraeth am weled Timo- theus, ac ysgrifenodd y llythyr hwn ato i ddymuno arno ddyfod i Rufain, a dwyn gydag ef hefyd Marc. Ond gan ei fod yn ofni nas gallasai gyrhaedd mewn pryd, teimlai ei bod yn angenrheidiol iddo roddi y rhybudd olaf iddo yn nghylch yr heresiau, hadau y rhai oeddynt y pryd hwnw yn cael en gwasgaru yn yr eglwysi. Oher- wydd byn, efe a fysgrifenodd gyfres o anogaethau i ffyddlondeb a set dros y wir atbrawiaeth, ac aiffynedd yn nghanol profedigaethau." Y mae yr epistol yn ar. ddangos y serch a'r teimlad dyfnaf. Tybir iddo gael ei roddi i farwolaeth yn mhen tri mis ar ol ei ysgrifenu. Y mae y Wers yn dechreu gydag anogaeth i lynn wrth y wir athrawiaeth. Nid digon yw dysgu yr hyn sydd dda, ond rhaid glynu wrtho. Yr oedd y gau-athrawon wedi troi oddiwrth y gwirionedd, ond glynodd Paul wrthi hyd angeu, ac yr oedd ei esiamplef yn symbyliad i Timotheus i lynn. ESBONIADOL. Adnod 14. Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti am danynt, gan wybod gan bwy y dysgaist." Cyf. Diw., Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac y derbyniaist sicrwydd am danynt, gan wybod gan bwy y dysgaist hwynt." Eithr aros di. Mewn cyferbyniad i'r drwg-ddynion a thwyllwyr a nodir yn yr adnod flaenorol, y rhai a aent rhagddynt waeth-waeth gan dwyllo a chael eu twyllo. Y pethau a ddysgaist. Nid yn unig y pethau a ddysgodd gan ei fam a'i nain, ond hefyd yr hyn a ddysgodd gan Paul— gwirioneddau yr Efengyl fel yr oeddynt wedi cael eu hegluro yn ngweinidogaeth yr apostol. Ac a ymddir- iedwyd i ti am danynt. Neu yn fwy priodol, Ac y derbyniaist sicrwydd am danynt. Yr oedd wedi der- byn sicrwydd am danynt yn ei brofiad ei hun. Gwyddai en bod yn wirionedd. Gan wybod gan bwy y dysgaist. 11 Gan bwy"—ynyrtnfHnosog, gan gyf- eirio at Lois ac Eunice, yn gystal a Phaul. Dysgwyd y gwirionedd iddo gan rai oedd yn anwyl ganddo, a rhai y gwyddai oedd yn caru ei les. Buasai cofio hyny yn gynorthwy iddo lynu. Adnod 15.—" Ac i ti er yn fachgeu wybod yr Ys- grythyr L&n, yr hon sydd yn abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth, trwy y ffydd sydd yn Nghrist Iesu." Cyf. Diw., "Ac i ti er yn faban wybod yr Ys- grifeniadau Cysegredig, sydd yn abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth, trwy ffydd yr hon sydd yn Nghrist Iesu." Yr oedd yn foreu iawn wedi ei ddysgu yn ngwirioneddau y Datguddiad Dwyfol. Ysgrythyr Lân, neu yr Ysgrifeniadau Cysegredig, gan olygu yr Hen Destament. Arferai yr Iudddwon ddysgu y Gyfraith i'w plant yn foreu iawn. Y mae yr argraff- iadau a dderbynia plant pan yn ieuanc yn debyg o lynu wrthynt tra fyddont byw. Sydd yn abl i'th wneuth- ur di yn ddoeth i iachawdwriaeth—gan eu bod yn cyfarwyddo i'r ffordd sydd yn arwain i iachawdwriaeth. Trwy ffydd yr hon sydd yn Nghrist Iesu. Ffydd yn Nghrist Iesu ydyw y moddion trwy ba un y mae yr iachawdwriaeth i'w chael. Adnod 16.—" Yr holl Ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hytfor di mewn cyfiawnder." Cyf. Diw., "Pob ysgrythyr ysbrydoledig gan Dduw sydil hefyd yn fuddiol er addysgu, i argyhoeddi, er cer- yddu, er hyfforddi yr hyn sydd mewn cyfiawnder." Pob ysgrythyr ysbrydoleclig: Y mae dylanwad Dwyfnl yn perthyn i'r Ysgrythyr fel datguddiad oddiwrth Dduw. Dynion o dan ddylanwad neil/duol Ysbryd Duw a'u hysgrifenodd, ac felly y maent yn meddu awdurdod neillduol. Rhydd un y darnodiad eanlynol. o ysbrydoliaeth Gweithrediad Dwyfol anghyffredin ar athrawon icrefydd tra yn cyfranu addysg, pa un bynag ai mewn geiriau ynte mewn ysgrifen, trwy yr hyn y dysgwyd hwynt pa beth, a pha fodd y llefarent neu yr ysgrifenent." Sydd fuddiol-yn ddefnyddiol ac angenrheidiol. I athrawiaethu—neu i addysgn pa beth i'w gredu, a pha fodd i ymddwyn. I argyhoeddi —dwyn dyn o'i gyfeiliornad i wrthbrofi a chondemnio y drwg. Er ceryddu-neu ddiwygi yr hyn oedd feius mewn barn ac ymarweddiad. I hyfforddi-neu ddysg yblu trwy rybuddion ac anogaethau. Yr hyn sydd mewn cyfiaivnder. Yr hyn sydd yn gynwysedig mewn cyfiawnder, yn gyferbyniol i'r addysg mewn egwyddorion bydol." Adnod 17,—" Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda." Cyf. Diw., li Fel y byddo dyn Duw yn gyflawn, wedi ei ddodrefnu yo^gyflawn i bob gweithred dda." Dyma'r dyben sydd yo. yn cael ei ateb trwy fnddioldeb yr Ysgrythyrau. Dyn Duw. Dyn yn ofni Daw-dyti duwio). Yn gyflatvn. Wedi ei gymhwyso a'i ddodrefnu yn gyflawn i gyflawni pob gweithred dda-pob dyledswydd tuag at Dduw, y by d, ac ef ei hun. Pen. iv. Adnod 1.—" Yr ydwyf fi gan hyny yn gorchymyn ger bron Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a farna y bvw a'r meirw yn ei ymddangosiad a'i deyrnasiad." Cvf. Diw., Yr wyf yn dy dynghedu yn ngwydd Duw, a Christ Iesu, yr hwn a farna y byw a'r meirw, ac wrth ei ymddangosiad a'i deyrnasiad." Y mae yr apostol mewn modd difrifol yn tynghedu Timo- theus i fod yn ffyddlon. Yn ngwydd Duw-yr hwn sydd a'i lygaid yn wastad arnat. Yr oedd am iddo ymdeimlo ei fod bob amser yn mhresenoldeb Duw a Christ Iesu. Yr hwn a farna-sef Crist Iesu. Y byw a'r meirw-y rhai fydd yn fyw yn adeg ei ymddang- osiad, yn gystal a phawb fyddant wedi marw cyn hyny. Ei ymddangosiad-ei ymddangosiad ar gymylau y nef i farnn y byd. A'i deyrnasiad. Teyrnasiad Crist. Bydd pob gelyn wedi ei orchfygu. Ymddengys yn ei ogoniant fel Brenin. Adnod 2.—" Pregetha y gair; bydd daer mewn am- ser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, anog gyda phob hir-ymaros ac athrawiaeth." Cyf. Diw., Gyda phob hir-ymaros ac addysg. Pregetha. Cyhoedda fel herald. Y gair-gair Duw—y datguddiad, ac nid dy ddychymygion dy hun. Y mae y gair yn golygu yr Efengyl. Bydd daer-bydd ynidrecbcrar. Mewn am- ser ac allan o amser. Bob amser y cei gyfleusdra. Argyhoedda. Dwg i'r golenni trwy esbonio ac egluro. Dangos iddynt en camsynied, ac ymdrecha eu dwyn i'r iawn. Cerydda. Gweinydda ddysgyblaeth ar y tros- eddwyr. Anog. Deisyf, neu ymbil. Pob hirymaros, Dengys iddo yr ysbryd yn mha un yr oedd i gyflawni ei ddyledswydd-yn amyneddgar er eu haddysgu yn y gwirionedd. Adnod 3.—" Canys daw yr amser pryd na ddyoddef- ont athrawiaeth iachus eithr yn ol eu chwantau eu hunain y pentyrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod en clustiau yn merwino." Cyf. Diw., Eithr gan fod a'u clustiau yn merwino, pentyrant iddynt eu hun- ain athrawon yn ol eu chwantau eu hunain." Ceir yma y-rheswm dros yr hyn a ddywedir yn yr adnod flaen- orol. Daw yr amser na ddyoddefont athrawiaeth bur a iachus, cyfaddas i'w hachub oddiwrth gyfeiliornad a phechod. Yn merwino-yn ysu, cosi, clustiau yn earn sain byfryd yr areithwyr, yn hytrach nag athrawiaeth iachus yr Efengyl. Pentyrant. Golygir lluaws ar draws eu gilydd. Athrawon yn ol eu chwantau eu hunain. Y mae y rhai sydd yn diystyru atbrawiaeth iachus yn cilio oddiwrth y gwir athrawon ceisiant athrawon tebyg iddynt hwy eu hunain. Athrawon i foddio eu teimladau cnawdol a rhyw hyawdledd i ogleisio eu tymherau. Adnod 4.—" Ac oddiwrth y gwirionedd y troant ym- aith eu clustiau, ac at chwedlau y troant." Cyf. Diw., Ac a droant eu clustiau oddiwrth y gwirionedd, ac a droant o'r neilldu at chwed au." Y gwirionedd-yr athrawiaeth iachus ni fynant wrando gwirioneddau yr Efengyl. At chwedlau. Ffugchwedlau y Rabbin- iaid. Adnod 5.—" Eithr gwylia di yn mhob peth, dyoddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidog- aeth." Yn ngwyneb y bydd i rai droi oddiwrth y gwirionedd at chwedlau, y mae yr apostol yn anog Timotheus i wylied arno ei hun. Cyf. Diw., Eithr bydd di sobr yn mhob peth, dyoddet galedi." Nid gwaith hawdd fydd pregethu pan y bydd yr athraw- iaeth a bregethir genyt mor anmhoblogaidd. Gwylia a bydd yn ddifrifol Yn mhob peth-yn mhob peth perthynol i'th swydd. Dyoddef galedi. Y maent yn sicr o'th gyfarfod. Gimia waith efengylwr-sef preg- ethu yr Efengyl mewn amser ac allan o amser. Cyf- lawna dy weinidogaeth—set holl ddyledswyddau dy weinidogaeth. Adnod 6.—" Canys myfi yr awrhon a aberthir, ac amser fy ymddatodiad i a nesaodd." Cyf. Diw., Canys yr ydwyf yn barod yn cael fy offrymu, ac am- ser fy ymadawiad ia ddaeth." Cyfeiria yr apostol ato ei hun fel un oedd ar gael ei roddi i farwolaeth, fel rheswm dros yr anogaeth ddifrifol yr oedd yn ei roddi i Timotheus. Ni byddaf fi yma ond ychydig iawn eto i wrthsefyll y gau-athrawon hyn bydd di yn olyn- ydd teilwng ohonof." A aberthir— neu yn cael fy offrymu fel diod-offru m ar allor Duw. Gwel Phil. ii. 17. Amser fy ymadawiad i a ddaeth. Ymadawiad yr enaid&'r cord, ac a'r byd hwn. Adnod 7.—"Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd." Cyf. Diw., Mi a ymdrechais yr ymdrech dda, mi a orphenais yr yrfa, mi a gedwais y ffydd." Yr ymdrech yn erbyn pechod, fel milwr yn ymladd a'i elynion neu hwyrach mai cyfeiriad sydd yma at redegfa. Mi a orphenais yr yrfa. Yr oedd wedi cyrhaedd pen y daith, ac wedi enill y fuddugoliaeth fel rhedegwr llwyddianus. Mi a gedwais y ffydd. Ffydd yn yr lesu-y ffydd Gristion. ogol. Adnod 8.—" 0 hyn allan rhoddwydcoron cyfiawnder i'w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr (D'yfiawn, i mi yn y dydd hwnw; ac nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad Ef." Cyf. Diw., "I bawb sydd wedi caru ei ymddangosiad Ef." Nid oes dim arall yn aros ond derbyn y wobr. Coron cyfiawnder. Caron yn uno) a chyfiawnder. Cyfrifi ,d o gyfiawn :er Crist sydd yn rhoddi yr hawl i dderbyn y goron. "Arferir y gair coron mewn cyfeiriad at y goron a pha un y coronid yr ymdrechwyr yn y campan Groegaidd, a golyga yma y b)wyd tratjywyddol a etifeddir span y saint, a'r gogoniaat a'r urddas i ba rai y dyrchefir hwynt ynddo." Ac nid yn unig i mi, fel ag i gau pawb arall allan, megys yn y campau fel ag i gau pawb arall allan, megys yn y campau Groegaidd'; ond hefyd i bawb a garant ei ymddang- osiad Ef-ymddangosiad Crist. Y mae y cariad hwn yn rhagdybied ffydd. Cawn gyferbyniad i hyn yn adn. 10—" Gan garu y byd presenol." GWERSI. Y mae yn ofynol i bob Cristion, er mwynhau cysuron crefydd a bod yn ddefnyddiol o blaid aehoB. Iesu Grist, nid yn unig i feddu gwybodaeth ddeallol am wirion- eddau yr Efengyl, ond hefyd sicrwydd yn codi oddiar brofiad o'u dylanwad. Y mae yn bwysig cadw yn fyw yr argrafliadau a dderbyniwyd pan yn ieuane o wirioneddau crefydd. Yn yr adgof o'r rhai a fuont yn eu dysgu, deuant yn fwy anwyl ae yn fwy dylanwadol. Astudiaeth fanwl o Air Duw fel datguddiad Dwyfol a sicrha sefydlogrwydd yn y eymeriad crefyddol, ac a rydd nerth digonol i wrthwynebu pob cyfeiliornad. Mae yr Ysgrythyr Lan yn fuddiol i holl ddybenion y bywyd crefyddol, ac yn abl i wnenthur yn ddoeth i iachawdwriaeth. Caiff y duwiol ei ddodrefnu yn gyf- lawn i bob gweithred dda. Pregethu y Gair ydyw y moddion cryfaf a mwyaf effeithiol i wrthwynebu dylanwad eyfeiliornadau a hud- oliaeth pechod yn ei wahanol ffurfiau. Yn wyneb symudiad rhai enwog a defnyddiol i fwyn- hau gwobr eu llafur, dylai hyny ein gwneyd yn fwy ymdrechgar a phenderfynol, gan deimlo ein cyfrifoldeb yn ddyfnacb, gan feithrin ysbryd gweddigar a duwiol- frydig. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Pa bryd, ac o dan ba amgylchiadau yr ysgrifenodd Paul y llythyr hwn at Timotheus P 2. Yn mha bethau y mae Paul yn cynghori Timo- theus i aros ynddynt ? 3. Pa gymhellion a rydd iddo i aros P 4 Pa beth a olygir wrth yr Ysgrythyr Lan ? Yn mha ystyr y gellir dywedyd eu bod wedi eu rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw P 5. Pa beth a ddywed yr apostol am eu buddioldeb ? 6. Paliam yr oedd Paul gyda'r fath ddifrifoldeb yn gorchymyn i Timotheus bregethu y gair P 7. Eglurwch yr hyn a olygai yr apostol wrth glust- iau wedi merwino," ac i ba bethau yr oedd hyny yn arwain P 8. Paham y mae Paul yn cyfeirio at ei ymadawiad ? 9. Beth a olygai wrth goron cyfiawnder"? Pa gymhariaeth a ddefnyddir yn adnodau 6-8 P +

GODRE Y RHONDDA.