Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

TYWALLT GWAED YN NGHYMRU.

Advertising

PRIFYSGOL LLUNDAIN.

Advertising

GODRE Y RHONDDA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Undeb yr Annibynwyr Cymreig.—Penderfynwyd Hos Sul, Mai 17eg, gan eglwys Ebenezer, Ton- ypandy, i roddi gwahoddiad cypes i'r Undeb yn Aberystwyth iymweled a hi y flwyddyn nesaf. Gwelaf fod Gobebydd Aberdar yn y TYST diweddaf am barotoi teimiad y frawdoliaeth i wynebu ar Aberdar. I ganol y Rbondda, gyfeillion, a chewch dderbyniad teilwng. Na huder chwi gan y doniol dad o Gwmbacb. Cynrychiolaeth y Rhondda.-O'r naw a enwyd fel ytngeiswyr gan y Pwyllgor Gweithiol yn ei gyfar- fod diweddaf y mae pedwar bellach wedi tynu yn ol, dau yn barod i sefyll, a thri heb ateb. Y ped- war sydd wedi tynu yn ol ydynt Mri E. H. D-ivies, Pentre; E. Davies, Llandinarn Cyril Flower, A.S. a H. Broadhurst, A.S. Y ddau sydd yn barod i sefyll os dewisir hwynt gan y Tri Chant Ydynt Dr A. Scholfield, Caerdydd, a Mr Fred L. Davis, mab Mr Lewis Davis, Blaenllecban. Pan hysbyswyd yn nghyfarfod Triugain Adran Ton- ypandy, nos Wener, Mai 22aia, fod Mr Fred L. Davis yn barod i sefyll, derbyniwyd y newydd gyda chyraeradwyaeth mawr. Dyma y dewis- ddyn yn ddiddadl. Y tri sydd hyd yn hyn heb ateb ydynt Mr Alfred Thomas, Y. H., Caerdydd Mr T. Marchant Williams, Llundain; a Mr W. Abraham (Mabon). Nid yw y ddan gyntaf yn debyg o sefyll, oblegid y mae y naill yn rhwym o sefyll neu syrthio yn nglyn a'r Dosbarth Dwyr- einiol o Morganwg, ac y mae y llall yn rhwym i Adran Finsbury; ac am yr olaf nis gwyddom beth fydd ei atebiad; wedi ei ymddygiad an- beilwng tuag at y Tri Chant, anhawdd fydd iddo gydnabod ei awdurdod bellach, er ei fod yn gadarnach yn awr nag y bu oddiar ei ffurfiad. Y mae wedi dal y rhuthr i gyd o bob cyfeiriad. I Nid oes gorchfygu i fod arno. GOHEBYDD.