Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
CYMANFA SIR GAERFYRDDIN, 188.%
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMANFA SIR GAERFYRDDIN, 188.% Cynaliwyd y Gymanfa uchod yn Peniel, ger Caerfyrddin, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Mai 26ain a'r 27ain. Cafwyd cynadledd y dydd cyntaf am dri o'r gloch, y Parch T. Davies, Llanelli, yn y gadair. Gwelsom y brodyr can- lynol yn bresenol — Parchn Thomas, Bryn, Llanelli Davies. Peniel Williams, Pant-teg; Jones, Ffynonbedr; Davies, B.A., Worthing; James. Brynbank; Thomas, Gwynfe; Jenkins, Cidweli; D. E. Jones, M.A., Caerfyrddin; Evans, Abergwili Owens, Conwit Morgans, Philadelphia Evans, Penygraig Dav'es, Cana; Francis, Ferryside; Rogers. Pembre; Davies. Rhydyceisiaid; Thomas, Whitland; Evans, Penybont; Gibbon, Llanymddyfri Thomas, Llangadog; Davies, Bethlehem; Evans, Cape) Seion Bowen, Penygroes; Rees, Sirhowi; Evans, Sarnau; Jones, Abergorlech, ac ereill nad ydym yn cofio eu henwau ar hyn o bryd. Dechreuwyd y Gynadledd trwy weddi gan y Parch James, Amroath. Yna cafwyd anerchiad gan y Cadeirydd, y Parch T. Davies, Siloa, Llanelli. Mawr ganmolai y capel newydd, eang, a phrydferth yn yr hwn yr ymgynullem. Fod yr Efengyl yn taIu y llôg uchaf. Mai dyn- ion yn credu hyny oedd wedi mvned i gymaint traul gyda Peniel newydd. Yn lion ganddo weled cynifer o frodyr yn bresenol. Ein bod yn clywed swn rhai yn ymadael yn ami yr wyth- nosm diweddaf. Dickon, gan fod Cyfarfod- ydd yr Undeb," a'r Gymanfa Orllewinol" i gael eu cynal yr wythnos nesaf, y bydd mor briodol i ni beidio pasiounrhyw benderfyniadau yn nglyn a symudiad cynifer o'r tadau o'n mysg, hyd oni ymgyfarfyddom yn sir Aberteifi yr wvth- nos nesaf, ac a hyny y cydunwyd yn unfrydol. BE WELSH INTERMEDIATE EDUCATION BILL. At the annual Association of the Congrega- tionalists of Carmarthenshire and South Wales, held at Peniel, near Carmarthen, May 26th, 1885, representing .more than one hundred churches and branch churches, and upwards of 30,000 members, the following Reselutiou was unanimously passed:— That this Meeting deplores the powers proposed to be given to the Country Magistrates, the other provisions for indirect representation—and the provisions sanctioning certain religious instruct ion at the puUic expense, contained in the Welsh Intermediate Education Bill," and unless these and other objectionable provisions be removed by amendments, would most decidedly prefer that the Bill should be withdrawn in order that the quest- ion may be dealt with by the next Parliament, in as much as we firmly believe that the Education Committee for the County should be elected directly by the people, and should have the Endowed Schools in the County vested in it by the Act, with power, subject to the control of the Education Department, of remodelling them, as well as founding new schools, when and where required and also should have direct communi- cation with the Education Department without the intervention of Commissioners, and that a copy of this Resolution be sent to each of the Members of Parliament for this County and Boroutrh, and to Mr Mundella, M.P., and Mr Gladstone, M;P. Signed by the Chairman, T. DAVIES. At a Public Meeting of the Annual Associ- ation of the Congregational Churches of Car- marthenshire, held at Peniel, May 26th, 1885, the following Resolution was unanimously and enthusiastically passed:- That we desire to record'our unfeigned appro- val of the noble efforts of Her Majesty's Govern- ment to settle, by the evangelical principle of arbitration, the unfortunate dispute which lately rose between our Kingdom and that of Russia. We rejoice that the negotiations have been so far successful in preventing the horrors of war, and tcust the Government will succeed by future negotiations to restore perfect understanding between the two Kingdoms respectingtbe Afghan 11 Frontier, and to establish lasting and honourable peace with Russia, and other parts of the world, that no more blood be shed on account of misun- derstanding respecting small tracts of land and we also desire to express perfect confidence in Her Majesty's Government to speedily bring the negotiations to a satisfactory issue. Cynygiwyd gau y Parch W. Thomas, Whit o land, ac ciliwyd gan y Parch W. Thomas, Gwynfe, a phasiwyd yn unfrydol gan y dorf fawr. Arwyddwyd gan S. Davies, gweinidog. 3. Ein bod yn cefno;i dathliad haner-can'- mlwyddiant yr achos dirwestol yn mhob cymyd- ogaeth lie y byddo yn gyfleus yr haf hwn. Gorphenwyd y Gynadledd trwy weddi gan y Parchn Thomas, Bryn, Llanelli. Y MODDION CYHOEDDUS. Am 6, dechreuodd y Parch Thomas, Whit- land, a phregethodd y Parchn Bowen, Peny- groes, a Thomas, Gwynfe. Am 10 dranoeth, dechreuodd Evans, Peny- bont, Trelech, a phregethodd y Parchn James, Amroath, yn Saesoneg, a Evans, Pontyberem, a Thomas, Bryn, yn Gymraeg. y 11 Am 2, dechreuodd y Parch Jenkins. Cidweli, a phregethodd y Parchn Thomas, Llangadog; Rees, Sirhowi, a Davies, Siloa. Am 6, dechreuodd y Parch Rogers, Pembre, a phregethodd y Parchn Davies, Bethania; Gibbon, Llanymddyfri, a Davies, Bethlehem. Cafwyd Cymanfa luosog, a phregethau rhag- orol. Yr oedd mwynhad wrth ddyweyd a gwrando. Yr oedd y frawdolneth yn Peniel wedi darparu yn helaeth iawn ar gyfer y Gymanfa, a chafodd y derbyniad mwyaf gwresog gan yr eglwys a'u parchu3 weinidog. Cy- hoeddwyd fod y capel newydd ejng a hardd yn rhydd o ddyled, felly yr oedd ei ddydd agoriad yn ddydd ei Jubili. Ond pa ryfedd, pan oedd caredigion crefydd yncyfranu wrth y canoedd o bunau tuag at y ddyled, fel yr oedd y gwaith yn cael ei gario yn mlaen. Clywsom fod un bon- eddwr wedi cyfranu E300 ato. Dywedodd y trysorydd ddydd y Gymanfa, fod arian dros ben talu y contract a'r extras, y rhai heb gyfrif yr haulage oeddynt oddeutatl,400 i £1,500, Well done, pobl a gweinidog Peniel, ewch rhagoch, a thaled yr Arglwydd yn helaeth i'ch mynwesau am eich caredigrwydd difesur, a dilyned bendith Duw y cymanfaoedd, gymanfa Peniel. er addfedu lluoedd i ogoniant. Gwynfe. W. THOMAS. t:
CYPAEFOD CHWARTEROL BRYCHEINIOG.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
CYPAEFOD CHWARTEROL BRYCHEINIOG. Cynaliwyd y cyfarfod uchod y tro diweddaf yn Ebenezer, Merthyr Cynog, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Mai 19eg a'r 20fed. Yr oedd yn bresenol yn y Gynadledd a gynaliwyd y dydd cyntaf am haner awr wedi dau o'r gloch y Parchedigion J. Davies, gweinidog y lie yn y gadair, D. Thomas, Llangynidr; D. A. Griffith, Troedrhiwdalar; R. James, Llanwrtyd U, Williams, Brychgoed; J. Ll. Jones, Ceryg- cadarn, a'r Ysgrifenydd. Wedi dechreu trwy weddi gan Mr Williams, Brychgoed, a chadarn- hau cofnodion y cyfarfod blaenorol, cytunwyd yn unfrydol ar— 1. Fod y cyfarfod nesaf i gael ei gynal yn ol y gylchres yn Cwmwysg. 2. Fod y brodyr Jones, Cwrnrhos, a Davies, Merthyr Cynog, i bregetbu ar y pynciau rhoddedig yn y cyfarfod hwnw, yr olaf ar "Freniniaeth Crist," a'r cyntaf ar ryw fater a roddir iddo gan eglwys Cwmwysg. 3. Fod y Parch R. Williams, Brychgoed, i ddar- llen pa.pyr yn nghynadledd y cyfarfod nesaf ar Berthynas Crefydd ac Addysg." 4. That we thoroughly endorse the policy of Her Majesty's Government in their determination to recall our troops as soon as possible from the Soudan, and also that we rejoice with the greatest satisfaction that the matter in dispute between England and Russia has been referred to the arbitration of a friendly neutral power, and we desire to convey to Her Majesty's Government our profoundest gratitude tor their efforts to avert the horrors of a great war to establish friendly relations between the two countries, and we hope that nothing will occur in Parliament or out of it, to prevent the peaceable settlement of all disputes in connection with Russia and Afghanistan, and shall continue to pray that the war cloud may be dispersed and that peace be placed on a sure foundation. 5. Fod y brodyr Thomas, Llangynidr, a Williams, Brychgoed, yn cael eu cymeradwyo i fod ar Bwyllgor Coleg Coffadwriaethol Aberbon- ddu am y flwyddyn ddyfodol. 6. Ein bod yn dymuno amlygu ein teimladau dwys yn wyneb symudiadau sydyn cynifer o flaen- oriaid ein Henwad — y Parcbedigion S. Evans, Hebron; Dr T. Rees, Abertawy ae E. Steph 1D, Tanymarian, a'n cydymdeimlad a'u perthynasau galarus, ac yn dymuno yn daer hefyd am i ddeu- parth ou hysbryd fod arnom oil. 7. Fod deiseb i gael ei banfon i'r Senedd o'r Gynadledd hon wedi ei harwyddo gan y Cadeirydd o blaid Mesur Cau y Tafarnau ar y Sol yn Lloegr. 8. Fod y Gynadledd yn mawr lawenhau wrth feddwl am y oynydd dirfawr sydd wedi bod ar yr achos dirwestol a'r gwasanaeth pwysig mae wedi wneyd i grefydd a moesoldeb yn y Dywysogaeth, o'i gychwyniad haner can' mlynedd yn ol hyd beddyw, ac yn datgan ei chydymdeiinlad trwyadl a mudiad y Jubili, gan obeithio y bydd yn sym- byliad cryf i'r acbos ac yn foddion i'w ddwyn yn fwy i sylw yr eglwysi a'r wlad. Ein bod ynpenodi y Mri James, Llanwrtyd, a'r Ysgrifenydd, iln cynrychioli yn y Gynadledd a fwriedir ei chynal yn nglyn a'r mater yn Abertawy ya mis Awst nesaf. Dibenwyd y Gynadledd trwy weddi gan y Parch D. Thomas, Llangynidr. Cynaliwyd oedfaon am 6 o'r gloch y prydnawn cyntaf yn Ebenezer a Bethania, ac yn Ebenezer dydd Mercher am 10, 2 a 6 o'r gloch. Cymerwyd rhan yn nygiad yn mlaen y moddion cyhoeddus gan y brodyr Thomas, Llangynidr; Griffith, Troedrhiwdalar; James, Llanwrtyd J. B. Jones, B.A., Aberhonddu; Williams, Brych- goed Jones, Cerygcadarn Beynon, Builth, a Rees, Brechfa. Diolchwyd yn gynes i Mr Beynon am ei bregeth ar y pwnc, sef Per- thyna.s Esgyniad Crist a thywalltiad yr Ysbryd Glan." Er bod yr hin yn dra anffafriol cafwyd cynulliadau lluosog ac astud i wrandaw yr Efengyl yn cael ei thraddodi gyda nerth a gwres. THOMAS EVANS, Ysgrifenydd.
LLUNDAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLUNDAIN. Cymanfa Fetter Lane a'r Boro', — Cynaliodd y cyfeillion yn y Boro' a Fetter Lane, eu oymanfa. flynyddol Mai 22ain, 23ain, 24ain a'r25ain. Gwas- anaethwyd gan y Parchedigion Rowlands, Treflys; Evans, Pontardulais; Adams, B.A., Hawen; a Roberts, Wrexham. Cafwyd cyfarfodydd da, a chynulliadan lluosog, yn nghydag arwyddion fod llaw yr Arglwydd gyda'r gweision. Hon yw y gymanfa olaf eleni gan yr Annibynwyr Cymreig yn y Brifddinas, ac wrth adolygu yr holl gyman- faoedd a gynaliwyd y flwyddyn hon, nis gallwn ddywedyd ei bod yn ol i'r rhai a gynaliwyd y blyn- yddoedd blaenorol yn mhob ystyr. Fel y dywed- wyd yn y seiat yn Fetter Lane, y mae gan y Cymry yn Llundain anfanteision, megys pellder ffordd, amgylcbiadau masnachot, &c., nas gwyr y cyffredin yn Nghymru am danynt, ac wrth gymeryd pob ^eth i ystyriaeth, credir y daliant i'w cymharu ag unrhyw eglwys yn y Dywysog- aeth yn ol yr amgylchiadau. Gwnaed coffa mewn modd tyner at ymadawiad y cewri o'n plitb, a rhoddwyd anogaethau difrifol i fod yn fwy sior, diymod, a helaethion, yn ngwaith yr Arglwydd. Y mae cael y fath arwyddion o gymeradwyaeth y nefoedd i'r ymdrechion a wneir gyda'r genedl Gymreig yma, yn galoudid mawr i'r rhai sydd A'u hysgwyddau o dan yr arch. Hyd yma y cynorth- wyodd yr Arglwydd ni, a hyderwn na wrthyd ei bobl, ac nas gadawa hwy yn y dyfodol. E. M. EDWARDS. Adgofion gan Clwydfardd. — Darllenwyd papyr maith a chynwysfawr gan yr Archdderwydd, yn Llyfrgell y Cymrodorion, Mai 21ain, yn cynwys ei adgofion o Eisteddfodau y carytif presenol. Cyf- lwynwyd ef i sylw mewn byr eiriau gan y Cadeir- ydd Mr T. M. Williams, B.A. Rhoddwydderbyn- iad brwdfrydig iddo, a. darllenodd yntau ei nod- iadau yn rhwydd er ei fod yn 84 mlwydd oed. Arddangosai acghymeradwyaeth cryf i'r hyn a elwir yn Eisteddfodau Cerddorol, am nad ydyw y gair Eisteddfod yn cael ei ddefnyddio yn yr hen oesoedd, ond yn unig am y cynulliadau ag y byddai yr oil o'r cangeDau llenyddol yn cael He ynddynt, sef barddoniaeth, telynoriaeth, cerddoriaeth, a llenyddiaeth rydd, Yr ydoedd hefyd yn llawn o sel dros y delyn deir-res Gymreig. Dechreua ei adgofion personcl gyda yr eisteddfodau taleithiol; y gyntaf yn 1819 yn Nghaerfyrddin, pryd y cadeir- iwyd gan Gwallter Mechain. Y nesaf yn Wrex- ham, pryd y cadeiriwyd gan Robert Davies, Nant- glyn. Ya gaclynol i hon cynaliwyd un yn Nghas- tell Caernarfon, pryd y cadeiriwyd gan Gwyndat Eryri, yr ydoedd yma lawer o feirdd awen barod. Yn hon y cynaliwyd ",Cyn Cler," am y tro olnf y° Ngbymru. Yn 1822, eadeiriwyd Cawrdaf. Yn 1823, bu un yn Nghaerfyrddin, cadeiriwyd Dsaiel