Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
CYFARFODYDD PREGETHU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFODYDD PREGETHU. Am ddeg o'r gloch, yn y Tabernacl (M.C.), dechreuwyd gan y Parch W. Bowen, Penygroes, a phregethwyd gan y Parchn E. Herber Evans. a D. Roberts, Wrexham. Am 2 o'r gloch, yn Baker-street, dechreuwyd gan y Parch O. Thomas, Biynmair, a phregeth. wyd gan y Parchn O. R. Owen, Glandwr; a R. Morgan, St. Clears. Yn y Tabernacl ar yr un amser, dechreuwyd gan y Parch J. Walters, Brithdir, a phregeth. wyd gan y Parchn R. Thomas, Glandwr a J. R. Thomas, Bethesda, Penfro. Am 8 o'r gloch, yn Baker-street, dechreuwyd gan y Parch E. James, Nefyn, a phregethwyd gan y Parchn J. Alun Roberts, B.D., Caerdydd, a Pryce Howells, Ffestiniog. Yn y Tabernacl ar yr un pryd, dechreuwyd gan y Parch D. Davies, Widnes, a phregethwyd gan y Parchn B. Davies, Treorci; a Owen Evans, Llundain. Yn Portland-street, dechreuwyd gan y Parch W. T. Hughes, Ebbw Vale, a phregethwyd gan y Parch Jansen Davies, Cleckheaton, yn Saesoneg,
AT Y BEIRDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT Y BEIRDD. Dymunaf bysbysu i'r beirdd fy mod wedi derbyn atnryw o englynion i'r 'Wabadden yn ngardd Cottage,' a rhoddaf y dyfarniad arnynt mor fuan ag y caf amser i fwrw y llinyn mesur dros- tynt. Mae y greadurus wedi bod wrth wreiddiau y tulips cochion, melynion, a brithion yma. Ys- gydwais yr englynion uwchben y gwely blodau ddydd Sadwrn, a chredwyf iddi gael braw, gan nad oes pridd newydd ar y wyneb oddiar.byny. CLWYDWENFRO.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
SING WELL SPEAK WELL — Doughty s K0??e -Lozenge lias been gratefully appreciated by thousands of im" mus'ca'' and other celebrities for nearly 40 years. It 'Parts to the voice clearness of sound and brilliancy of tone. JENNY LIND.—" 1 have much pleasure in continuing-, as far as nt,iCH>e'utlcc extends, the testimony already so general in favour V!le -ijozenfres prepared by you (Miles Doughty). l,„Ya!l3«2B0d,5s. and lis—post free, 7d, Is 2d, &o. Ask your f°r them.-F. NEWBEBrand SONS, 1, King Edward- sceet, London, E,C. Established A.D 1746. ddynoda fod yr aelodaeth yn terfynu ar ddiwedd blwyddyn bresenol yr Undeb.
Cyfarfodydd, &e.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyfarfodydd, &e. TYNEWYDD, MYNYDDISLWYN.—Cynaliodd ysgol y lie hwn ei gwyl fiynyddol y Lhtngwyn, pryd y cyfranogodd tua thri chant o'r te a'r bara brith, ac yn yr hwyr cafwyd cyfarfod adrodd a chanu dan lywydd- iaeth y Parch J. Jones, y gweinidog. Weiianerchiad byr, aed trwy y rhaglen a ganlyn :—Ton gyffredinol; '• The devoted," gan M. J. Price, The fairy and the giant gan J. ac E. Davies. ton gan y Cor o dan ar- weiniad W. T. Lewis, Child's evening hymn" gan W. Watkins, "The clever old man" san W. H. Roberts, The dog at his master's grave gan W. J. Roberts, ton gan y Cor, Ymddyddan Rhyfeddol gan H. Absalom, Dim ond deilen gan E. Edwards, Excelsior" gan C. M. Bull, unciwd, Mi gollais y tren" gan E. Williams, ."The two lovers" gan E. Edwards a H. J. Lewis, Arabi Pasha" gan J. Bull, The ship on fire" gan T. Davies, deuawd, "Nilf oead dim ia" gan E. M. Bull ac L. Lewis, "The holiday" gan E. Jones wyth yn cynyg ar ddarllen ar y pryd, a W. T. Lewis ac E. Williams yn g-ydfuddugol j The spinster and the bachelor gan P. Worthington, ton gan y Cor, The church and the world gan L. Lewis, "Two clever" gan R. Williams, The dog and the frog gan B. Lewis, Y ddau athraw gan W. WiMiavns a T. Davies, Where do you live ? gan E. Williams, Gorphenwyd gan J. Price, My little brother gan T. Watkins, ton gan y Cor.-H. Absalom. TIER'S CROSS.—Cynaliwyd gwyl fiynyddol Ysgol Sul.y He hwn Mai 24ain, pryd y pregethwyd yn dra rhagorol gan y Parchn O. Jacobs, Neyland, a W. Davies, Popehill. Yr oedd y capel trwy'r dydd, yn enwedig yn yr hwyr, yn anghysurns o lawn. Pryd- n'lwo y Llun canlynol, daetii tyrfa fawr yn nghyd o bob gradd ac oedran i gyfranogi o de a bara brith, ac yn yr hwyr cafwyd cyfarfod adioniadol, pryd yr ad- roddwvd darnau dyddorol ac y canwyd tonau swynol gan aelodau yr Ysgol Sul. Traddodwyd anerchiadau byrion pwrpasol ac adeiladol gan y Parchn C. Guion, 0. Jacobs, a J. C. Evans.—Evander. LLWYNYRHWRDD. Llungwyn cynaliwyd y Gymanfa Ysgolion Sabbotbol rhan uchif o'r undeb hwn eleni, yn ol ei gylchdro, yn y lie uchod, pryd y cafwyd, fel arfer, gyfarfodydd hwylus ia 'n gyda'r adrodd a'r canu, holi ac ateb gan y gwahanol ysgolion, sef Peoygroes, Aotioch, Tyrlios, Faqhendre, a Llwyn- yrhwrdd. 0 bob rhan o'r gwasanaeth ysgol undebol y plant oedd y mwy)f effeithiol i enill sylw pawb oedd yn y lie. Yr oeddynt fel llu banerog o'r 5 i'r 16 oed yn seinio "Hosana i Fab Dafydd." Er fod y tywydd eleni yn anffafiiol oherwydd y gwlaw, eto cafwyd cynulliad lluosog, a hyi-y i'w brio loli yn benaf i gared- igrwydd y parchus foneddwr Mr App eby, contractor y reilfEordd newydd o Crymych i Aberteifi, yn nsillduol i ysgolion Tyrhos a Fachendre, trwy anfon tren i'w cyfarfod i'r Boncath erbyn 8 30 y boreu, i'w cludo yn rhad i Crymycb, lie yr oedd cyfleustra i'w cludo yn mhellach. Anfonodd het'yd ei beiriant drachefn yn y prydnawn at amser penodol yr ysgolion ei hunan i'w cludo yn ol i'r un fan. Felly, ein dymuniad yw iddo gael mwynhau hir ddyddiau i wneuthur daioni, ac y bydd yn flaerifErwyth i lawer o'r be-idefigaeth i ddangos eu caredigrwydd yn yr unrhyw gyfeiriad. Drwg genyf orfod teimlo achofnodi y cyfnewidjadau pwysig sydd wedi eymeryd Ile yn nghylch byeban yr undeb hwn oddiar y Sulgwyn diwe Jdaf, sef gweled a theimlo lie rhai o'n blaenoriaid ffyddlon a charedig yn wag, sef Mr Evans, Hebron. Er na pherthynai yn uniongyrchol i'r undeb hwn, eto yn herwydd ei barodrwydd a'i sirioldeb i fynychu lleoedd o'r fath, yr oedd yn rhoddi ei bresenoldeb braidd yn ddiei thriad yn y gymanfa hon, a phob amser yn barod i gynorthwyo trwy holi rhyw un neu ddwy o'r ysgolion bob blwyddyu, yn enwedig ysgolion Tyrhos a Fachendre yn absenoldeb Mr Davies, ysgolion pa. un sydd yn perthyn i ddau ddosbarth, ac felly yn gorfod rhanu bob yn ail flwyddyn. Mae yma fwlch teimiadwy yn y mur nis gwyddom eto i ba gyfeiriad yr a Brenin Seion i chwilio ei ddewisol l 'anw y gwagle, oblegid efe oedd wr mawr jyi Israel. Hetyd Mr Richards, Penygroes-yr hwn sydd yn rhwym draed, dwylaw, a thafod gan yr Hwn sydd yn ceryddu y sawl mae yn ei garu—un o ffyddlonaf weinidogisn yr undeb. Yr oedd a'i fryd ar gateciso y plant yn e^- wyddorion sylfaenol crefvdd, ac felly ein dymuniad a n gobaith yw y daw yn rhydd o'i rwymau, fel y bydd yn seren fwy dysglaer yn ffurfafen y weinidogaeth nac y bu erioed o'r blaen a'r gymwynas oreu allwn wneyd iddo o dan yr amgylchiadau presenol ydyw ei ym- ddiried yn ngofal yr Hwn sydd yn rhy dda i wneuthur cam a gwr yn ei fater. Teimlwn heddyw e:n bod yn perthyn i gymdeithas sydd yn gan' mlwydd oed, er yn ieuentrach o iawer yn dechreu ei hail gant na'r cyntaf, i'r hon y gwelir celfyddyd ar ei heithaf yn rhoi help ei llaw-y mellt fforchog am y cyntaf yn cynyg euswas- anaeth iddi, a'r cerbydau tan yn chwyrneliu yn ffroen- faloh wrth dalu eu gwarogaeth gymwynasgar i r Ysgol Sul. Mawrhawn ein braint.—Athraw. ABERBIG.-Dyddiaa Iau a Gwencr, Mai 21ain a'r 22ain, cynaliwyd bazaar yn ysgoldy y lie hwn niewn cysylltiad a chapel AnDibyno) Seisonig Llanhiddel. Er bod yr hin yn anffafriol yn ystod y ddau ddiwrnod, daeth Iluaws o bobl yn nghyd, ac er bod masnach yn isel, eto derbyniwyd tua £ 120. Mae y Parch J. W. Jones, gweinidog y He, a'r cyfeillion yn Llanhidde, l w hedmyga yn fawr am e>« liafur a u hymdrech diflino er ysgafnhau y baich trwm sydd arnynt.—Ymwelydd. TABERNACL, ABERAFON.—Sabbotb, Mai 31ain cynaliodd myfyrwyr yr Aberavou Academy gyfres o gyfarfodydd pregethn yn y capel nchod. Yn y boreu, gwasanaethwyd gan J. Lewis (B), Blaenycwm, a J. Johns, Tyddewi; am 2, J. S. Morgans (B), Cwmsymlog, a Mr Richards, yr athraw, yn S lesoneg am 6, J. G. Jones, Treheibert, a E. Davies (B), Glyncorwg. Cafwyd arwyddion amlwg o wenau y Meistr gyda'r gweision ieuainc. Er fod y mudiad yn newydd mewn eysylltiad A'r sefydliad uchod, hyderwn fod iddo oes hir, ac y gwelir y capeli ereill yn y dyfodol yn agoryd eu drysau i gefnogl y mudiad da hwn. Teilwng ydyw dyweyd fod uneb a chydweithrediad hollol yn ffynu rhwng myfyrwyr ac athraw y sefydliad uchod, yr hvn oedd i'w ganfod yn amlwg trwy'r dydd. Anrhegwyd y pregetbwyr ieuainc a phob o lyfr gwerthfawr gan weinidog parch us y Tabernacl (Mr Foulkes), a theim- lent yn dra diolchgar iddo ef a Mrs Foulkes am eu cefnogaeth a'u care iigrwydd iddynt. Hyderwn y bydd y myfyrwyr yn llwyddianus yn eu gwahanol arholiadau, megys y ceir myfyrwyr y dysgedig Mr Richards yn gyffredin. Bendith y Nefoedd fyddo ar eu hymdrech- ion, yw ein dym uniad.-Serenfab. BETHEL, TRECY^ON —Dydd Linn, Mebefin laf, cynaliwyd uwyl de yn y capel uchod, pryd y cyfran- ogwyd yn helaeth o'r hyn a osodwyd set eu bron. Yn yr hw -/r, perfformiwyd y gantawd Ein Gwaredwr (D. Griffiths) can gor y capfel, o dan arweiniad medrus Mr Thomas Morgans. Datganwyd yr uuawdau gan Eos Fwyn, Mrs E. A. Hopkins, Mri W. Lewis, L. Hopkins, D. Edwards, H. Watkins, J. Evans, W. Hopkins, a W. M. Davies. Yr oedd y dadganiad o'r gantawd afrwydd a gallaog hon yn fendigedig, ao yn brawf digonol o ddefnyddiau rhagorol a thalent y cor i ymgymeryd a chantawdau o'r fath uchod. < Yr oeddem yn falch fod cor o'r un gynnlleidfa fel eiddo Bethel wedi myned trwy eu gwaith mor ogoneddus, a gobeithio yr ant hwy a'u bar-einydd galluog rhag eu blaen, fel y cawn en clywed yn ami yn y dyfodol. Maent wedi perfformio amryw lyfrau o'r blaen, ond credwn yn ddibetrus mai hwn ydyw y goreu o'r oil. Llywyddwyd yn ddeheuig gan y Parch D. Onilwyn Brace, gweinidog Yr elw yn myned i ddau frawd o'r eglwys i gael addysg ragbarotoawl i'r weinidogaeth.—Un oedd yno. TYDDEWI. — LInn y Sulgwyn fel arfer, cynaliodd Ysgol Sabbothol Ebenezer a'r cangenan Rhodiad a Treleddidfawr eu rhadwledd flynyddol. Ba yma ddar- paru prysur am wythnosau ar gyfer yr wyl mewn adrodd a chanu, yn gystal ag mewn darparu ymborth blasus ar gyfer y corff, a thrwy gydweithrediad a dy- falbarhad ilwyddwyd i berffeithio y trefniadan i raddaa dymunol iawn. Bu y boneddigesau yn dra llwydd anus fel arfer gyda'r wledd. Yr oedd y deisen a'r te mor flasus fel y gosodid llawer o'r cyfranogion o dan an- hawsder mawr i wybod pa bryd i roddi fyny, ac er fod yr haf yma yn un anfanteisiol iawn am ddefnyddian i addurno y byrddan, eto geilid meddwl wrth fyned trwy ysgoldy Ebenezer dydd Llun nad oes dim ond blodau yn tyfu yn mhlwyf Dewi, ao yr oedd yr holi addurn- iadau drachefn yn cael eu haddurno gyda'r fath siriol- deb, ag a wnai i bawb deimlo yn gartrefol wrth bob bwrdd. Heblaw te a theisen, cawsom hefyd wledd feddyliol o'r fath oren. Byddai yn ormod o dreth ar ofod y TYST A'R DYDD i feddwl am roddi enwan yr holl adroddwyr a'r canwyr i mewn, ob'egid adroddwyd dros driugain o ddarnau, a datganwyd pump ar hugain o ddarnau cerddorol, ae fe aeth yr oil trwy en gwaith yn ardderchog. Yr oedd y canu a'r adrodd yn glod i'r athrawon a'r arweinwyr a fu yn llafurio mor galed a diwyd i ddysgu yr ieuenctvd. Trodd y tywydd allan yn anffafriol iawn, ond er hyny cawsom gynnlliadau iluosog iawn. Rhyfedd y dylanwad sydd gan gwpanaid o de i dynu cynulleidfa yn nghyd. Llywyddwyd y ddau gyfarfod, sef am ddau a chweeb, gan y Parch W. Powell, yr hwn a ddywedodd ar ddechren y cyfarfod- ydd, Fod y thaglen mor faith, a'r gwaith mor fawr, fel nad oedd amser i ganmol, nac i encorio neb," ond bu yn frwydr galed rhwng y Hywydd a'r gynulleidfa ragor nag unwaith i gadw y cyfryw benderfyniad heb ei dori. Teimlad pawb ar ddiwedd y dydd ydoedd, Byw a gaffom i weled y Sulgwyn nesaf eto, ac i fwynban rbadwledd gyffelyb i hon.Garddwr. BWLCHNEWYDD, GER CAERFYRDDIN.- Llw jnogod yr Eglwysi." Gan fy mod yn Nghaer- fyrddin y SUlgWYD, gwelais bosters yn hysbysu darlith ar y testyn rhyfedd uchod y nos Lun canlynol gan y Parch W. Trevor Davies, Llanelli, a chan fy mod wedi clywed am y darlithydd, a thipyn o duedd hela yn fy nghalon-awydd i weled y gwr a'i glywed yn son am y et-eaduriail-y mae yn dda genyf eu cwrsio (course) a'm tueddodd i fyned i fyny, er fod yr hin yn wlyb iawn, ac er fy syndod cefais y capel wedi ei orlenwi. Mae Mr Davies yn siaradwr cryf, hyglyw, a deallus. Methwn yn lan a dyfalu beth allasai y llwynogod yma fod, ond cyn hir deallais mae y mart bechodau sydd yn blino ein heglwysi ydynt, a chredaf nad oedd yno yr un galon heb fod yn lloches i un neu ragor o'r creaduriaid aflan hyn, fy nheimlad fy hun, a diau mai teimlad pawb wrth edrych arnynt oedd, na chlywyd erioed ddarlith mwy buddiol, difyrus, ac adeiladol, a diau yr erys ei dylanwad yn hir ar y Bwlchiaid, ac nis gallwn anghofio yr effaith oedd yn cydfyned pan y soniai am Galfaria fel noddle arfau iladd y llwynogod. Cynghorem bawb i dreio cael clywed y ddarlith wir dda hon. Burn bron anghofio y Cadeirydd medrus y Parch E. Evans, Peny- bont, yr hwn a ddywedai ei fod wedi bod mewn lluaws o ddarlithiau, ond ni welodd erioed y cyfrit yn d'od i'w ddarllen ar y diwedd, ond yn y ddarlith hon yr hyn oedd fel y canlyn Oddiwrth y tocynau, .£18 10s. 6c. Talodd Mr Davies, Tdlyman, y darlithydd, ni ddywed- odd faint, ond gallaf dybio mai pris darlith arferol oedd E2 2s., yr hyn a wna i fyny y swm yn X20 12s. 6e. Well done, Bwlchwyr yn wir. Deigya hyn nad yw eich ysbryd gweithio wedi marw.
DYDD MEROHER.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ygarth, Merthyr Tydfil. Ysgrifenyddion: Parchn IT. Jones, Birkenhead; W. Thotpas, Whitland; a J. Charles, Croesos-vallt. Pwyllgor Parchn 0. Thomas, Brynmair, eyn-gade'rydd J. B. Parry, cyn-ysgrif- ênydd; 0. Thomas, M.A., Treffynon D. S. Evans, Aberdar;* W. T. Hughes, Ebbw Va,le; Owen Evans, Llundain Job Miles, Abeaystwyth T. A. Penry, Aberystwyth;* J. N. Richards, l'eriygroes;* Mr T. n Thomas, Aberystwyth;* Mr J. Evans,: Aberystwyth W. Hughes, Beaumaris; Parchn D. Roberts, Wrex- ham; J. Jones, Machynlleth; L. Jones, Ty'nycoed; R. W. Griffith, Bethel; D. R. Davies, Rhydyceisiaid J. Morgans, Cwmbach R. Rowlands, Aberaman: Mri R. Roberts, Pwllheli; Moses Jones, Abertawy; Henry Thomas, Llanelli; T. Thomas, Foundry, Ton- Ystrad; J. Parry, Bala; Hush Mathews, Liverpool; T. Evans, Sciwen; a John "Williams, London Warehouse, Mill street, Aberdar. Archwiliwr y Cyfrifon Mr W. J. Williams, Caernarfon. Cynygiwyd gan Dr Thomas, ac eiliwyd gan y Parch J. Rogers, Pembre :— Fod y Gynadledd yn teimlo yn ofidus fod y Parchn W. Nicholson, Liverpool, a W. I. Morris, Pontypridd, y rhai oeddynt I gymeryd rhan arbenig yn y cyfarfod eleni, wedi eu hanalluogi i fod yn bresenol oblegid gwendjd a llesgedd ac yn gweddio am iddynt gael eu hadfer yn fuan, ac ifod eto o wasanaeth hir i'r eglwysi ac i'r wlad. Cynygiwyd gan y Parch T. P. Evans, Pont- ardulais, ac eiliwyd gan Mr W. J. Williams, Caernarfon- Fod y Gynadledd hon yn gwb! argyboeddedig ei bod yn llawn bryd i ni, fel cenedl o Ymneillduwyr, hawlio Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru, ao y dylai hall gyfeillion eydraddoldeb crefyddol wasgu y pwnc yn ddiorphwys ar ein Seneddwyr, ac yn arbenig yn ystyried na ddylai yr un ymgeisydd gael ei ddy- chwelyd dros unrhyw ran o Gymru yn yr Etholiad Cyffredinol sydd ger Haw oni bydd yn barod, nid yn noig i bleidleisio dros y mudiad pan y dygir ef ger bron y Senedd, ond hefyd i wneyd pob ymdrech i brysuro dygiad hyny oddiamgylch. Cefnogwyd y penderfyniad gan Mr C. R. Jones, Y.H., Llanfyllin, yr hwn a ddarllenodd lythyr oddiwrth Mr Dillwyn, A.S., yn yr hwn y dywedai ei fod yn gwneyd ei oreu i sicrhau llwyddiant y MesurarDdadgysylltiada Dad- waddoliad i Gymru. Terfynwyd y Gynadledd trwy weddi gan y Parch J. S. Jones, Llanidloes.