Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
--Y GYMANFA DDE - OKLLE WINOL.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y GYMANFA DDE OKLLE WINOL. Cynaliwyd hon eleni yn Towyn, Ceinewydd, Mehefin 4ydd a'r 5ed. Cynadledd y dydd cyntaf am 11 o'r gloch. Llywyddwyd gan yr hen weinidog, y Parch T. P. Evans, Pontardu- lais, a thraddododd anerchiad pwrpasol ar Yr Eglwys a'i Llyfr, a diolchai pawb yno yn eu calonau am dano. Yna etholwyd Mr Owen. Glandwr, a'r ysgrifenydd, i ofalu cofnodi haneS y Gymanfa. Pasiwyd gydag unfrydedd mawr y pethau canlynol: 1. Cynygiwyd gan Mr Evans, Aberaeron, ac eil- iwyd gan Mr Thomas, Llanybri, Ein bod fel Cynadledd yn dymuno aryreglwysiibeidio myned i'r draul a'r drafferth o wneyd ciniawau mawrion a chostus ar gyfer y Gymanfa, fel na byddai i eglwysi ddymunai ei chael ofni ei derbyn oblegid y draul." Yr oedd da.u neu dri o leoedd yn llygadu am y Gymanfa y flwyddyn nesaf, ond ni phenod- wycl ei lie ar y pryd. 2. Cynygiodd Mr Thomas, Llanfair, ac eiliodd Mr Evans, Aberaeron, "Ein bodyn teimlo yn hir- aethlon ar ol ein hanwyl frodyr gymerwyd oddi- wrthym trwy angeu yn ystod y flwyddyn hon a'r ddiweddaf yn diolch i'r Arglwydd am eu defnyddio i fod o ogoniant a gwasanaeth i'r Enwad a; chref- ydd yn eu dydd, a c yn edrych yn hyderus at yr un ffynonell am gyflenwad eto ar gyfer y dyfodol, drwy godi gweithwyr newydd, a dyblu ein sel a'n gweithgarwch ninau sydd ar y maes ar ol. 3. Cynygiwyd gan Mr Rogers, Pembre, ac eil- iwyd gan Dr Jones, Llanelli, a chefnogwyd gan amryw, That this Assembly desires to express its gratitude to Her Majesty's Government and especially to the Right Honourable A. J. Mundella M.P., for the comprehensive Bill introduced to the House of Commons for the promotion of Inter- mediate Education in Wales. At the same time, the Bill as it now stands, is in the opinion of this Meeting, in some of its most important provisions defective and unsatisfactory, and not likely to command the confidence of the overwhelming majority of the people of Wales. (a.) In the elective power given to the Jus- tices of the Peace, and (b ) To the Chairmen and Vice-Chairmen of the School Boards to the exclusion of the remainder of the members. That this Assembly believes that the twelve elec- tive members of the County Committees should be elected by the School Boards of each County as such. This meeting further feels di3appointment at the exclusion from the control of the Commis- sioners of charities and endowments, which should be national in their application, and particularly at the exclusion of the Ashford Schools, and the Meyrick Trust Funds, and that the County Com- mittees and Commissioners have not the power to deal with certain endowments without the con- sent of their governing bodies. That copies of this Resolution be sent to the Premier, Mr Mundella, and the members of Parliament for the three Counties." 4. That this Conference desires to express its entire confidence in the Premier and his Govern- ment, and desires to record its gratitude that arbitration has succeeded in settling one of the most intricate questions that can arise between two Governments, and hopes and prays that this noble precedent will be acted upon in the future. Cynygiwyd ac eiliwyd hwn gan Mr Pryddercb, Wern, a Mr Jones, Trewyddel. 5. Cynygiwyd gan Mr Morgan Evans, Oakford* ac eiliwyd gan Mr Thomas, Solfach, "That the Ministers and members of the Congregational Churches of the counties of Cardigan, Carmarthen and Pembroke, assembled in Conference at their Annual Association at New Quay, are of opinioU that Welsh should be included amongst the subjects taught in the elementary Schools ot Wales. They much regret that there is no sys- tematic teaching of the Welsh language in the elementary Schools of the Principality, while Gaelic and the Irish are taught and paid for In Scotland and Ireland respectively." Y CYFARFODYDD CYHOEDDUS. Am 2, ar faes yn agos i'r capel, ac ar esgy0^ lawr cyfleus wedi ei adeiladu i'r perwylj at' weiniwyd y moddion. gan Mr Thomas, Go^e Road, a phregethodd y Mri Bowen, Penygroes; Thomas, Llanybri ;I a Kogers^Pembre. Am 6, yn y capel, gweddiodd Mr EvaflS* Llanrwst, a phregethodd y Mri Davies, Beth"
CWM RHONDDA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CWM RHONDDA. Yr A.S. unwaith eto.-Nid yw yn newydd i lawer o ddarllenwyr y TYST A'R DYDD fod Mr Lewis Davis, Ferndale, wedi gwrthod sefyll yn ymgeisydd oherwydd pwysau dirfawr y gofalon masnachol sydd wedi d'od arno trwy farwolaeth ei frawd, Mr Davis, Blaengwawr. Fe roddodd hyn y Tri Chant yn y sefyllfa anghysurus o chwilio am un arall. Fe enwyd wyth neu naw; tynasant yn ol oil ond tri, sef Dr Scholfield, Caerdydd, Mabon, a Mr Fred Lewis Davis, mab Mr Lewis Davis, Ferndale. Nos Wener, y 12fed cyfisol, yn Ton, fe gyfarfu y Tri Chant i bleidleisio trwy y tugel ary tri uchod. Ar ol ethol Mr Richards, Tonypandy, yn gadeirydd, a myned trwy ychydig o waith rhagarweiniol, fe aethpwyd at y gwaith pwysig o ethol. Fe aeth Dr Scholfield allan ar y bleidlais gyntaf gyda 9 o votes; ac ar y bleidlais olaf fel hyn y safai y r hie Fred L. Davis 125 Wrn. Abraham 56 Yna ar gynygiad Dr James, Pentre, ac eiliad Mr W. Morgan, Tynewydd, penderfynwyd yn frwd- frydig roddi gwahoddiad i Mr Fred L. Davis i fod yn ymgeisydd Seneddol, a phan roddwyd ef i'r cyfarfod nid oedd ond 14 yn ei erbyn. Nid yw y diwedd eto, ac mae rhai yn darogan mai dechreu gofidiau yw hyn oil. Mae un peth pwysig i ddyweyd ar hyn, a dyma fe-pe buasai yr ysbryd aflan yn cael ei yru o'r llances hon (y Rhondda) trwy ryw wyrth neu gilydd, mae yma ryw bobl yn gweled y byddai gobaith eu helw yn myned i golli. Pob peth a ddyry dyn, ac a wna am ei einioes, ei swydd, a'i No. 1. Eglwys Seisonig y Porth.—Sefydlwyd yr achos Seisonig yn y lie hwn oddeutu dwy flynedd yn ol, a,c y mae wedi cynyddu yn fawr oddiar hyny. Y mae yr ysgoldy bellach wedi myned yn llawer rhy fach i'r gynulleidfa, ac y mae capel newydd braf ar waith. Dydd Iau diweddaf gosodwyd y meini coffadwriaethol yn y mur. Dygwyd y ser- emoni hon yn mlaen yn ddeheuig gan Mrs H. Griffiths, Porth House, a Miss Spickett, Maesy- coed, Pontypridd. Cynaliwyd cyfarfodydd cy- hceddus yn y prydnawn a'r hwyr yn nglyn a'r amgylchiad yn nghapel yr Annibynwyr Cymreig. Llywyddwyd yn nghyfarfod y prydnawn gan Mr Idris Williams, Brynglas, a thraddodwyd anerch- iadau gan Mri Alderman Lewis, Y.H., Caerdydd; J. Griffiths, Porth House a'r Parch D. L. Evans, Pontypridd. Llywyddwyd yn nghyfarfod yr hwyr gan Mr A. Fulton, maer Caerdydd, a chafwyd an- erchiadau gan Alderman Lewis, Caerdydd; Mr Elias James, Ton-Ystrad; a'r Parchn T. Evans, Star-street, Caerdydd; T. Jones, Llwynpia a D. L. Evans, Pontypridd. Llafuria y Parch D. Parry Davies yn llwyddianus iawn yn y maes gobeithiol hwn. Pob llwydd eto yn y dyfodol. GOHEBYDD.
.. OAK HILL, OHIO, AMERICA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
OAK HILL, OHIO, AMERICA. Cawsom amser da iawn gyda chrefydd yn ystod y rhan gyntaf o'r flwyddyn hon-15 o'r newydd yr un Sabboth. Y mae eglwys newydd wedi ei sef- ydlu gyda ni yn Glen-Roy, tua20 milldir oddiyma. Pymtheg o aelodau sydd yno; mae'r Ysgol Sul o 60 i 80, a'r lie yn llawn o wrandawyr, fel yr wyf yn teimlo yn llawen wrth weled nad ydyw fy llafur i gyd ddim yn ofer. Yr wyf yn myned am dro yn awr i Dakota am tua thri Sabboth, ac yn nechreu Gorpbenaf byddaf yn gadael am yr hen wlad, gan fawr obeithio cael gweled llawer o fy hen ffryndiau a'm cyfeillion anwylaf, a pherthyn- asau a rhieni hoff. Cofion caredig at bawb o'm ben gyfeillion sydd ar ol yn fyw—llawer wedi marw. REES.
. COLEG Y GOGLEDD A MEDDYGON…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COLEG Y GOGLEDD A MEDDYGON IEUAINO. Bydd yn llawenydd gan garedigion addysg ddeall fod Prifysgol Edinburgh wedi penderfynu eydnabod James J. Dobbie, D.Sc., athraw mewn fferylliaeth yn Coleg Gogledd Cymru, yn nghyda Reginald W. Phillips, B.A., B.Sc., athraw mewn llysieuaeth, fel athrawon meddygol yn nglyn a graddiad yn Mhrifysgol Edinburgh. Effaith hyn ydyw y gall meddyg fyddo yn myned i efrydu yn Edinburgh wneyd y tro ar dair blynedd yn lie pedair blynedd yn Ysgotland, a threulio un flwyddyn yn Mangor. Bydd byn yn gaffaeliad mawr i fecbgyn Cymreig sydd yn parotoi at yr alwedigaeth feddygol. Yr oedd Coleg Bangor wedi cael ei gydnabod yn barod fel He i barotoi gogyfer a'r gradd o Bachelor of Science i Brifysgol Edinburgh, fel rhwng pobpeth y mae Coleg y Gogledd fel meithrinle gwyddoniaeth yn hynod o ffodus, ac ya dyfod i sylw yn yr hen ysgolion.
UNDEB YR ANNIBYNWYR I CYMREIG.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
gyfranu mwy na chwecheiniog yn y mis at gynal y weinidogaeth yn y lie Ac er nad yw yr eglwys fwyaf byw eto yn gallu sicrhau cydweithredia'd ei hollaelodau bob amser, er hyny parha i ymdrechu yn onest tuag at gyrhaedd_hyny. Arwyddair yr eglwys fyw ydyw, "Pob un i waith, a'i waith ei hun i bawb." Dangoswvd ysbryd rhagorol gan y rhai a unasant i gydweithredu o dan gyfarwyddyd Nehemiah i adeiladu mnriau Jerusalem. Yr oedd y gwaith yn fawr ac anhawdd, ond ymunodd pawb yn galonog i weithio yn ol eu gall., a'u hamQylchiadau, Dylai aelodau yr Eglwys gyd- weithredu i ysbeilio Satan o'i lywodraetb, i enill eneidiau at Grist, i ddyrchafa gogoniant Duw, ac i anfon yr Efengyl i dywyll-leoedd y ddaear. Gwyn fyd nas gallai pob eglwys ddyweyd yn awr fel yn nyddiau Nehemiab, Canys yr oedd gan y bobl galon i weithio." Nid cyfaddef y dylid gweithio, a chwyno fod y gwaith yn mhell yn ol, end dywedyd, "Cyfodwn ac adeiladwn." Mae y gwaitb yn fawr, a'r measydd yn wynion i'r cynhauaf-mae yr ieuenctyd i gael eu haddysgu yn egwydd >rion y Heibl, y mae llawer o wrandawyr yr Efengyl heb ei chretlu, ac y mae y rhan fwyaf o'r byd eto heb glywed am y gwir Dduw. Mae corwyntoedd yr hydref ac oerni y gauaf yn methu gwneyd i ambeil dueilen grin syrthio oddiar y goeden, ond pan dywyna hanl y gwanwyn, deffry bywyd y pren ei hun, a daw yn ddigon cryf yn y man i hyrddio'r ddeilen grin ymaith i roddi lie i fywyd newydd ymddangos, a dyJái fod bywyd ysbrydol yr Eglwys yn ddigon cryf i ysgwyd ymaith y rhwystrwyr sydd yn lluddias undeb a chyd- weithrediad o'i mewn. Dyma addurn yr eglwys fyw, a'r hyn y gweddiai Crist am dano, Fel y byddont oil yn nn, megys yr wyr ti, y Tad, ynof fi, a minau ynot ti, fef y byddont hwythan un ynom ni." 4. Ystyriaeth ddwys o'i chyfrifoldeh i Grist. Mae yr Egiwys i gredu, nid mewn sefyllfa ddyfodol yn unig, ond yn ei chyfrifoldeb hefyd. Ehydd hyn weddusder i'w holl gyflawniadau, Nid bob amser y mae gweith- rediadau eglwys yn weddus, a dyweyd y lleiaf. Gellir meddwl weithiau fod ambeil i eglwys yn gweithredu fel pe na byddai yn gyfrifol i neb, fel y ceir ambeil i aelod yn gweithredu fel pe na byddai yn gyfrifol i'r eglwys y mae yn aelod ohoni. Perygl eglwysi Pabyddol, Esgobol, a Threfnyddel yw tyb:ed eu bod yn rhyddion ar ol ateb i'r cynghorau sydd yn eu liywodraethu, ond perygt eglwys Annibynol yw tybied nad yw yn gyfrifol i neb— tybied ei bod yn ddeddf iddi ei hunan, a bawl ganddi i weithreriu yn mbob amgylchiad yn ol ei mympwyon ei hun. Yn awr, Crist yw Pen yr Eglwys, ac iddo Ef y mae yn gyfrifol am ei holi weithrediadau. Pe byddai yr ystyriaeth hon yn cael lie dyladwy yn meddwl aelodau yr eglwysi Cristionogol, clywem lai am deifysg- oedd yn mhlith proifeswyr crefydd, byddai llai o oerfeigarwch rhwng brcdyr a'u gilydd, llai o dynu yn groes, llai o ymarweddu yn antieilwnv, a llai o wrth- giliadau oddiwrth grefydd. Pa fodd y mae cynifer o aelodau yn gallu eegeuluso eu cydgynniliad ar y Sabboth, ac o gyfarfodydd rheolaidd yr Eglwys ganol yr wythnos ? Aoghofio eu cyfrifoldeb i Dduw y maent. Pe byddai pob aelod yn ystyried yn ddyladwy ei gyfrifoldeb i Grist, ceid cynulliadau lluosoeach-gofelid yn well am fod yn brydlon yn y gwasanaeth, yn weddaidd mewn ymddygiad, a haelfrydig mewn cyfranu at gynal a lledaenu gwybodaeth am Grist dros y byd. Mae difaterwch a chlauarineb yn hollol groes i gymeriad eglwys fyw, am ei bod yn fyw i'w chytrifoldeb. Cymhara Crist y berlbynas sydd rhyngddo a'i bobl i eiddo athraw a'i ddysgyblion, meistr a gweis'on, a brenia a deiliaid, Fel y mae dysgybl yn gyfrifol i'w athraw, y gwas yn gyfrifol i'w feistr, a'r deiliad yn gyfrifol i'w frenin, felly hefyd y mae pob Cristion yn gyfrifol i Grist. Ymddiriedodd yr Arglwydd Iesu bethau mawrion a gwerthfawr i ofal ei Eglwys, ac y mae mawre id ei chyfrifoldeb yn cyfateb i bwysigrwydd y pethau a ymddiriedwyd iddi. Ymddiriedodd ei achos, ei enw, a'i ogoniant i'w gofal, ac wedi llawer o amser" daw Arglwydd yr E/lwys i wneuthur cyfiif a hi, a'i hymdrech gwasiadol ddylai fod i alfer pob dyfalwch yn ei chyflawriiadau fel ag i'w galluogi i roddi ei chyfrif i fyny yn llawen ac nid yn drist. Rhydd hyn sefydlogrwydd i'w chymeriad. Daeth y llygredig- aethau a anrhe'thiasant yr Eglwys i mewn iddi pan yr oedd yn ddifraw a diystyr o'i chyfrifoldeb ysbrydol. Bu yr Eglwys am oesau yn cael ymosod arni gan wg y byd; ond cafodd gymhorth i sylweddoli ei pherthynas ysbrydol a Christ, a thrwy hyny cadwodd ei choron heb ei llychwino. Ond erbyn hyn, peryglir hi can wenan y byd, ac os yw yn fyw i'w chytrifoldeb pwys'awr, gall ddal ei we',au gyda'r nn cliysgogrwydd ag y daliodd ei erledigaethan. Dylai ddangos yr un gofal diysijog am bnrdeb ymarwcddiad yn ei haelodau ag a ddatigoswyd gan ywir Eglwys yn y deehreuad, a gafael yn ddiysgog, yn y dyddiau gwamal hyn, yn yr henathrawiaethau a gyflwynwyd i'w gofal gan Grist a'i apostolion. Ni ddylai gymeryd ei denn gan "philosopbi a gwag dwyll," a defodau rhwysgfawr, ond aros yn ffyddion gyda'r hen wirioneddau a ymddiriedwyd iddi, ac am ba rai y delir hi yn gyfrifol. Ehydd hyn nerth iddi ddyfal barhau mewn gweithgarwch. Nis gall yr Ejlwys yrn- ollwog i ddifaterwch a diogi ysbrydol pan y maeyn fyw i bwysigrwydd ei chytrifoldeb. Nis gall ymollwng i hepian tra yn gweled un enaid heb cael ei aehub, ond ymdrocha i gyflawni rhan y gwyliedydd, "üs rhybuddi di w- aanuw oi o'i ffordd, i ddychwelyd ohoni; os efe nilfiychwel o'i ffordd, efo fydd farw yn ei anwiredd, a thithau a waredaist dy enaid." Eiiybuddio yr annuw- iol a pherswadio y cyndyn i ymostwog i Grist yw y gvvaith a gyflawnir gyda dyfalwch j;an yr oglwys fyw, no y mae llwyddiant sicr a gogoneddus i fod yn ei hanes. Prysured yr adeg pan fyddo pob eglwys wedi deiTro i ystyriaeth ddwys o'i chyfrifoldeb i'r Arglwydd, ac y byddo pob aelod wedi ei lenwi ag Ysbryd Crist. (l'w barhau.)