Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
♦ WAUNARLWYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
♦ WAUNARLWYDD. ETHOLIAD Y BWEDD YSGOL. yn adeg frwd yma, fel mewn rhanau ereill o plwyf Abertawy, Mai 26ain. Hwn oedd yr ethol- cyntaf oddiar sefydliad y Bwrdd. Yr oedd yr SOwadau yn rhyw ymgytuno bob tro heb fyned i etholiad hyd eleni, ond yr oedd hyny yn ormod gorchwyl i holl ddoethion y plwyf y tro hwn, ac ydym yn credu fod hyny yn ddrwg i gyd chwaith. Yr oedd llawer iawn o deimlad yn y plwyf nad oedd y Bwrdd yn gynrychioliad teg, a dichon nad oedd; ond os nad oedd felly o'r blaen, yr ydym yn dra sicr nad ydyw felly fel y mae yn aVir yn cynrychioli yr enwadau crefyddol yn ol etl rhifedi yn y plwyf, yn enwedig dau o'r enwad- sef y Trefnyddion Calfinaidd a'r Annibynwyr. -L'aeth y blaenaf a phedwar ymgeisydd i'r maes, °nd nid. mewn cyd-ddealltwriaeth,#ond yn ol njympwy ac yn yr anhrefn mwyaf truenus o eiddo ai o'r ymgeiswyr. Gresyn hyny. Gobeithio y "?dd yn wers i'r Corff erbyn y tro nesaf. Ac am Yr Alaiiibynwyr, er iddynt benderfynu ar y eyntaf 1 ddwyn tri ymgeisydd allan, ac i gario boneddwr arall i fewn gyda hwynt, ni safodd ond dau o'r °neddwyr uchod; ond nid ydyw y ddau Annibyn- o lawer o raddau yn sefyll yn deilwng o .,0(^Pendia yn y plwyf ar rifrestr y dychweledigion Bwrdd, er nad ydynt yn isel chwaith ag ystyr- led ein bod wedi cario y boneddwr a nodwyd i tnewn yn anrhydeddus; ond nid ydynt yn y safle y dylent fod i &teb i rif a nerth yr Enwad yn y plwyf. Pa beth a all fod yr achos o hyn, tybed ? Ac ai nid yw hyn yn ffaith am danom yn ami fel Enwad pan y mae amgylchiadau o'r fath hyn yn galw arnom i bleidio ac i sefyll dros ein oynrych- iolwyr ? Ai tybed nad ydym yn ddiffygiol ac yn mhell yn ol mewn set a brwdfrydedd pendeifynol yr enwadau ereill ar achlysuron fel hyn ? Y mae genym brofion digonol y tro hwn, ac o fanau ereill, ein bod yn mhell o'r peth y dylem fod. Ond pa beth sydd i gyfrif am hyn ? Ai ni ellir. dywedyd am danom fel y dywedwyd am Issachar-" Indi- pendia sydd asyn asgyrnog yn gorwedd rhwng dau bwn. ac a wel lonyddwcb mai dayw" ? Asyn cryf a feddylir ac y mae y ddau bwn yn llythyr- enol yn golygu y ddau gawell un o bob ochr i'r anifail, ac yn ateb yn lied dda i ni fel Enwad yn ami, yn enwedig pan yn myned i bleidleisio. Yr ydym yn teimlo ein bod yn lied gryf, ac felly yr ydym yn cymeryd ein cyfeillion gyda ni mewn un o'r caweUau, a chan ogwydd yr ysgwydd i ddwyn y ddau bwn i'r bleideble, gan weled llonyddwch mai da yw," a thrwy hyny yr ydym yn ami yn "gaeth dan deyrnged drom, trwy gael ein hym- geiswyr ar waelod rbifrestr y rhai a ddychwelir i fewn, new allan yn yr oerfel, a thipyn o chwerthin am ein penau gan y rhai y byddom wedi eu cario yn amyneddgar i mewn i'w nythau clyd. Yr yd- ym yn sicr, oddiwrth Ifeitkiau didroi-yn-ol, nad oes dim un o bob cant o'r enwadau ereill yn rhoddi un bleideb i neb ond i'w dynion eu hunain, a mawr dda iddynt ond iddynt adael ein pobl ninau yn llonydd a rhydd-i wneuthur yr un modd. Ond nid felly y mae. Yr ydym ni fel Enwad yn rby dueddol i gymeryd ein denu oddiwrth ein dyled- swyddau gan weniaith dynion, ac efallai gan ein teimlad da ein hunain, gan weled llonyddwch mai da yw," a thrwy hyny yn creu anghydfod a theimladau annymunol yn ein plitb ein hunain wrth geisio boddloni pobl ereill. Ni ddylai y pethau hyn fod felly, fy mrodyr. Ac yn awr, Indipendia, yr hen asyn cryf ac asgyrnog, gwrando; paid ag ymddiried yn ormodol yn dy nerth, a gad un o'r ddau bwn ar ol bydd ychydig yn fwy gwyliadurus a gochelgar ar achlysuron fel hyn, neu yn wir yr ydwyt yn sicr o gael achos i edifarhau yn chwerw rhyw dro neu gilydd. Pabam nad allwn ni weithio dros ein pobl fel enwadau ereill, a bod ar delerau da a phawb ? Bu etholiad Bwrdd Ysgol ycbydig wythnosau yn ol mewn ardal nid can' milldir o Lanelli, a gofynwyd i weinidog un o'r eglwysi mwyaf lluosog ei haelod- au yn y lie i ddyfod yn ymgeisydd, ac addawodd sefyll ar yr amod iddynt hwy weithio yn unol ac egwyddorol drosto, ac addawsant hwythau wneyd felly ond pan ddaeth diwrnod yr etholiad gada- wyd ef allan yn fradychlyd a gwarad wyddus, a chlywais un o wrandawyr yr eglwys hono yn dyweyd ar ol hyny, nad allai wrando ar y bobl hyny ar eu gliniau byth mwyach wedi iddynt wneyd y faith dro gwael. Yr oedd y gweinidog hWDW yn un o'r rbai mwyaf poblogaidd yn yr Enwad. Beth allasai fod ei deimlad, tybed? Gwn fod ein pobl ni yn Hawn mor egwyddorol ar bob tir a neb pwy bynag, mewn bywyd pur, gonest, a sobr, ac eto y mae ynom ryw wendid yn sicr o fod ag sydd yn niweidiol i ni fel Enwad, pan y dylem fod yn gryf fel y graig. Gan hyny, diwygiwn, fel y gellir dyweyd am danom, "Indipendia a farn ei phobl fel un o lwythau Israel." AKLWYDD. ol
STOCKTON-ON-TEES.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
STOCKTON-ON-TEES. T Band of Hope.—Nos Sadwrn, Mai 23ain, yn ngbapel yr Annibynwyr Cymreig, Barrett-street, cawsom berfiormiad o "Gantata St. Paul," gan Gor y Gobeithlu, yn cael ei gynorthwyo gan brif gantorion perthynol i'r eglwys, o dan arweiniad deheuig Mr Gwilym Rees. Darllenwyd rhanau o'r ysgrythyrau tarawiadol i'r amgylcbiad gan y Parch E. Evans, y gweinidog, a chafodd pawb oedd yn bresenol eu mawr foddloni. Cyfarfod y Mo,mau.—Mae hefyd mewn cysyllt- iad a'r eglwys hon yr hyn a eilw y Saeson yn Mother's Meetings," pa un a gafodd ei ser'ydlu ychydig amser yn ol. Amcan y sefydliad yma yw darparu ar gyfer y tlodion perthynol i'r eglwys a'r gynulleidfa. Dydd Mawrth, Mai 26ain, dar- 11 parodd y gwragedd perthynol i'r eglwys wledd o de i'r cyhoedd am chwecheiniog yr un, a chafwyd cynulliad da, a diambeu genyf ei fod wedi troi allan yn llwyddiant hollol. Ein dymuniad i'r gwragedd a fu yn darparu ydyw, "Ewch rhagoch gan wneuthur daioni." Yn yr hwyr cawsom gyf- arfod adloniadol, pryd y cymerwyd y gadair gan y gweinidog, yr hwn a'i llanwodd yn anrbydeddus. Cymerwyd 'rhan gan Mr R. Williams, blaenor y canu yn y lie, yn cael ei gynorthwyo gan ereill perthynol i'r eglwys, a chawsom adroddiadau, an- erchiadau, ac areithio difyfyr. Teimlad pawb wrth ymadael oedd eu bod wedi eu llwyr foddloni. Y Bosbarth Beiblaidd.—Nos Sadwrn, Mai 30ain, cynaliodd y dosbarth hwn ei gyfarfod misol o dan lywyddiaeth y gweinidog, pryd y darllenwyd papyr gan Mr S. Morgan (Gomer) ar "Y Gwyliau luddewig," yr hwn oedd yn dangos olllafur mawr. Traethodd yn helaeth arnynt, a chyda manyl- rwydd mawr. Cafodd pawb oedd yn bresenol eu mawr foddhau yn y papyr rhagorol hwn. IOAN TENNANT.
ER COFFADWRIAETH AVf Y DIWEDDAR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ER COFFADWRIAETH AVf Y DIWEDDAR DAVID BADGER, BOOKSELLER, &o,BUBRY PORT. Bu farw y brawd anwyl hwn ychydig- wythnosan yn ol, fel yr hysbyswyd yn y TYST A'R DYDD, yn 27 mlwydd oed. Ie, yn mlodau ei ddyddiau, at, ddlwhreu ei ddydd,. a phan yn nghanol ei waith, gafae'odd angen ynddo, torwyd ef i lawr, a symudwyd ef i ffordd yr holl ddaear. Ma,b ydoedd i Mr a Mrs W. Badger. Y mae ei dad yn un o'r diaconiaid mwyaf dilychwyn fedd eglwys barchns Jerusalem. Ei fam sydd yn hanu o hen deuln anrhyd- eddus "Pantachddu," y rhai sydd oil yn hynod selog dros grefydd Mab Duw. Ac fel y mae bywyd ytad a'r fam, felly hefyd yr oedd bywyd y mab. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan y Parch J, Rogers yn 1873, a. bu ei fywyd yn deiiwng o'r broifes a wnaeih. Y mae yr adgof cyntaf sydd genyf am dano, yn dyddio yn ol inor bell a 13 mlynedd, ac or adeg hono, pryd nad oeddym ond plantos gyda'n gilydd, hyd ddydd ei farw- olaeth, yr nnig argraff a gynyrchid ar fy meddwl oedd mae blodeuyn rhy bardd i'w lychwino yn llwch y ddaear ydoedd y cyfaill mwynaidd a hawddgar D. Badger. Nodweddion arbenia-ol ei gymeriad oedd— sylwgar- wch, difrifweh, cydwybodolrwydd, duwiolfrydedd, gwastadrwydd tymher, a llafurgarwch o nodwedd ym- roddol, yn hytrach na ffwdanlls. Yr oedd cwrs ei fywyd byr yn gymhwysiad tarawiadol iawn o'r elfenau hyn. Yr oedd ei wybodaetb yn eang, ac yn gyflawn iawn, a chyfeiriad ymarferol ei feddwl bob amser yn gwneyd ei gymdeithas a^i ymddyddaaion yn hynod o foddhaol ac adeiladol. Yr oedd ei natar yn oludog mewn tynerweb. Yr oedd yn meddu y fortiter in re, a'r suaviter in modo i festir helaethach na'r cyffredin. Yr oedd yn allnog i lanw rhai o'r swyddi mwyaf pwysig. Ba yn ohebydd am gryn amser i'r TYST A'R DYDD. Yr oeddynddad- leuydd mawr dros yr achos dirwestol, ac yn bleidleisiwr dros bob achos da arall. Yr oedd ei grefydd mewn modd neillduol yn dwyn y nodweddion uchaf. Halen i'r ddaear ydoedd, a goleuni i'r byd." Gwel y darllenydd felly, fod yr anwyl frawd hwn yn meddu ar alluoedd cryfiori, a rhinweddau dirif. Ac mae ei golli ef wedi bod yn golled i laweroedd. Teimlir y golled yn yr eglwys, bydd yr eisteddle oedd nnwaith yn llawn yn mhob oedfa, o hyn allan yn wag. Bydd yr Ysgol Sabbothol yn teimlo yn herwydd colli athronydd ysgrylhyrol mor fedrus, daearegwr mor gywir, ac es- boniwr mor dda. Teimiir y goiled' yn mysg ei gyfeillion ieuainc, byddai ganddo bob amser ryw newydd i'w roddi, neu rhyw lyfr fyddai yn cynwys adeiladaeth. Teimlir y golled yn yr ardal, trwy gol i un o'r mas- nachwyr mwyaf cywir a gonest. Ac wrth gwrs, yn anad neb, teimlir y golled gan ei rieni duwiol, a'r teulu -sydd yn galarn ar ei o'. Ond er yn golled i ereill, diolch am sail ddigon cadarn i gredu fod yr oil yn enill bythol iddo ef. Eiddil a gwan ydoedd o'i fabandod, llawn o arwyddion datod oedd ar ei babell er yn blen- tyn, a dyoddefodd lawer o nychdod yn nhaith yr anial- weh. Nid ydoedd ychwaith yn dysgwyl cael einioes hir yn y byd yma, oblegid ei hoff benill hob amser ydoedd yr hwn hefyd a ganwyd ar lan ei fedd :— Nid yw'm hoes ond megys cysgod, Ebrwydd iawn y cilia draw, Tebyg yw i darth yn darfod, Pan ymedy, 'nol ni ddaw. 0, fy enaid esgyn fry, 1'r trag'wyddol fywyd ca, Ac erbyn hyn mae ei enaid wedi esgyn nwch goiid a blinder y ddaear, uwch swn cabledd a gwawd y byd i wlad sydd uwch a gwell, lie mae Job yn edrycb «r'ei Brynwr, lie mae Dafydd a'i delyn mewn hwyI, a loan wedi g;idael Patmos. Y mae gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw." Cwsg fy nghyfaill yn dy feddrod, Hyd nes gwawrio'r hyfryd ddydd, Pan y caiff dy gorff ollyngdod, Pan ddaw'r gadwyn ola'n rhydd. Yna cei ryddhad o lygredd, I fwynhau trag'wyddol wledd. Cei ddedwyddwch heb ddim diwedd, Cei rhoi ffarwel byth i'r bedd. Achddu. Ap THOMAS.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
ESTABLISHED NEAFLY 50 TEARS.—White's Celebrated Moc- Main Trusses. Single Trusses, from 10s. Double-Trussef from 18s. Sent free from observation and post free. WHITE'S MOC-MAIN LEYEK TRUSS is the most effective invention for the treatment of Hernia. The use of a steel sprig, so hurtful in its eftects, is avoided, a soft bandage being worn round the body, while the requisite power is sap- plied by the Moc-Main Pad and Patent Lever, fitting with W much ease and closeness that it cannot be detected. Send for descriptive circular, with testimonials and prices, to J. White and Co. (Limited), 228, Piccadilly, London. Do not buy of Chemists, who often sell an IMITATION of our Moc- Main. J. White and Co, have not any Agents.
--Y GYMANFA DDE - OKLLE WINOL.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
ania; Hughes, Maesycwmwr a Jenkins, ^ldweli. Pregethwyd yr un pryd mewn haner dwsin o gapelau y cylch, ond gan i lawer o newid i fod ar y cyhoeddiad a roddwyd allan, nis gallwn ddyweyd pwy, a bod yn gywir. Am 7, ar y maes, yr ail ddydd, gweddiodd Mr Morgan, Sciwen, a phregethodd y Mri Rees, sirhowi, a Jones, Maesteg. Am 10, dechreuodd Mr Morris, Aberteifi, a Phregethodd y Mri Williams, Llanelli; Owen, Wandwr; a Davies, Rhydyceisiaid. ) Am 2, Mr Jenkins, Ystalyfera, yn gweddio, a r Mri Jones, Trewyddel, a Jones, Llanidloes, yn pregethu-yr olaf yn Saesoneg. Gyda hyn disgynai y gwlaw mawr a'r cymylau llwydion a hongient uwch ein. penau trwy y dydd, ac a ddyhidlent ychydig yn awrac yn y man, torwyd 1 fyuy, a chyhoeddwyd y cwrdd olaf am 5 o'r gloch yn y capel, awd yuo a llanwyd y lie, ac ^Qfonwyd cenadau i gapel mawr y Methodist- laid, llanwyd hwnw a chanoedd allan eilwaith yn gwaeddi am i'r cenadau dd'od i'r maes- allan yr awd o gapel Towyn-gwasgarodd y cymylau, a chafwyd prydnawn teg, a tliyrfa tawr iawn i wrando Mr Jenkins, Llangefni, yn SWeddio yn y capel, a'r Mri Selby Jones, Car- tel, a Evans, Capel Seion, yn pregethu, ac yn y Metbodistiaid Mr Jenkins, Ystaly- Jera, yn gweddio, a Mr Richards, Myddfai, yn pregethu. Gwelsom yno heblaw a enwyd y Mri Lloyd, ^Wernogle Jones, Towyn Evans, Capelywig; ■^avies, Ty'nygwndwn Rees, Treherbert; Jones, Mynyddislwyn Williams, Lleehryd ^avies, Cana; Evans, Tresimwn Rowlands, yideon; Mason, Penycoed; Jones, G-wern- Wn; Davies, Llanon Griffiths, Maenygroes .Williams, Brynmawr; Phillips, Horeb; Williams, Rhydybont; Davies, Seion Jones a Johns, Cilcenin; Jeffreys, Saron, a diau fod ereill na allasem gael eu henwau. Yr oedd y pregethu yn dda,'y canu yn dda, d&n arweiniad Mr Griffith Davies, C.M., rhag- len gryno o'r emynau genid yn cael ei gwerthu am geiniog yr un, a'r Parch D. Jones, gweinidog leuanc parchus y lie yn trefnu y cwbl yn rhwydd a hunanfeddianol. Hoffem yn fawr ei ddull byr a chryno yn gwneyd ei waith. Mae eglwys oarchus y Towyn yn deiiwng o barch a diolch- garwch cyncliIIOddiar ein dwylaw'oll fel dyeithr- laid, daethant a ni i'r lie o Aberystwyth gan niwyaf, a rhai o Llandysul yn rhad, a chludas- ant ni yn ol yr un fath. Diolch yn fawr iddynt am eu caredigrwydd, ac i'r dref yn gyffredinol ani eu lletyau clud, a'u hymborth iach, yn nghyda groesaw mawr gan bob enwad. Hoffem y lIe yn fawr, ond myned a d'od yno yw y pwnc 11 pymtheg milldir o bob man "-eto yr oedd Duw yno hefyd, ac yn bendithio ei bobl. Arosed ysbrydfine ar ol y Gymanfa yn y Ceinewydd, a r wlad oil. Cidweli. W. C. JENKINS.