Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

GLANDWR, ABERTAWY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GLANDWR, ABERTAWY. CYFARFOD SEFYDLU. Cynaliwyd eyfarfod o'r natur yma yn nghapel Hen Siloh—yn mha un y mae achos Seisonig nowydd ddechreu—nos Fawrth, Mai 19eg, er croesawix y Parch T. R. Davies, diweddar o'r Rhiw, Ffestiniog, fel gweinidog i'r lie, Yn y prydnawn, cafwvd te cym- deithasol, pryd yr oedd lluaws o foneddigesau yn we gweini wrth y byrddau, ac y eyfranogodd Iluaws mawr o'r danteithion. Dechreuwyd y cyfarfod hwyroJ gan y Parch T. D. JONES, Plasmarl, a gweddiwyd gan y ParefJ SAMUEL GRIFFITHS, Abertawy. Llywyddwyd gan Mr W. WILLIAMS, y maer, yr hwn a ddywedai ei fod yn bleser mawr ganddo fod yn bresenol ar y fath amgylchlad pwysig, ac yn falch i weled cynifer o weinidogion y gwahanol enwadau yn bresenol. Deuai yno fel cymydog ac Annibynwr. Yn Jlawen ganddo fod yr eglwys wedi bod mor ffodus i ddewis gweinidog da, a bod Mr D. wedi dyfod i'r gymydogaeth. Iddo ymholi yn ei gylch, a'i gael yn bobpeth allesid ei ddymuno. Er pan yn faer, iddo gymeryd rhan mewn dau gyfarfod o'r fath hwn, ac hefyd yn un pan yr oedd y diweddar DdrBeesyn bresenol?' Cyffvrddodd a'r amgylehiad hwn a tbeimlad dwys. Cofiai yn dda am gyfarfod croesawol Mr Thomas, Siloh (capel newydd), yn mba un y cymfrai lluaws o weinidogion ran, a chofiai yn dda am eiriau y Parch J. Edwards (M.C ), yr hwn oedd o'i flaen yn bresenol. Gorphenodd ei anerchiad yn ugh anol uchel gymeradwyaeth, yna galwodd ar y Parch J. B. PARRY, Llansamlet. Yn Hawen ganddo fod yn eu mysg ar yr atnsylchiad. Fod Mr a Mrs Davies ac yntau yn gyfeillion mawr; dechreuodd ef a Mr Davies eu gyrfa weinidogaethol yn yr un flwyddy.n, a pharbaodd am yr ysbaid o chwe' mlynedd yn yr nn lie. Dymunai i'w gyfaill a'i frawd Dduw yn rhwydd. Darllenai am gyfarfod groesawol yn Msnceinion, lie yr oedd gweinidog nad oedd o ddewisiad y gynulleidfa. Dygwyddodd yno rydd ymladdfeydd, a hynyoherwydd fod ygweinidog wedi ei wthio i lawr i'w gyddfau gan Esgob Manceinion. Yn awr, ni ddeuai Mr D. yma o rhan cyfeillgarwch nac am y gweinidogioo, ond yn derbyn yr alwad oddiwrth yr eghvys. Yr oedd yn yr eglwys apostolaidd weinidogion, proffwydi, ac athrawon, orid nid oedd gunyr Eglwys Gristionogol ond ei gwein- idogion a'i hathrawon. Fod gwaith yr Eglwys foreuol yn bur wahanol. Credai y dylai y diaconiaid a'r gweinidogion fod yn gydweithwyr. Cawn fod rhyw betb i ni gyd i'w wneuthur o'r hynaf hyd yr ieuengaf. Mae genym amryw ffyrdd i weithio. Mr ROBERTS, un o'r diaconiaid, a ddywedai eu bod wedi dyfod yno i longyfarch Mr Davies fel renad dros Grist. Yna rboddodd fraslun o'r modd y ffnrfiwyd yr eglwys Saesoneg yn y lie rbyw 15 mis yn ol, a sut y darfu iddynt lygadu ar Mr D., &c. Yn nesaf, galwyd ar Mr DAVIES, a diolchodd i'r Maeram ei ymaclroddion caredig ar y cyntaf, Dy- wedai mai ealedwaith oedd dyweyd sut y daeth yno. Nid allai fod oherwydd ei fod yn ddinas noddfa, nac ychwaith am fod mwg Glandwr yn well na Ffestiniog arluniawl; nid am fod mwy o aelodau-nid am y gyflog, oblegid ei fod wedi gwrthod cyflog uwch o eglwys arall (clywch clywcli). Ond gobeithiai y gwyddent paham y deuai yno, sef galwad oddiwrth Dduw. Hyderai yn y dyfodol y cai eu hymdrechion a nerth eu gweddiau. Yna arweiniwyd at orsedd gras gan y Parch J. C. DAVIES, Mumbles, yn fyr, ac wedi canu emyn, galwyd ar y Parch D. M. JENKINS, Liverpool. Dywedai fod yn wir ddiolchgar ganddo fod yn bresenol mewn cyfarfod yn mha un yr oedd yr ynad heddwch penaf yn bresenol. Llawenychai fod yr eglwys wedi meddianu y fath gymeriad a Mr D. fel gweinidog. Fod ei ddyled- swyddau gweinidogaethol wedi eu coroni a ffyniant. Llongyfarchai Mr D. ar ei ddyfodiad i blith y fath bobl caredig. Cawsai ef y pleser o fod yn mhlith pobl o'r un natur a hwy yn Nhrefqrris (chwerthin). Denai yno fel pregethwr, a dywed rhai fod dyddiau yr areithfa wedi myned-fod y bobl mor oleuedig y dyddiau presenol. Mai y Wasg sydd yn enill y dydd fod yn rhaid hyd yn nod i wyr y Wasg draethu eu hareithian pan y deuant yn nghyd. Os ydym am enill y dydd, rhaid i ni fod yn ddifrifol. Bnasai yn y weinidogaeth am 24 mlynedd, a cbawsai ddedwyddwch ynddi wrth bresethn Gair Duw. Pe douent â'n calonau yn llawn o dau, byddai eu gwaith yn llwyddianus. Parch R. THOMAS, Siloh. Yr oedd yn bleser ganddo fod gyda'i gyfeillion Seisonig. Yr oedd gyda hwynt yn y cyfarfod cyntaf a nos lau, a'r nos Sabboth can- lynol pregethodd. Efe a lywyddai yn y cymundeb cyntaf. Llonpyfarchai y ddwy ochr yn .ou dewisiadau. Ei bod yn rhyfedd dros ben fod y Deheuwyr yn edrych am eu gweinidogion o'r Gogledd, a'r un modd y Gogleddwyr am weinidogion y De. Na edrycbent ar bethau gweiniaid-peidio arcs ffyda phethau cyffelyb, ond edrych ar yr ochr oreu. Gof^nai am iddynt roddi eu cydymdeimlad. Gwyddai o'r goren na oddefent i Mr D. bregethu yn erbyn en hewyllys. Cydym- deimlwch ag ef. Duw yn rhwydd i chwi. Parch R. CYNON LEWIS. Treforris. Yntau hefyd a gydlawenhili a hwynt. Wrth basio, dywedai fod Mr Parry wedi nodi en bod yn Annibynwyr. Cymhellai bwynt ra fyddent yn Gynulleioiaolwyr ar y Sabboth, ac yn Annibynwyr yn yr wythnos, ond gwneyd eu goreu i fod yn bresenol ar bob cyfleustra. Cafwyd ychydig ddigrifwch yn ei adroddiad am un o'i gyd- fyfyrwyr pan yn y coleg. Cafodd alwad o eglwys yn y wlad, ac yr oedd y gwaith yn yr aiwad o'r Sabboth hyd nos Sadwrn, a'r cyfan am .£50 y flwyddyn. Gwyddai. na ddelient a Mr D. yn y modd hyny. Dymunai iddo ef a'r eglwys Duw yn rhwydd,a gobeithiai yr aent yn mlaen yn llewyrchus yn y dyfodol wrth enill eneidian i Grist. Wedi canu emyn, galwyd ar y "Parch W. E. JONES, Treforris. Gyda dwysder y cyfeiriodd at farwolaeth Dr Rees—yr oedd yn golled i'w enwad, i'w blant, ac i'w eglwys ond yma yr oedd cyfarfod o lawenydd. Cyn y gallesid dysawyl i Mr D. Iwyddo, rhaid iddynt fod mewn cymundeb a Daw ar ei ran. Yn eu gweddiau fel eglwys, na fydded iddynt anghofio fod ganddynt weinidog. Parch E. JENKINS, Walter-road. Yntan yn uno yn y llawenvdd ar ddewisiad yr eglwys o Mr D. fel gwein- idog. Cawsai ef nestyn i siarad arno, sef "Perthynas yr eglwys a'r gymydogaeth." Nid oedd yn ei ddeall yn drwyadl ei hun, end sylwodd yn—1. Y dylai yr eglwys gae! ei chymydogaeth 2. Dylem gyfyngu ein hunain i'n cymydogaeth; 3. Dylai yr eglwys gyd-drefnu petbau; 4. Dylai yr eglwys fabwysiadu y cynlluniau goreu. Siaradodd yn fyr a phwrpasol ar bob un o'r sylwadau hyn. Parch WILLIAMS (B.), Dinas Noddfa. Gobeithiai y gwnaent fel eglwys fod yn falch ohono. Y byddai iddo wneuthur ei hun yn bregethwr enwog. Gweddi- wch lawer drosto. Parch J. EDWARDS (M.C.). Dywedai ei fod yn en plith am 13 mlynedd, ac wedi eu cael yn bobl garedig iawn. Gallai gadarnhan yn wresog yr hyn a ddywed- wyd gan rai o'r brodyr yn mlaen llaw. Fel un o'r Corff," yr oedd yn croesawu Mr D. idd eu plith. Ychydig eiriau gan y Parch J. THOMAS (B.), Caer- salem, ac viia gan y Parch F. SAMUKL, Soar. Credai fod Mr D. yn bregethwr da. Cyfeiriodd rhywnn at "bregethwr." Meddyliai ef y dylasai y ga.ir athraw fod mewn cysyllt- iad a'r naill a'r llall. Credai fod y pregetbwr yn athraw hefyd, a. dylai yr Ysgol Sabbothol ei gynorth- wyo. Dylai yr eglwys gymeryd gwaith ymarferol yn yr Ysgol Sabbothol, fel y byddai i'r deiliaid gael eu parotoi ar gyfer yr eglwys. Parch FRIMSTONE (B.), Brynhyfryd, a. ddywedai, iddo glywed pan yn glaf, fod Mr D. wedi pregethn yn ardderchog, yr oedd hyny yn dda am bregethwr dyeithr. Denai Mr D. o le nodedig o dda—sir Fflint. Yr oedd yno enwogion wedi ymddyrchafu i urddas a bri. Credai y byddai Mr D. yn sicr o Iwyddo, pe bai hwy yn ymdrechu erddo ef. Siaradodd y Parch D. JONES, Cwmbwrla, yo fyr yn mawr lawenhau yn nyfodiad Mr D. i'r lie, ac y byddai iddo yn nerth ei Ddnw gario dylanwad mawr. Parch L. JONES, Tynycoed, a ddeuai i'w longyfarch nid yri unig i Glandwr, ond yn hytrach i Gwm Tawy. Heddwch ar yr undeb. Da oedd gan y Parch DAVIES (B.), Foxhole, fod yn bresenol i roesawu Mr D. Cyng. MARTIN wrth gynyg diolchgarwch i'r Maeram lywyddn, a ddywedai fod dau fathau o ddynion wedi dvfod yno-i'r cglwys-pa rai a edrychent ar ol Mr D. na byddai iddo fod yn rhy araf, nac yn rhy gytlym- ni ddymunai am ddywevd mwy (chwerthin). Y Cynghorwr FREEMAN wrth eilio, a ddywedai fod y fam Eglwys wedi anfon y rhai a nodasai Mr Martin. Wedi i Mr D. gefnogi y Maor wrth ddiolch i'r gynulleidfa, dywedodd ei fod wedi derbyn llythyr oddiwrth y Parch LINDON PARKYN, St. Paul, yn gotidio nas gallasai fod yn bresenol oherwydd yr am- gylchiad ddaeth i'w gyfarfod. Ar ol canu terfynwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parch Thomas, Hill Chapel. Yr oedd yn bresenoi luaws mawr o weinidogion, heb- law y thai a gymerodd ran yn y cyfarfod, a daeth vn nghyd gynulleidfa fawr. Bendith ar yr undeb. DEWI O'R GAD.

+ MANCHESTER. v -

.. EISTEDDFOD GENEDLAETHOL,…

. CAERLLEON A'R CYFFINIAU.…