Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
BETHEL (A.) LLANRISANT A'l…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BETHEL (A.) LLANRISANT A'l WEITH. REDIADAU. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Yr byn wyf yn ei ddywedyd wrth- ych cbwi, yr wyf.yn ei ddywedyd wrth bawb, mai yr un faint o wirionedd ac o awdurdod eglwysig sydd yn fflyriegiad Derroeks" am yr urddiad, ag sydd yn ei fynegiad yn ol-rifynau y TYST A'R DYDD, nad oedd Bethel (A.), yn gyfrifol am unrhyw gyhoeddiad ond drwy law Daniel Richards, diacon, St. David's Town, Llantrisant. Bydded y TYST yn dyst ar hyn, a'r DYDD a roddo oleuni arno. Peidied neb a meddwl ein bod ni yn hawlio yr awdurdod er cael y fendith urddol, dim yn y mesur lleiafnid ydymjyn credu yn y traws-gysegr- iad o'r urdd. Dyma yr ydym yn ei ddywedyd wrth y brodyr yn Bethel, byd yn nod pe byddent yn unfryd a'u gilydd, nid ydym o'r galon i gymeryd ein hnrddo arnynt, hyd yn nod pe byddai Duw yn defnyddio eyf, rwng mwy neilldnol na'r morfil aeth a Jonah yn erbyn ei ewyllys ei hun yn weinidog ar Ninefeh. Dyna yw fy marn o dan yr amgylchiadau presenol. Nid oes genyf ddig at neb yn Bethel, lie yr wyf yn aelod rheolaidd. Yr eiddoch yn,wyneb agored, Bethel, Mehefin laf. J. MATTHEW HENRY.
DIRWEST YN Y DEHEUDIR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DIRWEST YN Y DEHEUDIR. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,-Nid oes, debygwn, angen dyweyd wrth eich darllenwyr fod y flwyddyn bresenol yn flwyddyn Jabili Dirwest yn Nghymro, ac yn wyneb hyny penderfynwyd cynal Cynadledd Ddirwestol yn Merthyr, ar yr 16eg o Ebrill diweddaf, i edrych beth a ddylid wneyd yn nglyn a dathlu y flwyddyn hynod hon yn nglyn a dirwest. Un o'r pethau a benderfynwyd gan y Gynadledd ydoedd penodi Pwyllgor i gymeryd i ystyriaeth i gychwyn Cymdeithas Ddirwestol dros Ddehau Cymrn, neu ail gychwyn yr hen Gymanfa. Cyfarfa y Pwyllgor yn y Neuadd Ddirwestol, Mer- thyr, dydd Linn, yr 8fed cyfisol, a phenderfynwyd tody Pwyllgor yn cymeradwyo i Gynadledd sydd i gyfarfod yn mis Awst nesaf yn Abertawy, fod Cymdeithas Ddirwestol dros Ddeheudir Cymi u i gael ei ffurfio, a bod Cymdeithasau Dlrwestoi birol hefyd i gael eu ffurfio i gydweithio &'r Gyaideithas Dilaethol. Y peth y carem weled yn nglyn a ffurfiad y Gymdeithas hon fyddai cael cyfanso tdiad mewn rhan yn gynwysedig o gyfluniad (organisation) y Temlyddion Da, yn nghyda gweithgarwch ymosodol Dyddin y Riban Glas. Gan y bydd y Pwyllgor yn eistedd eto yn Pontypridd ar y 30ain cyfisol, i ystyried yn mhellach y cyfansoddiad, gobeithiwa gael cyfle y pryd hwnw i osod y mater ger bron. Yn y cyfamser carem gael barn rhai o'ch dar- llenwyr ar y. pwnc yma. Hyderwn y bydd i ddirwest- Wyr Cymru yn gyffredinol drwy Dde a Gogledd, ail enyn eu sel y flwyddyn bresenol, nes y bydd iddynt ddyfod yn itllu cryf fel y wawr, yn deg fel y lleuad, ac yn ofnadwy fel llu banerog." Yr eiddoch yn gywir, Merthyr. JOHN BOWEN.
ADDARLLENO, CYDYMDEIMLED.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ADDARLLENO, CYDYMDEIMLED. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONRDDIGION,-Teimlaf yn dra dioichgar am ych- ydig o'ch gofod er galw sylw at achos blin y dyn da, y cytaill cywir, a'r g weinidog ffyddlon i loan Grist, y Parch J. N. Richards, Penygroes, Penfro. Er m:s Tachwedd diweddaf y mae yn gorwedd yn ei wely dan effeithiau ergyd or parlys. Nis gall symud lIaw na thraed, na llefaru cymaint a gair. Gyda'r anhawsder niwyaf y gall wneyd ei feddwl yn hysbys hyd yn nod i'w briod anwyl. Y mae yn fyw, ond yn mron cystal a tnarw, a dywed eifeddyg- y gall fyw yn y cyflwr trn- enus byn am ng-ain mlynedd, ond nad oes y gohaith Heiaf am ei adferiad. Bu fyw yn gynil a gofalus, a Hwyddod<ri ystorio rbyw gymaint ar gyfer y dylodol, y tybiai, ond trwy investment anffodus y mae wedi ei adael mown prinder. Meddyliodd rhai o'i gyfeillion y gallesid cael ycbydig gymhorth iddo o'r Pastors' Retiring Fund," gan ei fod er blwyddyn gyntaf ei Weinidcwaeth wedi qualifio ei hnn yn life member, ond niethodd y Cyfarwyddwyr a gweled eu fiordd i gy, synio â'r cais. Pan wnaed byn yn hysbys iddo, torodd allan i wylo yn y modd mwyaf torcalonas, a wylo y ba aID amser hir. Yr oedd ei anwyl briod, am ddyddian, yn gwpled fod rhywbeth yn pwyso yn d1 wm ar ei fedd- wl, a'i fod yn ymdreehu rhoddi ar ddea.'l iddi beth ydoedd, ond yn gwbl aflwydaianus. O'r diwedd, medi! ■ yiiodd Mrs Richards mai am gael gwybod yr oedd beth a ddaethai o'r cais a wnaed am gymhorth o'r drysorfa a enwyd, ae wedi erybwyll y mater wrtho, deallodd mai pryder am yr atebiad oedd yn ei aflonyddu. Yr oead yn hwyifrydig iawn i'w hysbysn, ond barnodd mai gwell oedd gwneyd hyny, a chyda idai wneyd, collodd bob llywodraeth ar ei deimladau. Meddyliodd lawer am roddi addysg dda i'w unig blentyu anwyl, ac am ddarparu goreu y fjallasai ar gyfer ei briod, os buasai byw ar ei ol. Ond erbyn hyn y mae yr lioil gynlluniau wedi eu chwalu, ac yntau, er wedi ei barlysu, yn gwbl ymwybodol o'rholl a mg-ylchiad an. Os bu neb erioed yn deilwng o gydymdeimlad sylw- eddol ei hen gydfyfyrwyr, yn nghyda chyfeillion cref- yddol ereill trwy y Dywysogaeth, credwyf fod fy nghyfaill anwyl Mr Richards, yneibaeddn. Gwn na. chaiff ddyoddef eisieu dim yn ei gyfyngder mawr wedi i'w gyfeillion gael gwybod yr amgylchiadau, a gwn hefyd y siriolir ei ysbryd yn ddirfawr wrth glywed am en cydymdeimlad. Dymunaf apelio yn y modd taeraf am help oddiwrth bawb a fedrant ei roddi, yn yr achos teilwng ond blin hwn. Derbynir pan rhodd yn ddi olchgar gan Rev. J. M. Daries, Tyrhos, Rhos Hill, R.S.O South Wales. Ydwyf, &c., Treforris. W. EMLYN JONES.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
Genedigaethau, Priodasau, &c. DALIER SYLW.—Ein tolerau am ffyhoeddi .Bavddoniaeth yn gysylltiedig a hanos Genedigaeth, Priodas, neu Farwolaeth yw tair eeiniog y llinell. GENEDIGAETHAU. WILLIAMS.-Mehefin 3ydd, priod y Parch D. E. Williams, Lacharn, ar fab-ei cbyntafanedig. PRIODASAU. DAVIES-WOOLRIGE.-Mehefin 4ydd, trwy drwydded, yn y Tabernacl, Treforris, gan y Parch D. Jones, B.A., Mr David Davis, Y H Beaufort Iron and Tin Plate Works, a Mrs Woolrige, Taunton. OsBOBNE—PuGH.—MeheHn ll?g, trwy drwydded, yn Fetter-lane, Llundain, g-an y Parch J. Rowlands, Mr James Godolphin Osborne, Norfolk Park, Maiden- head, a, Miss C. Pugh, merch henaf y diweddar Mr Rees Pugb, Cymeran, Corris. REES-TROMAs.-Mehefin 2il, yn Glamorgan-street, Aberhonddu, gan y Parch J. Morris, D.D., y Parch R. W. Rees, Libanus, a. Miss Anne Thomas, merch y Parch J. Thomas, Llanbedr, Aberteifi. MARWOLAETHAU. DAVIES. Mai 18fed, Mr Jacob Davies, Post Office, Pontyberem, yn 87 oed. Yr oe id yr ymad- awedig yn hen wr duwiol, a threuliodd fywyd hedd- ychol a didramgWydd. Bu yn ddiacon gweithgar yn eglwys Annibynol Caersalem am 67 o flynyddoedd. Perchid ef yn fawr yn y gymydogaeth, a chan bawib a'i hadwaenai, ac amlygwyd hyn mewn modd arbenig gan y dorf luosog a ddaeth yn nghyd i'w hebrwng i dy ei hir gartref y dydd Iau canlynol. Dangoswyd parch neillduol iddo gan y cantorion, y rhai a gan- asant hymnau pwrpasol ar hyd yr holl ffordd o'r ty i'r capel. GweiDyddwyd ar yr achlysur gan ein parchns weinidog, Parch W. E. Evans, a phregethodd oddiar 2 Cor. v. 10, yn un' I a dymuniad yr ymadaw- etiig. Yna dodwyd ei weddillion marwol yn myn- went Caersalem mewn gwir ddyogel obaith am ad- gyfodiad i fywyd gwell. DAVIES.—Ebrill 18fed, Mr David Davies, Brecon-road, Merthyr, wedi misoeiid o gystudd. Yr oedd yn un o ddiaconiaid Bethesda, Merthyr. Claddwyd ef y Mercher canlynolyn Cemetery y Cefn. Genedigol oodd o ardal Blaenycoed, sir Gaerfyrddin. Gwr da oedd efe-—B. W. DAViES.—Mai 28ain, Mr David Davies, 1, Cyfarthfa- lane, Merthyr, oddiwrth effeithiau cwymp ddaeth arno Mai 19eg yn un o lofeydd Cyfarthfa. Ganwyd ef yn ardal Llaufyrnach, sir Benfro, Chwefror 6ed, 1831. Yr oedd ei rieDi yn aelodau yn Llwynyr- hwrdd. Symudasant i Ferthyr yn y flwyddyn 1842, ae aelodasant yn Bethesda. Mae John wedi huno, ond mae Esther yn fyw, ac yn 85 oed. Claddodd David ei fachgeu a'i wraig yn Mehefin, 1868, a gwel- odd lawer o drafferthion byd. Gwasanaethodd swydd diacon ae ysoxifenydd yn eglwys Bethesda am flynyddoedd. Yr oedd yn un a gerid ac a berchid yn fawr. Canys yr oedd efe yn wr da, yn llawn o'r Ysbryd Glan ac o ffydd." Yr oedd yn bur, bonedd- igaidd, hawdd ei drin, llawn trugaredd a ffrwytbau da, diduedd, a diragritb. Safai yn ddiysgog o blaid gwirionedd. Mehefin laf. hehryngodd tyrfa fawr ef i feddrod ei fachgen a'i briod yn Cemetery y Cefn. Canodd cor Bethesda amryw donalJ ar byd y ffordd i'r gladdft. Pregeihodd Mr Jonrs, y gweinidog, oddiar Salm cxvi. 15. Ar lan y bedd gweddiodi Mr Elias Maurice, Bethesda, yn doddedig iawn, a chan- odd y cor Saul o Lyfr Stephens. Ymwahanodd y dyrfa fawr mewn teimladan. rhy ddwfn i lal<er o ddagrau. Dafydd anwy!, hunan'n dawel hun ,0 hedii, a thaeued Duw ei aden dawel, glyd, dros dy unig ferch amddifad a'th fam weddw ffaeleiig. Glowr. JENKINS—Mai 19eg, yn 44 mlwyddoed, Mr Jenkin, Jenkins, 109, Blackman-street, Boro', Llundain. Bu yr ymadawedig n aelod yn y Boro am amryw rlyn- yddau. Tua saith mlynedd yn ol bu fat-w ei anwyl briod yn hynod sydyn, ac erbyn hyn mae yntau wedi gorfod teithio yr un llwybr, gan adael tri o blant ar ol heb orphen eu magu. Onder ei bod yn ymddangos yn dywylj 0 ochr y ddaear, gall y rhai bycham hyn gyda miloedd o rai ereill, dynu cysur o'r hen adnod hyfryd hoo-" Pan yw fy nhad a'm ciam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn." Cysgod yr Ar^lwydd fyddo drostynt hyd derfyn eu gyrta. Claddwyd y gweddillion marwol y Sadwrn canlynol yn liford Cemetery yn mhresenoldeb llnaws o'i hen gyfeillion, pryd y gweinyddwyd gan y Parch R. L. Thomas. JONES.—Ebrill 9fed, Mr Jeffrey Thomas Jones, Def- ynog, ger Aberhonddu, pan yn ymyl 20 mlwydd oed. Cafodd addysg ragorol pan yn blentyn. Bu arosiad Mr Powell, Saron, Tredegar, a Mr Jones, Bethesda, Merthyr, gyda ei rieni yn fantais fawr iddo. Dar- llenai lawer o 13 frau. Yfai wybodaeth fel dwfr. Yr oedd yn gerddor medrus. Enillodd amryw wobran mewn eistedcifodau. Nod ei fywyd oedd myned allan yn genadwr i bregethu Crist i baganiaid. Pedair blynedd yn ol cyflogwyd ef yn egwyd'-iorwas i'r drapery gyda Mr Williams, The Golden Key, Mountain Ash. Tra yno enillodd svlw a pharch y lie. Talodd sylw mawr i wleidyddiaeth yno, a bu yn ffyddlon yn yr eglwys yn Caegarw. Gafaelodd y darfodedigaeth ynddo. Buyn wael iawn am fisoedd, ond dymunai gael gwella i gael myned yn genadwr. Collodd ei dad ar y 12fed o Fawrth diweddaf, ac ar y 9fed o Ebrill ehedodd ei enaid yntau at ei dad, ei Iesu, a'i Dduw. Claddwyd ef y Llun canlynol yn medd ei dad yn mynwent y Brychgoed. Gweinydd- wyd yn yr angladd gan ei gyfaill hon Mr D. C. Jones, Merthyr Mri Williams, Brychgoed a Rees, Libanus. Nawdd Rhagluniatth dirion nef fyddo dros ei fam alarus.-Glanseni. PUGH—Mai 27ain, yn 19 mlwydd oed, Mr David Pugh, 173, Weston-street, Llundain. Ychydig flynyddau yn ol, cafodd ei dderbyn yn gyflawn aelod o eglwys y Boro', ac yr oedd yn un o'r dynion ieuainc mwyaf crefyddol ei dueddiadau, a gwastad ei rodiad a gyf- arfuasom erioed. Er nad oedd ond ieuanc, ac felly heb orphen ;dadblygu, yr oedd yn amlwg i bawb o'i gydnabod ei fod yn graddol. addfedu ar gyfer byd uwch a phurach na hwn. Dydd Mawrth canlynol, goaodwyd yr hvn oedd farwol ohono i orwedd yn liford Cemetery, lIe yr oedd torf wedi dyfod yn nghyd i ddangos eu parch iddo ef a'r teulu. Gwein- yddw.vd yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parch R. L. Thomas. Tad yr amddifad, a Barnwr y gwed iwoD," fyddo yn cael ei deimlo felly gan y fam (yr hon sydd yn weddw), a'r brflwd a'r chwaer sydd yn eu galar ar ei ol. REES.—Mr Daniel Rees, George-street, Merthyr, wedj ychydig ddyddiau o gystudd trwm iawn. Yr oedd yn un a hoffid gan ei gydnabod. Claddwyd ef yn Cemetery y Cefn y LInn canlynol. Gwasanaethwyd gan ei weinidog Mr Jones, Bethesda, a Mr Griffiths, Tabor, Cefn. Chwith genym feddwl fod Rees yn ei fedd Duw fyddo yn ofalus o'i weddw.—B. W. REES.—MM lleg, Mrs France3 Rees, Brynwhith, Gwynfe, yn 53 mlwydd oed, gan adael priod, ac un mab, a cbylch helaeth o berthynasau a chyfeillion i alaru ar ei hoi. Y dydd Gwener canlynol, ymgasgl- odd tyifa luosog o bell ac agos er bod yn bresenol yn ei hangladd, ac yr oedd Uuosogrwydd y dyrfa, yn nghyda'r wedd hiraethlon oedd ar eu gwynebau, yn ddangoseg digon amlwg fod un a fawr gerid gan bob erraddau ac oedran yn cael ei chladdu y dydd hwnw. Wedi i'r Parch W. Thomas ddarllen a gweddio yn gymhwysiadol yn y ty, dygwyd yr arch allan gan bedwar o'r deiliaid a pban welwyd Mrs Rees yn ei barch brydferth o polished oak ar yr elor, yr oedd dagrau y do f yu disgyn fel gwlaw i'r ddaaar. Cyn codi yr arch, rhoddwyd penill allan gan y Parch D. L. Rowlands, y periglor. Yna cychwynwyd-pawb ar draed-g-an adael y cerbydau oil yn y buarth. Gosodwyd pedair coronbleth hardd o Hodau. ar yr arch wrth gychwyn-un gan Miss Davies, Aber- afon; un gan Miss Roberts, Llandilo; un gan Miss Thomas, Gwyne Cottage; ac un gan Miss Griffiths, Glantoddeb. Wedi cyrhaedd yr eglwys, aeth cynifer i mewn ag a gynwysaai yr adeilad, ac arosodd ereill yn amyneddgar oddiallan tra y parhaodd y gwasau- aeth. Wedi i'r periglor ddarllen y gwasanaeth wrth y bedd, siaradodd Mr Thomas ychydig eiriau, a gweddiodd, yna rhoddodd emyn allan i'w gann, ac felly ymadawyd mewn teimladauprnddaidd oddiwrth fedd un o ragorolion y ddaear-un oedd wedi dangos rhai o'r Jljnellau mwyaf prydferth a addurnant fyw- yd boneddiges GristionogoL Teimlai ddyddordeb mawr yn yr achos crefyddol yn Jerusalem, Gwynfe, He y derbyuiwyd hi yn aelod er's mwy na phonn' mlynedd ar hugain. Anrhegodd yr eglwys a set o le-tri cymundeb hardd er's ychydig flynyddoedd yn 0), y rhai a arosant yn goffadwriaeth am dani am geuedlaethau i ddyfod. Cafodd ei chladdu yn myn. went yr Eglwys, am mai yno yr oedd claddfa y teulu cyn cael mynwent at Jerusalem, ac yno yr oedd ei merch fechan hi wedi ei chladdu, pan Dad oedd lie wrth Jerusalem, am fod y fynwent fechan wedi Uenwi. Bwriedir anfon cofiant iddi i'r Diivygiwryn fuan.-Galarus.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Dr..Tenner's Phosphorous and Charcoal provides the human system with thought, nerve, and brain food, and furnishes the elements of vitality, health, and strength. Dr. Jemier s Phosphorous and Charcoal are certain cures for melancholia, nervous prostration, consumption and impaired digestion, from whatever cause arising. Depot, 172, Great Tichfield- street Regent's Park, London, N.W. In bottles 2s. 9d 4s ûd., lIs, 22s., and 33s. From any Chemist, or by post from the Depot. Dr. Jenner's Phosphorous and Charcoal is a maivel- lous remedy for the loss of Nerve Power, and in arrest of Physical Decay, from whatever cause arising it is invaluable and acts as a charm in Consumption, Exhaustion, As. No medicine known contains so much Phosphates, Soda, Mag- nesia, Lime, Chloride of Potassium, Iron, pure anduooxydisttd Phosphorous, all of which a,e scientifically combined in this essence, and each of which is collectively essential to the res- toration of lost function. It has received the sanction of bir Benjamin Biodie, Sir William Lawrence, Sir Thomas Watson, Sir Charles Loeock, the College of Physicians, Sir James Fergusson, Sir Philip Crampton, Sir Edward Lasketn, Sir James ClarK, Dr Miller, and Dr LaNcaster..