Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YIt YSGOL SABBOTHOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

YIt YSGOL SABBOTHOL. Y WEES RHYNGWLADWRIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, TREFFYNON. MER. 21ain.—Cynydd Cristionogol.-2 Pedr i. 1-11. Y TESTYN EURAIDD. — "Eithr cynyddwch mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.Pen. iii. 18. RHAGARWEINIOL. PRIF amcan y llythyr hwn ydyw rhoddi anogaeth i'r saint i gynyddu mewn gras. Y mae yma gymhe'lion cryfionyn cael eu rhoddi i hyny, a rhybnddion difrifol i ochf 1yd dylanwadau niweidiol twyllwyr a gwawdwyr crefydd. Y mae cryn amheuaeth wedi bod am ddi- dwylledd a dilysrwydd yr pistol, ond y mae profion digon cryfion dios ei restru yn mysg yr Ysgrytliyrau Canonaidd. Y mae holl athrawiaethau yr Epistolyn ol cysondeb y ffydd, ac y mae. ei arddull yn arddangos nodweddion ysgrifeniadau Pedr. ESBONIADOL. Adnod I. Simon Pedr, gwasanaethwr ac apostol Iesu Giist, at v rhai a. gawsant gyllelyb werthfawr ffydd a ninau trwy gyfiawnder ein Daw ni, a'n Hiach- awdwr Iesu Grist." Cyf. Diw., "Simon Pedr, gwas- anaethwr ac apostol Iesu Grist, at y rbai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd a ninau yn nghyfiawnder ein Dnw ni a'n Hiacbawdwr Iesu Grist." Gwasanaethwr. Yn Uythyrenol caethwas, gan olygu ymgyflwyniad hollol i wasanaeth Crist. Apostol. Ei swydd neill- duol fel gwasanaethwr Iesu Grist. Nid ydvw pob gwas- anaethwr yn apostol. Yr oedd yn ofynol fod yr apostolion wedi gweled Cr;st, a'u galw ganddo, a der- byn eu cenadwri yn uniongyrchol oddiwrtho." A gaw- sant, gan Dduw. Dynoda y gair yn IlythyrenoJ cael trwy drefniad-obtained by lot. Gyffelyb werthfaivr ffydd. With ffydd y golygir yn y fan hon wirioneddau yr Ffengyl. Yr oedd y gwirioneddan hyn yr un mor werthfawr i bawb gan eu bod yn cynwys datguddiad wn drefn maddeuant a chyfiawnhad pechadur ger bron Duw. Ninau. Yr apostolion. Trwy gyfiawnder. Npu yn fwy priodol yn nghyfiawnder ein Dnw ni. Nid cyfiawnder cyfrifedig Crist yn y cyfiawnhad a olygir, ond y briodoleftd o gyfiawnder yn Nnw. Y mae ffydd yr Efengyl wedi dyfod yn unol a chyfiawnder. Adnod 2. Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, ac lesu Grist ein Harglwydd ni." Cyf. Diw., "Yn yr adnabyddiaeth o Dduw, aco Iesu ein Harglwydd ni." Gras. Pob gras angenrheidiol. Effaith gras neu ffafr Duw ydyw tangnefedd. Y modd- ion i gael gras a tbangnefedd ydyw aros yn yr adna- byddiaeth o Dduw, ac o lesu ein Harglwydd. Adnod 3.—" Megys y rhoddes ei dduwiol jillu Ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adna- bod Ef yr hwn a'n galwodd ni i osoniant a rhinwedd." Cyf. Diw., Yn gymaint a bod ei al:u Dwyfol wedi rboddi i ni bob peth yr hwn a'n galwodd ni trwy ei ogoniant a'i rinwedd ei hun." Anogir y saint i gynyddu ar y sail fod Duw wedi addaw iddynt bob peth angenrheidiol at hyny, ac y mae Ef ei hun yn ewyllysio eu perffeithiad. Bywyd. Bywyd y credadyn yn rhin- wedd ei undeb a, Christ. Duwioldeb. Y bywyd hwn yn amlygu ei hun. Trwy ei adnabod Ef, Trwy ad- nabyddiaeth o Dduw y cynyrchir ac y cynelir bywyd a duwioldeb yn y credadyn. Trwy ei ogoniant a'i rin- wedd. Dyma'r priodoleddau yn Nuw trwy ba rai y mae yn galw. "Cyfeirir priodoliaethau naturiol Duw at y gogoniant, a'r rbai a elwir yn foesol at y rhin- wedd ond y mae y ddau ddosbarth yn yr undeb agosaf a u: gilydd." Adnod 4.—" Trwy yr hyn y rhoddwyd i ni ac'dewid- ion mawr iawn a gwe thfawr fel trwy y rhai hyn y byddech gyfranogion o'r duwiol anian, wedi diane oddi- wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant." Cyf. Diw., "Trwy yr hyn y rboddodd Efe i ni ei addewidion gwerthfawr a mawr dros ben fel trwy y rhai hyn y delem i fod yn eyfranogion o'r natur ddwy- fol, wedi dianc," &c. Trwy yr hyn, Sfc. Trwy y gogoriiant a'r rhinwedd y rhoddwyd yr addewidion. Yr addewidion i ddechreu—a'u cyflawniad i ddilyn. Yr oedd eisieu y gogoniant a'r rhinwedd i roddi yr addew- idion, oblegiii. yr un peth oedd byny i'r Dnw d;gel- wyddog a'u cyflawni. Y mae'r gogoniant yn peri i'r addewidion fod yn fawr iawn, neu y mwyaf a'r rhin- wedd yn peri iddynt fod yn werthfawr." Amcan cynwys yr addewidion ydyw gwneyd y saint yn gyfran- ogion o'r dduwiol anian, neu o'r natur Ddwyfol. sef dyfod yn debyg i natur foesol Duw ei hun. Wedi dianc, Sfc. Y mae y credadyn yn dechreu eyfranogi o'r dduwiol anian yn yr adenedigaeth ond wedi gorch- fygu ei holl drachwantau, a dianc ocidiwrth lygredig- aeth y byd, y bydd yr anian wedi ei pherffeithio. Dangosir fod y llygredigaeth hwn, n;d yn yr elfenau sydd yn ein hamgylchynu, ond yn ein calon ni, am mai yno y mae nwydau drygionus a chyfeiliornus yn teyrn- asu a dynodir eu ffynonell, neu eu gwreiddyn, gan y gair trachwant. Am hyny y mae yn gosod y llygredig- aeth hwn yn y byd fel y gwybyddoin fod y byd ynom ni." Adnod 5.—" A hyn ywa hefyd, gan roddi cwbl ddi- wydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd ac at rinwedd, wybodaeth." Cyf. Diw., Ie, ac am yr achos hwn yn gymhwys, pan chwanegu o'ch tu chwi bob di- wydrwydd, yn eich ffydd cyflenwch rinwedd ae yn eich rhinwedd wybodaeth." Am yr achos hwn, sef yn gymaint a bod ei allu Dwyfol wedi rhoddi i ni bob peth a berthyu i fywyd a. duwioldeb. Y mae Duw wedi gwneyd ei ran. Chwanegweh chwithan o'ch tu chwi bob diwydrwydd. Yn eich ffydd. Dyma sylfaen y bywyd crefyddol, a dyma wreiddyn yr holl rinweddau Cristionogol. Rinwedd. Golygir dewrder neu wrol- deb. Y duedd a'r penderfynia, i i ymgyflwyno j waith mawr ac anhawdd yn codi oddiar ffydd. Gwybodaeth. Gwybodaeth ymarferol. Er meddu penderfyniad a gwroldeb i ymgyflwyno i waith mawr, l'haid meddu doethineb a gwybodaeth ymarferol cyn y byddir yn llwyddianns. Adnod €.—" Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd ac at amynedd, dduwioldeb." Cyf. Diw., Ac yn eich gwybodaeth gymedroldeb, ac yn eich cymedroldeb amynedd; ac yn eich amynedd dduwioldeb." Cymedrolder. Hunan-lywodraeth. Amynedd i wynebu yr holl wrthwynebiadau a phrofed- igaethau. Duwioldeb. Teimlad addolgar a dibynol ar Dduw. Adnod 7.—" Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawd- ol, ac at garedigrwydd brawdol, gariad." Cyf. Diw., "Ac yn eich duwioldeb gariad brawdol; ac yn eioh cariad brawdol gariad. Garedignvydd brawdol. Neu frawdgarwch Cristionogol at holl aelodau yr eglwys. Cariad. Y mae hwn yn eangach, sef ewyllys da at holl ddynolryw. Adnod 8.—"Canys os yw y pethau hyn genycfe, ac yn ami hwynt, y maen t yn peri na hyddoch na se, ur na diffrwyth yn ngwybodaeth ein Harglwydd lesu." Cyf. Diw., Canys os ydyw y pethau hyn yn eiddoch, ac yn helaetb na segur na diffrwyth i wybodaeth, &c. Os ydych yn meddu y grasau hyn mewn cyflwr cynydd- ol y canlyniad ydyw nad ydych naaegnr,&e. I wy- bodaeth, &c. I feddu gwybodaeth. Y mae ymarfer y grasau a nodwyd yn arwain i wybodaeth lawnach o'r Arglwydd Iesn. Hanfod gwir grefydd ydyw gwybod- aeth gywir o Iesu Grist. Adnod 9.—" Oblegid yr hwn nid yw y rhai hyn ffanddo, dall ydyw, heb weled yn mhell, wedi gollwng dros gof ei lanban oddiwrih ei bechodau gynt." Cyf. Diw., "Heb weled ond yr hyn sydd agos." Cyferbynir y diffyg o'r grasau a nodwyd a meddiant ohonyntyn yr adnod o'r blaen. Dall ysbrydol. Y mae y dallineb hwn yn effaith aughofrwydd o'r hyn dderbyniodd yn ei droedigaeth. Fe ddylai y syniad o faddeuant pechodau gynyrchn awydd am sancteiddrwydd. Adnod 10.—" Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sier; canys tra fyddocb yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth." Anoga yr APWltol iddynt fod yn ddiwyd i wneyd yr hyn oedd yn perthyn iddynt hwy fel dynion. Y mae y penderfyniad uchaf yn aros gyda Duw. Ond galw i sancteiddrwydd ac ethol i iachawdwriaeth y mae Duw. Sylwa Alford, "Fod yr alwedigaeth a'r etholedigaeth mor bell ag ydym ni yn edrych arnynt oddi-isod, heb fod yn alluog i dreiddio i gynghorau Duw, yn ansicr, os nad ydynt yn cael eu cadarnhau drwy sancteiddrwydd ymarwedd- iad. Yn ei ragwybodaeth a'i fwriadau Ef, nid oes nn annyogelwch nac ansicrwydd ond yn ein gwelediad a'n dirnadaeth ohonynt, fel y maent yn bod ynom ac erom ni, y mae llawer, hyd nes iddynt gael eu gwneyd yn sicr yn y ffordd a ddangosir yma." Adnod 11.—" Canys felly yn helaeth y lrefnir i chwi fvnediad i mewn i dragywyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist." Y trefnir. Yr un gair ag yn adnod 5. Y cyfiwynir. Cyfeirir at fynediad y Cristion i ogoniant. Os llenwir y bywyd a'r grasusau a grybwyllir yn yr adnodau blaenorol, ceir mynediad helaeth—mynediad gorfoleddus i ogoniant. GWERSI. Rhaid i'r bywyd crefyddol fod yn gynyddol cyn y gall fod yn nerthol ac yn ffynonell go foledd a thang. nefedd yn yr enaid. Y mae gallu Dwyfol Daw wedi rhoddi pob peth sydd yn angenrheidiol er cynydd a dadblygiad y bywyd dnwiol. Y mae yn gofyn diwydrwydd a phenderfyniad ar ran y dyn er dyfod i feddiant sicr o fendithion yr Efengyl sydd wedi eu haddaw. Trwy ddiwydrwydd ac ymdrech gall dyn ddyfod i ymwybyddiaeth brofiadol a sicr ohonynt. Y rhai sydd yn meddu y grasusau hyn a hyny yn gynyddol, y maent yn ffrwythlawn-yn derbyn goleuni ychwanegol gan Dduw — yn ddyogel rhag llithro, a chant fynediad helaeth i mewn i ogoniant. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Beth oedd amcan yr Apostol wrth ys^riferiu yr Epistol hwn ? 2. Eglurwch yr ymadrodd a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd a ninau," yn adnod 1. 3. Pa beth a olygir wrth ras a thangnefedd yn adnod 2 ? 4. Eglurwch y cysylltiad sydd rhwng adnodau 3 a 4. 5. Esboniwch yr ymadroddion bywyd a duwiol- deb i ogoniant a rhinwedd ?" 6. Esboniwch ystyr neillduol y grasau a nodir yn adnodau 5, 6 a 7 ? Paham y dechrena gyda ffydd P 7. Beth fydd canlyniad meddiant o'r grasau hyn yn helaeth P 8. Beth ydyw canlyniad y diffyg meddiant ohonynt? 9. Esboniwch adnod 10.

Advertising

[No title]