Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

. LLANELLI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANELLI. Gwyl flynyddol y Grand Lodge of Good Templars. —Cynaliodd y Temlwyr Da eu heisteddiad blyn- yddol yn y tri diwrnod cyntaf o'r wytbnos, a chyn- aliwyd cyfres o gyfarfodydd dirwestol nos Lun, Mawrtb, a Mercher, pryd yr areithiwyd gan Plen- ydd, Cadben George Thomas, Caernarfon; D. Griffith, Bethel; R. D. Williams, Llanbedr; E. Franks; John Pyper, Iwerddon Mr Eccles Mrs Robson; Mr Parry; Dr Scholfield Councillor Beavan, &c. Cafwyd gorymdaitb fawreddog prydnawn ddydd Mawrth-r-y gobeithluoedd, y dirwestwyr, a'r Temlwyr Da o dan eu baneri yn myned drwy yr ystrydoedd gyda seindorf bres y dref yn eu blaenori. Cymerodd yn agos i 3,000 ran yn yr orymdaith, a daeth miloedd lawer allan i'r Park ac i'r ystrydoedd i gael golwg ar fyddin hardd dirwest. Hyderwn y ceir llwyddiant ar yr ymdrecbion i sobri cymdeithas. Pasiwyd hefyd benderfyniad i gofio yn yr etholiad am Weinyddiaeth y Te. Nid ydym yn credu dim yn Ngweinyddiaeth y Cwrw Coch.

TYWALLT GWAED YN NGHYMRU.

Advertising

[No title]