Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YMYLON Y FFORDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMYLON Y FFORDD. Nos Sadwrn, Mehefin 20fed. AGOR dy enau dros y mud," sydd orch- yuayn pwysig ac y gelwir arnom yn anil i'w Weithio allan. Nis gwn am neb yn y dydd. lau hyn, yr hwn y seliwyd ei enau," yn tueddu mwy o hawl ar ein cydymdeimlad fia'r PARCH J. NEWMAN RICHARDS. Gelwais sylw at ei achos o'r blaen, ac y mae yuigais yn awr yn cael ei wneyd er ei ddwyn 1 sylw cyfeillion ac eglwysi. Y gwir yw, y ?iae yr achos yn gyfryw, nad oes dim yn eis- leu ond ei o&od yn amlwg o flaen cyfeillion er sicrhau eu cynortbwy dioed. Beth fyddai 1 ddau neu dri o'i hen gydefrydwyr gymeryd y mater mewn Haw a'i weithio drwodd ? Nid yw cylchlythyrau ar antur yn ateb dim pwrpas. Yn rhy ami i'r fasged neu i'r tan y teflir hwy. Ysgrifener at nifer o bersonau y rhai mwyaf cydymdeimladol y gellir 111eddwl ani danynt—ac apelier atynt hwy- thau i wneyd eu goreu gyda'u cyfeillion. AnamI y gwelais anhawsder i gael cynorth- wy i frodyr wedi eu dal gan galedi. Mae uynion yn ymesgusodi yn wyneb apeliadau capeli dyledog, ac yn achwyn arnynt am tfuthro i ddyled heb fwrw y draul; ond nid Qes dim o'r fath i'w glywed pan apelir ar ran gweinidogion da, y rhai ar ol llafurio yn ddiwyd am flynyddau sydd yn tori i lawr yn lan ac y mae achos Mr Newman Richards yn un o'r rhai ddylasai enyn y tosturi dyfn- af. Mae yn fud heb allu llefaru, ac yn gofyn sylw a gofal parhaus, a chyda gwraig a tuereli fechan heb unrhyw ddarpariaeth ar eu cyfer. Beth pe gwnelai yr holl eglwysi • gasglfod bychan iddo ar foreu neu hwyr un o r Sabbothau nesaf ? Byddai yn ymwared fcollol iddo ef, ac ni theimlai neb boreu dra- ttoeth ei fod yn dlotach ar ol cyfranu. Drwg lawn oedd genyf na welodd rheolwyr Try- sorfa yr Hen Weinidogion eu ffordd i'w dderbyn. Gwir ei fod o dan yr oedran, ond yr oedd yn achos bollol eithriadol, ac heb dyweyd dim am neb o'r rhai a uderbyniwyd arni, eto yr wyf yn sicr na bu achos teilyngach yn euro wrth ei drws o'r dechreuad. Nis gwn a ellir dwyn rhyw ddylanwad ychwanegol i wasgu ar y rheol- wyr, os gellir, gwn y gwneir ond y mae yr aetodau Cymreig sydd yn mysg Rheolwyr y j-;rysorfa wedi gwneyd eu goreu eisoes, a diau genyf y gwnant eto. Ond ni buasai "yd yn nod cael hyny, yn gwneyd cael ychydig help dioed oddiwrth gyfeillion ac eglwysimewn un modd yn ddiangenrhaid. oedd fy hoffus gyfaill, y diweddar Simon -k^ans yn teimlo yn ddwfn ia-wn yn y mater, un o'i lythyrau olaf ataf oedd yn ngtyn a r achos. Esgusoded fy nghyfeillion fi am sylw at y mater. Nis gallaswn ymatal. Mae bod yn y gongl, ac yn analluog i breg- ethu, o dan yr amgylchiadau mwyaf ffafriol yn ddigon poenus, ond pa faint mwy felly pan y mae adferiad yn ddiobaith, a rhag- olygon yr amgylchiadau yn bruddaidd a chymylog. Da genyf weled Mr Emlyn Jones wedi cymeryd y mater i fyny ac os £ ymer ef a Mr Johns, Llanelli, Mr Morris, •Pontypridd; a Mr John, Manchester; ac ereill o'i hen gydefrydwyr yr achos mewn llaw, gyda'r cyfeillion lleol sydd wedi ei gychwyn, diau genyf y gwneir rhywbeth i bwrpas, ac y gwneir ef yn ddioed. Y nos Sabboth cyntaf y caf gyfle i weled pobl fy ngofal, nid esgeulusaf ddwyn yr achos o'u blaen. Bydd eisieu lie i roddi hanes cyfeillach Cymanfa Merthyr — oblegid bydd wedi myned yn hen i ddysgwyl wythnos arall am dani, ac oblegid hyny nid ysgrifenaf ragor heno, ac y mae yn amheus genyf a fuaswn yn ysgrifenu cymaint a hyn oni bai fy mod am alw sylw at yr achos pwysig uchod. J' LLADMERYDD. »

Y GOLOFN WLEIDYDDOL.I