Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMBEIG-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

i'r ysgol, ac wrth weled y cyflymder gyda pha un y dysgai y rhai hyn, dychwelasant i Mauritius 1 ymofyn eu gwragedd a'u plant, gan ddychwelyd i Madagascar tua diwedd y flwyddyn. Yr oedd, pa fodd bynag, yn dymhor peryglus i newydd-ddyfodiaid, am fod y tymbor poeth a gwlawog wedi dechreu, a rhoddwyd pen ar eu ilafur gan afiechyd ac angeu. Cymerwyd pob un, chwech mewn nifer, gan y dwymyn, pump o ba rai a fuont feirw, a diangfa gyfyng gafodd y chweched, sef Mr Jones, a bu raid iddo yntau, er mwyn adnewyddiad iechyd a nerth, ddychwelyd i Mauritius. Dychwelodd drachefn'yn nghwmni Mr Hastie, goruchwyliwr ap- wyntiedig y wlad hon i lys y brenin Radama, ac aeth gydag ef i'r brifddinas. Yn unol ag ewyllys arbenig y brenin, dechreuodd Mr Jones o ddifrif ar ei waith yn y brifddinas, ac yn mhen ychydig unwyd ef gan y Parch D. Griffiths, ac wedi byny gan y Parchn Johns, Jeffreys, Freeman, ac Atkinson, a nifer o law ge't'ydd ydwyr, ond galwyd y ddau olaf a enwyd yn ol. Am rai blynyddoedd llafuriodd y tadau hyn yn egniol a chyson, ac heb gyfarfod â rhwystrau na gwrthwyn- chiadau allanol, a gwaith mawr ac effeitbiol a wnaed ganddynt mewn amser cymharol fyr. Rhoddasant ffurf i'r iaith, a chyfansodrlasant eiriaduron a sefydlas- ant ysgolion vn mha rai y derbyniodd miloedd o bobl ienainc y brifddinas a'r cylch addysg ragorol. Parotoi- sant lyfrau ar wahanol faterion er cyfarfod angen a phorthi archwaeth ddeffroedig eu dysgyblion. Cy- boeddasant ranau o'r Efengylau a'r Hen Destament, ac heb fod yn hir yr holi Feibl. Trwy gydweithio a'r cenadon bu y llawgelfyddydwyr o help dirfawr yn nyrchafiad y Malagasiaid, a ehofir eu henwau gyda pharch a diolchgarwch hyd heddyw. Trwy wahanol ,toddion dygid yr Efengyl yn barhaus i gytfyrddiad a meduyliau y bobl. Ond bu raid iddynt am dymhor maith lafurio mewn ffydd cyn gweled effeithiau amlwg, gan gwbl gredu nad ai eu Ilafur yn ofer yn yr Ar- glwydd. Cawsant ffafr yn ngolwg y brenin, yr hwn er Hadceddacnaddaethyn Gristion, eto a roddadd holl bwys ei awdurdod a'i ddylanwad o'u plaid. Nid oedd gauddo ffydd yn yr eilundduwiau, ac edrychai gyda dirmyg ar bob ymdrech i gynal yr ysbryd hwnw i fyny. Bu farw yn ieuanc; aeth yn aberth i'w flys. Neidiodd un o'i wragedd at yr awenau, a chafodd Ranavalona yr orsedd trwy ddylanwad y fyddin, a gcsododd i farwol- aeth mewn moddl creuIawn iawn etifedd yr orsedd a llawer o berthynasau yr hen frenin. Yr oedd hi yn ofergoelus hynod, yn orthrymus i'r pen, yn eitbafol eilunaddolgar, ac edrychai yn ddrwgdybus ar ddylan- wad graddol, dystaw, ond effeithiol Cristionogaeth yn y wlad. Bu tymbor cyntaf ei theyrnasiad yn llawn terfysg ac anesmwythder, yn codi yn benaf oddiwrth y Ffrancod yn hawlio darn o dir ar dueddau deheuol yr ynys, y gwrthryfel oedd mewn rhanau o'i lIywodraeth, a'i drwgdeimlad hithau at yr holl alluoedd Ewropaidd. Datganai nad oedd hi yn rhwym o sefyll at y cytundeb wnaethai Radama a'r wlad hon, er na aduewyddai y gaethfasnacb. Bernid mai mewn gobaith o gael help Lloegr yn fi byn y Ffrancod, y rhai oedd wedi tirio ar dueddau dwyreiniol yr ynys, y gadawodd hi y cenadau i barhau en Ilafur. Yr oedd y gwaith cenadol erbyn hyn yn gwisgo gvedd ddymunol a llewyrchus. Telid s'ylw neillduol a dangosid dyddordeb mawr yn nglyn a, holl waith y cenadon, fel eu llonid yD ddirfawr wrth weled, dan fendith yr Arglwydd, arwyddion er daioni o lwyridiant ar en gwaith. Caniatawyd i'r bobl gymeryd eu bedyddio, ac ymuno yn gymdeithasau eglwysig. Misoedd i'w cofio oedd Mai a Meliefin, 1831, canys dyna y pryd y bedyddiwyd y dychweledigion cvntaf, y dechrcuwyd cofio angeu y Groes, ac mor gyffredinol oedd y dylanwad fel yr unodd pobl o'r dosbarth uchaf, hyd yn nod o'r teulu breninol. Ond ni wnaeth hyn ond cynyddu drwgdybiaeth ac ofnau y frenines, fel y galwodd yn ol y caniatad a roddasai, gan chwythu cel- anedd abygytkion. Ond er y cyfan parhau i gynyddu a lledaenu yr oedd y dyianwad, a gwelid yn eglur yr afael gref oedd yr athrawiaeth newydd wedi gael, ac fed eilunaddoliaeth yn cyflym ddiflanu. Ond duo yn barhaus yr oedd y ffurfafen, ac arwyddion yr ystorm erledigaethus yn cynyddu yn gyflym. Yn y diwedd dygwyd cyhuddiadau cyhoeddus yn erbyn y Cristion- ogion o ddiystyru yr eilunod, cynal cyfai-fodydd gweddio, rhoddi heibio tyngu, cadw y Sabboth, a byw yn ddiwair. Y person cyntaf gyhuddwyd a gyhoedd- wyd, yn wyneb prawf y gwenwyn, yn ddieuog er hyny chwerw ae anfoddus iawn oedd y frenines wrth y Crist- ionogion, nes fod yn amlwg fod ei theimlad yn dwys- hau, a'i chynddaredd yn ymgreuloniyn orbyn Cristion- ogaeth. liainai hi fod eilunaddoliaeth a theyrngarweh yn anwaltanol gvsylitiedi^ a'u gilydd, fel yr ofnai os darfyddai yr ysbryd hwnw y darfyddai ei pharch hithau. Yn eu gwaith yn cofieidio Cristionogaeth, cyhuddai liwy o anbeyriigarwch, a thybiai mai enwati ar hen fi-eninoedd Seisonig oedd Jehovah a Iesn. Gwnaeth ei rneddwl i fyny i osod Cristionogaeth i lawr, ac an- ionodd genadwri at y cenadon yu mynegi, traycan- iateid iddynt hwy i ddilyn eu harferiadau crefyddol, nad oedd ei deiliaid i gael hyny y cawsent gyfrauu addysg a gwybodaeth yn mhob peth ond yr hyn a effeithiai i newid aifcrion crefyddol y bob!. Er pob ymdrcch, methwyd a'i pherswadio i newid dim; ac me.wn cymanfa, lie yr oedd cant a haner ofiloedd yn bresenoI, traddolodd araeth o blaid eilunaddoliaeth, ae yn erbyn Cristionogaeth, gan ddatgan y cosbid yn y modd ilymaf y neb geid yn euog o arddel crefydd. Gosodwyd deddfau gorthrymus mewn grym, gan drefnu cynllun i'r e-uogion fod yri hunangyhuddwyi. Cafodd Meistri Jones a Baker aros ychydig fisoedd yn y wlad yn hwy na'u cydlafurwyr, ac ymroddasant i argraffu Taith y Perorin a'r Beibl, pa rai yn llawen a bryn- wyd gan la-weroedd, or eu bod yn peryglu eu bywydau wrth wneyd. Er eu bod yn gorfod ymadael, llawen oeddentiallu gadael Gair Duw yn iaith y bobl i'w cynal a'u cysuro yn eu tywydd garw. Troisant eu cefnau mewn dagrau, gan gyflwyno y wlad mewn gweddi i'r Hwn v mae caionau breninoedd yn ei law. Wedi mjned i'r llong, cyn myned o olwg y wlad, can- asant yr hen benill bwnw mewn ffydd—" Ni phery dditn yn hir," &c. Dcchreuodd yr erledigaeth yn awr o ddifrif trwy gondemnio boneddiges o'r enw Raffera- rary i farwolaetb. Mewn modd tra hynod, os nad gwyrthiol, gwaredwyd hi fwy nag unwaith, ac yn y diwedd llwyddodd hi a phump ereill i gyrhaedd glan y mor, lleeu codwyd i long i'w cymeryd i'r wlad hon. Er y gorchymyn i beidio cyfarfbd i addoli, eto gwnaent hyny yn ami mewn pcntrefi yn y wlad, mewn coed- wigoedd, mewn ogofau, ac yn holltau y cre'giau. Yn hwyr nos Sadwrn y cyfarfyddent a'u gilydd, gan ymad- ael cyn codiad haul. Dynes ieuanc o'r enw Rasalama oedd y merthyr cyntaf, yr hon ar ol ei dirboeni a ym- ollyngodd ar ei gliniau mewn gweddi, ac i dderbyn pig gwaewffon y dienyddwr. Yr un modd, yn yr un lie, ac mewn lleoedd ereill hefyd gosodwyd nifer lluosog i farwolaeth. Taflwyd llawer dros ddibyn y graig, a chymerwyd eu cyrff drylliedig i'w llosgi. Torwyd penau ereill, a'r pendeifgion a losgwyd yn fyw. Carch- arwyd miloedd, a chollodd ereill eu sefyllfaoedd a'u safleoedd i'w darostwng- yn gaethion. Diangodd llawer trwy ymguddio a ffoi. Cymerwyd bywydau amryw trwy brawf y gwenwyn, ereill a fuont feirw dan gawod- ydd o geryg. Gellir defnyddio geiriau yr apostol- Ac ereill a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellati, Ïe, trwy rwymau hefyd a charchar. Hwynt-hwy a labvddiwyd, a dorwyd a llif, a laddwyd yn feirvy a'r cleddyf, a grwydrasant mewn erwyn defaid a chrwyn geifr yn ddiddym, yn gystuddiol, yn ddrwg eu eyflwr; y rhai nid oedd y byd yn deilwng obonynt," &c. Ni bu y pum' mlynedd ar hugain yn dymbor di- dor o erlid, ond torodd allan mewu < ynddaredd bump o weithiau; ond pan gaed allan y brad-gynllun i gy- meryd ymaith fywyd y frenines y cyrhaeddodd ei chyn- ddaredd ei bwynt eithaf. Ymddengys i nifer o Ffranc- od ac ereill ymuno ynbyn er mwyn goosod y tywysog ar yr orsedd ond y Cristionogion gafodd y bai, ac arnynt hwy y syrthiodd y dialedd, a dialedd ydoedd o'r fath y meddyliodd hi lwyr dHileu Cristionogaeth allan o'r wlad. Ond methodd. Yn nghysaod y tywysog ieuanc a mab y prifweinidog, y rhai oeddynt wedi cofleidio crefydd, cafodd y Cristionogion ychydig o seibiant a chaniatsd i gyfarfod i addoli hyd yn nod yn y brif- ddinas, ac ychvsanegwyd llawer o bobl i'r Arglwydd. Dichon y buasai y ddau ynfoddlon rhoddi eiddo y nail I y Hall i farwolaeth, ond nis gallent rodd i eu heiddo eu hunain. Ond wrth weled nifer y Cristionogion yn llu- osogi, a'u hegwyddorion yn lledaenu, yn neillduol yn mhlith y mawrion, cynhyrfodd hyn yr hen genawes i greulondeb mwy eto, ond ni lwyddodd i ddifetha yr achos. Mae amryw bethau yn oydgytarfod i gyfrif am yr erledigaeth. 1. Gelyniaeth calon lygredig i'r pur- deb gynyrehir gan yr Efengyl. 2. Ysbryd eilunaddol- gar. 3. Eiddigedd y frenines dros ei safle a'i hawdur- dod. Honai mai hi oedd i fod yn ben, heb neb uwchlaw iddi. 4. Gwelid fod ysbryd y grefydd newydd yn groes i drais, gormes, a chaethwasiaeth. 5. Meddylid y gellid cael holl fanteisiou llaw-weithfaol oddiwrth y Ffrancod oedd yn y wlad, y rhai ni ddysgent grefydd i'r trigolion. 6. Yr oedd llawer o eiddo y cjhu idedig- icn yn cael ei roddi i'r cyhuddwyr. Am arian fe wneir petbau rbyfedd yn nes yma. Ond er hyn oil, ac er y creulonderau ddangoswyd at y Cristionogion am bum' mlynedd ar hugain, gair Duw a gynyddodd ae a aml- haodd. Dywed y Parch D. Griffiths i filoedd gael eu rhoddi i farwolaeth yn mhob modd, a eto cynyddu ar yr ugeinfed a wnai y Cristionogion. Bu y cyfan yn foddion i wreiddo a sefydl-u Cristionogaeth yn y wlad. Os gauaf garw a' fu, os bu yr ystorm erledigaethus yn gref, ni wnaeth ond puro yr awyr, a pheri i'r pren ledu ei wraidd yn y tir. Profodd y ewbl mewn modd effeithiol ae argyboeddiadol ddwyfoldeb crefydJ, gan iddynt fod yn aneffeithiol i'w dinystcio, a daeth llu- oedd mwy a" yn gynt i wybod am dani na phe cawsai lonydd. O'r diwedd bu farw Ranavalona, ac esgynodd Rakoto i'r orsedd dan y teitt Radama II. Aeth y cwmwl du heibio, cliriodd yr awyr, ail sefydlwyd y genadaeth gan y Parch W. Ellis, yr hwn a gafodd dderbyniad nad angbofiodd mohono tra fu byw. Nid oedd y brenin yn Gristion, ac ymollyngodd i aflendid ac oferedd, gan esgeuluso ei ddyledswyddau a'i bobl, a gosodwyd ef i far Aolaeth yn ei balas, a Rasoherina a deyrnasodd yn ei le. Nid oedd hithau yn Gristion, ond caniatodd ryddid i'w deiliaid, ac am y pum' mlyn- edd y teyrnasodd, planwyd amryw ealwysi. Yn y ddinas a'i-amgylehoedd codwyd yn uuol at waith, a dechreuwyd addysgu dyoion er eu cymhwyso i'r wein- idogaeth. Ar ei hoi hi esgynodd Karaoma i'r orsedd dan y teitl Ranavalona II. Dychrynid at yr ernv, lie otnid ei fod yn arwydd er drwg ond buan y gwelwyd yn wahauol, a chantyddwyd fod y bendefigaeth yn d'od yn ffafriol i grefydd, ae yn arweiliwyr gyda'r achos. Ar ei choroniad ni chaniateid i un eilun gael ei ddwyn allan, ac ar yr orchuddlen uwchben yr orsedd, mewn llythyrenau breision, yr oedd y geiriau, Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da," Mae Duw gyda ni," a Beibl mawr ar ochr ddebeu y frenines. Cynwysai yr araeth freninol ymadroddion o Air Duw yn anog y bobl i iavun-ym- ddygiad. Codwyd nllor i Dda yn y teulu breninol, a derbynid addysg grefyddol o enau gweinidogipn bro orol, a rbedyddiwyd y frenines a'r prifweinidog yn mhreseroldcb nifer o brif dd.ynion y wlad, llawer o ba rai a ddilynasant eu heaiampl. Ond yr orchest fawr trwy ba un y symudwyd un o'r prif rwystrau i Iwydd. iant crefydd oedd dinystrio yr eilunod. Aeth y gorchymyn allan i boll bentrefi Imerina, a chasglwyd yr holl eilun-dduwiau i'w bwrw i'r fflamau, ac felly rhoddwyd terfyn ar eilunaddoliaeth yr Hofiaid, ao mewn rhan yn mhlith y Betsileo. Cafodd hyn effaltb ryfedd ar y bobl, a pharodd i fynychwyr ty Dduw yddn, fel nad oedd digon o le i'w derbyn. Yr oedd nifer y crefyddwyr erbyn hyn yn ddwy fil ar bymtheg ar hugain. Ar ol dau fis o gystudd trwoi, bu farw y1 frenines dduwiol hon gyda holl wroldeb gwir Gristion yn pwyso hyd y diwedd ar graig ei hiachawdwriaeth, a chladdwyd hi yn yr un bedd a'i modryb greulawn. Dyna ddau eithafion wedi cydgyfarfod o'r diweid. Yn amser yr erlid gwnaeth hi ei goreu er cynorthwyo yr erlidiedi?, a mynych y cyrehai i'w cvfarfodydd dirgel- aidd. Un tro ar foreu oer aeth i dy hen wraia yn wlyb diferu er ymdwymno. Gofynodd yr hen wraig iddi yn mha le y buasai ar y fath nnson. "Yr wyf," meddai ht, wedi bod yu yr addoliad ar y Morfa," i'r hyn yr atebal yr hen Gristion a'r dagrau yn llenwi ei llygaid," Yr Arglwydd a'ch llwyddo yn eich ymchwiliad am dano. Wrth ddatgan ei hun yn Gristion, dywedodd y dymunai weled pob un yn dilyn ei hesiampl, ond naorfodid neb) Canys Dnw a'ch gwnaeth," meddai. Yr oedd yn deall rhyddid crefyddol, ac yn ei ganiatau i'w deiliaid. Yr oedd yn Gristion yn ystyr fanylaf y gair, a dangos- odd yn ei hymddygiad at nifer o Ffrancod oedd yn y brifddinas, pan ymosododd llyngesydd Ffrainc ar y wlad, ei bod yn cael ei llywodraethu gan y syniad 0 anrhydedd a chyfiawnder. Dywedai na byddai. yn ddoeth nac yn ddyogel iddynt aros yno dan y fath am- gylch adau y caent bum' niwrnod i barotoi i'w taitb. Pan ddaeth y dydd cychwynasant heb gludwyr nac ar- weinwyr, fel y gallent yn ddiau adaelyr argraff eu bod yn cael-eu camdrin a'u bwrw allan. Pan glywodd y frenines hyn, ac yn gwybod na buasai iddynt fyned felly ar eu traul eu hunain, anfonodd gludwyr a milwyr i'w dwvn i ddwylaw swyddogion Ffrainc. Trwy hyn prnfodd nad oedd hi na'i phobl mor anwaraidd ag yr awgrymai llyngesydd Ffrainc eu bod, ac o gymharu et hymddygiad hi a'r eiddynt hwy, ei bod yn uwch o ddigon mewn gwareiddiad a moes. Paham na chaent lonydd gan Ffrainc ? Wei, nis gallasai y Jesuitiad edrych gyda boddineb ar lwyddiant crefydd yn y wlad, a thrwy eu dichellwaith achoswyd fwy nag unwaith an- nealldwriaeth rhwng Ffrainc a Madagascar. Gofynwn etipahamnachaentlonydd gan Ffrainc, canys trwy anhegwcb, yn amser gwrthryfel yn y wlad, y tynodd hi dywysogion gwrthryfelgar dihawl i arwyddo cytundeb a hwy ? Nis gallant byth brofi yn wahanol, ac y mae y ffeithiau canlynol yn ddigonol i gadarnhau hyn:- 1. Mae Ffrainc yn ei holl gytundebau a Madagascar wedi cydnabod Ranavalona a'i blaenafiaid yn frenines- au a breninoedd y wlad. 2. Yr Hofiaid sydd yn casgln y trethoedd trwy y blynyddoedd hyd yn nod yn y lle- oedd a honir gan Ffraic. 3. Mae baner yr Hofiaid wedi bod yn chvtifio yn y diriogaeth am y deugain mlynedd diweddaf. 4. At y frenines yn Antananarivo yn wyneb cam, ac nid at Ffrainc, yr apelia y trigolion. 5. Mae llongau rhyfel y wlad hon wedi gwibio yn nyfroedd y rhanbarth mewn dadl or dodi y gaethfaS- nach i lawr, ac a llywodraeth yr Hofiaid y mae yn ym- wneyd fceb unrhyw gyteiriad at Ffrainc. 6. Mae Ffrainc yn ddiweddar wedi gosod dirwy drom ar y llywodraeth Hofaidd am ryw drosedd o eiddo preswy wyr y diriogaeth. Y gwir yw, nid oes ganddynt hawl o gwbl. Fel y crybwyllwyd, ymosododd y Ffrancod ar y wlad trwy daDbeleni ei phentrefi, ac yn y diwedd daethant i Tamatave gan anfon cenadwri i'r brifddinas yn honi eu hawliau,ac heb iddynt gael ateb'.ad boddhaol eu bod yn tanio ar y dref, ond cyn fod yr atebiad dys- gwyliedig wedi cyrhaedd, nag amser i hyny ychwaith, yr oedd T amatave wedi ei dinystrio, a g weithredoeda creulawn teilwng o wlad farbaraidd wedi eu cyfliwni gan Ffrainc fonaddigaidd ? Ffei ohonynt, ïe, meddwn eto, ffei o honynt, a dyweded yr holl bobl Amen. Anheilwng hefyd fu ymddygiad yr awdurdodau at gen- adau Madagascar i'r wlad yn achos y cweryl. Yn Tamatave ni chaniateid iddynt gymeryd eu taitb yn Y llythyr-'ong, ac mewn llong yn cludo anifeiliaid Y daethant drosodd. Yn Paris a Alarselles d, achefn di- raddiwyd hwy a dirmygwyd baner eu gwlad. Dichon fod cwpan Ffrainc bion a bod yn llawn, IlC y gelwir hi] yfed ei waelodion. Mae gwaedd gwaed yn esgyn at Dduw o wahanol fanau—o Tahiti, Ynysoedd M6r y De, China, Madagascar. Y mae phiol ynliaw yr Arglwydd a'r gwin sydd goch yn llawn cymysg. Am ddydd du Bartholomew, nid yw y eyfrif wedi ei lwyr setlo. Vv"l Ranavalona III. sydd ar yr korsedd yn awr, ac y maO yn deilwng yn mhob ystyr o'i rhagflaenydd. JCoroo' wyd hi yn gyffelyb i'r Hall. Gair Duw ar y bwrdd, yr arwyddeiriau ar y guddlen yn ngwydd tyrfa luosog o i phobl ei hun ac ereill. Traddododd araeth rasorol yl1 terfynu yn y geiriau hyn, Yr wyf yn gadael fy nheyrnas dan noddfd Duw, canys gwn mai y dcyrne9 hono sydd yn llywodraethu mewn yrnddibyniaeth a Dduw sydd yn meddu gwirionedd, ne: tb, a chynydd: Cofiwch mai cyfiawnder a ddyrchafa genedl, ac rna dechreuad doethineb yw,"ofn yr Arglwydd. rhagoch mewn doethineb." 0 dan ei theyrnasiad llIae y wlad yn mhob ystyr yn gwella, y Malagasiaid Y" ymddyrchafu, a chrefydd yn llwyddo. Lluosoga yr eglwysi, lledaena egwyddoriou crefydd yn cynydda ei dyianwad yn barhaus, ac y mae ei deiba' yn lluosagi yn gyson. Ac nid yw eto ond deehreu gwawrio," &c. Hyderwn y caift lonyddwch a chwareu teg gan Ffrainc a'i Jtsuitiaid cyfrwys. CASGLIADAU. 1. Fod Duw yn gwrando ac yn ateb gweddiftO ei bob). Nid yn unig yr oedd y Malagasiaid crefyddol yn gweddio, end cydunai caredigion yr achos trwy yr hoIl fyd a hwynt. Ac wele atebwyd y gweddiau—os nid yn