Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
ATHROFA GOFFADWRIAETHOL ABERHONDDU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ATHROFA GOFFADWRIAETHOL ABERHONDDU. Cyfarfu Pwyllgor y Sefydliad uchod dydd jMawrth, Mehefin 9fed, pryd yr oedd yn bresenol y Parchn It. S. Williams, Bethesda, yn y gadair Dr Morris; Proff. Rowlands, B.A.; Dr Kennedy ac S. Hebditck, Llnndain James, Llanwrtyd; Jones, Cerygcadarn; Jones, Ffaldybrenin Williams Llandilo, Penfro Jones, Ty'nycoed; Howell, Aberdar; Parry, Llangatwg Williams, B.A., Caerdydd Jones, B.A., Aberhonddu; Richards, Tonypandy; Robert, Porthmadog Jones, Fford Jenkins, Pentre-Estyll; Davies, Taihirion Jones, Tre- forris; Peregrine, B.D., Rhymni; Mr W. R. Jones, Rhaiadr y Trysordd, a'r Ysgrifenydd. Wedi dechreu trwy weddi gau Mr James, Llanwrtyd, darllenwyd a chadarnhawyd pen- derfyniadau y cyfarfod diweddaf. Yna gwnaeth yr Kennedy gyflwyno Mr Hebditch i'r cyfarfod iel yr a anfonwyd gan y Bwrdd Cynull- eidfaol i'w gynrychioli gyda Dr Kennedy, gan na welir Dr Aveling mwyach. Teimlid colled ar ol Dr Aveling, ond llanwyd ei le yn ardderchog gan Mr Hebditch, a buan y gwelwyd nad rhaid oedd iddo wrth lythyrau cymeradwy- aeth, canys yr oedd ei wyneb yn adnabyddus i amryw, ac yr oedd ei enw yn adnabyddus i bawb oedd yn bresenol. Daeth cais y pwyllgor oddiwrth Mr J. R. Jones, un o'r myfyrwyr, am ganiatad i ymadael a'r athrofa ar ddiwedd ei drydedd flwyddyn i gymeryd gofal eglwys «aron, Maesteg. Barnodd y pwyllgor mai doeth oedd iddynt ganiatau y cais ar gyfrif Sefyllfa iechyd Mr Jones. Gwnaeth naw o ymgeiswyr sefyll eu harholiad am dderbyniad i'r athrofa, a derbyniwyd chwech. ohonynt, sef Mri David Davies, Roath-road, ^aerdydd, cyn hyny o Blaenycoed; W. Williams, Carmel, Pembre; J. M. Evans, Three grosses John Davies, Bethel, Aberdar; David °nes, Pentre-Estyll; a Thomas Price, Ffaldy- renin. Hwnyraa ydoedd prif waith y cyfarfod ac efe aetk a'r rhan fwyaf o'r amser. Yr oedd y Parch W. Nicholson wedi addaw rhoddi yr anerchiad blynyddol i'r myfyrwyr, ond yn herwydd byrhau o'i nerth ar y ffordd, gorfu iddo dynu yn ol ei ymrwymiad, yr hyn fu yn groes drom iddo. Pasiwyd penderfyniad o ^ydymdeimlad dwys ag ef yn ei gystudd trwm. ll'6lsiwyd gan y Parch S. Hebditch i gymeryd „,e Mr Nicholson, yr hyn hefyd a wnaeth. ;addododd anerchiad pwrpasol neillduol. Prif Dh aner°hiad ydoedd gwasgu arnynt hwy a 1 awb oedd yn bresenol y pwys o sicrhau ymeradwyaeth yr Arglwydd." Cyinhellai i osod cymeradwyaeth yr Arglwjrdd yn °d ar eu holl gyflawniadau. Sicr ydym nas gall y geiriau synwyrol a doeth a lefarwyd lai pf J^ario dylanwad daionus ar bawb a'u y#sant. Gorfu i Mr Hebditch draddodi ei "Ilerchiad hwyr ddydd Mawrth, a hyny heb oddi y cyhoeddusrwydd arferoi iddo, am fod Ij^ad arno i ddychwelyd i Lundain boreu enGu^er ,olierwydd paham ni chafwyd ei bres- am°l aSymhorth yn y cyfarfod blynyddol, hyny pasiwyd penderfyniad o ddiolchgarwch chalonog iddo ar ddiwedd y cyfarfod |rS, Fawrth. Nid yw yn debyg y gwelir Mr .yn- Aberhonddu eto, gan y bwriada ymfudo i.Awstralia. Dyad Mercher, cynaliwyd cyfarfod blynyddol y tanysgrifwyr, pryd yr oedd yn bresenol heblaw y rhai a enwyd eisoes, Mr W. Williams, Islington, Llnndain; Parchn Catwg Davies a T. P. Williams, Aberhonddu; Morgan, Saundersfoot; Edmunds, Hirwaun Rees, Tredwstan Jones, Gelli Williams, Brych- goed Jones, Talybont; Evans, Capel-y-Wig Rees, Llanharan a Jenlfins, Abertawy. De. chreuwyd trwy weddi gan Jones, Fford; yna darllenwyd Adroddiad y Pwyllgor am y flwyddyn, yr hwn a gyfeiriai at farwolaethau amryw o frodyr amlwg yn ystod y flwyddyn, gan ddechreu gyda Dr Aveling, a diweddu gyda'r Parch E. Stephen, Tanymarian. Yna eyfeiriai at y fifaith ddarfod i'r flwyddyn agor gyda 16 o fyfyrwyr yn Aberhonddu, ac 11 yn Nghaerdydd. Ymadawodd un o Gaerdydd a dau o Aberhonddu yn ystod y flwyddyn cyn gorphen eu hamser, ac heb ganiatad y pwyllgor. Y mae pump ereill yn ymadael yn awr-un i Penmaenmawr, un i Hay, un i Saron, Maesteg, a'r ddau ereill heb benderfynu eto ar feusydd dyfodol eu llafur. Ymddengys fod cysylltiad yr athrofa a Phrifysgol Caerdydd yn bobpeth ellid ddymuno hyd 11 yn hyn. Daw chwech i lenwi lie y rhai aethant allan. Mae Adroddiad y Trysorydd eleni yn fwy boddhaol nag ydoedd y llynedd. Penderfynwyd derbyn yr adrodd- iadau, eu hargraffu, a'u gwasgaru yn mhlith y tanysgrifwyr. Pasiwyd y diolchiadau arferol, ae etholwyd Pwyllgor Gweithiol am y flwyddyn. Yn ychwanegol at y penderfyniadau arferol, amlygodd y. cyfarfod ei ddiolchgarwch am Fesur Addysg Canolraddol Cymru, er fod cyfeiriad yn y penderfyniad at bethau anfodd- haol yn rhai o'i ddarbodion. Hefyd, amlygwyd galar yn herwydd symudiad cynifer o frodyr yn ystod y flwyddyn, a chydymdeimlad a'tt perth- ynasau. Bellach, y mae y myfyrwyr allan, fel arfer, yn galw heibio yr eglwysi am eu casgliadau blynyddol. Dymuna y Pwyllgor ar yr eglwysi i roddi y derbyniad serchog maent wedi arfer roddi trwy y blynyddoedd. Dymunol fyddai, mor bell ag y byddo hyny yn ddichonadwy, i wneyd y casgliadau ar yr adeg y byddo y myfyrwyr yn galw heibio yr eglwysi, canys byddai hyny yn hwylusdod neillduol i'r pwyll- gor, ae yn enwedig i'r trysorydd ffyddlon. Nid gwaith hawdd ydyw cael y cyfrifon yn drefnus pan y byddant yn agored hyd yr adeg y darllenir y fantolen i'r cyfarfod blynyddol. Hyderir yn gryf y ceir diwygiad yn hyn o beth, ae er cyrhaeddyd yr amcan, dymunir yn daer ar yr eglwysi ydynt yn arfer gohirio y oasgliadau i'w gosod ychydig yn gynarach yn y flwyddyn. Da genym feddwl mai ychydig ydyw nifer y rhai a adawant y casgliadau hyd yn ddiweddar yn y flwyddyn. Wrth derfynu, diolcha y Pwyllgor yn gynes am ffyddlondeb yr eglwysi yn cefuogi y Sefydliad drwy y blynyddoedd, ac apelia yn galonog am barhad o'r cyfryw. Dros y Pwyllgor, D. A. GRIFFITH.
ARHOLIAD MEHEFIN, 1835.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ARHOLIAD MEHEFIN, 1835. Arholwyd y Dosbarth Duwinyddol eleni gan y Parchn D. Tyssil Evans, M.A., Hornsea; D. Griffith, Dolgellau; O. Thomas, M.A., Tre- ffynon E. Jenfcius, Abertawy; J. Lloyd Williams, B.A., a J. Alun Roberts, B.D., Caerdydd. Vynciau: Athroniaeth, Hanesiaeth Eglwysig, y Testament Groeg, Profion Cristionogaeth, y Beibl Hcbraeg, a Duwinyddiaeth Gyfun- draethol. Dodwn yma lechres o'r myfyrwyr yn ol eu teilycffdod cymhariaethol. U 'J Maximum fitfu 1. J. H. Rees 465 2. R. O. Hushes. 441 3. Diniel Philipps 428 4. William Thomas 416 5. R. D. Green 396 6. Daniel Waters 386 7. David Walters, 362 8. James Davies 356 9. John Williams. 303 10. J. W. Price 275 11. William Protheroc 274 Yr oedd David Walters yn absenol o ddau eisteddiad trwy afiechyd, a William Protheroe yn absenol o un eisteddiad oblegid yr un achos. Yr oedd J. R. Jones a Thomas Nicholas yn absenol o'r holl arholiad trwy afiechyd. J. MERE .DITIR, IProctors. J. PARR-Y, 3 «
ETHOLIAD BWRDD YSGOL ABERTAWY…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ETHOLIAD BWRDD YSGOL ABERTAWY UCHAF AC ISAF. Cymerodd yr etholiad uchod le dydd Mawrth, Mai 26ain. Mae ar y Bwrdd saith sedd. Cafodd rhyw 22 en henwi ar y cyntaf, ond y nifer a saf- odd am y seddau oeddynt 12. Safai yr enwadaetk fel y canlyn5 o Annibynwyr, 4 o Fethodistiaid, 2 Eglwyswr, 2 Fedyddiwr, ac un arall nad oeddym yn sicr beth oedd. Hwn ydoedd yr etholiad cyntaf ag sydd wedi cymeryd lie i'r Bwrdd yma, ond nid dyma yr eisteddiad cyntaf; y mae wedi bod mewn bodolaeth er's amser maith bellach ond y tro hwny cafwyd allan nerth y bobl. Mawr oedd y set a'r gweithgarweh a ddangosid gyda phob ymgeisydd-pawb ar en heithaf gyda'u hymdrechion; ond o'r diwedd daeth dydd y cyfrif, a. dyma fel y safent:— Parch D. Roderick (E), Cockett 770 Parch J. Davies (A), Cadle. 719 Mr M. B. Williams (W), Killay 621 Mr W. Harris (B), Cefngorwydd 615 Mr J. Powell (A), Waunarlwydd 607 Parch E. W. Bolney (E), Sketty 552 Parch W. Davies (B), Waunarlwydd 500 A ganlyn oeddynt y rhai aflwyddianus Mr G. Jeremiah (M) 476 Mr G. Jones (M) 462 j Mr J. Powell (M) 367 Dr T. L. Jones 227 Mr J. Davies, Login 61 Wrth yr uchod fe welir yn amlwg mai yr Anni- bynwyr sydd wedi cario y blaen, oad cofier fod yna dri o'r ymgeiswyr yn cael cynorthwy yr An- nibynwyr. Heblaw y Parch J. Davies a Mr Powell, cawsai Mr M. B. Williams ran helaeth o'u cynorthwy. Eto, heb ddim petrusder y dywedir pe cawsai Mr Davies, Cadle, bleidleisiau yr holl Annibynwyr y buasai ar ben y poll. Er hyny, nid ) oes lie i achwyn ar y cyfan. Maddeued y bonedd- igion urddasol am na fuasem wedi anfon yn gynt. DEWI O'R GAD. ♦
ABERGWAUN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERGWAUN. Y Llungwyn. — Er fod yr hin y dydd hwn eleni yn bnr annymunol, eto gwelwyd fod deiliaid Ysgol Sabbothol y dref, a'r cylch, yn penderfynu cario allan eu gwyljau. Yn y boreu deuai ugein- iau i fewn o'r wlad o gyfeiriad y Dinas, Trefdraeth Nevern, &c., yn nglyn Ii. gwyl Ysgolion Sul yr Eglwys Wladol. Cynalient eu cyfarfod yn Manor- owen, lie ychydig allan o'r dref hon, a'r man y gorwedd llwch yr enwog Jones, Llangan. Yn y prydnawn gwelid Human ysgol fawr a llitosog y Bedyddwyr sydd yn perthyn i Hermon, Penucha'r- dref, yn cael ei dwyn o flaen yr orymdaith oedd ganddynt. Aent ar ol hyny i'r Neuadd Ddir- westol i wledda ar ddanteithion i'r corff, ac i'w capel am chwech i fwynhau gwledd i'r meddwl mewn adrodd a chanu. Yr un fath y gellir dyweyd am ysgol yr Annibynwyr yma. Yr oedd yn ddydd gwyl gan ddeiliaid hon eto. Cyfarfydd- wyd yn y capel am haner awr wedi dau. Am dri, ymffurfiwyd ya fyddin gref a Iluosog i gymeryd taith trwy brif beolydd y dref, gan ganu amrywiol donau, nes oedd y lie yn diasbedain drwyddo. Wedi hyny aethwyd i'r Town Hall i gael te. Am chwech, cafwyd un o'r cyfarfodydd goreu a gaf- wyd yn nglyn. a'r ysgol yma. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr W. Jenkins, Scleddy. Canodd cor y plant a chor y capel amryw ddarnau tlws a. chelfyddydgar, o dan arweiniad Mr D. Roach. Yn mhlith darnau ereill canwyd y Seren Dlos," Anthem yr Ysgol Sabbothol," a Chydgan y Medelwyr," o waith Mr D. Jenkins, Aberystwyth. Daeth 11 u mawr yn mlaen i adrodd. Cafwyd amryw ddadleuon ac ymddyddanion difyr acadeil- adol, fel rhwng y cwbl teimlwyd fod yma lafur a pharotoadau da wedi bod. Profiad pawb ydoedd mai da oedd bod yno."
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ESTABLISHED NEARLY 50 YEARS.—White's Celebrated Moo- Main Trusses. Single Trusses, from 10s. Double-Trusses, from 18s. Sent free from observation and post free. WHITE'S HOC-MAIN LEVER TRUSS is the most effective invention for the treatment of Hernia. The use of a steel sprig, so hurtful in its effects, is avoided, a soft bandage being worn round the body, while the requisite power is sap- plied by the Moc-Main Pad and Patent Lever, fitting with to much ease and closeness that it cannot be ditected. beiid for descriptive circular, with testimonials and prices, to J. White and Co (Limited), 228, Piccadilly, London. Do not buy of Chemists, who often, sell an IMITATION of our MOc. Main. J. White and Co. have not any Agent'.
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMBEIG-
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
hollol fel y dymunai ambell UD, eto y mac yn gyf- lawn y tuhwnt i ddim allem ni feddwl na'i ddymugo. 2- Mawr yw amynedd yr Anfeidrol yn goddef fhwystrwyr ei achos yn y byd. Mae aancldo yn ddiau amcan teilwng ohono ei hun mewn goIwg- yn hyn. 3. Gall, ae y mae Efe yn goruwchlywio y cwb! i'w Offoniant ei hun, llwyddiant ei achos, a daioni ei hobl. Mae heddyw yn agos i driugain a tbair o filoedd o gymnnwyr yn Madagascar, a thros ddan can' mil yn roynychu lleoedd addoliad. Diau cynddareld dyn a th foliana Di," &c. 4. Os yw crefydd mor (Ida fely mae yn tdu ei ffordd Hewn tywydd garw, rbaid ei bod ielly mewn tywydd eeg. "Ni wyr dyn beth a dal hi." 5. Nid oes un arian yn cael en gosod allan i well dybenion, nac yn talu yn well yn mhob ystyr, na'r hyn a gyfrenir at y gwahauol gymdeifcbasau cenadol. Gos- odir ein gwlad o dan ddyled iddynt, ac yn neillduol ein Hasnachwyr. 6. Gallwn deimlo yn d:wel a hyderus y llwydda crefydd. Mae mwy o'i phl'aid nag a all fod yn ei her- byn. Ni phalla Efe, ac ni ddigalona, hyd oni osodo farn ar y ddae,r." Llwyddiant iddo. Amen. A.